The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Cwynion am ffonau symudol
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Cwynion am ffonau symudol
Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych sut i gwyno am eich gwasanaeth ffôn symudol. Fe allwch hefyd gael gwybodaeth ynglŷn â beth i’w wneud os ydyw set law'r ffôn symudol yn ddiffygiol.
Efallai y byddwch am gwyno am eich gwasanaeth ffôn symudol am nifer o resymau, yn cynnwys:
- maint eich bil
- pris y tariff a godir arnoch
- y signal yr ydych yn ei dderbyn ar eich ffôn
- y ffordd y gwerthwyd y gwasanaeth ffôn i chi. Fe allai hyn fod, er enghraifft, oherwydd bod y person sy’n gwerthu wedi newid eich cytundeb ffôn symudol o un cwmni i un arall heb ofyn am eich caniatâd chi yn gyntaf (slamio), neu oherwydd bod y cwmni ffôn wedi esgus bod y bobol sy’n gwerthu yn gweithio i un cwmni, pan eu bod mewn gwirionedd yn gweithio i gwmni arall. (cogio neu honni)
- mae cwmni wedi ei gwneud hi’n anodd i chi hawlio ar gynnig ad-daliad neu gynnig arbennig arall a addawyd i chi pan brynoch chi’r cytundeb ffôn symudol
- codwyd tâl arnoch ar gam am ddefnyddio gwasanaeth rhifau ffôn cyfradd premiwm
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â ffonau symudol, yn cynnwys biliau ffonau symudol, contractau a chynlluniau pay-as-you-go, gweler Cymorth a gwybodaeth ychwanegol.
Cwynion am eich darparwr gwasanaeth ffôn symudol
Yn gyffredinol, os oes gennych gwyn am brisiau (tariff), bil, y signal ffôn, neu unrhyw agwedd arall o’ch gwasanaeth ffôn symudol, fe ddylech chi gysylltu â’ch darparwr gwasanaeth. Enghreifftiau o ddarparwyr gwasanaeth yw O2, Vodafone, Virgin Mobile a Tesco Mobile.
Fe ddylai fod gan y darparwr gwasanaeth drefn gwyno, y mae’n rhaid i chi ei ddilyn yn gyntaf. Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ymdriniwyd â’ch cwyn, efallai y gallwch fynd â’ch cwyn at Gynllun Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR).
Mae pob darparwr gwasanaeth ffôn symudol yn perthyn i un o ddau gynllun: Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebu neu Cisas. Dylai eich darparwr gwasanaeth ddweud wrthych i ba gynllun y maent yn perthyn neu fe allwch chi wirio ar wefannau Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebu a Cisas lle mae rhestr o’u haelodau.
Os na fydd eich darparwr gwasanaeth yn dweud wrthych am ei gynllun ADR, maen nhw’n torri rheolau diogelu defnyddwyr pwysig iawn ac fe allwch chi sôn am hyn wrth y cwmni gwarchod telathrebu Ofcom.
Cyn i chi gwyno wrth naill ai Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebu neu Cisas, rhaid eich bod chi wedi ceisio datrys eich cwyn gyda’ch darparwr gwasanaeth yn gyntaf. Fel arfer, fydd y sefydliadau hyn ddim yn ystyried eich cwyn oni bai:
- eich bod wedi derbyn llythyr oddi wrth eich darparwr gwasanaeth yn dweud na fyddant yn ystyried eich cais ymhellach, neu
- eich bod wedi bod trwy bob cam o drefn cwyno eich darparwr gwasanaeth a bod o leiaf wyth wythnos wedi mynd heibio ers i chi gwyno gyntaf.
Rhaid i’ch darparwr gwasanaeth gydymffurfio â phenderfyniad beirniad Otelo neu Cisas (rhyw fath o farnwr) Gall beirniad ddyfarnu i fyny hyd at £5,000 (yn cynnwys TAW) o iawndal os cefnogir eich cwyn.
Er mwyn cyflwyno cwyn i Wasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebu neu Cisas, fe allwch chi gael ffurflen gwyno oddi wrthynt, neu oddi wrth eich darparwr gwasanaeth. Fe allwch chi hefyd gwblhau ffurflen gwyno ar-lein.
Cyn cyflwyno cwyn i CISAS, rhaid i chi hefyd gael cyfeirnod oddi wrth eich darparwr gwasanaeth.
Os nad ydych yn derbyn penderfyniad beirniad Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebu neu Cisas, efallai y byddwch yn gallu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn eich darparwr gwasanaeth. Fe ddylech chi gael cyngor cyfreithiol os ydych yn ystyried gwneud hyn.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chael cyngor cyfreithiol, gweler Defnyddio cyfreithiwr.
Cwynion am dechnegau gwerthu
Efallai y byddwch am gwyno ynglŷn â’r ffordd y gwerthwyd y ffôn symudol neu’r gwasanaeth ffôn i chi (cam-werthu). Er enghraifft, efallai fod y person sy’n gwerthu wedi newid eich cytundeb ffôn symudol o un cwmni i un arall heb ofyn am eich caniatâd chi yn gyntaf (slamio), neu dydych chi ddim wedi llwyddo i hawlio cynnig ad-daliad a gynigiwyd i chi pan brynoch chi’r ffôn.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth sy’n cyfrif fel cam-werthu gwasanaeth ffôn symudol, yn cynnwys slamio a chynigion ad-daliad, gweler Cytundebau ffonau symudol.
Mae’r ffordd y mae angen i chi gwyno ynglŷn â cham-werthu ffôn symudol neu wasanaeth ffôn yn dibynnu ar y ffordd y prynoch chi fe.
Os prynoch chi fe mewn siop annibynnol sy’n gwerthu ffonau symudol, fe ddylech chi gwyno wrth y siop yn gyntaf. Siop annibynnol yw un nad yw’n berchen i unrhyw ddarparwr gwasanaeth ffôn symudol arbennig. Enghraifft fyddai Phones4U.
Os na allwch chi ddatrys y broblem gyda’r siop, fe allwch chi ofyn i’ch darparwr gwasanaeth ffôn i edrych arno. Os na all eich darparwr gwasanaeth ffôn ddatrys y broblem i chi, fe allwch riportio’r broblem wrth y cwmni gwarchod telathrebu Ofcom. Mae gan Ofcom y pwerau i gymryd camau yn erbyn y siop lle prynoch chi’r ffôn, ond fe all ymchwilio os ydyw’ch darparwr gwasanaeth ffôn wedi torri unrhyw reolau ai peidio.
Os ydyw popeth arall yn methu, efallai y gallwch gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y siop lle prynoch chi’r ffôn. Fe ddylech chi gael cyngor cyfreithiol oddi wrth gyfreithiwr os ydych chi’n ystyried gwneud hyn.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chael cyngor cyfreithiol oddi wrth gyfreithiwr, gweler Defnyddio cyfreithiwr.
Os prynoch chi’ch gwasanaeth ffôn symudol neu ffôn oddi wrth ddarparwr gwasanaeth ffôn symudol, fe ddylech chi gwyno yn uniongyrchol wrth y darparwr gwasanaeth. Os prynoch chi’r ffôn neu wasanaeth o siop, gwiriwch pwy sy berchen y siop. Os mai’r un cwmni sy’n darparu eich gwasanaeth ffôn symudol sy berchen y siop, fe ddylech chi gwyno wrth eich darparwr gwasanaeth ffôn symudol.
Os na allwch chi ddatrys eich cwyn gyda’r darparwr gwasanaeth, fe ddylech chi ddilyn y drefn gwyno a ddisgrifir o dan Cwynion am eich gwasanaeth ffôn symudol.
Fe allwch gael help i geisio datrys eich cwyn am gam-werthu gwasanaeth ffôn symudol oddi wrth Gyswllt Defnyddwyr. Fe allwch gysylltu â nhw ar: 0845 4040506 neu ymweld â’u gwefan yn www.consumerdirect.gov.uk.
Cwynion am ad-daliad a chynigion arbennig
Os ydyw’ch cwyn yn ymwneud ag ad-daliad neu unrhyw gynnig arbennig arall a roddwyd i chi pan brynoch chi’r cytundeb ffôn symudol, bydd angen i chi wirio gyda phwy mae eich cytundeb am y cynnig arbennig hwn. Gallai fod naill ai gydag eich darparwr gwasanaeth, neu gyda’r siop lle prynoch chi’r ffôn.
Os ydyw’r cytundeb gyda’ch darparwr gwasanaeth, dilynwch y drefn gwyno a ddisgrifir o dan Cwynion am eich darparwr gwasanaeth ffôn symudol.
Os ydyw’r cytundeb gyda siop, dilynwch y drefn gwyno a ddisgrifir o dan Cwynion am dechnegau gwerthu.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag ad-daliad a chynigion ffôn symudol arbennig eraill, gweler Cytundebau Ffonau symudol.
Cwyno am y gwasanaeth rhifau ffôn cyfradd premiwm
Os oes gennych broblem ynglŷn â gwasanaeth rhifau ffôn cyfradd premiwm neu eich bod wedi gorfod talu ar gam am ddefnyddio rhif ffôn cyfradd premiwm,dylech gwyno i’r corff sy’n rheoleiddio gwasanaethau cyfradd premiwm, sef PhonepayPlus. Fe allwch gwyno dros y ffôn, drwy neges testun, yn ysgrifenedig neu ddefnyddio’r ffurflen gwyno ar-lein.
Fe fydd PhonepayPlus yn ymchwilio i’ch cwyn ac unwaith y bydd wedi gorffen ymchwilio, fe fydd yn dweud wrthych beth oedd y canlyniad. Os yw cwmni sy’n darparu’r gwasanaeth graddfa premiwm wedi torri Cod Ymarfer PhonepayPlus, fe all PhonepayPlus wneud unrhyw un/rai o’r canlynol:
- stopio’r cwmni rhag redeg y gwasanaeth
- codi dirwy ar y cwmni
- gorchymyn i’r cwmni roi ad-daliad rhesymol i chi.
Os ydych wedi defnyddio gwasanaeth graddfa premiwm sydd wedi achosi niwed eang i ddefnyddwyr, efallai y rhoddir iawndal i chi heb i chi ofyn amdano, hyd yn oed os nad ydych wedi cwyno am y gwasanaeth.
Mae gan PhonepayPlus gyfleuster gwirio rhif ar eu gwefan sy’n caniatáu i chi i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y rhifau ffôn cyfradd premiwm sy’n ymddangos ar eich bil ffôn. Fe allan nhw hefyd roi cyngor i chi ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.
Cwynion am eich set law ffôn symudol
Efallai y byddwch am gwyno am eich ffôn symudol am fod y set law yn ddiffygiol.
Mae’r hyn y gallwch ei wneud ynglŷn â hyn yn dibynnu ar sut y prynoch chi’r set law:
Set law yn unig
Os prynoch chi’r ffôn symudol o siop ond nid fel rhan o gytundeb ffôn symudol, fe ddylech chi gysylltu â’r siop lle prynoch chi’r ffôn cyn gynted â’ch bod yn sylwi ei fod yn ddiffygiol.
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai fod gennych hawliau cyfreithiol arbennig o dan y gyfraith defnyddwyr, sy’n cynnwys yr hawl:
- i gael eich arian i gyd yn ôl
- i gael peth o’ch arian yn ôl
- i gael y ffôn wedi trwsio
- i gael ffôn arall yn ei le
- i gael iawndal.
Ar y llaw arall, os oes gennych bolisi yswiriant ar gyfer y ffôn, efallai y gallwch chi wneud cais o dan hwn er mwyn trwsio’r ffôn neu gael un arall yn ei le.
Set law fel rhan o gytundeb ffôn symudol
Os prynoch chi’r ffôn fel rhan o gytundeb ffôn symudol, efallai bod gennych hawliau o dan gyfraith defnyddwyr i gael y ffôn wedi’i drwsio neu gael un arall yn ei le neu’n gallu gwneud cais ar bolisi yswiriant. Ond, oni bai fod eich cytundeb yn dweud fel arall, mwy na thebyg fe fydd yn rhaid i chi barhau i wneud taliadau am y cytundeb. Mae hyn yn wir os mai chi sy’n gyfrifol am y difrod neu fel arall.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau o dan gyfraith defnyddwyr pan fydd gennych gynnyrch diffygiol, gweler Prynu nwyddau- eich hawliau.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chytundebau ffonau symudol, gweler Cytundebau ffonau symudol.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Yn Adviceguide
- Cytundebau ffonau symudol
- Ffonau symudol – Talu-wrth-ddefnyddio
- Newid eich cytundeb ffôn symudol
- Ffonau symudol – gwasanaethau SIM-yn unig
- Biliau ffonau symudol
- Cost defnyddio’ch ffôn symudol dramor
Ofcom
Canolfan Gyswllt
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain SE1 9HA
Llinell ymholiadau Tel: 0300 123 3333
Switsfwrdd: 020 7981 3000
Ffon-destun: 0300 123 2024
Ffacs 020 7981 3333
gwefan: www.ofcom.org.uk
Ofcom yw’r cwmni gwarchod telathrebu yn y DU. Nid yw Ofcom yn ymchwilio i gwynion unigol yn erbyn darparwyr gwasanaeth ffôn, er eu bod yn cofnodi pob cwyn erbyn cwmni. Os gwelir bod un cwmni yn arbennig yn achosi pryder i ddefnyddwyr, fe allan nhw ystyried eu hymchwilio.
Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebu
PO Box 730
Warrington
WA4 6WU
Ffôn: 0330 440 1614
Ffôn Testun: 0330 440 1600
Ffacs: 0330 440 1615
E-bost: enquiries@os-communications.org
Gwefan: www.os-communications.org
Efallai y gall Gwasanaethau’r Ombwdsmon (Otelo gynt) eich helpu gyda chwyn am gwmni ffôn os yw’r cwmni yn aelod o’r Cynllun. Rhaid eich bod chi wedi defnyddio gweithdrefn gwyno’r cwmni yn gyntaf.
CISAS
24 Angel Gate
City Road
Llundain
EC1V 2PT
Tel: 020 7520 3827
Ffacs: 020 7520 3829
E-bost: info@cisas.org.uk
Gwefan: www.cisas.org.uk
Efallai y gall CISAS (Cynllun Beirniadu Gwasanaethau Cyfathrebu a’r Rhyngrwyd) eich helpu gyda chwyn am gwmnni ffôn os ydyw’r cwmni yn aelod o CISAS. Rhaid eich bod chi wedi defnyddio trefn gwyno y cwmni yn gyntaf.
NIACT
Pwyllgor Ymgynghorol Telathrebu Gogledd Iwerddon
Yr Ysgrifennydd
Llawr 7
Chamber of Commerce House
22 Great Victoria Street
Belfast
BT2 7QA
Tel: 028 9024 4133
Ffacs: 028 9024 7024
PhonepayPlus
Freepost WC5468
London
SE1 2BR
Ffôn: 0800 500212
Testun: 0207 407 3430
Gwefan: www.phonepayplus.org.uk
E-bost: secretariat@phonepayplus.org.uk
PhonepayPlus yw cwmni gwarchod y gwasanaethau cyfradd premiwm. Mae gan PhonepayPlus gyfleuster gwirio rhif ar eu gwefan sy’n caniatau i chi gael mwy o wybodaeth am rifau ffôn cyfradd premiwm sy’n ymddangos ar eich bil ffôn. Fe allan nhw hefyd roi cyngor ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.









