The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Newid eich cytundeb ffôn symudol
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglyn â newid eich cytundeb ffôn symudol
Pan ydych yn prynu cytundeb ffôn symudol, rydych yn rhwym wrth y cytundeb ac mae’n rhaid i chi dalu cyfradd fisol benodol am gyfnod o amser. Fel arfer mae’r cyfnod hwn rhwng deunaw mis a dwy flynedd. Ond, ers 26 Mai 2011, mae’n rhaid i chi gael cynnig yr opsiwn o gontract 12 mis ac ni all unrhyw gontract bara mwy na dwy flynedd. Fel rhan o’r gyfradd fisol, rydych yn cael pecyn sy’n cynnwys nifer penodol o alwadau, negeseuon testun a gwasanaethau eraill. Mae’r pecyn fel arfer yn cynnwys cost y set law.
Dros gyfnod y cytundeb, mae’n bosib y byddwch yn colli arian os oes gwell cynllun ar gael gan rywun arall. Fodd bynnag, mae’n bosib bydd y telerau ac amodau yn eu gwneud yn anodd iawn i chi ddiddymu’r cytundeb ac efallai y bydd angen i chi dalu cosb ddrud.
Mae’r dudalen hon yn rhoi awgrymiadau ar gyfer sut i geisio diddymu eich cytundeb ffôn symudol yn rhatach neu sut i drafod gwell cynllun gyda’ch darparwr gwasanaeth ffôn symudol cyfredol.
Os hoffech fwy o wybodaeth am gytundebau ffôn symudol a gwybodaeth arall am ffônau symudol, gweler Cymorth a gwybodaeth ychwanegol.
Trafod gwell cynllun gyda’ch darparwr gwasanaeth cyfredol
Os hoffech ddiddymu cytundeb eich ffôn symudol, mae’n bosib y bydd angen i chi dalu cosb. Mae llawer o gytundebau yn gofyn i chi ad-dalu’r holl gostau misol sy’n weddill ar y cytundeb mewn un taliad fel cosb. Felly os oes gennych ddeuddeg mis ar ôl ar eich cytundeb, byddai angen i chi dalu gwerth deuddeg mis o gostau mewn un taliad er mwyn ei ddiddymu yn gynnar.
Fodd bynnag, rydych yn dal yn gallu ceisio cael y cynllun orau ag y gallwch dan y cytundeb sydd gennych. Dylech gysylltu â’ch darparwr gwasanaeth yn rheolaidd i sicrhau bod gennych y tariff orau ar gyfer eich anghenion.
Mae’n bosib y gallwch drafod gwell gynllun pan ddeiff yr amser i adnewyddu eich cytundeb. Gallai’r gwasanaeth ffôn symudol gynnig ddisgowntiau hael i chi er mwyn cadw eich busnes os ydych yn debygol o newid i ddarparwr gwasanaeth arall. Dylech wneud ymchwil gan ddefnyddio gwefan cymharu a chymharu’r hyn allwch ei gael rhywle arall gyda’r cynllun orau sydd gan eich darparwr gwasanaeth.
Mae OfCom, corff gwarchod buddiannau’r diwydiant ffonau symudol, yn argymell defnyddio www.billmonitor.com i gymharu prisiau. Gallwch hefyd ymweld â www.moneysavingexpert.co.uk am syniadau ynghylch dewis y tariff cywir.
Newid eich darparwr gwasanaeth
Os hoffech ddiddymu’r cytundeb, mae’n bosib y bydd angen i chi ad-dalu’r holl gosbau misol sy’n weddill ar eich cytundeb mewn un taliad fel cosb. Felly, os oes gennych ddeuddeg mis ar ôl ar eich cytundeb, byddai angen i chi dalu gwerth 12 mis o gostau mewn un taliad er mwyn diddymu’r cytundeb yn gynnar.
Os hoffech ddiddymu eich cytundeb mewn ffordd ratach, gallech geisio trosglwyddo eich cytundeb cyfredol i’r gyfradd tariff rhataf, yna trosglwyddo eich rhif i’r darparwr gwasanaeth newydd a dechrau cytundeb arall. Gallwch yna wneud un o’r pethau canlynol:
- terfynu’r hen gontract yn syth, ond bydd angen i chi dalu cosb is oherwydd eich bod wedi newid i dariff misol rhatach
- parhau gyda’ch hen gontract tan ddiwedd ei gyfnod drwy dalu cyfradd fisol ratach. Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i wneud hyn, ewch at wefan MoneySavingExpert: www.moneysavingexpert.com.
Cadw eich rhif
Os oes ffôn symudol gennych ac rydych am newid at gwmni ffôn symudol arall, yna fel arfer fe fydd yn rhaid i chi newid eich rhif ffôn pan fyddwch chi’n symud at y cwmni newydd. Ond, weithiau fe fyddwch yn medru cadw eich rhif ffôn os ydych yn newid at gwmni arall ac yn gofyn am gadw eich rhif. Yn y diwydiant ffôn symudol, cyfeirir at hyn fel ‘rhif cludadwy’ neu ‘number portability’.
Os ydych wedi cytuno i symud eich hen rif ffôn at gwmni ffôn symudol newydd, rhaid symud yr hen rif at y cwmni newydd o fewn un diwrnod gwaith o’r amser y mae’r cwmni newydd wedi gofyn i’r hen gwmni am y rhif. Fe fydd yn rhaid i’r hen gwmni gynnig iawndal i chi os oes oedi neu os oes unrhyw nam yn y broses.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Ar Adviceguide
- Cytundebau ffonau symudol
- Ffonau symudol – Talu-wrth-ddefnyddio
- Ffonau symudol – gwasanaethau SIM-yn unig
- Biliau ffonau symudol
- Cwynion am ffonau symudol
- Cost defnyddio’ch ffôn symudol dramor
Ofcom
Canolfan Gyswllt
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain SE1 9HA
Llinell ymholiadau ffôn: 0300 123 3333
Switsfwrdd: 020 7981 3000
Ffon-destun: 0300 123 2024
Ffacs: 020 7981 3333
Gwefan: www.ofcom.org.uk
Ofcom yw’r cwmni gwarchod telathrebu yn y DU. Nid yw Ofcom yn ymchwilio i gwynion unigol yn erbyn darparwyr gwasanaeth ffôn, er eu bod yn cofnodi pob cwyn erbyn cwmni. Os gwelir bod un cwmni yn arbennig yn achosi pryder i ddefnyddwyr, fe allan nhw ystyried eu hymchwilio.
Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebu
PO Box 730
Warrington
WA4 6WU
Ffôn: 0330 440 1614
Ffôn Testun: 0330 440 1600
Ffacs: 0330 440 1615
E-bost: enquiries@os-communications.org
Gwefan: www.os-communications.org
Efallai y gall Gwasanaethau’r Ombwdsmon (Otelo gynt) eich helpu gyda chwyn am gwmni ffôn os yw’r cwmni yn aelod o’r Cynllun. Rhaid eich bod chi wedi defnyddio gweithdrefn gwyno’r cwmni yn gyntaf.
CISAS
24 Angel Gate
City Road
Llundain
EC1V 2PT
Ffôn: 020 7520 3827
Ffacs: 020 7520 3829
E-bost: info@cisas.org.uk
Gwefan: www.cisas.org.uk
Efallai y gall CISAS (Cynllun Beirniadu Gwasanaethau Cyfathrebu a’r Rhyngrwyd) eich helpu gyda chwyn am gwmnni ffôn os ydyw’r cwmni yn aelod o CISAS. Rhaid eich bod chi wedi defnyddio trefn gwyno y cwmni yn gyntaf.
NIACT
Pwyllgor Ymgynghorol Telathrebu Gogledd Iwerddon
Yr Ysgrifennydd
Llawr 7
Chamber of Commerce House
22 Great Victoria Street
Belfast
BT2 7QA
Ffôn: 028 9024 4133
Ffacs: 028 9024 7024
PhonepayPlus
Clove Building
4 Maguire Street
Llundain
SE1 2NQ
Ffôn: 0800 500212
Ffacs: 020 7940 7456
Gwefan: www.phonepayplus.org.uk
PhonepayPlus yw cwmni gwarchod y gwasanaethau cyfradd premiwm. Mae gan PhonepayPlus gyfleuster gwirio rhif ar eu gwefan sy’n caniatáu i chi gael mwy o wybodaeth am rifau ffôn cyfradd premiwm sy’n ymddangos ar eich bil ffôn. Fe allan nhw hefyd roi cyngor ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.









