Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Sut i ddelio â’ch credydwyr

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon



Sut i ddelio â’ch credydwyr

Os ydych chi mewn dyled, mae’n bwysig i gadw mewn cysylltiad â’r bobol y mae arnoch chi arian iddynt (eich credydwyr). Os ydych chi’n poeni llawer am eich dyledion, efallai y bydd ofn arnoch i gysylltu â hwy, ond fe allwch chi gael help i wneud hyn. Os nad yw'ch credydwyr yn gwybod eich bod yn cael trafferthion ariannol, fe fyddan nhw’n cymryd yn ganiataol nad ydych am dalu a dechrau cymryd achos yn eich erbyn. Er enghraifft, fe allan nhw fynd â chi i’r llys, neu mewn rhai achosion, fe allan nhw yrru beilïaid i’ch cartref i gymryd eich eiddo. Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau siarad â’ch credydwyr a bydd y mwyafrif o gredydwyr yn ei werthfawrogi os cysylltwch chi â hwy.

Er mwyn gallu delio â’ch credydwyr, fe fydd angen i chi ddatrys faint o ddyled sydd gennych ac i bwy mae’r arian yn ddyledus.

Yna bydd angen i chi ddatrys os oes gennych unrhyw ddyledion brys i’w talu ac os oes digon o arian gennych i’w had-dalu, ynghyd ag unrhyw ddyledion llai pwysig sydd gennych.

Mae rhai dyledion yn bwysicach nag eraill oherwydd gall y canlyniadau o beidio’u talu fod yn fwy difrifol nag i ddyledion eraill. Adwaenir y rhain fel dyledion blaenoriaethol ac maent yn cynnwys pethau megis dyledion morgais, rhent a threth gyngor. Gelwir y bobol hyn y mae arnoch arian iddynt yn gredydwyr blaenoriaethol.

Y dyledion yr ystyrir eu bod yn llai pwysig na dyledion blaenoriaethol yw dyledion megis dyledion cardiau credyd, gorddrafftiau a benthyciadau eraill heb eu gwarantu. Adwaenir y math yma o ddyledion fel dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth.

Os oes gennych unrhyw ddyledion blaenoriaethol, rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn gallu talu’r rhain yn gyntaf cyn dod i unrhyw drefniadau gyda chredydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth.

Er mwyn gwybod mwy am ddyledion blaenoriaethol, gweler Delio â dyledion brys.

Ar y dudalen hon, fe ddowch o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut i ddelio â’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth. Mae gwybodaeth ynglŷn â:

Os nad oes gennych ddigon o arian i glirio dyled eich credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth, fe fydd angen i chi ystyried eich opsiynau’n ofalus.

Fe allwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn â’ch opsiynau os nad oes gennych ddigon o arian i glirio’ch dyledion yn Opsiynau ynglŷn â delio â dyled.

Efallai y bydd angen cymorth arnoch i ddelio â’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth.

Fe allwch gael help am ddim i ddelio â’ch credydwyr oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Efallai y bydd gennych opsiynau eraill i ddelio â’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth megis cynllun rheoli dyled neu Trefniant Gwirfoddol Annibynnol (IVA)

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chynlluniau rheoli dyled, IVAs ac opsiynau eraill i ddelio â’ch credydwyr, gweler Opsiynau ynglŷn â delio â dyled.

Nôl i’r brig


Beth yw dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth

Mae dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth yn cynnwys:

  • gordaliadau budd-daliadau
  • dyledion credyd megis gorddrafftiau, benthyciadau heb warant, cyfrifon cardiau credyd a chatalogau
  • hur bwrcas neu werthiant amodol (Ac eithrio ar gyfer eitemau hanfodol)[link to heading Sut i ymdrin â hurbwrcas a dyledion gwerthiant amodol]
  • taliadau dŵr a charthffosiaeth - chewch chi ddim eich datgysylltu am ddyledion dŵr
  • benthyciadau i fyfyrwyr
  • arian a fenthyciwyd oddi wrth ffrindiau neu deulu
  • cosbau parcio a roddwyd gan awdurdodau lleol (ond mae dirwyon parcio a roddwyd gan y llysoedd yn ddyledion sy’n flaenoriaeth)

Chewch chi ddim eich anfon i garchar am fethu talu dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth. Ond os na wnewch chi unrhyw gynigion i dalu, heb esbonio pam, fe allai eich credydwyr fynd â chi i’r llys. Os fyddwch chi’n dal heb dalu ar ôl i’r llys orchymyn i chi wneud hynny, fe all eich credydwyr gymryd camau pellach. Er enghraifft, fe allan nhw gael gorchymyn llys arall sy’n caniatáu iddynt anfon beilïaid i’ch cartref i fynd â’ch eiddo. Gwerthir hwn i dalu’ch dyled.

Mae yna rai dyledion a ystyrir yn bwysicach na dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth. Adwaenir y rhain fel dyledion blaenoriaethol ac maent yn cynnwys pethau megis morgais, benthyciadau wedi’u gwarantu, rhent neu ddyledion treth gyngor. Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn gallu talu’r dyledion blaenoriaethol cyn gwneud unrhyw drefniadau gyda’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth

Am fwy o wybodaeth am ddyledion blaenoriaethol, gweler Delio â dyledion brys.

Sut i drin dyledion hurbwrcas neu werthiant amodol

Fel arfer trinir dyledion hurbwrcas fel dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth. Sut bynnag, mewn amgylchiadau arbennig efallai y byddwch am drin dyled hurbwrcas fel dyled flaenoriaethol. Er enghraifft, os prynoch chi gar ar gytundeb hurbwrcas ac y mae ei angen arnoch i fynd o gwmpas oherwydd eich bod yn anabl.

Os nad ydych chi’n cadw i fyny â’ch taliadau o dan gytundeb hurbwrcas, gall y benthyciwr gymryd y nwyddau yn ôl. Mae’n dibynnu ar faint yr ydych wedi’i dalu, ond efallai na fydd angen i’r benthyciwr gael gorchymyn llys yn gyntaf.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phryd y gall benthyciwr adfeddiannu nwyddau ar gytundeb hurbwrcas, gweler Hurbrynu a gwerthu amodol sale.

Nôl i’r brig


Cysylltu â chredydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth

Peidiwch ag anwybyddu llythyrau na galwadau ffôn oddi wrth eich credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth. Cysylltwch â nhw mor gynnar ag sy’n bosibl. Fe ddylech chi wneud hyn hyd yn oed os nad ydych eto mewn sefyllfa i wybod a ydyw’n bosibl i chi eu talu nhw yn ôl neu pa drefniadau yr ydych am eu gwneud i’w talu yn ôl.

Os nad ydyw’ch credydwyr yn gwybod eich bod yn cael trafferthion ariannol, fe fyddan nhw’n cymryd yn ganiataol nad ydych am dalu a dechrau cymryd achos yn eich erbyn.

Esboniwch eich bod yn ceisio delio â’ch dyledion ac y byddwch yn cysylltu â nhw eto yn fuan pan fyddwch chi mewn sefyllfa i wybod faint y gallwch chi fforddio ei dalu.

Gofynnwch iddynt a allwch chi stopio talu llog a thaliadau ar eich dyled yn y cyfamser. Gelwir hyn yn rhewi’r llog. Os bydd yn rhaid i chi ddal i dalu llog, bydd eich dyled yn dal i dyfu. Hefyd gofynnwch iddynt a ydynt yn fodlon gohirio unrhyw gamau pellach, megis mynd i’r llys, hyd nes y byddwch chi wedi cael amser i weithio allan sut yr ydych yn mynd i ddelio â’ch dyledion.

Os yw’r person cyntaf y byddwch yn siarad ag ef/hi yn amharod i helpu, gofynnwch am gael siarad â rhywun uwch.

Gwnewch nodyn o bob galwad ffôn neu gyfarfod. Dylai hyn gynnwys enw’r person y siaradoch chi ag ef/hi a beth y cytunwyd arno.

Dilynwch alwadau ffôn gyda llythyr, yn cadarnhau'r hyn ddywedoch chi a chadwch gopïau o’ch llythyrau.

Pan fyddwch chi’n ysgrifennu at eich credydwyr neu siarad â nhw, gwnewch yn siŵr eich bod yn esbonio’ch sefyllfa yn llawn. Os ydyn nhw’n gwybod am eich amgylchiadau, efallai y byddan nhw’n barod i roi amser ychwanegol i chi ad-dalu.

Er enghraifft, efallai na fyddwch chi’n gallu ad-dalu dim tuag at eich dyledion ar hyn o bryd oherwydd eich bod wedi colli’ch swydd, neu eich bod i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch. Ond yr ydych yn disgwyl i bethau wella’n fuan oherwydd:

  • eich bod yn dychwelyd i’r gwaith
  • eich bod yn mynd i dderbyn budd-daliadau
  • eich bod yn mynd i dderbyn tâl allan o bolisi yswiriant diogelu taliadau
  • eich bod yn mynd i werthu peth o’ch eiddo i’ch helpu i dalu’ch dyledion.

Yn Lloegr as Chymru, am fwy o wybodaeth am yswiriant diogelu taliadau, gweler y taflenni ffeithiau- Benthyca.

Os oes gennych unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig i gadarnhau’ch sefyllfa, fe ddylech ddangos hwn i’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth. Er enghraifft, efallai fod gennych lythyr o’r ganolfan Byd Gwaith yn cadarnhau eich bod wedi cael cynnig budd-daliadau neu oddi wrth gyflogwr yn dangos eich bod wedi cael cynnig swydd.

Os oes gennych ddyledion blaenoriaethol, esboniwch i’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth fod yn rhaid i chi ad-dalu’ch dyledion blaenoriaethol yn gyntaf a nodwch, os allwch chi, faint yr ydych yn ei gynnig i bob un o’ch credydwyr blaenoriaethol a pha mor hir y cymer i chi i’w talu yn ôl. Fe fydd yn help os allwch chi anfon copi o’ch taflen gyllideb at eich credydwyr.

Er mwyn gweld rhestr o lythyrau sampl y gallwch eu defnyddio i ysgrifennu at eich credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth, ewch at Llythyrau sampl i gredydwyr.

Nôl i’r brig


Gweithio allan sut i ad-dalu eich credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth

I weithio allan os oes gennych ddigon o arian i glirio’ch dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth ai peidio fe fydd angen i chi weithio allan faint o arian sydd gennych yn dod i mewn i’ch cartref a faint sydd angen ei wario. Gelwir hyn yn gyllideb.[link to page Sut i weithio allan eich cyllideb]

Bydd rhaid i chi weithio allan hefyd os oes gennych chi ddyledion blaenoriaethol a gwneud yn siŵr fod gennych ddigon o arian i ad-dalu’r rhain yn gyntaf, cyn eich bod yn gallu delio â’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth.

Gelwir unrhyw arian sydd ar ôl gennych wedi i chi dalu’ch treuliau a’ch credydwyr blaenoriaethol yn incwm sydd ar gael. Fe allwch ddefnyddio hwn i ad-dalu eich credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth.

Fe ddylech chi rannu allan eich incwm sydd ar gael yn deg rhwng eich credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth. Golyga hyn y dylech chi gynnig i bob credydwr ganran o’ch incwm sydd ar gael, wedi’i seilio ar y swm sy’n ddyledus iddynt. Gelwir y cynigion hyn yn gynigion ar gyfartaledd.

I weithio allan eich cynigion ar gyfartaledd, yn gyntaf lluoswch bob dyled unigol gyda’ch incwm sydd ar gael. Yna rhannwch y swm hwn gyda chyfanswm yr arian sy’n ddyledus i bob un o’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth.

(Example box starts)

Enghraifft:

Mae gennych gyfanswm o £15.000 o ddyledion. Mae gennych incwm o £200 y mis ar gael. Mae arnoch chi £10.000 i gwmni cerdyn credyd A a £5,000 i gwmni cerdyn credyd B.

Cwmni credyd A

Lluoswch £10,000 (dyled i gwmni A) gyda £200 (eich incwm sydd ar gael) Mae hyn yn hafal i £2,000,000.

Rhannwch hwn gyda £15,000 (cyfanswm eich dyled). Mae hyn yn rhoi i chi £133 y mis i’w gynnig i gwmni A.

Cwmni credyd B

Lluoswch (dyled i gwmni B) gyda £200 (eich incwm sydd ar gael) Mae hyn yn hafal i £1,000,000.

Rhannwch hwn gyda £15,000 (cyfanswm eich dyled). Mae hyn yn rhoi i chi £66 y mis i’w gynnig i gwmni B.

(Example box ends)

Dyma’r system a ddefnyddir gan y llysoedd i weithio allan beth allwch chi’n rhesymol ei fforddio i’w dalu ac fe’i dderbynnir gan y mwyafrif o gredydwyr.

Nôl i’r brig


Gwneud cynigion ad-dalu i’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth

Unwaith y byddwch chi wedi gweithio allan faint y gallwch chi fforddio ei dalu i’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth, fe fydd angen i chi ysgrifennu at bob un ohonynt.

Anfonwch gopi o’ch cyllideb bersonol atynt a rhestr o’ch credydwyr eraill i ddangos sut yr ydych wedi gweithio allan eich cynigion. Gwnewch yn siwr eich bod yn cadw copi o bopeth yr ydych yn ei anfon at eich credydwyr.

Fe allwch ddefnyddio ein offeryn cyllidebu ar-lein i’ch helpu chi i weithio allan faint sydd gennych i ad-dalu eich dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth. Mae’r offeryn yn caniatau i chi argraffu datganiad ariannol sy’n dangos i’ch credydwyr sut yr ydych wedi gweithio allan eich cynigion.

Nid oes rhaid i gredydwyr dderbyn eich cynigion ond fel arfer fe fyddant yn ystyried unrhyw gais rhesymol neu gynnig o ad-daliad a wnewch.

Weithiau, bydd angen i chi gysylltu â chredydwyr sawl gwaith cyn y byddan nhw’n cytuno i’r hyn a ofynnir gennych.

Mae credydwyr yn aml iawn am edrych ar eich cynnig eto ar ôl amser penodol, chwe mis er enghraifft, i weld os yw’ch sefyllfa wedi gwella.

Os bydd credydwyr yn gwrthod derbyn eich cynnig a chwithau’n methu eu perswadio’n wahanol, fe allan nhw gymryd camau pellach.

Mae’n bwysig fod credydwyr yn gallu gweld fod yr hyn y gofynnwch amdano’n rhesymol o dan yr amgylchiadau. Felly gwnewch yn siwr eich bod:

  • yn glir ynglŷn â’r hyn y gofynnwch amdano
  • bob amser yn gofyn am rewi’r llog. Oni bai eu bod yn rhewi’r llog, fe fydd eich dyled yn dal i dyfu hyd yn oed os ydych chi’n talu’n rheolaidd.
  • yn dweud wrthynt beth yw cyfnodau’r taliadau rheolaidd y gallwch eu cynnig, hynny yw, os ydych chi’n gallu talu’n fisol neu’n wythnosol
  • yn sôn am unrhyw newidiadau y gwyddoch sy’n mynd i ddigwydd fydd yn affeithio’ch gallu i dalu neu’r swm yr ydych yn ei gynnig.

Cadwch gopïau o’ch llythyrau i gyd at y credydwyr a’u hatebion a nodi unrhyw alwadau ffôn rhyngoch chi â nhw, rhag ofn y bydd eu hangen arnoch eto.

I weld rhestr o lythyrau sampl y gallwch eu hysgrifennu at eich credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth, ewch i Sampl llythyron i gredydwyr.

Hyd yn oed os yw’r credydwyr yn derbyn eich cynllun ad-dalu a chwithau’n cadw at y cynllun, nid yw hyn bob amser yn eu hatal rhag cymryd achos llys [link to heading Credydwr yn cymryd achos llys] yn eich erbyn. Felly mae’n hynod bwysig nad ydych yn anwybyddu unrhyw lythyrau oddi wrth eich credydwyr, hyd yn oed os ydych chi’n credu eich bod wedi dod i gytundeb â hwy. Ac os ymddengys bod credydwr yn mynd nôl ar ei air ynglŷn â chytundeb, mynnwch gyngor ar unwaith.

Nid oes rhaid i chi ddelio â’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth eich hun os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.

Fe allwch chi gael cymorth am ddim i ddelio â’ch credydwyr oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Fe allwch chi hefyd gael cwmni rheoli dyled neu Ymarferwr Ansolfedd i ddelio â’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth ar eich rhan.

Am fwy o wybodaeth am gwmniau rheoli dyled, Ymarferwyr Ansolfedd ac opsiynau eraill i ddelio â’ch credydwyr, gweler Opsiynau i ddelio â dyled.

Os yw’ch amgylchiadau chi’n newid

Os yw’ch amgylchiadau chi’n newid, lluniwch gyllideb newydd a gwneud cynigion newydd i dalu wedi’i seilio ar faint y gallwch ei fforddio nawr. Ysgrifennwch at eich holl gredydwyr yn esbonio’r rhesymau dros y cynnig newydd ac anfonwch gopi o’ch cyllideb newydd atynt.

Nôl i’r brig


Credydwyr yn gwrthod derbyn eich cynnig

Fe welwch chi weithiau na fydd credydwyr yn derbyn eich cynigion yn y lle cyntaf.

Gallai hyn fod yn wir hyd yn oed os defnyddioch chi asiantaeth cynghori neu gwmni rheoli dyled i’ch helpu i ddelio â’ch credydwyr.

Os na fydd credydwyr yn ymateb i’ch cynigion, dechreuwch dalu iddynt yr hyn y gallwch ei fforddio beth bynnag, a mynnwch gyngor.

Am fwy o wybodaeth am gwmniau rheoli dyled, gweler Opsiynau i ddelio â dyled.

Gall credydwr gwestiynu eich cyllideb a hawlio eich bod yn gallu fforddio i dalu mwy na’r hyn a gynigir gennych.

Yn yr achos hwn, bydd yn rhaid i fod yn barod i ddarparu prawf o’ch incwm a’ch gwariant megis:

  • slipiau cyflog a manylion am fudd-daliadau
  • copïau biliau nwy a thrydan
  • manylion taliadau rhent neu forgais
  • tystiolaeth feddygol eich bod chi i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch.

Mae hefyd yn syniad da i gynnwys esboniad byr mewn llythyr eglurhaol i’ch credydwyr ynglŷn â pham eich bod yn credu fod y swm a werir gennych ar rywbeth yn rhesymol. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i gredydwyr i dderbyn eich cyllideb.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phryd y gall credydwr gwestiynu eich cyllideb, gweler Sut i weithio allan eich cyllideb.

Os bydd credydwyr yn parhau i wrthod eich cynigion o daliadau, peidiwch â chael eich temtio i dalu mwy na’r hyn y gallwch ei fforddio.

Efallai y bydd rhai credydwyr yn ceisio rhoi pwysau arnoch i dalu mwy yn ôl neu ofyn i chi dalu mwy na’r hyn yr ydych yn ei dalu i gredydwyr eraill. Byddai cynyddu cynnig i un credydwr yn golygu y byddai llai o arian gennych i’w dalu i’r lleill. Os nad yw credydwyr yn credu eich bod yn eu trin yn deg, fe allan nhw wrthod eich cynnig i dalu yn gyfan gwbl a dechrau achos llys [link to heading, Credydwr yn cymryd achos llys] yn eich erbyn.

Os ydych yn gweld fod hyn yn digwydd, neu os ydych yn cael anhawster delio â’ch credydwyr, mynnwch gyngor.

Gall eich swyddfa Cyngor ar Bopeth eich hlepu i ddelio â chredydwyr anodd. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Os yw credydwr yn ymddwyn yn ymosodol neu’n aflonyddu arnoch gallai hyn fod yn drosedd.

Nôl i’r brig


Nid oes arian gennych i’w gynnig i gredydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth

Ar ôl gweithio allan eich cyllideb cartref, efallai y gwelwch chi nad oes arian ar ôl gennych i dalu eich credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth.

Fe ddylech wirio os allwch chi gynyddu’ch incwm mewn unrhyw ffordd, er enghraifft hawlio budd-dal neu rentu ystafell yn eich tŷ.

Ystyriwch faint yr ydych yn ei wario ar bethau ac os allwch chi dorri nôl ai peidio. Os allwch chi dorri nôl ar eich gwariant, gallai hyn olygu fod rhywfaint o arian ar gael i chi ad-dalu’ch dyledion. Byddwch yn ofalus ynglŷn â thorri nôl ar wariant ar bethau hanfodol megis bwyd a dillad. Efallai na fyddwch chi’n gallu ymdopi ar symiau llai yn yr hir dymor.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thorri nôl ar wariant a chynyddu eich incwm, gweler Sut i wario llai a Cynyddu eich incwm.

Os na allwch chi gynnig unrhyw arian i’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth, esboniwch pam. Gofynnwch iddynt am rewi’r llog a’r taliadau a chaniatáu i chi stopio gwneud taliadau am dri i chwe mis. Dywedwch wrthynt y byddwch yn cysylltu â nhw cyn gynted ag y bydd eich sefyllfa’n newid a chwithau’n gallu dechrau ar y taliadau eto. Neu fe ddylech chi geisio gwneud cynnig rhan-dâl o £1.00 y mis i bob un o’ch credydwyr. Byddwch yn ofalus, os oes gennych nifer fawr o ddyledion unigol, gallai hyd yn oed cynnig £1.00 yr un gyfri i fyny’n fwy na’r hyn y gallwch ei fforddio.

Ateb tymor byr yn unig yw hyn, fel arall gallai gymryd blynyddoedd i chi dalu’n ôl yr hyn sydd arnoch. Os nad ydych yn credu fod eich sefyllfa’n mynd i wella, bydd yn rhaid i chi ystyried beth i’w wneud nesaf yn ofalus iawn.

Er mwyn gweld rhestr o lythyrau sampl y gallwch eu defnyddio i ysgrifennu at eich credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth, ewch i Llythyrau sampl i gredydwyr.

Efallai y bydd angen i chi ystyried opsiynau megis Methdaliad neu Orchymyn Rhyddhau Dyled. Efallai y bydd angen i chi gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd dyled profiadol.

Am fwy o wybodaeth am fethdaliad, Gorchmynion Rhyddhau Dyled ac opsiynau eraill i ddelio â dyled, gweler Opsiynau i ddelio â dyled.

Fe allwch gael cyngor dyled am ddim oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Sut y dylai credydwyr eich trin

Pan fydd gennych ôl-ddyledion ar fenthyciad, disgwylir i gredydwyr eich trin yn deg wrth iddynt drafod gyda chi neu wrth geisio casglu’r ôl-ddyledion.

Ni chaniateir iddynt eich dychryn nac aflonyddu arnoch.

Casglwyr Dyledion

Mae nifer o fenthycwyr yn defnyddio cwmnïau casglu dyledion i gasglu dyledion ar eu rhan oherwydd ei fod yn gweithio allan yn rhatach iddynt. Mae hyn yn rhan normal o’r broses adennill ac ni ddylech chi boeni os cysylltir â chi gan gasglwr dyledion am arian sy’n ddyledus gennych. Nid oes gan gasglwyr dyledion bwerau ychwanegol ond efallai y byddwch yn eu cael hwy’n fwy taer.

Peidiwch â gadael i gasglwyr dyledion roi pwysau arnoch i wneud trefniadau na allwch eu cynnal. Cofiwch drin casglwyr dyledion yn yr un ffordd ag y byddech gydag unrhyw gredydwr arall.

Gall rhai casglwyr dyledion ffugio fod ganddynt fwy o bwerau cyfreithiol nag sydd ganddynt mewn gwirionedd. Er enghraifft, efallai y dywedan nhw eu bod yn gallu cymryd eich eiddo, pan mewn gwirionedd dim ond beili all wneud hyn ac mae angen gorchymyn llys arnyn nhw yn gyntaf hefyd. Os yw casglwr dyledion yn gwneud hyn fe ddylech gwyno wrthynt neu i’r credydwr y maent yn casglu’r dyledion ar eu rhan. Os ydych yn dal yn anfodlon neu os nad yw’r gwyn yn cael ei datrys fe allwch gwyno wrth y Swyddfa Masnachu Teg.

Mae yna ganllawiau eraill y mae’n rhaid i gasglwyr dyledion eu dilyn. Er enghraifft, rhaid i gasglwr dyledion fod yn ofalus iawn wrth ddelio â rhywun sydd â salwch meddwl neu gorfforol. Ni ddylai casglwr dyledion barhau i ymweld â’r cartref os ydyw’n amlwg fod rhywun yn dioddef salwch meddwl.

Os nad yw casglwyr dyledion yn dilyn y canllawiau, gellir cymryd camau yn eu herbyn. Os yw casglwyr dyledion yn aflonyddu arnoch neu os nad ydych yn siwr pa bwerau sydd ganddynt, mynnwch gyngor pellach oddi wrth ymgynghorydd profiadol.

Mae’r Swyddfa Masnachu Teg wedi creu taflen o’r enw Been contacted by a debt collector? sy’n rhoi gwybodaeth ynghylch yr hyn ddylech chi ei ddisgwyl gan gasglwr dyledion a’r hyn na ddylai casglwr dyledion ei wneud. Mae’r daflen ar gael ar wefan y Swyddfa Masnachu Teg yn (New window) www.oft.gov.uk.

Gwahaniaethu

Ni chaniateir i gredydwyr a chasglwyr dyledion wahaniaethu yn eich erbyn, er enghraifft, oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, neu grefydd. Mae hyn yn cynnwys peidio defnyddio iaith sy’n sarhaus yn eich golwg oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb neu grefydd.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwahaniaethu, gweler ein tudalennau ar wahaniaethu.

Os ydych chi’n credu eich bod yn cael eich trin yn annheg gan gredydwr neu gasglwr dyledion neu os nad ydynt yn cadw at y rheolau, fe ddylech chi gael cyngor ynglŷn â beth i’w wneud oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Dyledion cerdyn credyd

Os oes gennych ddyledion cerdyn credyd ac nid yw’r ddyled wedi’i throsglwyddo i gasglwr dyledion, fe ddylech chi gael cyfnod o oedi i gytuno i gynllun ad-daliad gydag asiantaeth cynghori dyled di-elw, megis Cyngor ar Bopeth. Fe ddylai hwn fod yn gyfnod o 30 diwrnod o leiaf. Gellir ei ymestyn i 60 diwrnod os allwch chi ddangos fod cynnydd ar ad-daliad yn digwydd ond bod angen mwy o amser arnoch.

Efallai y byddwch yn gallu cael 30 diwrnod o oedi hefyd os yw’ch dyled cerdyn credyd wedi’i drosglwyddo i asiantaeth casglu dyledion. Ond mae’n rhaid iddynt berthyn i Gymdeithas Gwasanaethau Credyd (CSA) a bydd angen i chi ofyn amdano. Yn ystod y cyfnod hwn, ni ddylai’r asiantaeth casglu dyledion geisio cysylltu â chi mewn unrhyw ffordd.

Fe allwch wirio os yw asiantaeth casglu dyledion yn perthyn i’r CSA ai peidio trwy archwilio ei rhestr o aelodau yn: (New window) www.csaconsumers-uk.com.

Mae credydwr yn ymddwyn yn ymosodol neu’n aflonyddu arnoch

Ni chaniateir i gredydwyr eich dychryn, aflonyddu arnoch na ffugio fod ganddynt fwy o bwerau cyfreithiol nag sydd ganddynt mewn gwirionedd.

Gall credydwr sy’n ymddwyn yn ymosodol fod yn fenthyciwr arian anghyfreithlon (siarc benthyg). Rhaid i fenthycwyr arian gael eu trwyddedu gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol(FSA). Os nad ydynt yn drwyddedig, maen nhw’n gweithredu’n anghyfreithlon.

Yn Lloegr, os ydych yn credu fod benthyciwr arian yn gweithredu heb drwydded, fe allwch eu riportio i Linell Gymorth a gynhelir gan Brosiect Benthyca Arian Anghyfreithlon a ariennir gan y llywodraeth. Gall y bobol sy’n cynnal y Llinell Gymorth roi cyngor i chi ynglŷn â’ch sefyllfa ac ymchwilio’r benthyciwr arian. Rhif y Llinell Gymorth yw 0300 555 2222.

Yng Nghymru, fe allwch riportio’ch pryderon am fenthyciwr arian i Uned Benthyg Arian Anghyfreithlon Cymru sy’n gweithredu llinell gymorth gyfrinachol 24 awr ar: 0300 123 33 11.

Fe allwch ddarganfod os yw benthyciwr arian yn drwyddedig trwy wirio Cofrestr yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn (New window) www.fsa.gov.uk.

Os yw’ch credydwyr yn aflonyddu arnoch, mynnwch gyngor ynglŷn â beth i’w wneud, gan y gallai’r credydwr fod yn cyflawni trosedd.

Gall eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol eich helpu os ydyw’ch credydwyr yn aflonyddu arnoch. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Mae credydwr yn cymryd achos llys

Os na allwch chi ddod i gytundeb gydag un o’ch credydwyr i glirio’ch dyled, fe allan nhw fynd â chi i’r llys.

Weithiau bydd credydwyr yn mynd â chi i’r llys hyd yn oed os ydych chi wedi dod i gytundeb gyda nhw ac wedi cadw ato. Sut bynnag, fel arfer fe fydd rhaid iddyn nhw anfon rhybudd ysgrifenedig atoch yn gyntaf, yn eich rhybuddio y byddan nhw’n dechrau achos llys os na fyddwch yn setlo’ch dyled.

Os oes achos llys wedi dechrau, gwnewch yn siwr eich bod chi bob amser yn ateb y llythyrau o’r llys o fewn y terfyn amser. Mynnwch gyngor os na wyddoch sut i lenwi’r ffurflenni hyn.

Os ydych chi’n cytuno fod arnoch chi’r swm a nodir llanwch y ffurflen cyfaddefiad, fydd yn dod i chi gyda’r dogfennau eraill o’r llys. Bydd yn rhaid i chi roi manylion am eich sefyllfa ariannol. Os ydych chi eisoes wedi gweithio allan gyllideb, fe allwch chi ddefnyddio hwn i’ch helpu i lenwi’r ffurflen. Os ydych chi eisoes wedi gweithio allan faint allwch chi fforddio’i dalu i’ch credydwyr, fe allwch chi gynnig gwneud taliadau am yr un symiau.

Os gwrthodir eich cynnig neu os nad ydych yn derbyn fod arnoch chi’r arian, fe ddylech chi gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd dyled profiadol.

Yn Lloegr a Chymru, am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth sy’n digwydd pan fydd credydwr yn mynd â chi i’r llys, gweler Beth sy’n digwydd os cymerir chi i’r llys am arian sy’n ddyledus gennych.

Nôl i’r brig


Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Yn Adviceguide

Swyddfa Masnachu Teg (OFT)

Adran o’r llywodraeth ydyw OFT sy’n goruchwylio arferion masnachu er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn deg a bod cwsmeriaid yn cael eu diogelu. Mae OFT yn darparu trwyddedau i fasnachwyr sy’n rhoi credyd, ac yn cadw cofrestr o fasnachwyr trwyddedig.

Nis gall OFT helpu cwsmer unigol gyda phroblem cwsmer, ond mae yn cyhoeddi taflenni defnyddiol sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor.

Fe allwch gysylltu ag OFT yn:

Fleetbank House
2-6 Salisbury Square
London
EC4Y 8JX
Tel: 0845 722 4499
Fax: 020 7211 8877
E-mail: enquiries@oft.gsi.gov.uk
Website: (New window) www.oft.gov.uk

Nôl i’r brig


Nationwide logo