Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Sut i gynyddu eich incwm

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Cael y mwyaf o’ch arian

Os ydych ar incwm isel, yn ei chael hi’n anodd dod â dau ben llinyn ynghyd neu mewn dyled, mae yna ddigon o ffyrdd i chi gael help ychwanegol.

Ar y tudalennau canlynol, rydyn ni’n edrych ar rai o’r pethau fedrwch chi eu gwneud i sicrhau eich bod yn cael yr holl incwm sydd ar gael i chi ac yn ennill arian ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau:

  • eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau a chredydau treth y medrwch eu cael. Cofiwch, nid oes rhaid eich bod chi’n ddi-waith cyn i chi fedru hawlio budd-daliadau
  • eich bod yn cael yr holl grantiau y medrwch eu cael, er enghraifft, i helpu talu am danwydd neu gostau eraill y cartref
  • eich bod yn cael yr holl help fedrwch chi tuag at gostau addysg unrhyw blant sy’n byw gyda chi
  • fod oedolion eraill sy’n byw gyda chi yn cyfrannu cymaint â phosib at gostau’r cartref
  • eich bod yn cael unrhyw help ychwanegol fedrwch chi ei gael gyda chostau gweithio
  • eich bod yn cael y cyflog cywir ac nad ydych yn talu gormod o dreth neu yswiriant gwladol.

Nôl i’r brig


Hawlio budd-daliadau a chredydau treth

Efallai y byddwch yn medru hawlio budd-daliadau neu gredydau treth. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, mae rhai o’r budd-daliadau a chredydau treth fedrwch chi eu hawlio’n cynnwys:

  • Budd-dal Treth Gyngor. Mae hyn yn eich helpu i dalu eich treth gyngor
  • Budd-dal Tai. Mae hyn yn eich helpu i dalu eich rhent
  • help gyda chostau addysg. Mae hyn yn helpu gyda phethau fel cinio ysgol, dillad a chymorth ariannol i bobl ifanc 16 mlwydd oedd sy’n aros ymlaen yn yr ysgol neu’r coleg
  • Lwfans Ceisio Gwaith. Mae hyn yn helpu pobl sy’n chwilio am waith
  • Credyd Treth Plant (CTP). Mae Credyd Treth Plant yn cael ei dalu i bobl sy’n gyfrifol am o leiaf un plentyn. Rydych yn medru cael CTP p’un ai eich bod yn gweithio ai peidio
  • Credyd Treth Gwaith. Dyma fudd-dal i bobl sy’n gweithio. Nid oes rhaid bod plant gennych cyn i chi fedru hawlio Credyd Treth Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Dyma fudd-dal i bobl sy’n rhy sâl neu anabl i weithio
  • Lwfans Byw i’r Anabl. Dyma fudd-dal i bobl dan 65 sydd ag anghenion gofal personol neu sy’n cael trafferth cerdded oherwydd anabledd corfforol neu feddyliol. Nid oes rhaid eich bod chi ddim yn medru gweithio cyn i chi fedru cael Lwfans Byw i’r Anabl
  • Cymhorthdal Incwm. Mae Cymhorthdal Incwm yn helpu rhai cynhalwyr a rhieni unigol
  • Budd-daliadau Profedigaeth. Mae’r rhain yn rhoi help i wŷr neu wragedd gweddw y mae eu gŵr, gwraig neu bartner sifil wedi marw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch pa fudd-daliadau a chredydau treth efallai y medrwch chi eu hawlio, gweler ein hadran ar Fudd-daliadau.

Budd-daliadau i bobl hŷn

Os ydych dros 60, efallai y byddwch yn medru cael peth help ychwanegol gyda chostau byw. Mae hyn yn cynnwys:

  • Credyd Pensiwn, os ydych ar incwm isel
  • Lwfans Gweini, os ydych dros 65 ac mae gennych anghenion gofal
  • help gyda chostau cludiant.

Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau efallai fedrwch chi eu cael os ydych dros 60, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg, Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl a Cludiant cyhoeddus.

Nôl i’r brig


Pobl eraill sy’n byw gyda chi

A oes unrhyw oedolion eraill yn byw yn eich cartref? Os oes oedolion eraill yn byw yn eich cartref, meddyliwch sut fedren nhw effeithio ar eich incwm.

Er enghraifft, a oes unrhyw un arall yn eich cartref sy’n ennill cyflog a fedrai gyfrannu mwy o’u cyflog?

Ar y llaw arall, ydych chi’n cael llai o fudd-daliadau neu’n colli allan ar fudd-dal yn gyfan gwbl am fod rhywun arall yn byw yn eich cartref sydd ddim angen byw gyda chi? Er enghraifft, os oes oedolyn arall yn rhannu’ch cartref, mae hyn yn medru effeithio ar y Budd-dal Tai a’r Budd-dal Treth Gyngor fedrwch chi ei gael.

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dal Tai, gweler Help gyda’ch rhent – Budd-dal Tai.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dal Treth Gyngor yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gweler Help gyda’ch treth gyngor - Budd-dal Treth Gyngor.

Yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda’ch rhent - Budd-dal Tai a Help gydag ardrethi.

Gosod ystafell

Ydych chi wedi meddwl am osod ystafell yn eich cartref i letywr? Os ydych yn berchen ar eich eiddo ac rydych yn talu treth incwm, efallai y byddwch yn medru cael hyd at £4,250 yn ddi-dreth o dan y cynllun rhentu ystafell.

Efallai y bydd angen i chi feddwl a fyddai cynyddu eich incwm fel hyn yn effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau. Efallai hefyd y bydd angen i chi gael caniatâd eich landlord neu fenthyciwr morgeisi a diweddaru eich yswiriant cartref.

Mae yna fanteision ac anfanteision eraill i’r cynllun ac efallai y dylech eu hystyried. Am fwy o wybodaeth, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, rhowch glic ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk

Yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar wefan NIDirect yn: (New window) www.nidirect.gov.uk.

Nôl i’r brig


Grantiau a benthyciadau

Grantiau sy’n helpu gyda chostau tanwydd, dŵr a biliau eraill y cartref

Mae gan y llywodraeth gynlluniau amrywiol sy’n darparu grantiau i helpu gyda chostau inswleiddio’r cartref a gwella effeithlonrwydd ynni i rai grwpiau penodol o bobl, gan gynnwys y rheiny ar incwm isel. Mae gosod inswleiddio a gwella effeithlonrwydd ynni yn medru helpu gostwng costau tanwydd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch grantiau i helpu gydag effeithlonrwydd ynni, gweler Costau tanwydd ac arbed arian.

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae rhai cwmnïau cyflenwi ynni wedi sefydlu ymddiriedolaethau elusennol annibynnol sy’n rhoi grantiau i rai o’u cwsmeriaid i’w helpu i dalu am ôl-ddyledion tanwydd. Efallai hefyd y byddwch yn medru cael grantiau i dalu am filiau eraill y cartref, fel dŵr.

I ddarganfod os fedrwch chi gael help, cliciwch ar:

Neu cysylltwch â’r cwmni sy’n cyflenwi eich ynni neu’ch dŵr.

Grantiau a benthyciadau’r llywodraeth i bobl sydd ar incwm isel

Efallai y byddwch yn medru cael help trwy’r Gronfa Gymdeithasol trwy grant gofal cymunedol, benthyciad argyfwng neu fenthyciad cyllidebu.

Am fwy o wybodaeth ynghylch grantiau’r Gronfa Gymdeithasol, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.

Grantiau eraill i bobl mewn angen

Mae yna sawl gwefan ddefnyddiol sy’n rhestru sefydliadau sy’n rhoi grantiau i bobl mewn angen. Er enghraifft, mae rhai elusennau’n rhoi grantiau i helpu pobl i dalu eu biliau neu brynu eitemau hanfodol. Rydych hefyd yn medru chwilio am elusennau sy’n helpu pobl sy’n aelodau, neu’n gyn-aelodau, o alwedigaethau penodol. Rhowch dro ar y gwefannau hyn:

Mae rhai undebau llafur hefyd yn rhoi help ariannol i gyn-aelodau ac aelodau presennol a’u teuluoedd. I ddarganfod os fedrwch chi gael help, cysylltwch â’ch undeb.

Nôl i’r brig


Plant, pobl ifanc a myfyrwyr

Os oes plant oed ysgol gennych, efallai y byddwch yn medru cael help ariannol ar gyfer pethau fel cinio ysgol, dillad a chostau teithio. Fe fydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau ysgol, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau ysgolion ac yn yr Alban gweler Help gyda chostau ysgol.

Os ydych yn byw ar wahân i riant arall eich plentyn, dylech holi i sicrhau eich bod yn cael yr holl gynhaliaeth plant fedrwch chi ei gael.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cynhaliaeth plant, gweler Cynhaliaeth plant.

Mae cymorth ariannol ar gael i rai pobl ifanc, er enghraifft, i:

  • helpu gyda chostau dysgu neu hyfforddiant
  • ddarparu help ychwanegol i rywun mewn swydd sydd â chyflog isel
  • gefnogi rhywun sy’n chwilio am swydd neu gwrs neu sy’n gofalu am rywun arall.

Efallai y bydd hawl gan bobl ifanc sy’n parhau mewn addysg ar ôl 16 oed i lwfans cynhaliaeth addysg i helpu talu am lyfrau, teithio a defnyddiau.

Yn Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch cymorth ariannol i bobl ifanc, gweler Help ariannol i fyfyrwyr 16-19 oed. Yng Nghymru, gweler Cyllid Myfyrwyr Cymru. Yn yr Alban, gweler Eich helpu i dalu costau dysgu. Yng Ngogledd Iwerddon, gweler Cymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch.

Mae gwybodaeth ynghylch cymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Nôl i’r brig


Yn y gwaith

Help gyda chostau gweithio

Efallai y byddwch yn medru cael peth help gyda chostau gweithio os ydych:

  • yn ddi-waith ac yn dechrau swydd newydd, neu
  • yn cynyddu eich oriau neu’ch cyflog, neu
  • yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl bod yn sâl neu’n anabl
  • ar gyflog isel.

Fe fydd rhai mathau o help yn dibynnu pa mor hir yr ydych wedi bod yn ddi-waith, ac mae rhai mathau o help ar gyfer pobl ar rai cynlluniau neu raglenni hyfforddiant gan y llywodraeth yn unig.

Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau gweithio, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy’n gweithio, neu holwch yn eich Canolfan Byd Gwaith.

Cyflog

Os ydych yn gweithio, mae gennych hawl cyfreithiol i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, waeth beth yw eich gwaith na phwy yw’ch cyflogwr. Mae’r swm yn amrywio gan ddibynnu ar eich oed.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gweler Hawliau i gyflog.

Efallai bod hawliau eraill gennych i gyflog hefyd, er enghraifft os nad ydych yn medru gweithio am eich bod i ffwrdd yn sâl neu i ffwrdd o’r gwaith ar gyfnod mamolaeth.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y cyflog sy’n ddyledus i chi, gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith.

Treth ac yswiriant gwladol

Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu’r swm cywir o dreth ac yswiriant gwladol.

Am fwy o wybodaeth, i weld os ydych yn talu’r swm cywir o dreth, gweler Codau treth.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yswiriant gwladol, gweler Yswiriant gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.

Rydych yn medru cael help gan gynghorydd profiadol i weld os ydych yn talu’r swm cywir o dreth neu yswiriant gwladol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I ddod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Mae gwybodaeth ar gael ynghylch sut i hawlio ad-daliad am unrhyw dreth incwm yr ydych wedi ei gordalu, ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn: (New window) www.hmrc.gov.uk.

Pethau eraill sy’n cael eu tynnu o’ch cyflog

Yn ogystal â threth ac yswiriant gwladol, efallai fod eich cyflogwr yn tynnu symiau eraill o arian o’ch cyflog. Dylech holi i sicrhau bod y symiau cywir yn cael eu tynnu.

Mae symiau eraill y mae’ch cyflogwr yn eu tynnu yn medru cynnwys:

  • taliadau o dan orchymyn llys. Mae hyn yn medru bod, er enghraifft, o dan orchymyn atafaelu enillion i ad-dalu dyled fel benthyciad gan y banc neu ôl-ddyledion rhent. Efallai y byddwch yn medru cyflwyno cais i’r llys i ostwng y swm yma. Dylech gael cyngor os ydych am wneud hyn
  • ad-dalu benthyciad myfyrwyr. Os yw cyfanswm eich cyflog ar gyfer y flwyddyn yn is na’r terfyn a osodwyd gan y Llywodraeth, efallai y byddwch yn medru hawlio ad-daliad a, unrhyw symiau a dynnwyd. Cysylltwch â’ch swyddfa dreth am fwy o wybodaeth ynglŷn â hyn
  • ad-dalu benthyciad gan eich cyflogwr.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cysylltu â’ch swyddfa dreth leol a sut i gael help gyda phroblemau treth, gweler Help gyda phroblemau treth.

Cael ail swydd

Efallai y byddwch yn medru cymryd ail swydd i’ch helpu dros y cyfnod anodd gyda’ch sefyllfa ariannol.

Fe fydd angen i chi feddwl am effeithiau cael mwy nag un swydd ar eich iechyd.

Fe fydd angen i chi feddwl hefyd am unrhyw effeithiau posib ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu hawlio am eich bod yn gweithio. Efallai y byddwch am gael cyngor ynglŷn â hyn gan gynghorydd profiadol.

Mae cynghorydd profiadol ar gael mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I ddod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Hawlio iawndal

Os ydych wedi cael eich diswyddo yn annheg gan eich cyflogwr neu mae eich cyflogwr wedi mynd i’r wal, efallai y byddwch yn medru hawlio iawndal neu gyflog heb ei dalu. Efallai y bydd eich undeb neu asiantaeth gyngor yn medru eich helpu gyda hyn. Dylech hefyd holi i weld os yw yswiriant eich cartref yn cynnwys cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim y medrech ei ddefnyddio i gael help i hawlio iawndal.

Nôl i’r brig


Pobl hunangyflogedig

Os ydych yn hunangyflogedig, fe fydd yn rhaid i chi anfon ffurflen dreth hunanasesiad at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi bob blwyddyn. Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda’ch treth, dylech gysylltu â’ch swyddfa dreth leol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch hunanasesiad, gweler Hunanasesiad.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cysylltu â’ch swyddfa dreth leol a sut i gael help gyda phroblemau treth, gweler Help gyda phroblemau treth.

Os ydych yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, efallai y bydd angen i chi gael cyngor proffesiynol ynghylch eich busnes, er enghraifft, gan gyfrifydd. Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae cyngor rhad ac am ddim ar gael hefyd gan Linell Dyled Busnes: (New window) www.bdl.org.uk neu ffoniwch 0800 197 6026.

Os ydych yn hunangyflogedig, fe fyddwch yn medru hawlio’r rhan fwyaf o’r un budd-daliadau â phobl gyflogedig. Ond, mae yna un eithriad. Efallai na fyddwch yn medru hawlio Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Ceisio Gwaith a hawlio budd-daliadau os ydych yn ddi-waith, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n chwilio am waith.

Nôl i’r brig


Cynilion

Llog di-dreth

Fel arfer, mae llog ar gynilion yn cael ei drethu. Mae yna rai pobl sydd ddim yn gorfod talu treth. Os ydych yn un ohonynt, dylech ofyn i’ch banc neu gymdeithas adeiladu am ffurflen R85. Byddwch yn medru ei llenwi a’i dychwelyd at eich cangen chi. Mae hyn yn osgoi’r angen i dalu treth ar eich cynilion. Efallai y byddwch hefyd yn medru hawlio treth yr ydych eisoes wedi ei thalu, yn ôl.

I ddarganfod mwy am sut i gael llog di-dreth ar gynilion a phwy sy’n medru ei gael, ewch at wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn: (New window) www.hmrc.gov.uk.

Cael y gyfradd llog orau

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y gyfradd llog orau ar eich cynilion. Darllenwch unrhyw amodau a thelerau yn ofalus i sicrhau mai dyma yr ydych ei eisiau. Os nad ydych yn siŵr o unrhyw beth, holwch y darparwr neu mynnwch gyngor ariannol annibynnol.

Efallai y bydd gwybodaeth ddefnyddiol ar gael gan linell gymorth Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian ar 0300 500 5000. Am fwy o wybodaeth ynghylch y llinell gymorth, rhowch glic ar y wefan yn: (New window) www.moneyadviceservice.org.uk.

Rydych hefyd yn medru defnyddio tablau cymharu cynilion a buddsoddiadau Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian i chwilio am y ddêl orau ar gynilion a buddsoddiadau. Rhowch glic ar: (New window) www.moneyadviceservice.org.uk.

Nôl i’r brig


Hawliadau yswiriant, iawndal ac ad-daliadau

Gwiriwch unrhyw bolisïau yswiriant i weld os ydych yn medru hawlio. Er enghraifft, os ydych yn cael trafferth ad-dalu benthyciad, cerdyn siop neu forgais, efallai y byddwch yn dod o dan Yswiriant Diogelu Taliadau. Ond, dylech gofio bod hawlio yn medru effeithio ar y swm y byddwch yn ei dalu am eich yswiriant yn y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch hawlio ar eich yswiriant, gweler Yswiriant.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Yswiriant Diogelu Taliadau, gweler Yswiriant Diogelu Taliadau yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a debyd.

Os ydych yn cael gwasanaeth gwael, yn cael anaf neu mae pethau’n anghyfleus mewn unrhyw ffordd, efallai y byddwch yn medru hawlio iawndal neu ad-daliad. Efallai y bydd asiantaeth gyngor yn medru eich helpu i anfon llythyr cwyn, hawlio, neu eich rhoi chi mewn cysylltiad â rhywun arall sy’n medru helpu.

Efallai y bydd eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn medru eich helpu. I gael manylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Benthyg arian

Efallai y byddwch yn medru benthyg arian i’ch cael chi trwy gyfnod anodd. Os ydych yn mynd i fenthyg arian, mae angen i chi ei wneud yn synhwyrol. Mae hyn yn golygu, cyn i chi lofnodi unrhyw beth, y dylech chwilio am y fargen orau a sicrhau eich bod yn medru fforddio’r ad-daliadau.

Gwnewch restr o incwm a chostau eich cartref i weld faint fedrwch chi fforddio ei ad-dalu bob mis. Peidiwch â chymryd benthyciad a fydd yn costio fwy na hyn i chi.

Fe allwch chi ddefnyddio ein Taflen gyllidebu i’ch helpu i gyfrifo faint o incwm a gwariant sydd gan eich cartref. Gweler y taflenni ffeithiau ar gredyd a debyd.

Am gyngor pellach ar sut i fenthyg arian yn synhwyrol, rhowch glic ar wefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: (New window) www.moneyadviceservice.org.uk.

Os ydych ar incwm isel neu fudd-daliadau, efallai y byddwch yn medru cael benthyciad gan y Gronfa Gymdeithasol neu fenthyg yn ddiogel gan undeb credyd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y Gronfa Gymdeithasol, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.

Mae undeb credyd yn gydweithfa hunan-help ac mae ei aelodau yn cronni eu cynilion i roi credyd i’w gilydd ar gyfradd llog isel. Am fwy o wybodaeth ynghylch undebau credyd, rhowch glic ar wefan Cymdeithas Undebau Credyd Prydain yn: (New window) www.abcul.org.

Yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar wefan cynghrair undebau credyd Iwerddon yn: (New window) www.creditunion.ie, neu ffederasiwn undebau credyd Ulster yn: (New window) www.ufcu.co.uk.

Nôl i’r brig


Rhentu’ch garej allan

Os ydych yn byw mewn ardal ble mae parcio’n broblem, efallai y byddwch yn medru rhentu eich garej neu ofod parcio allan. Cofiwch, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar unrhyw incwm a gewch drwy wneud hyn, ac efallai y bydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu hawlio.

Nôl i’r brig


Gwerthu pethau sy’n eiddo i chi

Os ydych yn berchen ar unrhyw beth nad ydych ei eisiau mwyach, efallai y gallech ei werthu i godi arian. Dyma rai llefydd ble rydych yn medru gwneud hyn:

  • mewn gwerthiant cist car
  • mewn gwerthiant garej
  • ar safle ocsiwn ar y rhyngrwyd fel e-bay
  • trwy hysbysebu mewn ffenestr siop leol neu bapur newydd.

Pan fyddwch chi’n disgrifio’r eitem yr ydych yn ei gwerthu, rhaid i’r disgrifiad fod yn gywir. Dylech ddarllen unrhyw amodau a thelerau a bod yn arbennig o ofalus os ydych yn gwerthu dros y rhyngrwyd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwerthu pethau’n breifat, yng Nghymru a Lloegr, gweler Gwerthu’n breifat a gwerthu o gist car yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.

Am fwy o wybodaeth ynghylch prynu a gwerthu oddi ar safleoedd ocsiwn ar y we, gweler Prynu ar safleoedd ocsiwn ar y we.

Nôl i’r brig


Help pellach

Mae mwy o help ar gael o’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol, i chwilio am ffyrdd o gynyddu eich incwm, gan gynnwys sut i hawlio budd-daliadau a chredydau treth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Os ydych yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, mae yna sawl ffordd i chi dorri i lawr ar eich gwariant ac arbed arian. I gael syniadau defnyddiol ar arbed arian, gweler Sut i wario llai.

Os ydych mewn dyled ac angen help i’w sortio, gweler Help gyda dyled.

Cyngor ariannol annibynnol

Efallai y bydd cynghorydd ariannol annibynnol yn medru eich helpu i gael mwy allan o’ch arian neu arbed ar gostau. Er enghraifft, efallai y bydd yn medru rhoi cyngor i chi ar sut i gael y ddêl orau ar eich cynilion neu’ch morgais. Mae’r sefydliadau canlynol yn medru eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd ariannol annibynnol:

Independent Financial Promotions (IFAP)

Gwefan: (New window) www.unbiased.co.uk

Institute of Financial Planning (IFP)

Ffôn: 0117 945 2470
E-bost: enquiries@financialplanning.org.uk
Gwefan: (New window) www.financialplanning.org.uk

Personal Finance Society (PFS)

E-bost: customer.serv@thepfs.org
Gwefan: (New window) www.findanadviser.org

Nôl i’r brig


Nationwide logo