The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Pensiynau personol
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglŷn â phensiynau personol
Mae pensiwn personol yn un ffordd o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad.
Gelwir pensiynau personol hefyd yn bensiynau pwrcasu arian neu gynlluniau cyfraniadau diffiniedig. Maen nhw’n hynod o ddefnyddiol os nad yw eich cyflogwr yn cynnig cynllun pensiwn y gweithle i chi, os ydych yn hunangyflogedig neu’n ddiwaith.
Mae’r dudalen hon yn esbonio:
- sut mae pensiynau personol a phensiynau cyfranddeiliaid yn gweithio a sut maen nhw’n wahanol
- pwy all gael pensiwn cyfranddeiliaid personol
- gwybodaeth sylfaenol am ddewis sut i fuddsoddi eich cronfa bensiwn
- ble gewch hyd i fwy o wybodaeth am bensiynau.
Beth yw pensiwn personol
Mae pensiwn personol yn ffordd o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad. Mae’n gweithio fel hyn:
- rydych yn gwneud taliadau (cyfraniadau) rheolaidd i mewn i gronfa bensiwn. Bydd yr arian sydd yn y gronfa yn cynyddu tra’ch bod yn gweithio a byddwch yn ei ddefnyddio fel eich incwm pan fyddwch yn ymddeol
- caiff y gronfa ei fuddsoddi, er enghraifft, mewn stociau a chyfrannau, gyda’r bwriad o gynyddu’r swm sydd ynddi dros y blynyddoedd cyn i chi ymddeol
- pan ydych yn ymddeol, rydych yn defnyddio’r arian yn y gronfa i brynu blwydd-dal sy’n rhoi incwm i chi am weddill eich bywyd. Dyma’ch pensiwn.
Ni allwch ddweud o flaen llaw yn union faint o bensiwn a gewch oherwydd mae’n dibynnu ar faint ydych yn ei dalu i mewn, pa mor dda yw eich buddsoddiadau a pha gostau mae’n rhaid i chi eu talu. Os yw gwerth eich buddsoddiadau yn dirywio, gallech dderbyn llai o arian na’r disgwyl yn y pendraw.
Mae gan wefan Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol gyfrifiannell pensiwn sy’n eich helpu i gyfrifo faint o bensiwn allwch ei gael gan gymryd i ystyriaeth eich cyfraniadau rheolaidd. Ewch at: www.moneyadvice.service.org.uk.
Os hoffech fwy o wybodaeth am brynu blwydd-dal, gweler Dewis blwydd-dal.
Pensiynau cyfranddeiliaid
Mae pensiynau cyfranddeiliaid yn gweithredu fel pensiynau personol ond mae’n rhaid iddynt ateb yr amodau canlynol:
- nid yw’r darparwr pensiwn yn gallu codi mwy na 1% o werth eich cronfa bob blwyddyn ar gyfer gweinyddu’r pensiwn
- ni ellir gofyn i chi wneud isafswm o fwy na £20, er gallwch wneud mwy na hyn os ydych yn dymuno
- eich penderfyniad chi yw sut a phryd i dalu i mewn i’ch cronfa. Ni ellir eich gorfodi i dalu yn rheolaidd
- nid oes unrhyw gosbau am golli neu stopio taliadau
- gallwch drosglwyddo eich cronfa i gynllun cyfranddeiliaid neu bensiwn arall unrhyw bryd heb gosb.
Os oes angen mwy o hyblygrwydd arnoch ynglŷn â phryd a faint ydych yn ei dalu ar gyfer eich pensiwn, gallai pensiwn cyfranddeiliaid fod yn opsiwn da ar eich cyfer chi.
Dylech gymharu eich opsiynau cyn penderfynu a mynnwch gyngor os allwch.
Os ydych yn meddwl am gael pensiwn cyfranddeiliaid, gallech geisio defnyddio coeden penderfynu pensiynau cyfranddeiliaid ar wefan Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol. Offeryn ar-lein ydyw sy’n eich helpu i gyfrifo os allai pensiwn cyfranddeiliaid fod yn opsiwn da ar eich cyfer chi. Ewch at: www.moneyadviceservice.org.uk.
Pensiynau personol hunan fuddsoddiad (SIPPs)
O ran cynlluniau pensiwn personol a phensiwn cyfranddeiliaid, caiff eich buddsoddiadau eu rheoli gan y gronfa a ddewiswch. Mae SIPPs yn fath o gynllun pensiwn personol sy’n rhoi’r rhyddid i chi ddewis a rheoli buddsoddiadau eich hun. Mae darparwyr SIPPs yn cynnwys cwmnïau yswiriant, pensiynau ymgynghorwyr a rheolwyr cronfeydd.
Gallech hefyd gyflogi a thalu rheolwr cymeradwy i wneud y penderfyniadau ar eich rhan. Yr Association of Member-directed Pension Schemes (AMPS) yw corff masnachol darparwyr a rheolwyr SIPPs. Cewch hyd i restr o reolwyr cymeradwy SIPPs ar ei wefan. Ewch at: www.ampsonline.co.uk.
Dylech feddwl am SIPPs dim ond os ydych yn fuddsoddwr profiadol neu os oes gennych symiau mawr o arian i’w buddsoddi. Y rheswm am hyn yw bod SIPPs yn dueddol o godi ffioedd uwch na phensiynau personol neu gyfranddeiliaid eraill oherwydd risgiau hunanreoli.
Beth mae pensiynau personol yn eu darparu
Bydd cynllun pensiwn personol yn darparu un neu fwy o’r manteision canlynol:
- pensiwn yn ystod eich ymddeoliad, sy’n gallu dechrau pan ydych yn 55
- cyfandaliad di-dreth pan ydych yn ymddeol
- pensiwn sy’n daladwy i’ch gwraig weddw, gwr gweddw, partner sifil neu rywun arall sy’n dibynnu arnoch
- cyfandaliad di-dreth sy’n daladwy, os ydych yn marw cyn ymddeol, i’ch gwraig weddw, gwr gweddw, partner sifil neu rywun arall sy’n dibynnu arnoch.
Pwy all gael pensiwn personol
Gallwch gael pensiwn personol neu gyfranddeiliaid p’un ai eich bod yn gyflogedig, hunangyflogedig neu’n ddi-waith, cyn belled â’ch bod yn gallu fforddio’r taliadau. Gallwch hefyd gael pensiwn gyfranddeiliaid ar ran plentyn.
Gallwch gael pensiwn personol hyd yn oed os ydych eisoes yn talu i mewn i gynllun pensiwn galwedigaethol. Mae’n bosib y byddwch am wneud hyn os hoffech gael fwy o arian ar gyfer eich ymddeoliad neu os ydych yn dechrau talu ar gyfer pensiwn yn hwyrach yn ystod eich bywyd gwaith ac mae gennych lai o amser i’w gynilo.
Gostyngiad treth ar eich pensiwn
Nid oes cyfyngiad ar faint allwch gynilo ar gyfer eich pensiwn. Gallwch gynilo cyfuniad o’ch cyflog ac unrhyw incwm arall a enillwch.
Os ydych yn drethdalwr y DU a’ch bod o dan 75 oed, gallwch roi hyd at £50,000 (yn y flwyddyn dreth 2011/12) o’ch enillion blynyddol at gynllun pensiwn ac ni fydd yn rhaid i chi dalu treth ar eich cyfraniadau. Rydych yn dal yn gallu rhoi mwy o arian at eich cynllun pensiwn ond codir treth o 40% arno.
Os nad ydych yn ennill, gallwch gael gostyngiad treth ar swm cyfyngedig o’ch cyfraniadau.
Os ydych yn talu cyfradd uchel o dreth, gallwch hawlio gostyngiad treth o 40% ar eich cyfraniadau pensiwn.
Rydych fel arfer yn talu pensiwn ar ôl i chi dalu treth, felly mae’n rhaid i’ch darparwr hawlio’r gostyngiad treth sy’n ddyledus i chi yn ôl wrth y llywodraeth, ac yna ei roi yn eich cronfa bensiwn.
Fodd bynnag, mae eich darparwr pensiwn dim ond yn gallu hawlio gostyngiad treth o 20% wrth y llywodraeth. Os ydych yn talu cyfradd uchel o dreth, bydd yn rhaid i chi hawlio’r 20% sy’n weddill eich hun drwy ffurflen dreth neu drwy gysylltu â’r swyddfa dreth leol.
Os hoffech fwy o wybodaeth am ostyngiad treth, gweler Gostyngiadau treth.
Buddsoddi eich cronfa bensiwn
Pan ydych yn trefnu pensiwn personol, bydd angen i chi benderfynu faint yr hoffech ei fuddsoddi. Mae hyn hefyd yn berthnasol i bensiynau cyfranddeiliaid. Buddsoddiad yw pan ydych yn rhoi eich arian i mewn i gronfa er mwyn gwneud elw. Bydd eich dewisiadau wedi’u nodi yn nogfennau eich cynllun pensiwn. Bydd eich penderfyniadau yn dibynnu’n helaeth ar:
- faint yr hoffech i’ch gronfa gynyddu a
- faint o risg yr ydych yn fodlon ei gymryd.
Mathau o fuddsoddiadau
Fel arfer cewch gynnig cymysgedd o’r mathau canlynol o fuddsoddiadau ar gyfer eich cyfraniadau pensiwn:
- arian. Mae hyn yn golygu arian a gynilwyd, er enghraifft, yn y banc neu gymdeithas adeiladu
- bondiau. Benthyciadau i’r llywodraeth neu gwmnïau preifat ydynt sydd fel arfer yn talu cyfradd llog tan gaiff y benthyciad ei ad-dalu
- eiddo, sef arian a fuddsoddir mewn tir neu adeiladau
- soddgyfrannau, sef cyfranddaliadau mewn cwmnïau preifat.
Bydd angen i chi wneud ychydig o ymchwil i ddarganfod pa fath o fuddsoddiad fydd yn caniatáu i’ch cynilion brynu’r pensiwn a ddymunwch. Bydd angen i chi hefyd ystyried y risg buddsoddi.
Cyn penderfynu sut i fuddsoddi eich cyfraniadau, dylech bob amser gael cyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol sy’n arbenigo mewn pensiynau.
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i ddewis ymgynghorydd ariannol, gweler Cael cyngor ariannol.
Mae’r Rheolydd Pensiynau yn rheoli cynlluniau pensiwn yn seiliedig ar waith. Mae wedi cynhyrchu taflen o’r enw Making pension fund choices sy’n esbonio mwy am ddewis sut i fuddsoddi eich cronfa bensiwn. Ewch at: www.thepensionsregulator.gov.uk.
Beth yw'r risg
Mae gan wahanol fathau o fuddsoddiadau wahanol risgiau. Er enghraifft, gallai buddsoddi mewn cyfranddaliadau fod yn fwy o risg oherwydd gall eu gwerth ostwng a chynyddu. Ystyrir arian parod a bondiau yn llai o risg oherwydd mae yna fwy o sicrwydd na fyddwch yn colli eich arian.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn deall lefelau risg gwahanol fathau o fuddsoddiadau a sut fydd y buddsoddiad a ddewiswch yn effeithio ar eich pensiwn terfynol. Os ydych yn gwneud y penderfyniad anghywir, gallech gael llai o bensiwn na’r disgwyl.
Dros yr hirdymor, mae’r buddsoddiadau sydd â llai o risg yn dueddol o gynhyrchu llai o arian. Mae hyn yn golygu gallai eich arian fod yn ddiogelach ond bydd eich pensiwn yn debygol o fod yn llai.
Os ydych yn dechrau talu ar gyfer pensiwn yn gynnar yn ystod eich bywyd, fel arfer gallwch fforddio gymryd mwy o risg oherwydd bod gennych fwy o arian i adennill unrhyw golledion.
Wrth nesáu at eich ymddeoliad, mae’n bosib y cewch eich cynghori i leihau’r risg fel na fydd unrhyw newidiadau byrdymor yn y farchnad stoc yn effeithio’n ormodol ar swm terfynol eich pensiwn.
Mynnwch gyngor bob amser gan ymgynghorydd ariannol annibynnol sy’n gallu esbonio’r gwahanol lefelau o risg a’ch helpu i benderfynu’r hyn sydd orau ar eich cyfer chi.
Os hoffech fwy i wybodaeth am sut i ddewis ymgynghorydd ariannol, gweler, Cael cyngor ariannol.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Ar Adviceguide
Am fwy o wybodaeth ynghylch dewis pensiwn personol a gwahanol fathau o bensiwn, gweler Pensiynau.
Efallai y bydd yr wybodaeth ganlynol ar Adviceguide yn ddefnyddiol i chi:
Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch pensiynau, gan gynnwys tablau ar gyfer dewis darparwr pensiwn personol, a theclyn cyfrifo pensiwn i gyfrifo faint o bensiwn fyddwch chi ei angen. Mae yna amrywiaeth o daflenni hefyd i ateb eich cwestiynau ynglyn â phensiynau ac ymddeol.
Rhowch glic ar : www.moneyadviceservice.org.uk.
Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (TPAS)
Mae TPAS yn fudiad annibynnol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad rhad ac am ddim ar bob math o bensiwn, gan gynnwys pensiwn ymddeol y wladwriaeth, pensiwn y gweithle a chynlluniau pensiwn personol a chyfranddeiliaid.
Nid yw TPAS yn rhoi cyngor ariannol na chyngor ar fuddsoddiad nac yn argymell cynnyrch.
Llinell Gymorth: 0845 601 2923 cyfradd leol
Gwefan: www.pensionsadvisoryservice.org.uk
Directgov (yn Lloegr, Cymru a'r Alban)
Directgov yw gwefan y llywodraeth. Mae ganddo lawer o wybodaeth am bensiwn ymddeol y wladwriaeth a mathau eraill o bensiynau, cynilo ar gyfer eich ymddeoliad a’r newidiadau i bensiynau a fydd yn digwydd o 2010. Ewch at: www.direct.gov.uk.
nidirect (yng Ngogledd Iwerddon)
nidirect yw gwefan swyddogol y llywodraeth ar gyfer dinasyddion Gogledd Iwerddon. Mae ganddo lawer o wybodaeth am bensiwn ymddeol y wladwriaeth a mathau eraill o bensiynau, cynilo ar gyfer eich ymddeoliad a newidiadau i bensiynau a fydd yn digwydd o 2010. Ewch at: www.nidirect.gov.uk.









