The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Ffônau symudol - Talu-wrth-Ddefnyddio
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglŷn â Thalu-wrth-Ddefnyddio
Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych am ffônau symudol a Talu-wrth-Ddefnyddio (PAYG).
Mae Talu-wrth-Ddefnyddio yn golygu eich bod yn talu am eich galwadau ffôn symudol, negeseuon testun a gwasanaethau eraill, megis e-byst a mynediad i’r rhyngrwyd, ymlaen llaw. Nid oes rhaid i chi wneud nifer arbennig o alwadau neu negeseuon testun bob mis ac fe allwch chi stopio defnyddio’r gwasanaeth pryd y mynnoch.
Ar y dudalen hon fe gewch chi wybodaeth sut mae PAYG yn gweithio, sut mae dewis y tariff cywir ac os mai PAYG ydyw’r opsiwn iawn i chi.
Er mwyn gwybod mwy am ffyrdd eraill o dalu am eich gwasanaethau ffôn symudol, megis cytundebau ffôn symudol a gwasanaethau SIM-yn unig, gweler Cymorth a gwybodaeth ychwanegol.
Beth yw Talu-wrth–Ddefnyddio
Mae Talu-wrth-Ddefnyddio yn golygu eich bod yn talu am eich galwadau ffôn symudol, negeseuon testun a gwasanaethau eraill, megis e-byst a mynediad i’r rhyngrwyd, ymlaen llaw. Nid oes rhaid i chi wneud nifer arbennig o alwadau neu negeseuon testun bob mis ac fe allwch chi stopio defnyddio’r gwasanaeth pryd y mynnoch.
Mae angen i chi brynu ffôn symudol yn gyntaf. Fel arfer fe fyddech chi’n prynu hwn fel rhan o ddêl PAYG, ynghyd â’ch taleb ychwanegu y gallwch ei ddefnyddio i brynu amser ffônio neu gredydau. Dyma sydd yn caniatáu i chi wneud a derbyn galwadau neu negeseuon testun. Unwaith mae’r daleb gyntaf wedi dod i ben, chi fydd perchen y ffôn symudol ac fe allwch ddewis i ychwanegu at eich amser ffônio fel PAYG neu ddewis gwasanaeth SIM-yn unig.
Os ydych chi’n dewis aros gyda PAYG, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi ychwanegu at eich amser ffônio yn cynnwys:
- prynu talebau o fannau gwerthu megis archfarchnadoedd, gorsafoedd petrol neu siop papurau newydd
- trwy beiriannau twll yn y wal
- trwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd sydd wedi’i chofrestru gyda’ch cwmni ffôn symudol
- trwy wneud taliadau yn uniongyrchol allan o’ch cyfrif banc.
Pryd mae Talu-wrth-Ddefnyddio yn opsiwn da?
Mae’n werth ystyried gwasanaethau Talu-wrth-Ddefnyddio (PAYG) os nad ydych yn gwneud llawer o alwadau neu negeseuon testun na defnyddio’ch ffôn ar gyfer pethau eraill, megis anfon e-byst, lawr lwytho cerddoriaeth neu gael mynediad i’r rhyngrwyd.
Os fyddwch chi’n defnyddio’ch ffôn am fwy nag un awr bob mis, anfon llawer o negeseuon testun ac am ddefnyddio gwasanaethau ar gyfer pethau megis e-bost, lawr lwytho cerddoriaeth neu gael mynediad i’r rhyngrwyd, efallai y byddai’n werth i chi ystyried prynu cytundeb ffôn symudol neu wasanaeth SIM-yn unig yn lle.
Os ydych chi’n defnyddio gwasanaeth PAYG eisoes ac yn gweld eich bod yn ychwanegu at eich amser ffônio sawl gwaith bob mis, efallai y bydd yn rhatach i chi brynu cytundeb ffôn symudol.
Manteision PAYG, o’u cymharu â phrynu cytundeb yw:
- mae gennych well rheolaeth ar faint yr ydych yn ei wario ar wneud galwadau
- fe allwch ddod â’r gwasanaeth i ben pryd y mynnoch.
Anfanteision PAYG yw:
- gall costau galwadau fod yn uwch nag ydynt gyda chytundeb
- mwy na thebyg fe fydd yn rhaid i chi brynu set llaw, a gall fod llai o ddewis ar gael
- gall gwasanaethau eraill megis lawr lwytho fod yn ddrutach.
Sut i ddewis gwasanaeth Talu-wrth-Ddefnyddio
Dewis y tariff cywir ydyw’r peth pwysicaf i edrych arno wrth ddewis ffôn symudol, oherwydd gall dewis yr un anghywir gostio llawer o arian i chi. Y gyfradd tariff ydyw costau’r galwadau a’r negeseuon testun, mynediad i’r gwasanaethau sy’n seiliedig ar y rhyngrwyd, ynghyd â galwadau neu negeseuon testun am ddim a ychwanegir fel bonws.
Cyn i chi brynu gwasanaeth Talu-wrth-Ddefnyddio (PAYG), fe ddylech chi geisio darganfod cymaint ag y gallwch chi am y gwahanol gyfraddau tariff sydd ar gael.
Mae angen i chi fod yn ofalus hefyd ynglŷn â dewis y math iawn o ffôn. Weithiau mae gan y ffônau PAYG rhataf gyfradd tariff uwch.
Gall fod yn rhatach yn y pendraw i brynu ffôn ychydig yn ddrutach gyda thariff rhatach er mwyn i chi dalu llai bob tro am eich galwadau neu negeseuon testun. Fe ddylech chi ofyn y cwestiwn hwn i’r person sy’n gwerthu wrth i chi ddewis ffôn. Neu fe allwch chi ddefnyddio gwefan gymharu i gymharu gwahanol gyfraddau tariff ar gyfer gwasanaethau PAYG.
Wrth i chi gymharu cyfraddau tariff ar wasanaethau PAYG, edrychwch ar gostau galwadau a hefyd y bargeinion sy’n cynnig munudau ychwanegol am ddim i chi neu negeseuon testun anghyfyngedig os ychwanegwch chi swm arbennig bob mis.
Mae yna gannoedd o dariffau ffôn symudol i ddewis ohonynt, ac felly un o’r ffyrdd gorau i leihau eich rhestr o ddewisiadau posibl ydyw defnyddio gwefan cymharu prisiau. Fe allwch chi gymharu costau gwasanaethau PAYG gyda gwasanaethau SIM-yn unig a chytundebau ffônau symudol.
Mae cwmni gwarchod y diwydiant ffonau symudol, sef OFCOM, yn argymell defnyddio www.billmonitor.com i gymharu prisiau. Fe allwch chi hefyd ymweld a www.moneysavingexpert.co.uk am fwy o awgrymiadau ynglŷn â dewis y tariff cywir.
Pethau i’w hystyried wrth ddewis gwasanaeth PAYG
Er mwyn eich helpu i ddewis gwasanaeth Talu-wrth-Ddefnyddio, dyma rai pethau i’w hystyried:
- faint o funudau fyddwch chi’n eu treulio yn defnyddio eich ffôn ar gyfer galwadau, negeseuon testun a gwasanaethau eraill bob mis
- pa amser o’r dydd fyddwch chi’n defnyddio’ch ffôn amlaf. Er bod llawer o ddarparwyr gwasanaeth ffôn symudol bellach yn codi cyfradd unffurf am alwadau pa amser bynnag o’r dydd y byddwch chi’n defnyddio’ch ffôn, mae rhai hefyd yn cynnig galwadau am ddim ar benwythnosau a min nos. Os allwch chi ddefnyddio’ch ffôn ar yr adegau hyn yn hytrach nag yn ystod y dydd, fe allwch chi arbed arian
- ydych chin tecstio yn amlach na ffonio. Fel arfer mae tecstio yn rhatach
- ydy cwmpas signal y rhwydwaith yn dda? Pa rwydweithiau a ddefnyddir gan eich ffrindiau, teulu a chydweithwyr? Weithiau mae galwadau yn rhatach rhwng pobol sy’n defnyddio’r un rhwydwaith
- ydych chi’n codi negeseuon o lleisbost yn aml. Fe all fod tâl am wneud hyn.
- beth ydyw cost nodweddion ychwanegol, megis mynediad i’r rhyngrwyd, e-bost neu lawr lwytho cerddoriaeth? Os ydych chi’n defnyddio nodweddion fel y rhain, cymharwch y costau o brynu’r nodweddion ychwanegol hyn gyda chytundeb ffôn symudol neu wasanaeth SIM-yn unig
- os ydych chi’n defnyddio gwasanaeth PAYG eisoes ac yn gweld eich bod yn ychwanegu at eich amser ffonio sawl gwaith bob mis, efallai y cewch chi dariff rhatach trwy newid i gytundeb ffôn symudol neu wasanaeth SIM-yn unig
- faint fyddwch chi’n ei dalu am grwydro rhyngwladol. Os ydych chi’n teithio dramor yn aml ac yn defnyddio’ch ffôn wrth deithio, gall fod yn bwysig i ddewis y tariff sydd â’r cyfraddau isaf ar gyfer gwneud galwadau rhyngwladol
- faint fydd set llaw yn ei gostio. Allwch chi gael un rhatach yn rhywle arall? Oes gwir angen holl nodweddion set mwy drudfawr arnoch chi?
- beth yw cost yswiriant set llaw? Mae rhai pecynnau yn cynnwys yswiriant am ddim. Gwiriwch gyda’ch darparwr gwasanaeth ynglŷn â manylion yswiriant gan gynnwys costau arian dros ben.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Yn Adviceguide
- Cytundebau ffonau symudol
- Newid eich cytundeb ffôn symudol
- Ffonau symudol – gwasanaethau SIM-yn unig
- Biliau ffonau symudol
- Cwynion am ffonau symudol
- Cost defnyddio’ch ffôn symudol dramor
Ofcom
Canolfan Gyswllt
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain SE1 9HA
Llinell ymholiadau Tel: 0300 123 3333
Switsfwrdd: 020 7981 3000
Ffôn-destun: 0300 123 2024
Ffacs: 020 7981 3333
Gwefan: www.ofcom.org.uk
Ofcom yw’r cwmni gwarchod telathrebu yn y DU. Nid yw Ofcom yn ymchwilio i gwynion unigol yn erbyn darparwyr gwasanaeth ffôn, er eu bod yn cofnodi pob cwyn yn erbyn cwmni. Os gwelir bod un cwmni yn arbennig yn achosi pryder i ddefnyddwyr, fe allan nhw ystyried eu hymchwilio.
Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebu
PO Box 730
Warrington
WA4 6WU
Ffôn: 0330 440 1614
Ffôn Testun: 0330 440 1600
Ffacs: 0330 440 1615
E-bost: enquiries@os-communications.org
Gwefan: www.os-communications.org
Efallai y gall Gwasanaethau’r Ombwdsmon (Otelo gynt) eich helpu gyda chwyn am gwmni ffôn os yw’r cwmni yn aelod o’r Cynllun. Rhaid eich bod chi wedi defnyddio gweithdrefn gwyno’r cwmni yn gyntaf.
CISAS
24 Angel Gate
City Road
Llundain
EC1V 2PT
Tel: 020 7520 3827
Ffacs: 020 7520 3829
E-bost: info@cisas.org.uk
Gwefan: www.cisas.org.uk
Efallai y gall CISAS (Cynllun Beirniadu Gwasanaethau Cyfathrebu a’r Rhyngrwyd) eich helpu gyda chwyn am gwmni ffôn os ydyw’r cwmni yn aelod o CISAS. Rhaid eich bod chi wedi defnyddio trefn gwyno y cwmni yn gyntaf.
NIACT
Pwyllgor Ymgyngynghorol Telathrebu Gogledd Iwerddon
Yr Ysgrifennydd
Llawr 7
Chamber of Commerce House
22 Great Victoria Street
Belfast
BT2 7QA
Tel: 028 9024 4133
Ffacs: 028 9024 7024
PhonepayPlus
Clove Building
4 Maguire Street
Llundain
SE1 2NQ
Tel: 0800 500212
Ffacs: 020 7940 7456
Gwefan: www.phonepayplus.org.uk
PhonepayPlus yw cwmni gwarchod y gwasanaethau cyfradd premiwm. Mae gan PhonepayPlus gyfleuster gwirio rhif ar eu gwefan sy’n caniatau i chi gael mwy o wybodaeth am rifau ffôn cyfradd premiwm sy’n ymddangos ar eich bil ffôn. Fe allan nhw hefyd roi cyngor ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.









