Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru a Lloegr
Os ydych yn cael trafferth talu’ch morgais, efallai y byddwch wedi mynd i ddyled.
Os nad ydych yn medru dod o hyd i unrhyw ffordd arall o glirio’r dyledion ar eich morgais, efallai y byddwch am ystyried gwerthu eich eiddo. Fe fyddai hyn yn rhoi un swm mawr i chi y gallech ei ddefnyddio i ad-dalu eich morgais. Os oes digon yn weddill gennych, efallai y byddwch hefyd yn medru ei ddefnyddio i ad-dalu dyledion eraill.
Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ynghylch gwerthu eich eiddo i glirio’ch morgais. Rydym yn edrych ar:
Os nad ydych yn medru talu’ch morgais, efallai y cewch eich temtio i:
Ond, os nad oes unrhyw opsiynau eraill gennych i dalu’ch morgais, byddai’n well ceisio gwerthu’r eiddo eich hun, yn lle rhoi’r allweddi yn ôl neu wneud dim byd.
Os fyddwch chi’n dewis rhoi’r allweddi yn ôl neu wneud dim byd, fe fyddwch yn dal i fod yn gyfrifol am daliadau morgais, yswiriant adeiladu a chostau eraill hyd nes i’r eiddo gael ei werthu. Unwaith fydd yr eiddo wedi cael ei werthu, mae’ch benthyciwr morgeisi’n debygol o gael llawer llai amdano nag y buasech chi’n ei gael. Yn aml, mae eiddo ble mae’r perchennog wedi cael ei droi allan (adfeddiant) neu’r allweddi wedi cael eu rhoi yn ôl i’r benthyciwr yn gwerthu am lawer llai. Fe allai hyn olygu nad ydyw’r gwerthiant yn cynhyrchu digon o arian i dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych ac fe fydd yn rhaid i chi dalu’r ddyled o hyd. Hefyd, yn aml mae benthycwyr yn gwerthu mewn ocsiynau ble mae prisiau gwerthu yn dueddol o fod yn is.
Os ydych yn rhoi’r allweddi yn ôl, neu’n cael eich troi allan, fe fydd angen i chi feddwl yn ofalus ynghylch ble’r ydych chi’n mynd i fyw. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hyn, gweler Dod o hyd i rywle arall i fyw.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn sy’n digwydd i’ch eiddo wedi i chi gael eich troi allan neu roi’r allweddi yn ôl, gweler Eich troi chi allan o’ch cartref oherwydd ôl-ddyledion morgais.
Os ydych yn ystyried gwerthu eich eiddo, mae yna sawl peth y bydd angen i chi eu datrys a’u hystyried. Mae’r rhain yn cynnwys:
Os ydych eisoes yn hawlio budd-daliadau, neu’n credu efallai fod angen i chi eu hawlio, dylech gael cyngor cyn gwerthu eich eiddo i ad-dalu’ch dyledion morgais. Mae cyngor ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os nad yw’r arian a gewch wedi gwerthu’r eiddo yn ddigon i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych, fe fydd yn rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth. Gelwir hyn yn ddiffyg.
Fe fyddwch chi angen caniatâd benthyciwr eich morgais i werthu’r eiddo os nad ydych yn mynd i gael digon o arian o’r gwerthiant i dalu’r hyn sy’n ddyledus ar eich morgais.
Fe fydd y benthyciwr yn anfon bil atoch am y diffyg. Os nad ydych yn medru gwneud trefniadau i’w dalu, efallai y bydd eich benthyciwr yn mynd i’r llys i’ch gorfodi chi i dalu’r swm yma.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae yna derfyn amser i’ch benthyciwr weithredu i adennill unrhyw ddiffyg. Mae terfynau amser ar gyfer adennill diffyg mewn morgais yn medru bod yn gymhleth, a chael cyngor fyddai orau.
Os nad ydych yn ad-dalu’r diffyg ar eich morgais ac yna rydych yn prynu eiddo arall, efallai y bydd benthyciwr eich eiddo cyntaf yn cymryd camau yn eich erbyn yn y llys. Os ydyw’n cael gorchymyn llys yn eich erbyn ac nid ydych yn talu, mae’n medru gofyn am orchymyn codi taliadau yn erbyn eich eiddo newydd. Mae hyn yn golygu, pan fyddwch chi’n gwerthu’r eiddo newydd, fe fydd elw’r gwerthiant yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu’r diffyg. Mae hefyd yn bosib i’ch benthyciwr gael gorchymyn ar i werthu eich cartref newydd i ad-dalu’r ddyled ar eich cartref blaenorol.
Os oes arnoch ddiffyg ar eich morgais wedi i chi gael eich troi allan am ôl-ddyledion morgais, dylech gael cyngor arbenigol. Mae cyngor ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os oes dyledion eraill gennych heblaw am ddiffyg ar eich morgais, efallai y penderfynwch chi mai mynd yn fethdalwr yw’r opsiwn gorau i chi. Os ydych yn ceisio dod yn fethdalwr, fe fyddwch yn medru cynnwys y diffyg yn eich gorchymyn methdaliad.
Am fwy o wybodaeth ynghylch methdaliad, gweler Help gyda dyled.
Os ydych yn gwerthu’ch eiddo i glirio’r dyledion ar eich morgais, fe fydd angen i chi feddwl ble’r ydych chi’n mynd i fyw.
Os nad oes unrhyw le arall gennych i fyw, efallai eich bod yn meddwl am gyflwyno cais i’ch awdurdod lleol i gael eich ail gartrefu fel person digartref. Fe fydd angen i chi siarad â’ch awdurdod lleol ynglŷn â hyn cyn gynted â phosib, oherwydd mewn rhai amgylchiadau fe fyddan nhw’n eich ystyried fel person sy’n ddigartref yn fwriadol ac efallai na fyddant yn cytuno i’ch ail gartrefu chi. Mae hyn hefyd yn berthnasol i bobl sydd wedi rhoi’r allweddi yn ôl i’r benthyciwr morgeisi.
Os ydych yn credu eich bod yn mynd i fod yn ddigartref unwaith fyddwch chi wedi gwerthu eich eiddo, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol. Fe fydd eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn medru helpu. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch dod o hyd i rywle i fyw, gan gynnwys cyflwyno cais am help i’ch awdurdod lleol, gweler Dod o hyd i lety.
Efallai fod sawl opsiwn arall gennych i ddatrys y problemau gyda’ch morgais, heblaw am werthu eich eiddo.
Am fwy o wybodaeth ynghylch eich opsiynau eraill, darllenwch y tudalennau canlynol:
Sut i ddatrys y problemau gyda’ch morgais
