The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Cytundebau ffonau symudol
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglŷn â chytundebau ffonau symudol
Mae’r dudalen hon yn esbonio cytundebau ffonau symudol.
Mae cytundeb ffôn symudol yn ffordd o dalu am eich galwadau ffôn symudol, negeseuon testun a gwasanaethau eraill. Rydych yn rhwym wrth gontract sy’n golygu bod yn rhaid i chi dalu cyfradd fisol benodol am gyfnod o amser - fel arfer rhwng deunaw mis a dwy flynedd. Ond, ers 26 Mai 2011, mae’n rhaid i chi gael cynnig yr opsiwn o gontract 12 mis ac ni all unrhyw gontract bara mwy na dwy flynedd Fel rhan o’r gyfradd fisol, byddwch yn cael pecyn sy’n cynnwys nifer penodol o alwadau, negeseuon testun a gwasanaethau eraill. Mae’r pecyn fel arfer yn cynnwys cost y set law.
Mae’r dudalen hon yn eich helpu i ddarganfod pa gytundeb ffôn symudol allai fod yn ddewis da, yn rhoi awgrymiadau ar gyfer sut i ddewis cytundeb ac mae’n esbonio eich hawliau megis:
- p’un ai ydych yn gallu canslo cytundeb ffôn symudol
- eich hawl i beidio â derbyn gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol pan ydych yn prynu cytundeb, neu gael eich rhoi dan bwysau gan y gwerthwr
- eich hawliau pan gynigir cynlluniau arian yn ôl a chynigion arbennig eraill i chi fel rhan o gynllun ffôn symudol.
Os hoffech wybod mwy am y ffyrdd eraill o dalu am eich gwasanaeth ffôn symudol, megis Talu-wrth-ddefnyddio a gwasanaeth SIM yn unig, gweler Cymorth a gwybodaeth ychwanegol.
Beth yw cytundeb ffôn symudol
Mae cytundeb ffôn symudol yn golygu eich bod yn rhwym wrth gytundeb i dalu cyfradd fisol benodol am gyfnod penodol o amser - fel arfer rhwng deunaw mis a dwy flynedd. Fel rhan o’r gyfradd fisol, byddwch yn cael pecyn sy’n cynnwys nifer penodol o alwadau, negeseuon testun a gwasanaethau eraill.
Fel arfer byddwch chi’n derbyn bil bob mis am alwadau a negeseuon testun y mis blaenorol. Os ydych yn mynd dros y nifer penodol, gellir codi mwy arnoch.
Fel rhan o’r cytundeb, bydd cost y set law wedi’i gynnwys ynddo neu byddwch yn talu cyfradd is. Fel arfer dyma’r achos gyda setiau llaw mwy drud.
Ar ddiwedd y cytundeb gallwch:
- gadw’r ffôn a dewis gwasanaeth Talu-wrth-ddefnyddio, sy’n golygu eich bod yn talu am alwadau ffôn a gwasanaethau eraill pan ydych eu hangen
- dewis gwasanaeth SIM yn unig. Dyma pan ydych yn prynu cerdyn SIM, sy’n cynnwys yr holl wybodaeth am sut mae eich ffôn yn gweithio a sut i dalu am alwadau a gwasanaethau. Mae gwasanaeth SIM yn unig yn fwy hyblyg na chytundeb ffôn symudol
- dewis cytundeb newydd gyda’r un darparwr gwasanaeth ffôn symudol a newid eich hen ffôn am un newydd os dymunwch.
Pryd mae cytundeb ffôn symudol yn ddewis da
Gall cytundeb ffôn symudol fod yn opsiwn da os:
- ydych yn gwneud llawer o alwadau neu anfon llawer o negeseuon testun. Canllaw bras fyddai mwy nag awr o alwadau’r mis
- ydych yn defnyddio eich ffôn ar gyfer pethau eraill megis anfon e-byst, lawrlwytho cerddoriaeth neu gael mynediad i’r rhyngrwyd
- ydych eisoes yn defnyddio gwasanaeth Talu-wrth-ddefnyddio a’ch bod yn rhoi arian ar eich ffôn sawl gwaith y mis. Mae’n bosib y byddai’n rhatach i chi gael cytundeb ffon symudol yn lle.
Os oes gennych gytundeb, ac os nad ydych yn defnyddio’r holl negeseuon neu’r munudau sydd wedi’u cynnwys yn eich cytundeb misol, gallai gwasanaeth Talu-wrth-ddefnyddio neu SIM yn unig fod yn fwy addas ar eich cyfer.
Mae manteision cael cytundeb ffôn symudol yn hytrach na Thalu-wrth-ddefnyddio yn cynnwys:
- mae ystod eang o wahanol becynnau prisiau ar gael i ateb eich anghenion
- yn gyffredinol, gallai cost galwadau fod yn rhatach na chost Talu-wrth-ddefnyddio
- gallwch, mwy na thebyg, ddewis o ystod o setiau llaw rhad ac am ddim
- mae gwasanaethau eraill megis lawrlwytho a phori’r we yn debygol o fod yn rhatach na Thalu-wrth-ddefnyddio.
Mae manteision cael cytundeb ffôn symudol yn hytrach na chynllun SIM yn unig yn cynnwys:
- y dewis o ffôn. Gyda chytundeb ffôn symudol, gallwch yn aml ddewis ffôn drutach, gan eich caniatáu i wasgaru’r gost yn eich taliadau misol
- cynigion uwchraddio. Mae’n bosib y cewch eich gwahodd i uwchraddio eich ffôn fel rhan o’r cytundeb. Mae hyn yn golygu y gallwch gael y modeli diweddaraf.
Mae anfanteision cytundeb yn cynnwys:
- gallai eich bil misol fod yn annisgwyl o uchel os nad ydych yn cofio pa alwadau a wnaethoch
- rydych yn rhwym wrth gytundeb cyfnod penodol hyd at ddwy flynedd. Os hoffech derfynu’r cytundeb yn gynnar, mae’n bosib y bydd angen i chi dalu cosbau drud.
Os hoffech help i benderfynu mai cael cytundeb yw’r opsiwn gorau ar eich cyfer chi, gofynnwch y cwestiynau canlynol i’ch hun:
- a ydych am fod yn rhwym wrth gytundeb a fydd o bosib yn para rhwng deunaw mis a dwy flynedd? Mae’n bosib y byddwch yn dechrau colli arian os oes gan rywun arall gynlluniau gwell yn ystod y cyfnod hwn
- a ydych am brynu eich ffôn a dewis gwasanaeth Talu-wrth-ddefnyddio neu SIM yn unig i dalu am gostau galwadau, negeseuon testun a gwasanaethau eraill? Mae angen i chi gymharu cost prynu ffôn â chost rhentu ffôn bob mis
- a ydych wedi cael anawsterau i dalu eich biliau yn y gorffennol fel ei fod yn anodd i chi gael credyd? Os yw hyn yn wir, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi barhau gyda’r gwasanaeth Talu-wrth-ddefnyddio
- a ydych yn mynd i ddefnyddio’r holl funudau a’r negeseuon testun sydd wedi’u cynnwys yn eich pecyn pob mis? Os na fyddwch, gallai gwasanaeth Talu-wrth-ddefnyddio neu SIM yn unig fod yn rhatach
- a allwch fforddio gwneud taliadau misol dros gyfnod y cytundeb?
Sut i ddewis cytundeb ffôn symudol
Dewis cyfradd tariff yw’r peth pwysicaf i’w ystyried pan ydych yn dewis ffôn symudol, oherwydd gall dewis yr un anghywir gostio mwy i chi. Y gyfradd tariff yw cost y galwadau a’r negeseuon testun, mynediad i’r rhyngrwyd yn ogystal ag unrhyw alwadau neu negeseuon testun rhad ac am ddim ychwanegol.
Cyn cael cytundeb ffôn symudol, dylech geisio darganfod cymaint â phosibl am y gwahanol gyfraddau tariff sydd ar gael.
Mae yna gannoedd o dariffau ffôn symudol ar gael, felly defnyddiwch wefan cymharu er mwyn gwneud y dasg o ddewis yn haws. Gallwch gymharu costau gwasanaeth Talu-wrth-ddefnyddio a SIM yn unig gyda chytundebau ffôn symudol.
Mae Ofcom, corff gwarchod buddiannau’r diwydiant ffonau symudol, yn argymell defnyddio www.billmonitor.com i gymharu prisiau. Gallwch hefyd ymweld â www.moneysavingexpert.co.uk am awgrymiadau ar gyfer sut i ddewis y tariff cywir.
Dyma rhai o’r pethau eraill i’w hystyried pan ydych yn dewis cytundeb ffôn symudol:
- faint o funudau mewn mis y byddwch yn defnyddio eich ffôn ar gyfer galwadau, negeseuon testun a gwasanaethau eraill?
- ydych chi’n anfon mwy o negeseuon testun na ffonio? Mae negeseuon testun fel arfer yn rhatach. A fyddwch yn cael nifer penodol o negeseuon testun rhad ac am ddim? A yw rhwydweithiau eraill yn costio mwy?
- y rhwydweithiau sydd gan eich ffrindiau, eich teulu a’ch cydweithwyr. Weithiau mae galwadau yn rhatach rhwng pobl sy’n defnyddio’r un rhwydwaith
- a ydych yn aml yn derbyn negeseuon llais? Gellir codi tâl arnoch am hyn
- beth yw cost y nodweddion ychwanegol, megis mynediad i’r rhyngrwyd, e-bost neu lawrlwytho cerddoriaeth?
- os oes gennych gytundeb, a oes gennych y tariff cywir? Mae’n bosib nad oes gennych y tariff cywir os nad ydych yn defnyddio’r holl negeseuon testun neu funudau sydd wedi’u cynnwys yn eich cytundeb bob mis, neu os ydych yn defnyddio mwy yn rheolaidd. Efallai yr ydych yn ystyried newid eich cytundeb neu gall gwasanaeth Talu-wrth-ddefnyddio fod yn fwy addas ar eich cyfer
- beth yw hyd y cytundeb a faint o funudau rhad ac am ddim a gewch bob mis?
- a allaf drosglwyddo unrhyw funudau na ddefnyddiwyd i’r mis nesaf? Beth yw cost gwahanol fathau o alwadau a beth yw cost galwadau os ydych yn mynd dros eich lwfans bob mis?
- faint byddwch yn ei dalu am grwydro rhyngwladol. Os ydych yn gwneud cryn dipyn o theithio dramor, gallai fod yn bwysig i chi ddewis tariff sydd â chyfraddau is ar gyfer galwadau rhyngwladol. Mae’n bosib yr hoffech wirio ym mha ardaloedd o’r byd bydd eich set law yn gweithio er mwyn sicrhau bod eich tariff yn addas
- a oes gwerth talu ymlaen llaw am ran o gost y set law er mwyn cael tariff misol rhatach? Gallwch ddefnyddio gwefan cymharu i’ch helpu i ddarganfod yr hyn sydd orau ar eich cyfer chi
- beth yw cost yswiriant set law? Mae rhai pecynnau yn cynnwys yswiriant rhad ac am ddim. Gwiriwch gyda’r darparwr gwasanaeth am fanylion yr yswiriant gan gynnwys costau ychwanegol
- a oes yna ddewis da o setiau llaw?
- a oes rhwydwaith gref yn eich ardal chi? Gwiriwch gyda ffrindiau a theulu neu edrychwch ar wefan y darparwr rhwdwaith – mae gan y rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaeth offeryn chwilio ar-lein sy’n eich caniatau i wirio rhwydwaith eich ardal.
Sicrhewch eich bod yn deall yr hyn yr ydych yn ei lofnodi
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i’ch darparwr gwasanaeth ffôn symudol sicrhau eich bod yn cael yr holl wybodaeth angenrheidiol cyn llofnodi neu newid cytundeb.
Gallant esbonio’r wybodaeth ar lafar neu’n ysgrifenedig i chi. Gofynnwch am y wybodaeth yn ysgrifenedig os nad ydych yn hollol sicr ynglyn â’r hyn yr ydych yn ei lofnodi. Dylai’r wybodaeth hon gynnwys:
- prif gostau’r cytundeb, gan gynnwys isafswm pris y cytundeb ac unrhyw gostau sydd angen i chi eu talu os ydych yn terfynu eich cytundeb yn gynnar
- beth yw telerau’r taliadau
- pryd fydd y gwasanaeth yn dechrau
- p’un ai gallwch ganslo’r cytundeb yn gynnar
- beth yw hyd y cytundeb
- manylion unrhyw gynigion arbennig neu gynlluniau arian yn ôl.
Os ydych yn cytuno ar gytundeb dros y ffôn, dylech dderbyn manylion naill ar drwy lythyr neu e-bost cyn gynted â’ch bod yn ei drefnu.
Os nad ydych yn derbyn y wybodaeth hon, gallwch gwyno [link to page Cwynion am ffonau symudol] i’r darparwr gwasanaeth neu’r siop sy’n gwerthu’r cytundeb.
Camwerthu cytundebau ffonau symudol
Yn ôl y gyfraith ni ddylai darparwr gwasanaeth neu siop ffôn symudol gamwerthu cytundeb ffôn symudol i chi. Mae camwerthu yn golygu:
- hepgor, neu roi gwybodaeth gamarweiniol neu anghywir er mwyn eich annog i brynu’r cytundeb. Dylech dderbyn gwybodaeth benodol cyn prynu cytundeb, gan gynnwys gwybodaeth am gostau, tariffau galwadau, arbedion ac unrhyw gynigion arbennig
- eich rhoi dan bwysau i brynu cytundeb. Ni ddylai gwerthwr ymddwyn yn ymosodol er mwyn ceisio dwyn perswâd arnoch i lofnodi
- slamio. Mae hyn yn golygu na all darparwr gwasanaeth newid eich cytundeb ffôn symudol o un darparwr gwasanaeth i’r llall heb ofyn am eich caniatâd yn gyntaf.
Os ydych yn meddwl bod darparwr gwasanaeth ffôn symudol neu siop wedi ceisio camwerthu cytundeb i chi, gallwch gwyno yn ei erbyn.
Slamio a ffonau symudol
Yn ôl y gyfraith, ni all darparwyr gwasanaeth ffôn symudol ddefnyddio proses o’r enw slamio pan ydynt yn gwerthu cytundeb ffôn symudol. Mae hyn yn golygu na allant newid eich cytundeb ffôn symudol o un darparwr gwasanaeth i’r llall heb eich caniatâd.
Gall slamio hefyd gynnwys cogio neu honni. Mae hyn yn golygu bod darparwyr gwasanaethau yn esgus gweithio i un cwmni, pan eu bod mewn gwirionedd yn gweithio i gwmni arall. Mae’r gyfraith yn dweud nad oes ganddynt wneud hyn.
Yn ogystal, ni ddylai darparwr gwasanaeth ffôn symudol ddweud wrthych fod angen eich llofnod er mwyn rhoi gwybodaeth i chi, pan ydych mewn gwirionedd yn llofnodi cytundeb. Nid oes hawl ganddynt i ffugio eich llofnod ar gytundeb heb yn wybod i chi.
Os ydych yn meddwl bod darparwr gwasanaeth ffôn symudol neu siop yn euog o slamio, cogio neu honni, dweud bod angen eich llofnod er mwyn rhoi gwybodaeth yn unig i chi neu ffugio eich llofnod, dylech gwyno yn ei erbyn. [link to page Cwynion am ffonau symudol]
Cynigion arbennig a chynlluniau arian yn ôl
Pan ydych yn edrych am ffôn symudol, mae’n bosib y cewch gynnig cynllun arbennig fel arian yn ôl i geisio ddwyn perswâd arnoch i lofnodi cytundeb ffôn symudol.
Gyda chynllun arian yn ôl, rydych fel arfer yn gallu hawlio ychydig o arian yn ôl ar amrywiol adegau yn ystod eich cytundeb. Gallai hyn fod, er enghrhaifft, ar ôl chwech a 12 mis.
Os hoffech y cynllun hwn, mae’n rhaid i chi wneud cais i’r cwmni sy’n darparu’r cynnig. Gallai fod i’r darparwr gwasanaeth neu’r siop lle prynoch y ffôn. Mae llawer o bobl wedi cwyno bod y rheolau ynghylch sut i dderbyn arian yn ôl yn gymhleth iawn ac mae llawer o bobl heb fanteisio ar y cynllun hwn oherwydd nad oeddent yn deall yr hyn yr oedd angen iddynt wneud.
Yn ôl y gyfraith, ni all darparwr gwasanaeth ffôn symudol neu siop ei wneud yn anodd i chi geisio am arian yn ôl neu gynnig arbennig.
Mae hyn yn golygu, cyn i chi gytuno ar gytundeb ffôn symudol, mae’n rhaid i’r darparwr gwasanaeth ffôn symudol neu’r siop roi gwybodaeth arbennig i chi am y cynnig arbennig. Gallant esbonio’r wybodaeth ar lafar neu’n ysgrifenedig. Os hoffech fod yn glir ynghylch yr hyn sydd ar gael, gofynnwch am fanylion yn ysgrifenedig.
Dyma’r wybodaeth am gynllun arian yn ôl sy’n rhaid i chi ei derbyn:
- pa gwmni mewn gwirionedd sy’n darparu’r cynnig. Gallai hyn fod y darparwr gwasanaeth neu’r siop lle prynoch y ffôn.
- manylion y cynnig. Beth fyddwch yn ei dderbyn
- telerau ac amodau’r cynnig. Mae’n rhaid bod cytundeb y cynnig arbennig neu’r cynllun arian yn ôl yn ddogfen ar wahan i’r cytundeb ffôn symudol.
Os ydych yn cytuno ar gytundeb dros y ffôn, mae’n rhaid i’r gwasanaeth ffôn symudol gadarnhau telerau ac amodau’r cynnig arbennig neu arian yn ôl drwy e-bost neu lythyr yn fuan wedi hyn.
Mae’n rhaid i ddarparwyr gwasanaeth ffôn symudol neu siopau ddilyn rheolau arbennig pan ydych yn cysylltu â nhw i geisio am arian yn ôl neu gynnig arbennig. Mae hyn yn golygu:
- na allant ofyn i chi anfon y bil gwreiddiol atynt – mae copi o fil yn ddigonol
- na allant godi tâl arnoch pan ydych yn ceisio am gynnig
- mae’n rhaid iddynt roi o leiaf 60 diwrnod i chi geisio
- na allant wrthod rhoi arian yn ôl i chi oherwydd bod arnoch arian. Fodd bynnag, gallant wrthod rhoi arian yn ôl i chi os nad ydych yn talu eich biliau yn rheolaidd neu os ydych yn ceisio eu twyllo
- os ydych yn ceisio am arian yn ôl, nid yw’r cwmni yn gallu gwrthod eich holl geisiadau am arian yn ôl yn y dyfodol os ydych yn methu â chael arian yn ôl y tro cyntaf.
A allaf newid fy meddwl am gytundeb ffôn symudol
Mae yna rai amgylchiadau penodol lle gallwch ganslo cytundeb ffôn symudol heb dâl os ydych yn newid eich meddwl.
Gallwch ganslo’r cytundeb os oeddech wedi cytuno arno:
- dros y rhyngrwyd
- dros y ffôn
- drwy archeb post.
Os oeddech wedi cytuno ar gytundeb fel hyn, gallwch ei ganslo o fewn saith diwrnod heb orfod rhoi rheswm.
Fodd bynnag, os ydych wedi gofyn i’r gwasanaeth ddechrau yn syth, mae’n bosib y byddwch yn colli’ch hawl i ganslo o fewn saith diwrnod. Bydd hyn yn digwydd os yw’r darparwr gwasanaeth yn ysgrifennu atoch cyn i’r gwasanaeth ddechrau, gan ddweud eich bod wedi colli’ch hawl i ganslo oherwydd yr ydych am i’r gwasanaeth ddechrau yn syth. Gall wneud hyn drwy lythyr neu e-bost. Os nad ydych yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig cyn i’r gwasanaeth ddechrau, byddwch yn gallu canslo o fewn saith diwrnod.
Os prynoch eich cytundeb ffôn symudol mewn siop, nid oes hawl awtomatig gennych i ganslo heb dâl, heblaw bod yna broblem gyda’r gwasanaeth neu fod y ffôn yn ddiffygiol. Fodd bynnag, mae’n bosib bod gan y siop bolisi dychwelyd ei hun, sy’n eich caniatáu i ganslo’r cytundeb. Dylech wirio eich hawliau canslo cyn prynu cytundeb.
Archwiliadau adnabod pan ydych yn prynu ffôn symudol
Os ydych yn prynu cytundeb ffôn symudol, mae’n bosib y bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o bwy ydych chi, eich oed a’ch cyfeiriad. Byddwch yn barod i ddangos bil nwy neu drydan diweddar, trwydded gyrru neu’ch pasbort i brofi pwy ydych chi.
Os ydych wedi ei chael yn anodd talu eich biliau yn y gorffennol, gallai hyn effeithio ar eich gallu i gael credyd ac mae’n bosib na fyddwch yn gallu prynu cytundeb ffôn symudol. Os ydych yn ansicr ynglŷn â hyn, gallwch gael manylion eich cofnod credyd gan asiantaeth cyfeirio credyd.
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i gael manylion eich cofnod credyd, gweler Sut mae benthycwyr yn penderfynu p’un ai i roi credyd i chi neu beidio.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Ar Adviceguide
- Ffonau symudol – Talu-wrth-ddefnyddio
- Newid eich cytundeb ffôn symudol
- Ffonau symudol – gwasanaethau SIM-yn unig
- Biliau ffonau symudol
- Cwynion am ffonau symudol
- Cost defnyddio’ch ffôn symudol dramor
Ofcom
Canolfan Gyswllt
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain SE1 9HA
Llinell ymholiadau Tel: 0300 123 3333
Switsfwrdd: 020 7981 3000
Ffon-destun: 0300 123 2024
Ffacs 020 7981 3333
gwefan: www.ofcom.org.uk
Ofcom yw’r cwmni gwarchod telathrebu yn y DU. Nid yw Ofcom yn ymchwilio i gwynion unigol yn erbyn darparwyr gwasanaeth ffôn, er eu bod yn cofnodi pob cwyn erbyn cwmni. Os gwelir bod un cwmni yn arbennig yn achosi pryder i ddefnyddwyr, fe allan nhw ystyried eu hymchwilio.
Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebu
PO Box 730
Warrington
WA4 6WU
Ffôn: 0330 440 1614
Ffôn Testun: 0330 440 1600
Ffacs: 0330 440 1615
E-bost: enquiries@os-communications.org
Gwefan: www.os-communications.org
Efallai y gall Gwasanaethau’r Ombwdsmon (Otelo gynt) eich helpu gyda chwyn am gwmni ffôn os yw’r cwmni yn aelod o’r Cynllun. Rhaid eich bod chi wedi defnyddio gweithdrefn gwyno’r cwmni yn gyntaf.
CISAS
24 Angel Gate
City Road
Llundain
EC1V 2PT
Ffôn: 020 7520 3827
Ffacs: 020 7520 3829
E-bost: info@cisas.org.uk
Gwefan: www.cisas.org.uk
Efallai y gall CISAS (Cynllun Beirniadu Gwasanaethau Cyfathrebu a’r Rhyngrwyd) eich helpu gyda chwyn am gwmnni ffôn os ydyw’r cwmni yn aelod o CISAS. Rhaid eich bod chi wedi defnyddio trefn gwyno y cwmni yn gyntaf.
NIACT
Pwyllgor Ymgynghorol Telathrebu Gogledd Iwerddon
Yr Ysgrifennydd
Llawr 7
Chamber of Commerce House
22 Great Victoria Street
Belfast
BT2 7QA
Ffôn: 028 9024 4133
Ffacs: 028 9024 7024
PhonepayPlus
Clove Building
4 Maguire Street
Llundain
SE1 2NQ
Ffôn: 0800 500212
Ffacs: 020 7940 7456
Gwefan: www.phonepayplus.org.uk
PhonepayPlus yw cwmni gwarchod y gwasanaethau cyfradd premiwm. Mae gan PhonepayPlus gyfleuster gwirio rhif ar eu gwefan sy’n caniatau i chi gael mwy o wybodaeth am rifau ffôn cyfradd premiwm sy’n ymddangos ar eich bil ffôn. Fe allan nhw hefyd roi cyngor ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.









