The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Ffonau symudol - gwasanaethau SIM yn unig
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a’r Alban
Ynglŷn â gwasanaethau ffôn symudol SIM-yn unig
Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych am wasanaethau ffôn symudol SIM-yn unig.
Mae gwasanaethau SIM-yn unig yn ffordd o dalu am alwadau ffôn symudol.
Yn gyffredinol, pan fyddwch yn prynu gwasanaeth SIM-yn unig fe fyddwch chi fel arfer yn berchen ar ffôn symudol a dim ond yn talu am gerdyn SIM i’w rhoi ynddo. Microsglodyn bychan ydyw cerdyn SIM sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i wneud i’ch ffôn symudol weithio.
Sut bynnag, mae cystadleuaeth rhwng darparwyr gwasanaethau ffôn symudol yn golygu y gallwch chi bellach gael ffôn symudol am ddim fel rhan o’r cynnig SIM-yn unig.
Ar y dudalen hon fe gewch wybod beth sydd gan wasanaeth ffôn symudol SIM-yn unig i’w gynnig, sut mae hyn yn cymharu â ffyrdd eraill o dalu am alwadau ffôn symudol a sut mae mynd ati i ddewis dêl SIM-yn unig.
Er mwyn gwybod am ffyrdd eraill o dalu am alwadau ffôn symudol, gweler Ffonau symudol - Talu-wrth-Ddefnyddio a Chytundebau Ffonau Symudol.
Beth mae dêl SIM-yn unig yn ei gynnig?
Mae cytundeb SIM-yn unig yn parhau am leiafswm o 30 diwrnod. Os ydych chi’n dewis yr opsiwn hwn, dim ond mis o rybudd y mae’n rhaid i chi ei roi os ydych am newid i ddarparwr arall neu ddiweddu’r gwasanaeth. Fe gewch chi gadw eich rhif ffôn eich hun hefyd. Mae yna gytundebau SIM-yn unig hwy ar gael, sy’n gallu amrywio o 12 i 18 mis ond fe allwch chi wynebu cosb os ddowch chi â’r gwasanaeth i ben yn gynnar.
Manteision dêl SIM-yn unig yw:
- fel arfer maen nhw’n gweithio allan yn rhatach na chytundebau ffôn symudol oherwydd nad ydych yn talu am gost y ffôn trwy dalu rhent llinell uwch
- dydych chi ddim yn cael eich clymu wrth dariff allai ddod yn ddrud o’i gymharu â chynigion ffonau symudol eraill ar ôl rhai misoedd
- fel arfer maen nhw’n cynnig mwy o funudau galw a mwy o negeseuon testun na chytundeb ffôn symudol neu wasanaeth Talu-wrth-Ddefnyddio (PAYG) a does dim rhaid i chi dreulio amser yn ychwanegu at eich amser ffôn fel gyda gwasanaeth PAYG
- fe allwch chi alw rhwydweithiau eraill ar gyfradd unffurf, ac felly does dim rhaid i chi dalu costau galwadau premiwm. Efallai y caniateir i chi hefyd alw pobol ar yr un rhwydwaith â chi am ddim
- mae llawer o ddarparwyr gwasanaeth yn caniatáu i chi gael biliau manwl fesul eitem ac mae rhai yn caniatáu i chi reoli’ch biliau ar-lein am ddim
- yn aml fe gewch chi rai pethau ychwanegol megis mynediad i’r rhyngrwyd neu fynediad i wefannau rhwydweithio cymdeithasol wedi’u cynnwys fel rhan o’r tâl misol.
Os ydych chi am fynd am wasanaeth SIM-yn unig, efallai y bydd angen i chi gael eich ffôn wedi’i ddatgloi yn gyntaf oni bai eich bod yn newid i gynnig SIM-yn unig a gynigir gan eich darparwr gwasanaeth ffôn symudol presennol. Fe ddylai siop ffonau allu tynnu yr hen gerdyn SIM allan i chi ond fe allan nhw godi tâl am wneud hynny.
Sut i ddewis gwasanaeth SIM-yn unig
Pan fyddwch chi’n dewis gwasanaeth SIM-yn unig, fe ddylech chi geisio darganfod gymaint ag y gallwch chi am y gwahanol gyfraddau tariff sydd ar gael. Gweithiwch allan faint o funudau yr ydych yn eu treulio ar y ffôn bob mis, faint o negeseuon yr ydych yn eu hanfon a derbyn, ac os ydych chi’n defnyddio gwasanaethau ychwanegol, megis mynediad i’r rhyngrwyd, gwefannau rhwydweithio cymdeithasol neu lawr lwytho cerddoriaeth.
Mae rhai cynigion SIM-yn unig yn cynnig galwadau am ddim i bobol sydd ar yr un rhwydwaith, felly os ydych chi’n gwneud llawer o alwadau i bobol sy’n rhannu rhwydwaith, gallai fod yn werth dewis yr un yma.
Os ydych chi’n penderfynu newid darparwyr gwasanaeth ffôn symudol, fe ddylech chi hefyd wirio fod digon o signal rhwydwaith yn eich ardal. Mae gan y rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaeth offeryn chwilio ar-lein sy’n caniatáu i chi wirio’r signal ffôn yn eich ardal.
Fe allwch chi ddefnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i wasanaeth SIM-yn unig. Mae cwmni gwarchod y diwydiant ffonau symudol, Ofcom, yn cymeradwyo defnyddio www.billmonitor.com i gymharu prisiau. Fe allwch chi hefyd ymweld â www.moneysavingexpert.co.uk am fwy o awgrymiadau ynglŷn â dewis y tariff iawn.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Yn Adviceguide
- Cytundebau ffonau symudol
- Ffonau symudol - Talu-wrth-Ddefnyddio
- Newid eich cytundeb ffôn symudol
- Biliau ffonau symudol
- Cwynion am ffonau symudol
- Cost defnyddio’ch ffôn symudol dramor
Ofcom
Canolfan Gyswllt
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain SE1 9HA
Llinell ymholiadau Tel: 0300 123 3333
Switsfwrdd: 020 7981 3000
Ffôn-destun: 0300 123 2024
Ffacs: 020 7981 3333
Gwefan: www.ofcom.org.uk
Ofcom yw’r cwmni gwarchod telathrebu yn y DU. Nid yw Ofcom yn ymchwilio i gwynion unigol yn erbyn darparwyr gwasanaeth ffôn, er eu bod yn cofnodi pob cwyn yn erbyn cwmni. Os gwelir bod un cwmni yn arbennig yn achosi pryder i ddefnyddwyr, fe allan nhw ystyried eu hymchwilio.
Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebu
PO Box 730
Warrington
WA4 6WU
Ffôn: 0330 440 1614
Ffôn Testun: 0330 440 1600
Ffacs: 0330 440 1615
E-bost: enquiries@os-communications.org
Gwefan: www.os-communications.org
Efallai y gall Gwasanaethau’r Ombwdsmon (Otelo gynt) eich helpu gyda chwyn am gwmni ffôn os yw’r cwmni yn aelod o’r Cynllun. Rhaid eich bod chi wedi defnyddio gweithdrefn gwyno’r cwmni yn gyntaf.
CISAS
24 Angel Gate
City Road
Llundain
EC1V 2PT
Tel: 020 7520 3827
Ffacs: 020 7520 3829
E-bost: info@cisas.org.uk
Gwefan: www.cisas.org.uk
Efallai y gall CISAS (Cynllun Beirniadu Gwasanaethau Cyfathrebu a’r Rhyngrwyd) eich helpu gyda chwyn am gwmni ffôn os ydyw’r cwmni yn aelod o CISAS. Rhaid eich bod chi wedi defnyddio trefn gwyno y cwmni yn gyntaf.
NIACT
Pwyllgor Ymgyngynghorol Telathrebu Gogledd Iwerddon
Yr Ysgrifennydd
Llawr 7
Chamber of Commerce House
22 Great Victoria Street
Belfast
BT2 7QA
Tel: 028 9024 4133
Ffacs: 028 9024 7024
PhonepayPlus
Clove Building
4 Maguire Street
Llundain
SE1 2NQ
Tel: 0800 500212
Ffacs: 020 7940 7456
Gwefan: www.phonepayplus.org.uk
PhonepayPlus yw cwmni gwarchod y gwasanaethau cyfradd premiwm. Mae gan PhonepayPlus gyfleuster gwirio rhif ar eu gwefan sy’n caniatau i chi gael mwy o wybodaeth am rifau ffôn cyfradd premiwm sy’n ymddangos ar eich bil ffôn. Fe allan nhw hefyd roi cyngor ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.









