The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Paratoi ar gyfer eich ymddeoliad
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglŷn â pharatoi ar gyfer eich ymddeoliad
Mae’r wybodaeth hon ar gyfer pobl sy’n nesáu at eu hymddeoliad.
Pan ydych yn nesáu at ddyddiad eich ymddeoliad, dylech ddechrau trefnu eich arian er mwyn sicrhau bod gennych ddigon i fyw arno pan ydych yn ymddeol.
Os fyddwch yn ymddeol yn fuan, mae yna rai pethau y dylech eu hystyried.
Ar y dudalen hon, cewch wybodaeth am y canlynol:
- pryd allwch ddechrau derbyn eich pensiwn
- pethau i’w gwneud yn ystod y misoedd cyn eich ymddeoliad
- sut i ddod o hyd i unrhyw gronfeydd pensiwn yr ydych wedi anghofio amdanynt
- ble cewch hyd i fwy o gymorth a gwybodaeth am bensiynau ac ymddeol.
Pryd allwch dderbyn eich pensiwn
Yn dibynnu ar reolau eich cynllun pensiwn, yr amser cynharaf y gallwch dderbyn pensiwn personol neu bensiwn y gweithle yw pan ydych yn 55 oed. Os ydych yn ymddeol oherwydd salwch, mae’n bosib y gallwch dderbyn eich pensiwn yn gynharach.
Ni allwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth [link to heading Pensiwn y Wladwriaeth] tan eich bod yn cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth. Roedd pensiwn y wladwriaeth arfer bod yn 60 i fenywod a 65 i ddynion. Fodd bynnag, mae pensiwn ymddeol y wladwriaeth yn newid i’r mwyafrif o bobl.
Os ydych yn fenyw a anwyd ar 6 Ebrill 1950 neu wedi hynny, ni fyddwch yn gallu hawlio Pensiwn y Wladwriaeth pan ydych yn 60 ac os ydych yn ddyn a anwyd ar 6 Ebrill 1959, ni fyddwch yn ei dderbyn pan ydych yn 65.
Os ydych yn perthyn i un o’r grwpiau hyn, bydd yr oed allwch hawlio pensiwn y wladwriaeth yn cynyddu’n raddol yn dibynnu ar eich dyddiad geni.
Mae’n bosib bod gennych yr opsiwn i ohirio hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth os dymunwch barhau i weithio ar ôl cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth.
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, gweler budd-daliadau i bobl dros chwedeg.
Opsiynau ar gyfer defnyddio eich cronfa bensiwn personol
Os oes gennych bensiwn pwrcasu arian personol, pan fyddwch yn ymddeol bydd angen i chi ddefnyddio’r arian sydd yn eich cronfa fel incwm am weddill eich bywyd. Gallwch:
- brynu blwydd-dal neu
- dynnu arian yn uniongyrchol o’ch cronfa bensiwn. Gelwir hyn yn tynnu incwm.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn cael cymorth gan ymgynghorydd proffesiynol pan ydych yn penderfynu oherwydd ni allwch fel arfer newid eich meddwl ar ôl i chi brynu blwydd-dal.
Os hoffech fwy o wybodaeth am flwydd-daliadau, gweler Dewis blwydd-dal.
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i dynnu arian yn uniongyrchol o’ch cronfa bensiwn, gweler Tynnu incwm pensiynau.
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i gael cyngor ar bensiynau, gweler Cael cyngor ariannol.
Rhestr wirio o bethau i’w gwneud pan ydych yn nesau at eich ymddeoliad
Pan ydych yn nesáu at eich ymddeoliad, dylech ddechrau cynllunio. Dyma restr wirio o bethau i’w wneud er mwyn sicrhau eich bod yn barod:
- cyfrifwch faint o incwm sydd gennych a sut bydd eich gwariant yn newid. Cyfrifwch eich cyllideb er mwyn sicrhau bod gennych ddigon o arian i fyw arno a gwiriwch a oes gennych hawl i fudd-daliadau eraill. Gallwch gael rhagolwg pensiwn y wladwriaeth a rhagolygon ar gyfer unrhyw bensiynau personol ar wefan Directgov. Ewch at: www.direct.gov.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael rhagolwg pensiwn y wladwriaeth a gwybodaeth ar unrhyw ragolygon personol ar wefan NIDirect. Rhowch glic ar: www.nidirect.gov.uk - cysylltwch â’ch holl ddarparwyr pensiynau. Mae’n bosib bod gennych nifer o gronfeydd pensiwn ar wahân a drefnoch eich hun neu drwy gyflogwr. Sicrhewch fod gennych eu manylion cyswllt i gyd fel eich bod yn gallu eu hysbysu o’ch ymddeoliad. Gallwch gael help i ddod o hyd [link to heading Dod o hyd i hen bensiwn] i fanylion cyswllt darparwyr
- cyfrifwch faint o arian sy’n weddill ar eich morgais. Os gewch gyfandaliad, mae’n bosib eich bod am ei ddefnyddio i ad-dalu’r swm sy’n weddill. Mynnwch gyngor ariannol annibynnol cyn gwneud hyn
- hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth. Dylech dderbyn llythyr yn awtomatig o’r Adran Gwaith a Phensiynau (y Gwasanaeth Pensiynau yng Ngogledd Iwerddon) tua phedwar mis cyn cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth. Os nad ydych yn cael llythyr yn awtomatig, ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau (y Gwasanaeth Pensiynau yng Ngogledd Iwerddon)
- hysbysu eich swyddfa dreth. Pan ydych yn nesau at oed pensiwn y wladwriaeth, cwblhewch ffurflen Cod ar gyfer Pensiwn (P161) i sicrhau nad ydych yn talu gormod o dreth. Dylai Cyllid a Thollau EM (HMRC) anfon y ffurflen atoch yn awtomatig heblaw eich bod yn hunangyflogedig. Yn yr achos hwn, bydd angen i chi ofyn i’r Swyddfa Dreth amdani neu gallwch ei llawrlwytho oddi ar wefan HMRC. Ewch at: www.hmrc.gov.uk.
- gwiriwch a allwch hawlio budd-daliadau eraill y wladwriaeth. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallech hawlio budd-daliadau eraill megis Lwfans Gofalwyr, Budd-daliadau Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor (cymorth gyda’ch treth yng Ngogledd Iwerddon)
- mynnwch gyngor gan ymgynghorydd proffesiynol annibynnol. Os oes gennych bensiwn personol, bydd angen i chi brynu blwydd-dal pan ydych yn ymddeol neu wneud trefniadau eraill i gael eich pensiwn. Mynnwch gyngor ar ba fath o flwydd-daliadau sydd ar gael a sut ddylech ddefnyddio eich cronfa bensiwn personol.
Os hoffech fwy o wybodaeth am ble i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol annibynnol, gweler Cael cyngor ariannol.
Os hoffech fwy o wybodaeth am fudd-daliadau’r wladwriaeth y gallwch eu hawlio pan ydych yn ymddeol, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.
Dod o hyd i hen bensiwn
Os ydych yn meddwl bod gennych hen bensiwn ond nid ydych yn cofio’r manylion, gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau eich helpu i’w darganfod. Ffoniwch nhw ar 0845 6002 537 neu llenwch ffurflen ar-lein. Ewch at: www.secureonline.dwp.gov.uk.
Os oes gennych sawl pensiwn bach, dylech wirio p’un ai ydyw’n well eu cyfuno.
Os hoffech fwy o wybodaeth am gyfuno pensiynau, gweler Dewis blwydd-dal.
Talu treth ar ôl i chi ymddeol
Pan ydych yn cyrraedd 65, mae eich lwfans treth incwm personol yn cynyddu. Fodd bynnag, rydych yn dal yn gorfod talu treth ar yr incwm sydd dros eich lwfans.
Nid oes yn rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar ôl i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, hyd yn oed os ydych yn parhau i weithio.
Os hoffech fwy o wybodaeth am lwfansau treth ac ar ba incwm mae’n rhaid i chi dalu treth, gweler Lwfansau a symiau'r dreth incwm.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Ar Adviceguide
Am fwy o wybodaeth ynghylch pensiynau, gweler Pensiynau.
Efallai y bydd yr wybodaeth ganlynol ar Adviceguide yn ddefnyddiol i chi:
- Cael cyngor ariannol
- Cynilion
- Benthyg arian
- Cymorth gyda dyled. [un fersiwn yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon ac un yn Yr Alban]
Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian
Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch pensiynau, gan gynnwys tablau cymharu ar gyfer dewis darparwr pensiwn personol, a chyfrifydd pensiwn i gyfrifo faint o bensiwn fydd ei angen arnoch. Mae yna amrywiaeth o daflenni hefyd i helpu ateb eich cwestiynau ynglyn â phensiynau ac ymddeol.
Rhowch glic ar: www.moneyadviceservice.org.uk
Directgov (yn Lloegr, Cymru a’r Alban)
Directgov yw gwefan y llywodraeth. Mae ganddo lawer o wybodaeth am bensiwn ymddeol y wladwriaeth a mathau eraill o bensiynau gan gynnwys beth i’w wneud pan ydych yn nesáu at eich ymddeoliad.
Ewch at: www.direct.gov.uk.
nidirect (yng Ngogledd Iwerddon)
nidirect yw gwefan swyddogol y llywodraeth ar gyfer dinasyddion Gogledd Iwerddon. Mae ganddo lawer o wybodaeth am bensiwn ymddeol y wladwriaeth a mathau eraill o bensiynau, gan gynnwys beth i’w wneud pan ydych yn nesau at eich ymddeoliad.
Ewch at: www.nidirect.gov.uk.
Y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau
Gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau (sy’n rhan o’r Gwasanaeth Pensiwn) eich helpu i olrhain hen bensiwn hyd yn oed os nad oes gennych yr holl wybodaeth amdano.
Llinell gymorth 0845 6002 537
Ffôn testun 0845 3000 169
Ewch at: www.secureonline.dwp.gov.uk
Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (TPAS)
Llinell Gymorth:0845 601 2923 local rate
Gwefan: www.pensionsadvisoryservice.org.uk.
Mae TPAS yn fudiad annibynnol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad rhad ac am ddim ar bob math o bensiwn, gan gynnwys pensiwn ymddeol y wladwriaeth, pensiwn y gweithle a chynlluniau pensiwn personol a chyfranddeiliaid.
Nid yw TPAS yn rhoi cyngor ariannol na chyngor ar fuddsoddiad nac yn argymell cynnyrch.
Yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP)
Mae’r DWP wedi cynhyrchu taflenni ffeithiau sydd yn anelu at grwpiau penodol o bobl sydd efallai angen help i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad.
Os ydych yn gynhaliwr ac nid ydych yn derbyn tâl, lawrlwythwch y daflen ffeithiau ar hawlio credyd cynhalwyr.
Os ydych wedi ysgaru, lawrlwythwch y daflen ffeithiau Don’t let divorce dampen your retirement plans.
Os yw’ch plant wedi gadael gartref ac mae gennych fwy o arian i’w gynilo ar gyfer eich ymddeoliad, lawrlwythwch y daflen ffeithiau Children flown the nest.
Os ydych chi’n ystyried byw dramor wedi i chi ymddeol, lawrlwythwch y daflen ffeithiau Important state pension information for UK ex-pats.









