The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Dewis pensiwn personol
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglŷn â dewis pensiwn personol
Mae pensiwn yn ffordd o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad. Pan ydych yn dechrau edrych am gynllun pensiwn, efallai mai un o’ch dewisiadau yw cael pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid.
Mae’r dudalen hon yn esbonio:
- pwy sy’n darparu pensiynau personol
- y pethau i gadw llygad amdanynt pan ydych yn dewis pensiwn personol
- ble cewch hyd i fwy o wybodaeth am bensiynau. [link to heading Cymorth a gwybodaeth ychwanegol]
Os hoffech fwy o wybodaeth am bensiynau personol a phwy mae’n nhw’n addas ar eu cyfer, gweler Pensiynau personol.
Beth yw pensiwn personol
Gyda phensiwn personol rydych yn gwneud taliadau (cyfraniadau) rheolaidd i mewn i gronfa bensiwn. Yna caiff ei buddsoddi, er enghraifft mewn stociau a chyfrannau fel eich bod yn derbyn incwm pan fyddwch yn ymddeol.
Pensiynau cyfranddeiliaid
Mae pensiynau cyfranddeiliaid yn fath o bensiwn personol sy’n gorfod ateb amodau penodol. Gallant fod yn ddewis da i bobl sydd angen opsiwn mwy hyblyg oherwydd eu bod yn eich galluogi i amrywio swm eich taliadau.
Os hoffech fwy o wybodaeth am bensiynau personol a phensiynau cyfranddeiliaid, gweler Pensiynau personol.
Pwy sy’n darparu pensiynau personol
Darperir pensiynau personol gan gwmnïau yswiriant, yn aml trwy fanciau a chymdeithasau adeiladu, ac weithiau trwy eich gweithle.
Os yw eich cyflogwr yn cynnig cynllun pensiwn i chi, dylech wirio p’un ai ydyw’n gynllun pensiwn personol neu bensiwn galwedigaethol. Maen nhw’n wahanol ac felly mae eu buddiannau yn wahanol.
Os hoffech fwy o wybodaeth am bensiynau galwedigaethol a phensiynau personol gan gyflogwr, gweler Cynlluniau pensiwn yn y gweithle.
Awgrymiadau ar gyfer pensiwn personol
Mae yna gannoedd o bensiynau personol ar y farchnad ac mae dewis yr un gorau yn gallu bod yn anodd. Dyma rhai pethau i’w hystyried pan ydych yn dewis pensiwn personol:
- edrychwch o gwmpas fel bod gennych ystod eang o ddewisiadau a chymrwch eich amser i gasglu cymaint o wybodaeth ag y gallwch cyn penderfynu. Gallwch hefyd ddefnyddio gwefan cymharu megis Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol er mwyn dod o hyd i ddarparwyr a chymharu cynhyrchion pensiwn. Ewch at: www.moneyadvice.org.uk.
- cymharwch gynhyrchion gwahanol ddarparwyr. Gofynnwch am ddogfen ffeithiau allweddol pob cynllun pensiwn. Crynodeb ydyw o holl ffeithiau pwysig y cynllun pensiwn. Mae’n rhaid i ddarparwyr rhoi’r wybodaeth hon i chi a gallwch godi achwyniad os ydynt yn gwrthod
- sicrhewch eich bod yn gallu fforddio’r cyfraniadau. Mae’n bosib bod isafswm. Os oes gennych gyllideb dynn neu incwm afreolaidd, dylech wirio a oes yn rhaid i chi dalu taliadau rheolaidd neu a allwch amrywio faint a phryd ydych yn talu
- dylech wirio pa gostau bydd angen i chi eu talu a phryd. Gallai’r rhain gynnwys costau gweinyddu, costau trosglwyddo, costau rheoli eich buddsoddiadau, cosbau os ydych yn colli taliad neu’n dewis derbyn eich pensiwn yn gynnar. Bydd costau a ddidynnir o’ch cronfa yn effeithio ar faint o bensiwn y byddwch yn ei gael. Mae costau pensiynau cyfranddeiliaid wedi’u cyfyngu ar lefel benodol
- edrychwch ar sut bydd y cronfeydd yn cael eu buddsoddi a pha ddewisiadau sydd gennych. Sicrhewch eich bod yn hapus gyda’r risg a gymerwch
- mynnwch gyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol [link to heading Cymorth a gwybodaeth ychwanegol]
- peidiwch â llofnodi unrhyw beth tan eich bod yn gwbl hapus.
Os hoffech fwy o wybodaeth am risgiau, gweler Beth yw’r ffordd orau i gynilo.
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i gyfrifo cyllideb, gan gynnwys offeryn cyllidebu ar-lein, gweler Cyllidebu.
Os ydych yn meddwl am gael pensiwn cyfranddeiliaid, mae’n bosib y bydd coeden penderfynu pensiwn cyfranddeiliaid Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn ddefnyddiol. Mae’n declyn ar-lein sy’n eich helpu i ddarganfod a yw pensiwn cyfranddeiliaid yn ddewis da ar eich cyfer chi. Ewch at: www.moneyadviceservice.org.uk.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Ar Adviceguide
Am fwy o wybodaeth ynghylch pensiynau, gweler Pensiynau.
Efallai y bydd yr wybodaeth ganlynol ar Adviceguide yn ddefnyddiol i chi:
Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch pensiynau, gan gynnwys tablau cymharu ar gyfer dewis darparwr pensiwn personol, a theclyn cyfrifo pensiwn i gyfrifo faint o bensiwn fyddwch chi ei angen. Mae yna amrywiaeth o daflenni hefyd i helpu ateb eich cwestiynau ynglyn â phensiynau ac ymddeol.
Rhowch glic ar : www.moneyadviceservice.org.uk.
Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (TPAS)
Mae TPAS yn fudiad annibynnol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad rhad ac am ddim ar bob math o bensiwn, gan gynnwys pensiwn ymddeol y wladwriaeth, pensiwn y gweithle a chynlluniau pensiwn personol a chyfranddeiliaid.
Ewch at: www.pensionsadvisoryservice.org.uk.









