The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Biliau ffôn symudol
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglŷn â biliau ffôn symudol
Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych am filiau ffôn symudol, yn cynnwys:
- beth i’w wneud os bydd rhywun arall yn achosi i chi gael bil drud iawn
- sut i ddadlau ynghylch maint bil a beth i’w wneud os mai diffyg ar y gwasanaeth yw’r rheswm am hyn
- beth i’w wneud os cewch chi alwadau di-groeso am wasanaeth cyfradd premiwm megis tonau canu.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â ffonau symudol, gweler Cymorth a gwybodaeth ychwanegol.
Pwy sy’n gyfrifol am y bil ffôn
Mae’r cyfrifoldeb am dalu'r bil ffôn yn dibynnu ar bwy sy wedi arwyddo’r cytundeb. Mae rhai darparwyr gwasanaeth ffonau symudol yn caniatáu un person yn unig i brynu cytundeb, tra mae eraill yn caniatáu prynu cytundebau ar y cyd. Os ydych chi wedi arwyddo cytundeb gyda rhywun arall, yna fe fydd y ddau ohonoch yn gyfrifol am dalu’r bil, ni waeth pwy sy wedi gwneud y galwadau ffôn.
Os oes rhywun arall wedi defnyddio’ch ffôn ac wedi achosi i chi gael bil drud iawn, fe fyddwch yn dal yn gyfrifol am ei dalu. Os ydych am gael eich arian yn ôl, fe fydd yn rhaid i chi geisio cael y person wnaeth y galwadau i roi’r arian yn ôl i chi.
Os defnyddiodd y person arall wasanaeth cyfradd premiwm i wneud galwadau, fe allech chi geisio cysylltu â PhonepayPlus. Efallai y gallan nhw eich helpu i hawlio rhywfaint o arian y galwadau yn ôl. Ond efallai y cewch chi hi’n anodd perswadio PhonepayPlus fod eich ffôn wedi’i ddefnyddio heb eich caniatâd.
Os ydych chi am help i hawlio yn ôl yr arian oddi wrth rywun arall am fil ffôn symudol, fe allwch chi gael help oddi wrth Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich swyddfa Cyngor ar Bopeth agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Dadlau ynghylch maint bil ffôn symudol
Os ydych chi wedi derbyn bil ffôn symudol mawr, mae’n bosibl bod bai ar y gwasanaeth. Cyfrifoldeb eich darparwr gwasanaeth ffôn symudol fyddai hyn. Fel arfer mae darparwyr gwasanaeth ffonau symudol yn anfon bil manwl sy’n dangos dyddiad, amser, hyd a chost y galwadau er mwyn i chi wirio os ydyw’r gost uchel yn ganlyniad y galwadau a wnaed, neu ddiffyg ar y gwasanaeth.
Os ydych chi am herio bil, fe ddylech chi yn gyntaf gysylltu â’ch darparwr ffôn symudol er mwyn gweld os allan nhw ddarganfod os oes diffyg neu gamgymeriad yn eich bil.
Os oes diffyg a’ch darparwr yn gwrthod tynnu unrhyw arian oddi ar y bil, efallai y bydd angen i chi gwyno.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno am ddarparwr gwasanaeth ffôn symudol, gweler Cwynion am ffônau symudol.
Gwasanaethau rhifau ffôn cyfradd premiwm
Mae gwasanaethau rhifau ffôn premiwm yn rhoi gwybodaeth a darparu adloniant dros y ffôn. Enghreifftiau o’r math o wasanaethau a ddarperir ydyw gwybodaeth am y tywydd, cystadlaethau a gwasanaethau cyfnewid negeseuon.
Mae galwadau cyfradd premiwm yn costio mwy na galwadau cyffredin ac yn gallu bod yn uchel iawn o ffônau symudol.
Mae rhifau ffôn y rhan fwyaf o wasanaethau cyfradd premiwm yn dechrau â ‘090’ a gwasanaethau ar gyfer oedolion â ‘0909’. Ar ffonau symudol, mae codau byr testun â 2,6 neu 8 o’u blaen ac sy’n 4 neu 5 digid o hyd yn wasanaethau cyfradd premiwm. Mae gwasanaethau Llyfr Ffôn sy’n dechrau â ’118’ hefyd yn rhifau ffôn cyfradd premiwm.
Cwyno am y gwasanaeth rhifau ffôn cyfradd premiwm
Os oes gennych broblem ynglŷn â gwasanaeth rhifau ffôn cyfradd premiwm neu eich bod wedi gorfod talu ar gam am ddefnyddio rhif ffôn cyfradd premiwm, dylech gwyno wrth reolydd gwasanaethau rhifau ffôn cyfradd premiwm, sef, PhonepayPlus.
Negeseuon testun digymell
Efallai y cewch chi negeseuon testun digymell neu ddigroeso am wasanaethau cyfradd premiwm, megis tonau canu. Os nad ydych chi am y gwasanaeth hwn, anfonwch neges yn ôl gyda’r gair ‘stop’. Os ydych chi’n cael eich erlid am wasanaeth nad ydych wedi gofyn amdano, neu os yw’r cwmni yn dal i anfon negeseuon testun ar ôl i chi ofyn iddyn nhw am beidio, dylech gwyno i’r corff sy’n rheoleiddio gwasanaethau cyfradd premiwm, PhonepayPlus.
Sut i gwyno
Fe allwch gwyno i’r corff sy’n rheoleiddio gwasanaethau cyfradd premiwm, PhonepayPlus. Fe allwch gwyno dros y ffôn, drwy neges testun, yn ysgrifenedig neu ddefnyddio’r ffurflen gwyno ar-lein.
Fe fydd PhonepayPlus yn ymchwilio i’ch cwyn ac unwaith y bydd wedi gorffen ymchwilio, fe fydd yn dweud wrthych beth oedd y canlyniad. Os yw cwmni sy’n darparu’r gwasanaeth graddfa premiwm wedi torri Cod Ymarfer PhonepayPlus, fe all PhonepayPlus wneud unrhyw un/rai o’r canlynol:
- atal y cwmni rhag redeg y gwasanaeth
- codi dirwy ar y cwmni
- gorchymyn i’r cwmni roi ad-daliad rhesymol i chi.
Os ydych wedi defnyddio gwasanaeth graddfa premiwm sydd wedi achosi niwed eang i ddefnyddwyr, efallai y rhoddir iawndal i chi heb i chi ofyn amdano, hyd yn oed os nad ydych wedi cwyno am y gwasanaeth.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Yn Adviceguide
- Cytundebau ffonau symudol
- Ffonau symudol – Talu wrth Ddefnyddio
- Newid eich cytundeb ffôn symudol
- Ffonau symudol – gwasanaethau SIM yn unig
- Cwynion am ffonau symudol
- Cost defnyddio’ch ffôn symudol dramor
Ofcom
Canolfan Gyswllt
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain SE1 9HA
Llinell ymholiadau Tel: 0300 123 3333
Switsfwrdd: 020 7981 3000
Ffôn destun: 0300 123 2024
Ffacs: 020 7981 3333
Gwefan: www.ofcom.org.uk
Ofcom yw’r cwmni gwarchod telathrebu yn y DU. Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â defnyddio’ch ffôn symudol dramor o wefan Ofcom yn: www.ofcom.org.uk/consumeradvice.
Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebu
PO Box 730
Warrington
WA4 6WU
Ffôn: 0330 440 1614
Ffôn Testun: 0330 440 1600
Ffacs: 0330 440 1615
E-bost: enquiries@os-communications.org
Gwefan: www.os-communications.org
Efallai y gall Gwasanaethau’r Ombwdsmon (Otelo gynt) eich helpu gyda chwyn am gwmni ffôn os yw’r cwmni yn aelod o’r Cynllun. Rhaid eich bod chi wedi defnyddio gweithdrefn gwyno’r cwmni yn gyntaf.
CISAS
24 Angel Gate
City Road
Llundain
EC1V 2PT
Tel: 020 7520 3827
Ffacs: 020 7520 3829
E-bost: info@cisas.org.uk
Gwefan: www.cisas.org.uk
Efallai y gall CISAS (Cynllun Beirniadu Gwasanaethau Cyfathrebu a’r Rhyngrwyd) eich helpu gyda chwyn am gwmnni ffôn os ydyw’r cwmni yn aelod o gynllun CISAS. Rhaid eich bod chi wedi defnyddio trefn gwyno y cwmni yn gyntaf.
NIACT
Pwyllgor Ymgynghorol Telathrebu Gogledd Iwerddon
Yr Ysgrifennydd
Llawr 7
Chamber of Commerce House
22 Great Victoria Street
Belfast
BT2 7QA
Tel: 028 9024 4133
Ffacsx: 028 9024 7024
PhonepayPlus
Freepost WC5468
London
SE1 2BR
Ffôn: 0800 500212
Testun: 0207 407 3430
Gwefan: www.phonepayplus.org.uk
E-bost: secretariat@phonepayplus.org.uk
PhonepayPlus yw cwmni gwarchod y gwasanaethau cyfradd premiwm. Mae gan PhonepayPlus gyfleuster gwirio rhif ar eu gwefan sy’n caniatau i chi gael mwy o wybodaeth am rifau ffôn cyfradd premiwm sy’n ymddangos ar eich bil ffôn. Fe allan nhw hefyd roi cyngor ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.









