Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Tynnu Incwm Pensiynau

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol I Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ynglŷn â thynnu incwm pensiynau

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer pobol sydd â phensiwn personol, pensiwn cyfranddeiliaid neu bensiwn pwrcasu arian y gweithle.

Os oes gennych un o’r pensiynau hyn, fe fydd gennych ddewis sut i gael incwm o’ch pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.

Y ffordd fwyaf uniongyrchol i gael incwm yw defnyddio’r arian sydd yn eich cronfa pensiwn i brynu blwydd-dal oes. Dyma lle rydych chi’n cyfnewid yr arian o’ch cronfa bensiwn i roi incwm i chi wrth ymddeol. Bydd blwydd-dal oes yn rhoi incwm i chi hyd nes y byddwch farw.

Sut bynnag, mae hefyd yn bosibl i adael rhywfaint o’ch cronfa bensiwn wedi’i fuddsoddi a chymryd dim ond rhan ohono fel incwm. Fe allwch naill ai:

  • tynnu arian o’r gronfa bensiwn ei hun i roi incwm i chi. Gelwir hyn yn tynnu incwm, neu
  • defnyddio peth o’r arian o’r gronfa bensiwn i brynu cyfres o flwydd-daliadau tymor byr i roi incwm i chi.

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i chi ynglŷn â thynnu incwm, gan gynnwys:

Am fwy o wybodaeth am bensiynau personol a chyfranddeiliaid, gweler Pensiynau personol.

Am fwy o wybodaeth am bensiynau pwrcasu arian y gweithle gweler Pensiynau’r gweithle.

Am fwy o wybodaeth am flwydd-daliadau, gweler Dewis blwydd-dal.

Nôl i’r brig


Sut mae tynnu incwm yn gweithio

Mae tynnu incwm yn ffordd o gael incwm pensiwn pan fyddwch yn ymddeol tra’n caniatáu i’ch cronfa bensiwn i barhau i dyfu. Yn lle defnyddio'r holl arian yn eich cronfa bensiwn i brynu blwydd-dal, rydych chi’n gadael eich arian wedi’i fuddsoddi ac yn cymryd incwm rheolaidd yn syth o’r gronfa.

Os yw’ch buddsoddiadau yn gwneud yn dda, fe fydd eich cronfa bensiwn yn parhau i dyfu sy’n golygu y bydd eich incwm ymddeoliad yn cynyddu hefyd. Ond cofiwch, gall gwerth eich incwm ddisgyn os bydd eich buddsoddiadau yn gwneud yn wael.

Faint allwch chi ei gael o’ch cronfa bensiwn

Mae yna gyfyngiad ar faint y gallwch chi dynnu o’ch cronfa bensiwn bob blwyddyn, sy’n cael ei osod gan Gyllid a Thollau EM. Y rheswm am hyn yw i helpu atal eich cronfa bensiwn rhag rhedeg allan o arian yn ystod eich ymddeoliad.

Mae angen i’r arian yn eich cronfa bensiwn barhau i dyfu er mwyn cymryd lle'r hyn yr ydych yn ei dynnu allan. Felly bydd angen i chi fuddsoddi’ch cronfa yn ddoeth er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn colli allan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cyngor ariannol annibynnol oddi wrth berson proffesiynol i’ch helpu i wneud penderfyniadau da ynglŷn â defnyddio’ch cronfa bensiwn a sut y’i buddsoddir.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â ble i gael cyngor ynglŷn â’ch pensiwn, gweler Cael cyngor ariannol.

Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â thynnu incwm o’ch cronfa bensiwn ar wefan Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn www.moneyadviceservice.org.uk.

Beth yw cost tynnu incwm

Gall tynnu incwm fod yn opsiwn drud. Bydd taliadau parhaus i reoli’ch buddsoddiadau. Mae’r rheolau a osodir gan Gyllid a Thollau EM yn golygu fod yn rhaid adolygu’n rheolaidd y swm o incwm y byddwch yn ei dynnu allan o’ch pensiwn. Mae yna daliadau ar gyfer hyn hefyd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o faint y bydd tynnu incwm yn ei gostio wrth i chi benderfynu ar yr opsiwn hwn. Bydd yn rhaid i chi wneud yn siŵr fod y buddsoddiadau yn tyfu digon i warchod y costau ychwanegol.

Nôl i’r brig


Pryd mae tynnu incwm yn opsiwn da

Gall tynnu incwm fod yn ddefnyddiol os nad ydych yn barod i dynnu eich pensiwn i gyd ar unwaith, er enghraifft pan fyddwch chi’n cynllunio i barhau i weithio rhan amser.

Sut bynnag, mae tynnu incwm yn addas dim ond os ydych chi’n hapus i adael eich cronfa bensiwn wedi’i buddsoddi yn y farchnad stoc fel bod ganddo siawns dda i dyfu. Mae hyn yn gwneud tynnu incwm yn ddewis risg uchel oherwydd gall y farchnad stoc fynd i fyny neu i lawr. Fe allech chi orffen gyda llawer llai o incwm nag y cynllunioch chi ar ei gyfer.

Am y rheswm hwn, mwy na thebyg y byddwch am ystyried tynnu incwm dim ond os oes gennych gronfa bensiwn fawr (chwe ffigwr) neu fod gennych ddigon o incwm rheolaidd arall yn ystod eich ymddeoliad. Er enghraifft, efallai bydd gennych incwm o gynilion neu fuddsoddiadau eraill.

Os oes gennych bensiwn pwrcasu arian y gweithle ac am ddewis yr opsiwn tynnu incwm, gall rhai darparwyr fynnu eich bod yn newid eich pensiwn i bensiwn personol. Efallai y bydd angen cyngor ariannol arnoch i weld os ydyw hwn yn opsiwn da i chi.

I’r rhan fwyaf o bobol, bydd prynu blwydd-dal oes yn ddewis gwell.

Am fwy o wybodaeth am bensiynau pwrcasu arian y gweithle, gweler Pensiynau y gweithle.

Am fwy o wybodaeth am flwydd-daliadau, gweler Dewis blwydd-dal.

Am fwy o wybodaeth am ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol annibynnol, gweler Cael cyngor ariannol.

Nôl i’r brig


Beth sy’n digwydd i’ch cronfa bensiwn pan fyddwch chi farw

Os byddwch chi farw cyn eich bod yn 75 oed, gellir defnyddio'r arian sydd ar ôl yn eich cronfa bensiwn i roi incwm i’ch partner neu ddibynyddion. Neu fe ellir ei adael fel cyfandaliad (ar ôl treth) i unrhyw un o’ch dewis.

Os byddwch chi farw ar ôl 75 oed, gellir defnyddio’r arian sydd ar ôl yn eich cronfa bensiwn i naill ai rhoi incwm i’ch partner neu ddibynyddion neu ei roi yn ddi-dreth i elusen. Ond os bydd rhywun yn etifeddu’r arian ar ôl i chi fod yn 75, bydd yn rhaid iddynt dalu cyfraddau treth uchel amdano.

Gall ymgynghorydd ariannol annibynnol eich helpu i benderfynu beth yw’r ffordd orau i chi ddarparu i deulu a ffrindiau ar ôl i chi farw.

Am fwy o wybodaeth am ble i gael cyngor ynglŷn â’ch opsiynau pensiwn, gweler Cael cyngor ariannol.

Nôl i’r brig


Ffyrdd eraill o gymryd eich pensiwn

Y ffordd arferol i dynnu pensiwn personol, cyfranddeiliaid neu bensiwn pwrcasu arian y gweithle ydyw defnyddio’r arian yn eich cronfa i brynu blwydd-dal. Mae hyn yn rhoi incwm ar gyfer eich ymddeoliad. Mae yna wahanol fathau o flwydd-dal, er enghraifft, rhai sy’n caniatáu i chi ddarparu ar gyfer partner pan fyddwch chi farw. Felly mae o hyd yn syniad da i gael cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl a siopa o gwmpas cyn dewis un.

Mae dewis y ffordd orau i ddefnyddio’ch cronfa bensiwn yn gymhleth. Cyn i chi benderfynu’n derfynol ynglŷn â thynnu incwm neu ar ba flwydd-dal i’w brynu, fe ddylech chi gael cyngor ariannol annibynnol oddi wrth ymgynghorydd proffesiynol er mwyn i chi wneud y dewis gorau ar gyfer eich sefyllfa chi.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â ble i gael cyngor ariannol annibynnol, gweler Cael cyngor ariannol.

Nôl i’r brig


Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Yn Adviceguide

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â ble i gael cyngor ariannol, gweler Cael cyngor ariannol.

Am fwy o wybodaeth am flwydd-daliadau, beth i’w wneud wrth i chi nesau at ymddeoliad a mathau gwahanol o bensiynau, gweler Pensiynau.

Fe allwch chi gael y wybodaeth Adviceguide canlynol hefyd yn ddefnyddiol:

Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch pensiynau, gan gynnwys tablau ar gyfer dewis darparwr pensiwn personol, a theclyn cyfrifo pensiwn i gyfrifo faint o bensiwn fyddwch chi ei angen. Mae yna amrywiaeth o daflenni hefyd i ateb eich cwestiynau ynglyn â phensiynau ac ymddeol.

Rhowch glic ar : www.moneyadviceservice.org.uk.

Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (TPAS)

Llinell Gymorth: 0845 6012923 graddfa leol
Gwefan: www.pensionsadvisoryservice.org.uk

Sefydliad annibynnol ydyw’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (TPAS) sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am ddim ynglŷn â phob math o bensiynau gan gynnwys pensiwn y wladwriaeth, cwmni, personol a chynlluniau cyfranddeiliaid.

Nid yw TPAS yn darparu cyngor ariannol na buddsoddiad nac yn argymell cynhyrchion.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback