Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru a Lloegr
Os ydych yn cael trafferth talu’ch morgais, rhaid i chi gymryd camau ar unwaith i atal eich hun rhag mynd i ddyled.
Os ydych yn mynd i ddyled ac nid yw’ch benthyciwr yn credu eich bod yn delio gyda’r broblem, fe fydd yn cymryd camau drwy’r llysoedd. Fe allai hyn olygu eich bod yn colli eich cartref.
Efallai bod yna ffyrdd i chi dorri i lawr ar gostau eich morgais i’ch atal rhag mynd i ddyled.
Os ydych eisoes ar ei hôl hi gyda’ch taliadau, efallai fod yn bethau y gallwch eu gwneud i’ch atal rhag mynd ymhellach i ddyled ac i glirio’r ddyled.
I ddarganfod mwy am ostwng eich costau morgais neu glirio’r hyn sy’n ddyledus ar eich taliadau, gweler mwy o wybodaeth ynghylch problemau gyda’ch morgais.
Unwaith fyddwch chi’n penderfynu sut yr ydych am ddelio gyda’r broblem, fe fydd angen i chi gysylltu â’ch benthyciwr cyn gynted â phosib a dweud wrthyn nhw beth hoffech chi ei wneud.
Ar y dudalen hon, fe fyddwn ni’n dweud wrthych:
Fe fydd angen i chi ddod i gytundeb gyda’ch benthyciwr morgeisi. Os nad ydych yn medru dod i gytundeb neu os nad ydych yn medru ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych, fe fydd eich benthyciwr yn mynd â chi i’r llys ac efallai y byddwch chi’n colli eich cartref.
Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech gael help gan gynghorydd dyledion profiadol ar unwaith. Dylech hefyd gael help os ydych wedi dechrau cael llythyron gan eich benthyciwr morgeisi yn bygwth camau yn y llys.
Mae cyngor ar ddyled ar gael o ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi edrych ar Beth sy’n digwydd os yw’ch benthyciwr morgeisi’n mynd â chi i’r llys.
Dylai rhif ffôn a chyfeiriad eich benthyciwr morgeisi fod ar eich datganiad diweddaraf neu unrhyw lythyr arall yr ydych wedi ei gael ganddynt.
Os yw’ch morgais gyda banc neu gymdeithas adeiladu ar y stryd fawr, gallech hefyd siarad â’r cynghorydd morgeisi yn eich cangen leol. Efallai y bydd gan eich benthyciwr morgeisi wefan hefyd gyda gwybodaeth ynghylch sut i gysylltu â nhw.
Unwaith fyddwch chi wedi penderfynu pwy i gysylltu â nhw, mae angen i chi ysgrifennu at eich benthyciwr morgeisi.
Fe fydd angen i chi benderfynu sut yr ydych yn mynd i ddelio gyda’r broblem yn gyntaf ac yna nodi’r manylion yn ysgrifenedig. Peidiwch â disgwyl i’ch benthyciwr morgeisi awgrymu sut ddylech chi ddelio gyda’r broblem oherwydd efallai na fyddan nhw’n ymwybodol o’ch holl amgylchiadau. Mae angen i chi benderfynu ar gynllun sy’n addas i chi.
Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n cael trafferth talu’ch morgais ar hyn o bryd am eich bod chi wedi colli eich swydd, neu am eich bod i ffwrdd o’r gwaith yn sâl. Ond rydych yn disgwyl i bethau fynd yn haws yn fuan oherwydd:
Os yw’ch benthyciwr morgeisi’n gwybod am eich amgylchiadau, efallai y bydd yn barod i roi amser ychwanegol i chi dalu.
Yn y llythyr i’ch benthyciwr morgeisi dylech nodi’n glir sut yr ydych yn bwriadu ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych.
Dylai’ch llythyr hefyd:
Os ydych yn cynnig talu swm ychwanegol yn ôl bob mis, dylai hyn fod yn seiliedig ar y swm y gallwch ei fforddio. I gyfrifo faint fedrwch chi ei fforddio, fe fydd angen i chi edrych ar eich cyllideb.
Dylech sicrhau eich bod yn cynnig ad-dalu swm y gallwch gadw ato yn realistig ac y bydd yn clirio’r ddyled o fewn cyfnod y morgais.
Cofiwch gynnwys taflen incwm a gwariant gyda’r llythyr at eich benthyciwr, yn dangos sut yr ydych wedi cyfrifo hyn.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â chyllidebu, gweler Sut i gyfrifo’ch Cyllideb. Fe allwch hefyd ddefnyddio’n teclyn cyllidebu ar-lein i’ch helpu i gyfrifo’ch cyllideb. Mae’n gadael i chi argraffu datganiad ariannol o’ch incwm a’ch gwariant ac fe fyddwch yn medru ei ddangos i’ch benthyciwr.
Ceisiwch berswadio’ch benthyciwr morgeisi fod derbyn cynnig a gyfrifwyd yn y ffordd yma yn llesol i’r ddau ohonoch, oherwydd rydych yn fwy tebygol o gadw ato.
Gallech hefyd awgrymu i’ch benthyciwr ei fod yn derbyn y trefniadau hyn am gyfnod penodol o amser, ac yna bydd yn medru adolygu’r sefyllfa i weld pa mor dda mae wedi bod yn gweithio.
Efallai y byddwch chi am gael help cynghorydd profiadol ar ddyled i’ch helpu i ddelio gyda’ch benthyciwr morgeisi.
Mae help ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os nad yw’r person yr ydych yn delio ag ef/hi yn y cwmni morgeisi yn ddefnyddiol iawn, mae’n werth ceisio delio gyda rhywun sydd â mwy o gyfrifoldeb, er enghraifft goruchwylydd neu reolwr.
Dylech geisio gwneud taliadau rheolaidd i’ch benthyciwr morgeisi, waeth pa mor fach. Hyd yn oed os nad ydych yn medru dod i gytundeb gyda’ch benthyciwr ynghylch sut i ad-dalu’r ddyled, efallai y bydd o gymorth i’ch achos os fyddwch yn gorfod mynd i’r llys yn nes ymlaen.
Os ydych yn dadlau eich achos yn y llys, efallai y bydd y beirniad yn gadael i chi aros yn eich eiddo tra’ch bod yn cadw at gytundeb i dalu. Os ydych yn y sefyllfa hon, mynnwch help gan gynghorydd arbenigol ar ddyledion.
Am fwy o wybodaeth ynghylch beth sy’n digwydd pan fydd eich benthyciwr morgeisi’n mynd â chi i’r llys, gweler Beth sy’n digwydd pan fydd eich benthyciwr morgeisi’n mynd â chi i’r llys.
Mae cyngor arbenigol ar ddyled ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae yna reolau ynghylch sut ddylai’ch benthyciwr morgeisi eich trin os ydych yn cael trafferth talu’ch morgais. Mae’r rheolau’n nodi bod yn rhaid i’ch benthyciwr morgeisi eich trin chi’n deg a rhoi cyfle rhesymol i chi i wneud trefniadau i ad-dalu’r ôl-ddyledion, os ydych yn medru gwneud hynny.
Am fwy o wybodaeth ynghylch y rheolau y mae’n rhaid i’ch benthyciwr eu dilyn, gweler yr hyn sy’n rhaid i’ch benthyciwr ei wneud cyn dechrau cymryd camau yn y llys yn Beth sy’n digwydd pan fydd eich benthyciwr morgeisi’n mynd â chi i’r llys.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddelio gyda’r problemau gyda’ch morgais, darllenwch y tudalennau canlynol:
Sut i ddatrys y problemau gyda’ch morgais
