The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Pam cael pensiwn
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglŷn â phensiwn
Pensiwn yw arian yr ydych yn ei ddefnyddio i fyw arno pan ydych yn ymddeol. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael Pensiwn y Wladwriaeth ond mae’n darparu dim ond ar gyfer eich anghenion sylfaenol. Er mwyn sicrhau yr un safon o fyw pan ydych yn ymddeol, mae’n well bod gennych gynllun pensiwn.
Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth sylfaenol am:
- pam ei fod yn bwysig dechrau pensiwn cyn gynted ag y gallwch
- sut mae pensiwn yn gweithio
- newidiadau i reolau pensiwn.
Os hoffech fwy o wybodaeth am bensiynau, gweler Cymorth a gwybodaeth ychwanegol.
Pam fydd angen pensiwn arnoch
Mae angen arian ar bawb ar gyfer eu hymddeoliad er mwyn sicrhau safon dda o fyw. Mae’n bosib bydd hefyd angen i chi gynnal partner neu bobl eraill sy’n eich teulu.
Y dyddiau hyn, mae pobl yn byw’n hirach felly mae’n rhaid i’ch pensiwn bara’n hirach. Mae hyn yn golygu bydd angen i chi geisio cynilo mwy.
Mae llawer o bobl hŷn yn byw mewn tlodi oherwydd nid ydynt wedi cynilo digon o arian. Mae’r cymorth a gynigir gan y wladwriaeth yn gallu newid dros amser. Os na fyddwch yn ymddeol am dipyn o amser, ni ddylech dybio bydd budd-daliadau’r wladwriaeth yn ateb eich holl anghenion, neu bydd rheolau Pensiwn y Wladwriaeth yr un peth ag ydynt nawr. Felly, dechreuwch gynilo cyn gynted ag y gallwch.
Sut mae pensiynau yn gweithio
Rydych yn rhoi arian i mewn i gronfa bensiwn yn ystod eich bywyd gwaith. Pan ydych yn cyrraedd oed ymddeol, rydych yn derbyn eich pensiwn a bydd angen i chi fyw arno am weddill eich bywyd. Bydd ei swm yn dibynnu ar faint ydych wedi’i gynilo felly mae’n bwysig eich bod yn dechrau pensiwn cyn gynted ag y gallwch.
Mae yna sawl ffordd y gallwch gynilo am bensiwn. Gallai eich cyflogwr gynnig cynllun pensiwn y gweithle neu gallwch gael pensiwn personol trwy gwmni yswiriant. Gallech gael y ddau yn ystod eich bywyd gwaith.
Pa bynnag y dewiswch, mae pensiynau fel arfer yn gweithio fel hyn:
- rydych chi, ac weithiau eich cyflogwr yn talu ar gyfer pensiwn yn rheolaidd
- mae’r arian a dalwch yn cael ei fuddsoddi fel bod eich arian (gronfa) yn gallu cynyddu
- pan ydych yn cyrraedd oed ymddeol, rydych yn cael yr arian hwn i fyw arno am weddill eich bywyd. Fel arfer, bydd gennych incwm rheolaidd ond gallech hefyd gael cyfandaliad ond mae hyn yn dibynnu ar eich cynllun.
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut mae cynlluniau pensiwn yn y gweithle a phensiynau personol yn gweithio, gweler Mathau o bensiynau.
Yn ogystal â thalu ar gyfer pensiwn, byddwch hefyd yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol trwy gydol eich bywyd gwaith. Mae hyn yn cynyddu eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth. Gallwch dderbyn hwn yn ogystal â phensiwn y gweithle neu bensiwn personol.
Gallwch gael Pensiwn sylfaenol y wladwriaeth hyd yn oed os na allwch weithio neu os nad oes gennych fath arall o bensiwn.
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio, gweler Pensiwn y Wladwriaeth.
Pryd ddylech ddechrau pensiwn
Dylech ddechrau pensiwn cyn gynted ag y dechreuwch ennill cyflog. Os ydych yn ifanc, gallech feddwl bod pensiynau ar gyfer pobl hŷn. Fodd bynnag, po gynharaf y byddwch yn dechrau cynilo, gorau oll. Mae’n bosib y gallwch ymddeol ynghynt os ydych yn dechrau cynilo yn gynnar. Bydd gan bobl sy’n dechrau cynilo yn hwyr lai o bensiwn a bydd yn rhaid iddynt weithio am gyfnod hirach er mwyn sicrhau digon o bensiwn.
Dechrau gweithio
Mae’n bosib bod gan eich cyflogwr gynllun pensiwn. Gwiriwch pa fath ydyw a phryd allwch ymuno ag ef.
Peidiwch ag oedi cyn dechrau neu ymuno â chynllun pensiwn - mae’n bosib na fyddwch yn derbyn y swm angenrheidiol o bensiwn yn y pendraw.
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i gael pensiwn trwy eich gwaith, gweler Pensiynau’r gweithle.
Newidiadau i reolau pensiwn
Mae’r llywodraeth yn bwriadu cyflwyno newidiadau pwysig i reolau pensiwn dros y blynyddoedd nesaf.
Cyflwynir newidiadau i reolau Pensiwn y Wladwriaeth yn Ebrill 2010.
Cyflwynir newidiadau i’r rheolau ynglŷn â faint allwch gynilo ar gyfer pensiwn y gweithle neu bensiwn personol yn Ebrill 2012. Cewch fwy o wybodaeth am y newidiadau hyn ar wefan Directgov. Ewch at: www.direct.gov.uk.
Bydd yna lawer o gyhoeddusrwydd gan y llywodraeth am y newidiadau, gan gynnwys hysbysebion ar y teledu a’r radio ac yn y wasg leol. Byddwn yn diweddaru’r tudalennau hyn ac amlygu unrhyw newidiadau wrth iddynt ddigwydd.
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau ar wefan Directgov. Ewch at: www.direct.gov.uk.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r newidiadau neu unrhyw beth arall sy’n ymwneud â Phensiwn y Wladwriaeth neu fath arall o bensiwn, cewch gymorth a chyngor rhad ac am ddim gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Ar Adviceguide
Os hoffech fwy o wybodaeth am bensiynau, gweler Pensiynau.
Efallai y bydd yr wybodaeth ganlynol ar Adviceguide yn ddefnyddiol i chi:
Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch pensiynau, gan gynnwys tablau ar gyfer dewis darparwr pensiwn personol, a theclyn cyfrifo pensiwn i gyfrifo faint o bensiwn fyddwch chi ei angen. Mae yna amrywiaeth o daflenni hefyd i ateb eich cwestiynau ynglyn â phensiynau ac ymddeol.
Rhowch glic ar : www.moneyadviceservice.org.uk.
Directgov (yn Lloegr, Cymru a’r Alban)
Directgov yw gwefan y llywodraeth. Mae ganddo lawer o wybodaeth am bensiwn ymddeol y wladwriaeth a mathau eraill o bensiynau, cynilo ar gyfer eich ymddeoliad a’r newidiadau i bensiynau a fydd yn digwydd rhwng 2010 a 2012.
Ewch at: www.direct.gov.uk.
nidirect (yng Ngogledd Iwerddon)
nidirect yw gwefan swyddogol y llywodraeth ar gyfer dinasyddion Gogledd Iwerddon. Mae ganddo lawer o wybodaeth am bensiwn ymddeol y wladwriaeth a mathau eraill o bensiynau, cynilo ar gyfer eich ymddeoliad a’r newidiadau i bensiynau a fydd yn digwydd rhwng 2010 a 2012.
Ewch at: www.nidirect.gov.uk.
Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (TPAS)
Llinell Gymorth: 0845 601 2923 cyfradd leol
Gwefan: www.pensionsadvisoryservice.org.uk
Mae TPAS yn fudiad annibynnol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad rhad ac am ddim ar bob math o bensiwn, gan gynnwys pensiwn ymddeol y wladwriaeth, pensiwn y gweithle a chynlluniau pensiwn personol a chyfranddeiliaid.
Nid yw TPAS yn rhoi cyngor ariannol na chyngor ar fuddsoddiad nac yn argymell cynnyrch.









