Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
Os oes gennych broblem gyda dyledion, mae’n bwysig i beidio mynd i banig ond peidiwch â’i anwybyddu chwaith - wnaiff e ddim diflannu.
Er mwyn delio â phroblem dyled, bydd angen i chi:
Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych sut i ddechrau delio â phroblem dyled. Mae’n dweud wrthych:
Fe allwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ddelio â dyled ar dudalennau eraill Adviceguide. Ar gyfer tudalennau eraill sy’n delio â dyled yn Adviceguide gweler Cymorth a gwybodaeth ychwanegol.
Gall gwybodaeth Adviceguide eich helpu gyda’ch problemau dyled personol. Yn Lloegr a Chymru, os oes gennych ddyledion busnes ynghyd â dyledion personol, fe allwch gael help o wefan Llinell Ddyled Busnes yn: www.bdl.org.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, os oes gennych ddyledion busnes, fe allwch gael help o wefan gwybodaeth busnes GI yn: www.nibusinessinfo.co.uk.
Os ydych chi’n poeni ynglŷn â sut i ddelio â’ch dyledion, mae cyngor cyfrinachol am ddim ar gael.
Gall eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol roi cyngor i chi ynglŷn â phroblemau dyled. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Y peth cyntaf y bydd yn rhaid i chi ei wneud cyn y gallwch daclo problem dyled ydyw datrys faint o ddyled sydd gennych. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i chi wneud rhestr o’r bobol a’r cwmnïau y mae arnoch arian iddynt (eich credydwyr). Bydd angen i chi gasglu’r wybodaeth ganlynol ar gyfer pob dyled:
Mae’n syniad da i gadw’r llythyr neu ddatganiad diweddara ar gyfer pob dyled gyda’i gilydd mewn un lle fel y bydd hi’n rhwydd i chi ddod o hyd iddynt os bydd eu heisiau arnoch.
Os ydych chi wedi derbyn unrhyw bapurau neu lythyron llys sy’n ymddangos yn bwysig, efallai y bydd yn rhaid i chi weithredu’n gyflym. Os nad ydych chi’n siŵr ar ôl darllen y papurau beth ddylech chi ei wneud nesaf, mynnwch gyngor ar unwaith oddi wrth ymgynghorydd profiadol.
Gall eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol roi cyngor i chi ynglŷn â phroblem dyled. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Unwaith y byddwch wedi gwneud rhestr o’ch holl gredydwyr, bydd angen i chi weithio allan pa ddyledion sydd bwysicaf.
Mae rhai dyledion yn bwysicach nag eraill oherwydd gall y canlyniadau o beidio’u talu fod yn fwy difrifol nag i ddyledion eraill. Cyfeirir at y rhain fel y dyledion blaenoriaethol.
Os oes gennych unrhyw arian i glirio’ch dyledion, rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn delio ag unrhyw ddyledion blaenoriaethol yn gyntaf, cyn delio â dyledion llai eu blaenoriaeth megis dyledion cardiau credyd, gorddrafftiau a benthyciadau eraill. Cyfeirir at y math yma o ddyledion fel dyledion nad oes iddynt flaenoriaeth.
Mae dyledion sy’n flaenoriaeth yn cynnwys:
Yng Ngogledd Iwerddon, nid ydyw’r llysoedd yn defnyddio beilïaid ond mewn rhai achosion fe allan nhw ddefnyddio gorchmynion atafaelu ar gyfer rhai eitemau.
Efallai fod gennych ddyledion eraill sydd yn bwysig iawn i’w talu yn eich barn chi. Er enghraifft, os ydych chi’n anabl ac yn dibynnu ar eich car i fynd o gwmpas, efallai y bydd angen i chi wneud talu am eich car yn ddyled flaenoriaethol.
Mae angen i chi ystyried yn ofalus iawn ynglŷn â pha ddyledion sydd bwysicaf yn eich barn chi. Rhaid i chi gael rhesymau da iawn, oherwydd efallai y bydd yn rhaid i chi argyhoeddi llys neu eich credydwyr eraill pam ei fod yn rhesymol i chi drin y dyledion hyn yn bwysicach na’r lleill.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â delio â dyledion sy’n flaenoriaeth, gweler, Delio â dyledion brys.
Mae dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth yn cynnwys:
Chewch chi ddim eich anfon i garchar am fethu talu dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth. Ond os na wnewch chi unrhyw gynigion i dalu, heb esbonio pam, fe allai eich credydwyr fynd â chi i’r llys. Os fyddwch chi’n dal heb dalu ar ôl i’r llys orchymyn i chi wneud hynny, fe all eich credydwyr gymryd camau pellach. Er enghraifft, fe allan nhw gael gorchymyn llys arall sy’n caniatau iddynt anfon beilïaid i’ch cartref i fynd â’ch eiddo. Gwerthir hwn i dalu’ch dyled.
Os nad ydych yn cadw at eich taliadau o dan gytundeb hurbwrcas, fe all y benthyciwr fynd â’r nwyddau yn ôl. Yn dibynnu ar faint yr ydych wedi’i dalu, efallai na fydd yn rhaid i’r benthyciwr gael gorchymyn llys yn gyntaf.
Am fwy o wybodaeth am feilïaid, yn Lloegr a Chymru, gweler taflen ffeithiau Beilïaid.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â delio a dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth, gweler Delio gyda’ch credydwyr ac Opsiynau ar gyfer delio â dyled.
Unwaith y byddwch wedi gweithio allan faint o ddyled sydd gennych a didoli’ch dyledion yn rhai pwysig a llai pwysig, bydd angen i chi weithio allan os oes gennych ddigon o arian i’w clirio.
I wneud hyn, bydd angen i chi weithio allan eich cyllideb.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i weithio allan eich cyllideb, gweler, Sut i weithio allan eich cyllideb. Fe allwch chi hefyd ddefnyddio ein hofferyn cyllidebu ar-lein i’ch helpu i weithio allan eich cyllideb.
Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddelio â dyled ac arian ar y tudalennau Adviceguide canlynol:
