The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Sut i ddelio gyda’r dyledion ar eich morgais
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru a Lloegr
Sut i ddelio gyda’r dyledion ar eich morgais
Os ydych wedi bod yn cael trafferth talu’ch morgais, efallai y byddwch wedi dechrau cronni dyled. Efallai y byddwch wedi colli un taliad misol, neu fwy, neu efallai eich bod yn talu llai o arian bob mis nag sy’n ddyledus gennych.
Fe fydd angen i chi feddwl am ffordd o ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych. Os nad ydych yn gwneud hyn, ac mae’r ddyled yn parhau i gronni, fe fydd eich benthyciwr yn mynd â chi i’r llys ac efallai y byddwch yn colli eich cartref.
Ar y dudalen hon, fe fyddwn yn dweud wrthych am rai o’r pethau efallai y byddwch yn medru eu gwneud i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych ar eich taliadau morgais. Mae’r rhain yn cynnwys:
- gwneud taliadau ychwanegol ar ben eich taliadau misol arferol
- ychwanegu’r hyn sy’n ddyledus gennych at eich cyfalaf
- ildio’ch polisi gwaddol o godi arian ychwanegol
- benthyg arian i godi arian ychwanegol
- cyfnewid polisi yswiriant diogelu taliadau morgais.
Efallai bod opsiynau eraill gennych ar gyfer delio gyda’r dyledion ar eich morgais, heblaw am y rhai sy’n cael sylw ar y dudalen hon. Am fwy o wybodaeth ynghylch y rhain, gweler Mwy o opsiynau ar gyfer delio â phroblemau gyda’ch morgais.
Unwaith fyddwch chi wedi dod o hyd i ffordd o ddelio gyda’ch dyledion, fe fydd angen i chi ddod i gytundeb gyda’ch benthyciwr morgeisi.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddod i gytundeb gyda’ch benthyciwr morgeisi, gweler Delio gyda’ch benthyciwr morgeisi.
Os nad oes unrhyw opsiynau gennych ar gyfer ad-dalu eich dyledion neu os nad ydych yn medru dod i gytundeb gyda’ch benthyciwr morgeisi, dylech gael help cynghorydd dyledion profiadol ar unwaith.
Dylech hefyd gael help os ydych wedi dechrau cael llythyron gan eich benthyciwr morgeisi yn bygwth cymryd camau yn y llys.
Mae cyngor ar ddyled ar gael o ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi edrych ar Beth sy’n digwydd os yw’ch benthyciwr morgeisi’n mynd â chi i’r llys.
Talu taliadau morgais ychwanegol
Os oes peth arian gennych i’w sbario bob mis, efallai y byddwch yn medru ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych drwy dalu taliadau ychwanegol ar ben eich taliadau morgais misol arferol.
I gyfrifo os oes arian ychwanegol gennych i’w sbario, a faint sydd gennych i’w sbario, fe fydd angen i chi gyfrifo faint o arian sydd gennych yn dod i mewn i’ch cartref bob mis a faint sydd angen i chi ei dalu allan ar filiau a chostau eraill. Gelwir hyn yn gyfrifo cyllideb.
Pan fyddwch chi wedi cyfrifo cyllideb eich cartref, gan gynnwys unrhyw incwm ychwanegol fedrwch chi ei ennill, fe fyddwch yn medru gweld faint o arian sydd gennych dros ben i ad-dalu dyledion eich morgais. Fe fydd angen i chi ysgrifennu at eich benthyciwr gan esbonio’r hyn yr ydych yn cynnig ei wneud.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ysgrifennu at eich benthyciwr morgeisi, gweler Delio gyda’ch benthyciwr morgeisi.
Edrych ar eich cyllideb
Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau morgais, fe fydd angen i chi edrych yn ofalus ar gyllideb eich cartref. Fe fydd hyn yn dweud wrthych os oes unrhyw arian yn weddill gennych i chi ei ddefnyddio i ad-dalu’ch dyledion.
Fe fydd angen i chi wneud rhestr o’ch holl incwm a’ch holl wariant. Dylai hyn gynnwys unrhyw ddyledion eraill sydd gennych. Sicrhewch fod y symiau yr ydych yn eu nodi yn realistig.
Fe allwch ddefnyddio’r teclyn cyllidebu ar-lein i’ch helpu i wneud hyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gyfrifo’ch cyllideb, gweler hefyd Sut i gyfrifo’ch cyllideb.
Meddyliwch o ddifrif p’un ai ei fod yn bosib cynyddu’ch incwm neu dorri yn ôl ar eich gwariant.
Er enghraifft, efallai y byddwch yn medru:
- hawlio budd-daliadau neu gredydau treth
- gweithio goramser neu gymryd ail swydd
- cymryd lletywr neu rentu ystafell yn eich cartref
- gostwng cost biliau’r cartref fel dŵr, nwy, trydan neu yswiriant.
Mae yna lawer o ffyrdd gwahanol o roi hwb i’ch incwm a gwario llai. Am fwy o wybodaeth, gweler Cynyddu eich incwm a Sut i wario llai.
Mae cynghorydd profiadol ar ddyledion yn medru eich helpu i gyfrifo faint o arian sydd gennych i ad-dalu dyled ar eich morgais ac unrhyw ddyledion eraill sydd gennych. Mae hefyd yn medru eich cynghori chi ynghylch ffyrdd o gynyddu eich incwm a gwario llai o arian. Mae’r cyngor hwn ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhain sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Ychwanegu’r hyn sy’n ddyledus gennych at eich cyfalaf
Efallai y byddwch yn medru clirio’r dyledion ar eich taliadau morgais drwy ychwanegu’r arian sy’n ddyledus gennych at eich cyfalaf (y swm a fenthycwyd gennych) a’i ad-dalu dros y cyfnod sy’n weddill ar y morgais. Gelwir hyn yn gyfalafu’r ôl-ddyledion. Gallech hefyd ofyn am ymestyn cyfnod y morgais er mwyn cadw’ch taliadau misol i lawr, er, byddwch yn talu cyfanswm llawer yn fwy yn y pendraw.
Ildio’ch polisi gwaddol
Os oes morgais gwaddol gennych, efallai y gallech feddwl am ildio’ch polisi gwaddol neu ei werthu i fuddsoddwr. Fe fydd hyn yn rhoi un swm mawr o arian i chi y byddwch yn medru ei ddefnyddio i helpu ad-dalu’r ddyled. Ond, dylech feddwl yn ofalus iawn cyn gwneud hyn. Fe fydd angen i chi ddod o hyd i ffordd arall o ad-dalu’ch benthyciad morgais ac fe fydd hefyd angen i chi ddod o hyd i yswiriant bywyd arall. Fe fydd angen i chi ddarganfod, hefyd, a fyddai unrhyw ddirwyon neu gostau eraill petaech yn dod â’ch polisi gwaddol i ben. Mynnwch gyngor ariannol annibynnol yn gyntaf.
Os ydych yn siŵr eich bod am werthu eich polisi gwaddol, mae APMM (Association of Policy Market Makers) yn medru rhoi cyngor i chi a’ch helpu i werthu’ch polisi. Fe allwch gysylltu â’r Gymdeithas ar 0845 011 9406, neu edrych ar eu gwefan yn: www.apmm.org.
Fe fydd angen i chi ysgrifennu at eich benthyciwr ac esbonio sut yr ydych yn cynnig clirio’r dyledion.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ysgrifennu at eich benthyciwr morgeisi, gweler Cysylltu â’ch benthyciwr.
Benthyg arian
Fe allech holi i weld os yw’n bosib cymryd benthyciad, neu fenthyg arian gan rywun yr ydych yn ei ‘nabod, i’ch helpu i ad-dalu’r ddyled ar eich morgais. Peidiwch â benthyg arian gan rywun yr ydych yn ei ‘nabod onid ydych yn ei ‘nabod yn dda ac yn medru ymddiried ynddo/i. Gofalwch nad ydych yn benthyg gan fenthyciwr arian didrwydded.
Am fwy o wybodaeth ynghylch benthycwyr arian didrwydded, gweler Credyd.
Fe fydd angen i chi ysgrifennu at eich benthyciwr morgeisi i esbonio sut yr ydych yn cynnig clirio’ch dyled.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ysgrifennu at eich benthyciwr morgeisi, gweler Delio gyda’ch benthyciwr morgeisi.
Os ydych yn cymryd benthyciad, sicrhewch eich bod yn medru fforddio’r ad-daliadau trwy gyfrifo’ch cyllideb. Efallai y byddai hefyd yn syniad da cael cyngor gan gynghorydd arbenigol ar ddyled yn gyntaf.
Mae cyngor arbenigol ar ddyled ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yswiriant diogelu taliadau morgais
Os ydych wedi colli eich swydd neu wedi colli eich incwm dros dro, edrychwch i weld os oes yswiriant diogelu taliadau morgais gennych. Efallai y byddwch wedi cymryd polisi ar yr un pryd ag y cawsoch eich morgais, neu wedi hynny. Efallai y bydd yr yswiriant diogelu taliadau morgais yn cynnwys eich taliadau morgais os nad ydych yn medru gweithio oherwydd diweithdra neu salwch.
Mae yna lawer o amgylchiadau ble na fydd yn talu allan hyd yn oed os oes polisi diogelu taliadau gennych. Fe fydd angen i chi darllen amodau a thelerau eich polisi’n ofalus, i weld os ydych wedi eich cynnwys. Efallai y bydd angen i chi gael cyngor ynglŷn â hyn.
Mae cyngor ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yswiriant diogelu taliadau, gweler Yswiriant diogelu taliadau yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a debyd.
Rydych hefyd yn medru mynd at wefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: www.moneyadviceservice.org.uk.
Mwy o opsiynau ar gyfer delio â phroblemau gyda’ch morgais
Efallai bod opsiynau eraill gennych ar gyfer datrys y problemau gyda’ch morgais, heblaw am y rheiny sy’ cael sylw ar y dudalen hon.
Am fwy o wybodaeth ynghylch eich opsiynau eraill, gweler y tudalennau canlynol:
Sut i ddatrys y problemau gyda’ch morgais
Help pellach
Ble i ddod o hyd i gyngor ariannol annibynnol
Fe fydd y sefydliadau canlynol yn medru eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd ariannol annibynnol:
Independent Financial Promotions (IFAP)
Gwefan: www.unbiased.co.uk
Institute of Financial Planning (IFP)
Ffôn: 0117 945 2470
E-bost: enquiries@financialplanning.org.uk
Gwefan: www.financialplanning.org.uk
Personal Finance Society (PFS)
E-bost: customer.serv@thepfs.org
Gwefan: www.findanadviser.org









