The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Faint o bensiwn y bydd ei angen arnoch
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglŷn â faint o bensiwn y bydd ei angen arnoch
Pensiwn yw’r arian yr ydych yn ei ddefnyddio i fyw arno pan ydych yn ymddeol. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael Pensiwn y Wladwriaeth gan y llywodraeth ar gyfer eu hanghenion sylfaenol. Fodd bynnag, mae’n syniad da i chi geisio cynilo arian mewn cronfa bensiwn er mwyn sicrhau safon weddus o fyw.
Mae faint y gallwch ei neilltuo ar gyfer eich pensiwn yn dibynnu ar faint allwch ei gynilo, faint o flynyddoedd sydd gennych i gynilo a’ch anghenion pan ydych yn ymddeol. Gallai eich ymddeoliad bara 20 i 30 blynedd felly mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi ddibynnu ar eich pensiwn am amser hir.
Ar y dudalen hon, cewch wybodaeth am:
- sut i gynllunio ar gyfer eich ymddeoliad
- sut i gyfrifo faint y bydd angen i chi ei gynilo ar gyfer eich pensiwn
- beth i’w wneud os na allwch fforddio cynilo ar gyfer pensiwn
- sut i adolygu eich anghenion pensiwn
- ble y cewch hyd i fwy o wybodaeth am bensiynau ac ymddeoliad.
Cynllunio ar gyfer eich anghenion
Os dechreuwch gynilo ar gyfer eich pensiwn yn gynnar yn ystod eich bywyd gwaith, gallai fod yn anodd rhagweld yr hyn fydd eich anghenion pan fyddwch yn ymddeol. Ceisiwch gynilo cymaint ag y gallwch ond peidiwch â phryderu os nad yw’n llawer ar y cychwyn. Mae’n well cynilo symiau bychain o arian dros gyfnod hirach er mwyn i’ch cronfa gynyddu mewn gwerth. Os yw eich incwm yn gwella, gallwch gynyddu faint ydych yn ei gynilo ar gyfer eich pensiwn.
Os dechreuwch gynilo yn hwyrach yn ystod eich bywyd gwaith, mae’n bosib bod gennych well syniad o’r hyn fydd eich amgylchiadau pan fyddwch yn ymddeol. Er enghraifft, mae’n bosib bod gennych deulu neu’n berchen ar gartref yn barod. Gallai hyn ei wneud yn haws i gyfrifo’r incwm angenrheidiol ar gyfer eich ymddeoliad ond bydd gennych lai o amser i’w gynilo. Yn ogystal â hyn, gallai’r swm angnerheidiol hwn fod yn uwch. Efallai bydd angen i chi flaenoriaethu eich cyllideb yn wahanol fel eich bod yn gallu cynilo mwy. Er enghraifft, gallech wario llai ar eitemau dianghenraid fel mynd allan, er mwyn rhoi mwy tuag at eich pensiwn.
Mae cynilo ar gyfer eich pensiwn yn ymrwymiad hirdymor. Cyfrifwch eich cyllideb a sicrhewch y gallwch fforddio’r taliad rheolaidd ar gyfer eich pensiwn.
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i gyfrifo eich cyllideb gan gynnwys offeryn cyllidebu ar-lein, gweler Cyllidebu.
Rhestr wirio cynllunio
Meddyliwch am y ffordd o fyw a ddymunwch pan fyddwch yn ymddeol a’r ymrwymiadau posibl fydd gennych. Gallai eich anghenion newid trwy gydol eich bywyd felly adolygwch faint ydych yn ei gynilo er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cael safon dda o fyw.
Dyma rhai o’r pethau i’w hystyried pan ydych yn cynllunio faint o bensiwn y bydd ei angen arnoch ar gyfer eich ymddeoliad:
- cost eich cartref. Os ydych yn berchen ar eich cartref, eich morgais yn aml yw un o’ch costau mwyaf. Os allwch ei ad-dalu’n llwyr cyn eich bod yn ymddeol, bydd eich costau yn lleihau cryn dipyn. Os ydych yn rhentu eich cartref, rydych yn dal yn gorfod talu rhent pan ydych yn ymddeol
- biliau tanwydd. Gallai eich biliau nwy a thrydan fod yn uwch os ydych yn eich cartref yn fwy aml pan ydych yn hŷn. Cofiwch ystyried hyn pan ydych yn cyfrifo eich cyllideb a cheisiwch ddarganfod a allwch gael cymorth ychwanegol megis Taliad Tanwydd y Gaeaf neu fesurau effeithlonrwydd ynni ar gyfer eich cartref
- talu eich dyledion. Ceisiwch gynllunio eich bod yn ad-dalu eich dyledion cyn ymddeol
- gallai rhai costau fod yn llai neu gall rai ddiflannu pan ydych yn rhoi’r gorau i weithio. Er enghraifft, gallech ymdopi gyda dillad rhatach neu lai ohonynt. Gallech arbed ar gostau teithio neu bwyd
- y ffordd o fyw yr ydych am ei mwynhau. Pa fath o bethau y bydd yn rhaid i chi dalu amdanynt? Bydd angen mwy neu lai o arian arnoch ar gyfer gwyliau? Faint o arian bydd ei angen arnoch ar gyfer hobïau neu weithgareddau eraill?
- eich partner. Os yw eich pensiwn hefyd yn cynnal partner neu rywun arall, cofiwch ystyried eu costau nhw hefyd
- pa incwm arall fydd gennych. Er enghraifft, cynilion neu fuddsoddiadau eraill
- peidiwch â meddwl bydd y system budd-daliadau'r un peth ag ydyw nawr, yn enwedig os na fyddwch yn ymddeol am amser hir. Os yw pethau yn newid yn ystod eich bywyd gwaith, cofiwch adolygu eich cynllun pensiwn
- mae oed pensiwn y wladwriaeth yn newid. Dyma’r oed y gallwch dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth. Am fwy o wybodaeth ar oed pensiwn y wladwriaeth, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwe deg. I wybod pryd allwch chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell oed pensiwn y wladwriaeth ar wefan Directgov: www.direct.gov.uk.
Faint ddylech ei gynilo ar gyfer eich pensiwn
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell pensiwn Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol i amcangyfrifo faint o incwm o bensiwn personol, cyfranddeiliaid neu weithle allech ei dderbyn pan fyddwch yn ymddeol. Bydd hyn yn eich helpu chi i benderfynu faint ddylech ei gynilo er mwyn cael yr incwm yr hoffech ei dderbyn. Ewch at: www.moneyadviceservice.org.uk.
Pan ydych yn talu pensiwn, rydych yn cael gostyngiad treth sy’n seiliedig ar yr un gyfradd ag ydych yn ei thalu nawr. Cofiwch hyn pan ydych yn talu eich pensiwn.
Os hoffech fwy o wybodaeth am bensiynau personol, cyfranddeiliaid a phensiwn y gweithle, gweler Mathau o bensiynau.
Beth os na allaf fforddio cynilo ar gyfer pensiwn
Os ydych yn credu na allwch fforddio cynilo ar gyfer pensiwn, peidiwch â phoeni. Hyd yn oed os na allwch fforddio cynilo nawr neu os nad ydych yn gweithio, dechreuwch cyn gynted ag y gallwch. Peidiwch â meddwl nad oes gwerth dechrau cynilo oherwydd ei fod yn rhy hwyr.
Mae’n bosib y gallwch dalu symiau (cyfraniadau) ychwanegol i mewn i gronfa bensiwn pan ydych yn gweithio er mwyn gwneud i fyny am yr amser a gollwyd.
Rydych yn dal yn gallu cael Pensiwn y Wladwriaeth ac mae’n bosib y gallwch gael cymorth arall gan y wladwriaeth, er enghraifft, cymorth i dalu rhent neu’r dreth gyngor. Os ydych yn ofalwr neu os oes gennych incwm isel, mae’n bosib y gallwch gael Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P) i hybu eich incwm.
Os hoffech fwy o wybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth, gan gynnwys Ail Bensiwn y Wladwriaeth a thalu cyfraniadau pensiwn ychwanegol, gweler Budd-daliadau ar gyfer pobl dros chwedeg.
Gall ymgynghorydd mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth eich helpu i wirio p’un ai bod gennych yr hawl i fudd-daliadau. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Adolygu eich anghenion pensiwn
Gallai pethau newid yn ystod eich bywyd gwaith. Mae’n bwysig eich bod yn adolygu eich pensiwn yn rheolaidd, yn enwedig pan fod eich amgylchiadau yn newid, er enghraifft, pan ydych yn priodi neu’n ysgaru, os ydych yn newid swydd neu os nad ydych yn gallu gweithio am ryw reswm.
Os ydych yn cynilo ar gyfer partner, cofiwch adolygu eu pensiwn a’u hanghenion hefyd.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Ar Adviceguide
Am fwy o wybodaeth ynghylch pensiynau, gweler Pensiynau.
Efallai y bydd yr wybodaeth ganlynol ar Adviceguide yn ddefnyddiol i chi:
Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch pensiynau, gan gynnwys tablau ar gyfer dewis darparwr pensiwn personol, a theclyn cyfrifo pensiwn i gyfrifo faint o bensiwn fyddwch chi ei angen. Mae yna amrywiaeth o daflenni hefyd i ateb eich cwestiynau ynglŷn â phensiynau ac ymddeol.
Rhowch glic ar: www.moneyadviceservice.org.uk.
Directgov (yn Lloegr, Cymru a’r Alban)
Directgov yw gwefan y llywodraeth. Mae ganddo lawer o wybodaeth am bensiwn ymddeol y wladwriaeth a mathau eraill o bensiynau, cynilo ar gyfer eich ymddeoliad a’r newidiadau i bensiynau a fydd yn digwydd rhwng 2010 tan 2012. Ewch at: www.direct.gov.uk.
nidirect (yng Ngogledd Iwerddon)
nidirect yw gwefan swyddogol y llywodraeth ar gyfer dinasyddion Gogledd Iwerddon. Mae ganddo lawer o wybodaeth am bensiwn ymddeol y wladwriaeth a mathau eraill o bensiynau, cynilo ar gyfer eich ymddeoliad a newidiadau i bensiynau a fydd yn digwydd rhwng 2010 tan 2012. Ewch at: www.nidirect.gov.uk.
Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (TPAS)
Llinell Gymorth:0845 601 2923 local rate
Gwefan: www.pensionsadvisoryservice.org.uk.
Mae TPAS yn fudiad annibynnol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad rhad ac am ddim ar bob math o bensiwn, gan gynnwys pensiwn ymddeol y wladwriaeth, pensiwn y gweithle a chynlluniau pensiwn personol a chyfranddeiliaid.
Nid yw TPAS yn rhoi cyngor ariannol na chyngor ar fuddsoddiad nac yn argymell cynnyrch.









