Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Os oes gennych ddyledion, bydd angen i chi gyfrifo bod gennych ddigon o arian i’w had-dalu’n gyfan gwbl.
I wneud hyn, bydd angen i chi gyfrifo faint o arian sy’n dod i mewn i’ch cartref a faint ohono y mae’n rhaid i chi ei wario. Gelwir hyn yn eich cyllideb. Pan ydych yn cyfrifo eich cyllideb, byddwch yn gallu gweld faint sydd gennych yn weddill i ad-dalu eich dyledion.
Mae’r dudalen hon yn esbonio sut i gyfrifo bod gennych ddigon o arian i ad-dalu eich dyledion neu beidio.
Cewch hyd i fwy o wybodaeth am sut i ddelio â dyled ar dudalennau eraill Adviceguide. Am dudalennau eraill sy'n trafod dyled ar Adviceguide, yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, gweler Help gyda dyled.
Os ydych yn poeni am sut i ddelio â’ch dyledion, mae cyngor cyfrinachol rhad ac am ddim ar gael.
Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth roi cyngor ar ddyled i chi. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
I gyfrifo eich cyllideb, y peth cyntaf sydd angen i chi ei wneud yw rhestru holl incwm eich cartref. Byddwch yn onest a sicrhewch fod y symiau yn realistig.
Dylai eich rhestr incwm gynnwys:
Meddyliwch am ffyrdd y gallwch ennill arian ychwanegol neu gynyddu eich incwm. Mae’n bosib y gallwch hawlio budd-daliadau neu gredydau treth. Mae yna wefan ddefnyddiol sy’n rhestru sefydliadau sy’n rhoi grantiau i bobl sydd mewn angen. Er enghraifft, mae’n rhestru elusennau sy’n rhoi grantiau i bobl i’w helpu i dalu eu biliau neu brynu eitemau hanfodol. Y wefan yw: www.turn2us.org.uk
Am fwy o wybodaeth am sut i gynyddu eich incwm, gweler Cynyddu eich incwm.
Gallwch ddefnyddio ein hofferyn cyllidebu ar-lein i’ch helpu i gynllunio cyllideb.
Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth eich helpu i gynllunio cyllideb yn ogystal ag edrych ar ffyrdd y gallwch gynyddu eich incwm megis hawlio budd-daliadau a chredydau treth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
I gyfrifo eich cyllideb, y peth nesaf sydd angen i chi ei wneud yw rhestru eich holl wariant. Byddwch yn onest a sicrhewch fod y symiau yn realistig. Yn y golofn gwariant, dylech gynnwys:
Gallwch ddefnyddio ein hofferyn cyllidebu ar-lein i’ch helpu i gynllunio cyllideb.
Pan ydych yn gwneud rhestr o’ch gwariant, ystyriwch p’un ai y gallwch gwtogi costau. Os gallwch leihau eich gwariant, bydd fwy o arian ar gael gennych i ad-dalu eich dyledion.
Byddwch yn defnyddio eich cyllideb yn hwyrach i ddangos y bobl y mae arnoch arian iddynt (eich credydwyr) faint allwch roi tuag at eich dyledion. Os yw credydwr yn meddwl bod y swm yr ydych yn ei wario ar rywbeth yn afresymol, mae’n bosib y gall ei gwestiynu a gofyn i chi esbonio pam neu ei brofi.
Os ydych yn siŵr bod y swm yr ydych yn ei wario ar rywbeth yn rhesymol, mae’n syniad da i gynnwys esboniad cryno mewn llythyr i’ch credydwr. Bydd hyn yn ei wneud yn haws i gredydwr dderbyn eich cyllideb.
Mae credydwyr fel arfer yn cwestiynu:
Costau ffôn. Gallwch gynnwys swm am ffôn tŷ a ffôn symudol ond os oes gan bawb yn y tŷ ffôn symudol, mae’n gallu bod yn ddrud. Ystyriwch p’un ai bod angen yr holl ffonau symudol arnoch a sut y gallwch leihau’r biliau. Efallai y gallwch ymdopi heb ffôn tŷ a defnyddio ffonau symudol yn unig.
Mwy nag un car. Ni fydd credydwr yn fodlon bod gennych ddau gar yn eich cartref heblaw bod gennych resymau da amdanynt. Gallai hyn fod oherwydd bod gan rywun yn eich cartref anghenion symudedd oherwydd anabledd neu oedran, neu oherwydd dyma’r unig ffordd y gall dau oedolyn sy’n gweithio gyrraedd eu gweithleoedd.
Costau eraill. Bydd credydwyr yn derbyn symiau rhesymol ar gyfer costau angenrheidiol megis costau atgyweirio a chynnal tŷ, trin gwallt a thorri gwallt, cebl, lloeren a rhyngrwyd, teledu, fideo ac offer rhent arall, prydau ysgol, arian poced a thripiau ysgol, hobïau a hamdden, Nadolig a phenblwyddi, biliau milfeddyg ac yswiriant ar gyfer anifail anwes.
Os yw credydwr yn cwestiynu eich gwariant, ailedrychwch arno i weld p’un ai ydych yn gallu lleihau rhywbeth neu fynd hebddo. Os ydych dim ond yn newid rhywbeth, mae’n bosib na fyddwch yn gallu cadw at eich cyllideb. Gofynnwch i’ch hun beth fyddai’n digwydd os ydych yn mynd heb yr eitem neu’n cwtogi ar ei chost. Os nad yw’n hanfodol, mae’n bosib y gallwch ei newid. Os na allwch wneud hyn, ewch yn ôl at eich credydwr ac esboniwch pam na allwch ei wneud. Gofynnwch i’r credydwr ailystyried ei farn.
Am fwy o wybodaeth am sut i gwtogi eich gwariant ac arbed arian, gweler Sut i wario llai.
Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth eich helpu i gynllunio cyllideb yn ogystal ag edrych am ffyrdd i’ch helpu i wario llai. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Pan ydych wedi rhestru eich holl incwm a’ch gwariant, adiwch y ffigyrau a gweld os oes gennych unrhyw arian yn weddill i ad-dalu eich credydwyr.
Os oes gennych arian yn weddill, bydd angen i chi ddarganfod sut yr ydych ym mynd i ad-dalu eich dyledion. Bydd hefyd angen i chi:
Os nad oes gennych unrhyw arian yn weddill i ad-dalu eich dyledion, ni fydd gennych lawer o opsiynau ar gyfer delio â’ch dyledion. Bydd yn rhaid i chi feddwl yn ofalus iawn am yr opsiynau hyn.
Cewch hyd i fwy o wybodaeth yn Adviceguide ynglŷn â sut i ddelio â’ch dyledion, gan gynnwys eich opsiynau os nad oes gennych ddigon o arian i ad-dalu eich dyledion. Yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, gweler Help gyda dyled. Yn Yr Alban, gweler Help gyda dyled.
Cewch fwy o wybodaeth am sut i ddelio â dyled ac arian ar y tudalennau Adviceguide canlynol:
