The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Cynlluniau gwerthu a rhentu yn ol
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru
Beth yw cynllun gwerthu a rhentu’n ôl
Os ydych chi’n ymdrechu i dalu’ch morgais, un opsiwn y gallech chi ei ystyried ydyw’r cynllun gwerthu a rhentu’n ôl a reolir gan gwmni preifat. Gellir galw’r cynlluniau hyn hefyd yn gynlluniau prynu’n ôl neu werthu a phrydlesu’n ôl.
Mae cynllun gwerthu a rhentu’n ôl a reolir gan gwmni preifat yn caniatáu i chi werthu’ch tŷ i’r cwmni hwnnw ac yna ei rentu’n ôl oddi wrthynt fel tenant. Fel arfer fe fyddech chi’n gwerthu’ch cartref i’r cwmni am bris gostyngol. Gall cwmni preifat olygu cwmni, brocer neu unigolyn preifat.
Mae’r cynlluniau hyn yn wahanol i’r cynlluniau achub morgeisi a reolir gan landlordiaid tai cymdeithasol megis cymdeithasau tai.
Mae angen i chi fod yn ofalus iawn ynglŷn ag arwyddo i gynllun gwerthu a rhentu’n ôl a reolir gan gwmni preifat oherwydd fe allan nhw fod yn beryglus. Mae angen i chi ddeall yn union beth yr ydych yn ei arwyddo a sut y gallai hyn effeithio ar eich sefyllfa tai ac ariannol yn y tymor hir.
Mae’n well meddwl am un o’r cynlluniau hyn dim ond pan fetho popeth arall. Efallai y byddwch am weld os allwch chi ymuno â chynllun achub morgeisi a reolir gan landlord tai cymdeithasol yn lle.
Am fwy o wybodaweth ynglŷn â chynlluniau achub morgeisi a reolir gan landlordiaid tai cymdeithasol, gweler Cynlluniau achub morgeisi.
Os ydych chi wir yn ei chael yn anodd i dalu’ch morgais, mynnwch gymorth oddi wrth ymgynghorydd dyledion profiadol ar unwaith. Fe allwch gael cyngor ynglŷn â dyled oddi wrth swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Ar y dudalen hon, fe ddewch o hyd i fwy o wybodaeth am y peryglon o arwyddo i gynllun gwerthu a rhentu’n ôl preifat a pha fath o warchod sydd ar gael.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag opsiynau eraill y gallech eu cael i ddatrys eich problemau morgais, gweler Cymorth ychwanegol.
Rheolau y mae’n rhaid i gwmnïau gwerthu a rhentu’n ôl eu dilyn
Mae yna reolau caeth iawn y mae’n rhaid i gwmnïau gwerthu a rhentu’n ôl eu dilyn. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i roi gwell diogelwch i chi ac yn golygu fod yn rhaid i’r cwmnïau ystyried y canlynol:
- nid oes ganddynt ganiatâd i roi taflenni hyrwyddo drwy’ch blwch llythyron
- rhaid iddynt wirio eich bod yn gallu fforddio i gychwyn ar gytundeb gyda nhw a sut y gallai hynny effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau
- rhaid iddynt roi tenantiaeth cyfnod penodol i chi am bum mlynedd o leiaf
- byddant yn trefnu prisiant annibynnol o’ch cartref os nad oes gennych un yn barod
- rhaid iddynt roi cyfnod o 14 diwrnod i chi newid eich meddwl er mwyn rhoi mwy o amser i chi benderfynu beth i’w wneud.
Rheolir cynlluniau gwerthu a rhentu’n ôl gan sefydliad gwarchod ariannol y llywodraeth, sef Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (FSA). Mae hyn yn golygu fod FSA yn gwirio os ydyw cwmnïau yn cadw at yr holl reolau a gwneud yn siŵr eu bod yn cwrdd â safonau arbennig. Mae’n golygu hefyd fod yna weithdrefn gwyno y gallwch ei defnyddio os bydd pethau’n mynd o le.
Os ydych chi’n ystyried arwyddo cytundeb gwerthu a rhentu’n ôl gyda chwmni arbennig, fe ddylech chi wirio fod y cwmni wedi’i rhestru ar gofrestr FSA. Fe allwch chi wirio’r gofrestr ar wefan FSA yn: www.fsa.gov.uk.
Pethau i edrych allan amdanynt gyda chynlluniau gwerthu a rhentu’n ôl
Gan fod cynlluniau gwerthu a rhentu’n ôl preifat yn gallu bod yn beryglus, fe ddylech chi ystyried arwyddo dim ond os nad oes gennych unrhyw opsiwn arall.
Er mwyn dod o hyd i’ch opsiynau eraill os ydych chi’n ymdrechu i dalu’ch morgais, gweler Cymorth ychwanegol.
Os ydych chi’n ystyried arwyddo i gychwyn ar gynllun gwerthu a rhentu’n ôl, mae angen i chi wirio telerau ac amodau’r cynllun yn ofalus iawn. Dyma rai pethau i edrych allan amdanynt:
Gwiriwch y pris a gynigir i chi
Mae cwmnïau gwerthu rhentu’n ôl fel arfer yn prynu cartrefi islaw cyfradd y farchnad ac felly fe allech chi ddiweddu’n colli arian. Efallai y byddai’n well i chi werthu eich cartref ar y farchnad agored a dod o hyd i rywle arall i’w rentu. Byddai hyn yn golygu y gallech chi wneud mwy o arian allan o’r gwerthiant ac y gallech chi ddefnyddio’r arian hwn i dalu unrhyw ddyledion eraill sydd gennych.
Fe ddylech chi hefyd fod yn ymwybodol os yw’r pris a gynigir i chi i werthu’ch eiddo yn llai na’r hyn sy’n ddyledus ar eich morgais, gall eich benthyciwr morgais wrthod gadael i chi ei werthu am y pris hwnnw
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwerthu’ch cartref, gweler Gwerthu’ch cartref.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwerthu’ch eiddo i glirio’r dyledion morgais, gweler Gwerthu eich eiddo i glirio dyledion morgais.
Fe allech chi gael eich troi allan o hyd
Nid yw arwyddo i gychwyn ar gynllun gwerthu a rhentu’n ôl bob amser yn eich atal rhag gorfod gadael eich cartref yn y tymor hir. Fe allech chi o hyd gael eich troi allan os:
- ydych yn mynd yn erbyn unrhyw un o delerau eich cytundeb tenantiaeth megis mynd ar ei hôl hi gyda’ch taliadau rhent
- yw’ch landlord newydd yn mynd i drafferthion ariannol a’ch cartref yn cael ei adfeddiannu gan rywun y mae arnyn nhw arian iddynt.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth all ddigwydd pan adfeddiannir cartref eich landlord, gweler Adfeddiannu gan fenthyciwr morgais eich landlord.
Pan fyddwch chi’n arwyddo i gychwyn ar gynllun gwerthu a rhentu’n ôl preifat, mae’n debygol y bydd eich cartref yn cael ei rentu’n ôl i chi ar sail tenantiaeth cyfnod penodol. Pan ddaw’r denantiaeth cyfnod penodol i ben, fel arfer mae'n rhwydd iawn i’ch landlord i’ch troi allan, hyd yn oed os nad ydych wedi gwneud unrhyw beth o’i le.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thenantiaethau cyfnod penodol a mathau eraill o gytundebau tenantiaeth preifat, gweler Rhentu oddi wrth landlord preifat.
Gellir effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau
Os ydych chi’n gwerthu’ch cartref ond yn parhau i fyw yno a thalu rhent, efallai na fydd hawl gennych i gael Budd-dal Tai.
Efallai hefyd yr effeithir ar eich hawl i fudd-daliadau prawf modd eraill, megis Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Budd-dal Tai, gweler Help gyda’ch rhent - Budd-dal Tai.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â mathau eraill o fudd-daliadau prawf modd, gweler yr Adran Budd-daliadau.
Os ydych chi’n ystyried arwyddo i gychwyn ar gytundeb gwerthu a rhentu’n ôl gyda chwmni preifat, fe ddylech chi gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fe ddylech chi hefyd ystyried cael cyngor ariannol annibynnol. Bydd hyn yn help i sicrhau eich bod wedi meddwl yn ofalus sut y bydd arwyddo i gynllun gwerthu a rhentu’n ôl yn effeithio ar eich sefyllfa ariannol a thai yn y tymor hirach.
Cymorth ychwanegol
Yn Adviceguide
- Sut i ddatrys eich problemau morgais
- Beth sy’n digwydd os ydyw’ch benthyciwr morgais yn mynd â chi i’r llys
- Troi allan oherwydd ôl-ddyledion morgais
- Gwerthu’ch eiddo i glirio dyledion morgais
- Adfeddiannu gan fenthyciwr morgais eich landlord
- Rhentu oddi wrth landlord preifat
- Cael cyngor ariannol
Ar wefan y Gwasanaeth Cyngor ar Ddigartrefedd Cenedlaethol
Ewch i www.nhas.org.uk.
Ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA)
Mae gan wefan yr FSA gofrestr o gwmnïau gwerthu a rhentu’n ôl preifat sy’n cael eu monitro ganddynt. Rhowch glic ar: www.fsa.gov.uk.
Gwefan Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan, mae yna daflen wybodaeth ddefnyddiol gyda gwybodaeth bellach ynghylch cynlluniau gwerthu a rhentu’n ôl. Rhowch glic ar www.moneyadviceservice.org.uk.
Cyngor ariannol annibynnol
Os ydych yn ystyried cofrestru ar gyfer cynllun gwerthu a rhentu’n ôl, dylech gael cyngor ariannol annibynnol. Mae’r mudiadau canlynol yn medru eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd ariannol annibynnol:
Independent Financial Promotions (IFAP)
Gwefan: www.unbiased.co.uk
Institute of Financial Planning (IFP)
Ffôn: 0117 945 2470
E-bost: enquiries@financialplanning.org.uk
Gwefan: www.financialplanning.org.uk
Personal Finance Society (PFS)
E-bost: customer.serv@thepfs.org









