Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Cost defnyddio’ch ffôn symudol dramor

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Ynglŷn â chost defnyddio’ch ffôn symudol dramor

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych am gostau gwneud a derbyn galwadau ffôn a defnyddio gwasanaethau ffôn symudol eraill pan fyddwch chi dramor.

Fe allwch gael mwy o wybodaeth am ffonau symudol ar Adviceguide - gweler Cymorth a gwybodaeth ychwanegol.

Gelwir y taliadau ar gyfer defnyddio eich ffôn symudol dramor yn daliadau crwydro.

Os ydych chi’n teithio cryn dipyn dramor, gofynnwch i’ch darparwr gwasanaeth ffôn symudol os ydyn nhw’n cynnig pecynnau arbennig i deithwyr mynych fydd yn lleihau'r costau o ddefnyddio eich ffôn symudol.

Fe allwch chi hefyd ystyried prynu cerdyn SIM Talu-wrth-Ddefnyddio y gallwch chi ei rhoi yn eich ffôn fydd yn codi prisiau galwadau lleol y wlad lle rydych chi’n aros yn unig. Cerdyn SIM ydyw’r microsglodyn bychan sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i gael eich ffôn i weithio.

Os oes gennych gytundeb ffôn symudol, peidiwch â chymryd yn ganiataol fod y munudau galwadau am ddim a gynhwysir yn eich cytundeb ffôn yn cael eu cynnwys hefyd pan fyddwch chi’n teithio dramor. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu o hyd am y galwadau yr ydych yn eu gwneud y tu allan i’r DU.

Nôl i’r brig


Defnyddio'ch ffôn symudol mewn gwledydd Ewropeaidd eraill

Roedd hi’n arfer bod yn ddrud iawn i ddefnyddio’ch ffôn symudol mewn gwledydd Ewropeaidd eraill ond mae newidiadau yn y ddeddf Ewropeaidd yn golygu fod yn rhaid i bob cwmni ffôn symudol godi cyfradd safonol a enwir yn Eurotariff. Mae yna dariff hefyd i wasanaethau SMS a elwir yn Euro-SMS tariff.

Mae hyn yn golygu ei fod yn costio tua 31c y funud i wneud galwad ffôn a thua 10c i dderbyn galwad pan fyddwch chi dramor yn Ewrop. Codir tâl arnoch i’r eiliad agosaf. Mae’n costio tua 10c i anfon neges testun ac mae derbyn negeseuon am ddim.

Nid yw’r prisiau hyn yn cynnwys gwasanaethau lleisbost a gall gostio gymaint â galwad i’r DU i fynd i mewn i’ch lleisbost. Os ydych chi’n poeni y codir tâl arnoch am leisbost, fe allwch chi ofyn i’ch darparwr ffôn symudol i ddiffodd y gwasanaeth hwn tra byddwch chi dramor.

Mae’r Eurotariff a’r Euro-SMS tariff ar gael yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop ond nid yn y Swistir, Twrci na Chroatia.

Nôl i’r brig


Defnyddio’r rhyngrwyd dramor ar eich ffôn symudol

Mae’r swm y byddwch yn ei dalu am ddefnyddio gwasanaethau symudol eraill pan fyddwch chi dramor megis e-bost, lawr lwytho cerddoriaeth, a mynd i mewn i wefannau, yn dibynnu ar y prisiau lleol am ddefnyddio’r rhyngrwyd trwy fannau cyswllt Wifi yn y wlad yr ydych yn ymweld â hi.

Ffordd o gael mynediad i’r rhyngrwyd neu lawr lwytho data, megis lluniau neu gerddoriaeth trwy ddefnyddio signalau radio ydyw Wifi.

Mae’r prisiau cyfartalog am ddefnyddio gwasanaethau rhyngrwyd symudol yn gostwng ond fe ddylech chi gadw golwg ar yr hyn yr ydych yn ei wario. Mae gwasanaeth ar gael bellach fydd yn atal mynediad i wasanaethau rhyngrwyd ar ôl i chi gyrraedd swm y cytunwyd arno er mwyn osgoi i chi gael sioc pan dderbyniwch chi’r bil ar ôl cyrraedd adref. Gofynnwch i’ch darparwr ffôn symudol am fwy o fanylion.

Nôl i’r brig


Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Yn Adviceguide

Ofcom

Canolfan Gyswllt
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain SE1 9HA
Llinell ymholiadau Tel: 0300 123 3333
Switsfwrdd: 020 7981 3000
Ffôn-destun: 0300 123 2024
Ffacs: 020 7981 3333
Gwefan: www.ofcom.org.uk

Ofcom yw’r cwmni gwarchod telathrebu yn y DU. Nid yw Ofcom yn ymchwilio i gwynion unigol yn erbyn darparwyr gwasanaeth ffôn, er eu bod yn cofnodi pob cwyn yn erbyn cwmni. Os gwelir bod un cwmni yn arbennig yn achosi pryder i ddefnyddwyr, fe allan nhw ystyried eu hymchwilio.

Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebu

PO Box 730
Warrington
WA4 6WU
Ffôn: 0330 440 1614
Ffôn Testun: 0330 440 1600
Ffacs: 0330 440 1615
E-bost: enquiries@os-communications.org
Gwefan: www.os-communications.org

Efallai y gall Gwasanaethau’r Ombwdsmon (Otelo gynt) eich helpu gyda chwyn am gwmni ffôn os yw’r cwmni yn aelod o’r Cynllun. Rhaid eich bod chi wedi defnyddio gweithdrefn gwyno’r cwmni yn gyntaf.

CISAS

24 Angel Gate
City Road
Llundain
EC1V 2PT
Tel: 020 7520 3827
Ffacs: 020 7520 3829
E-bost: info@cisas.org.uk
Gwefan: www.cisas.org.uk

Efallai y gall CISAS (Cynllun Beirniadu Gwasanaethau Cyfathrebu a’r Rhyngrwyd) eich helpu gyda chwyn am gwmni ffôn os ydyw’r cwmni yn aelod o CISAS. Rhaid eich bod chi wedi defnyddio trefn gwyno y cwmni yn gyntaf.

NIACT

Pwyllgor Ymgyngynghorol Telathrebu Gogledd Iwerddon
Yr Ysgrifennydd
Llawr 7
Chamber of Commerce House
22 Great Victoria Street
Belfast
BT2 7QA
Tel: 028 9024 4133
Ffacs: 028 9024 7024

PhonepayPlus

Clove Building
4 Maguire Street
Llundain
SE1 2NQ
Tel: 0800 500212
Ffacs: 020 7940 7456
Gwefan: www.phonepayplus.org.uk

PhonepayPlus yw cwmni gwarchod y gwasanaethau cyfradd premiwm. Mae gan PhonepayPlus gyfleuster gwirio rhif ar eu gwefan sy’n caniatau i chi gael mwy o wybodaeth am rifau ffôn cyfradd premiwm sy’n ymddangos ar eich bil ffôn. Fe allan nhw hefyd roi cyngor ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback