Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Opsiynau ar gyfer delio â dyled

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon

Opsiynau ar gyfer delio â dyled

Mae’r dudalen hon yn esbonio’r opsiynau a fydd gennych o bosib ar gyfer delio â’ch dyledion.

Bydd eich opsiynau yn dibynnu ar b’un ai bod gennych unrhyw arian i ad-dalu eich dyledion neu beidio.

Am fwy o wybodaeth am sut i gyfrifo p’un ai bod gennych ddigon o arian i ad-dalu eich dyledion neu beidio, gweler Sut i ddelio â’ch dyledion.

Os oes gennych arian i ad-dalu eich dyledion

Os oes gennych ddigon o arian i ad-dalu eich dyledion, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn delio ag unrhyw ddyledion brys yn gyntaf. Mae rhai dyledion yn fwy brys nag eraill oherwydd bod y canlyniadau o beidio â’u talu yn fwy difrifol. Gelwir y dyledion hyn yn ddyledion â blaenoriaeth. Maen nhw’n cynnwys pethau fel dyledion morgais, rhent a’r dreth gyngor.

I wybod os oes gennych unrhyw ddyledion â blaenoriaeth, gweler Sut i ddelio â’ch dyledion.

I wybod sut y dylech ddelio â dyledion â blaenoriaeth, gweler Sut i ddelio â’ch credydwyr.

Yn ogystal â dyledion â blaenoriaeth, mae’n bosib bod gennych fathau eraill o ddyledion o’r enw dyledion heb flaenoriaeth. Mae dyledion heb flaenoriaeth yn cynnwys:

  • gordaliadau budd-daliadau
  • dyledion credyd megis gorddrafftiau, benthyciadau personol, hurbrynu, cyfrifon cardiau credyd a chatalogau
  • benthyciadau myfyrwyr
  • arian a fenthyciwyd oddi wrth ffrindiau neu deulu
  • cosbau parcio a gyhoeddwyd gan awdurdodau lleol.

Nid yw’r mathau hyn o ddyledion mor bwysig â dyledion â blaenoriaeth. Ni allwch gael eich anfon i’r carchar neu gael eich cartref wedi’i adfeddiannu am beidio â’u talu – er gellir cymryd eiddo a brynoch drwy gytundeb hurbrynu.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi wneud trefniadau i ad-dalu dyledion heb flaenoriaeth os oes gennych unrhyw arian yn weddill ar ôl talu unrhyw ddyledion â blaenoriaeth. Os nad ydych yn gwneud trefniadau i ad-dalu dyledion â blaenoriaeth, gall eich credydwyr ddwyn achos llys yn eich erbyn a chymryd camau pellach fel defnyddio beilïaid i gymryd eich eiddo.

Nid yw dyledion heb flaenoriaeth yn cynnwys benthyciadau wedi’u gwarantu. Mae’r rhain yn fenthyciadau sydd wedi’u gwarantu yn erbyn eich cartref neu eiddo arall. Gallwch golli’r eiddo hwn os nad ydych yn ad-dalu benthyciad wedi’i warantu.

Am fwy o wybodaeth am fenthyciadau wedi’u gwarantu, gweler Morgeisi a benthyciadau wedi’u gwarantu.

Os oes gennych unrhyw arian i ad-dalu dyledion heb flaenoriaeth, bydd angen i chi feddwl am y ffordd orau o wneud hyn. Mae’n bosib bod gennych sawl opsiwn, gan gynnwys:

Dylech ystyried holl fanteision ac anfanteision yr opsiynau hyn yn ofalus. Mynnwch gymaint o wybodaeth ag y gallwch cyn penderfynu a pheidiwch â llofnodi unrhyw beth tan eich bod yn siŵr mai hwn yw’r opsiwn gorau ar eich cyfer chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mynnwch gyngor.

Bydd eich Canolfan Cyngor ar Bopeth yn eich helpu chi gyda’ch opsiynau. I chwilio am fanylion am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Os nad oes gennych arian yn weddill i ad-dalu eich dyledion

Os nad oes gennych unrhyw arian yn weddill i ad-dalu eich dyledion ac nid yw eich amgylchiadau yn debygol o wella yn fuan, ni fydd gennych lawer o opsiynau ar gyfer delio â’ch dyledion. Mae’n bosib mai dyma’r opsiynau fydd gennych:

Nôl i’r brig


Cynlluniau rheoli dyledion

Os oes gennych ddigon o arian yn weddill ar ôl talu eich credydwyr â blaenoriaeth a’ch costau hanfodol, mae’n bosib y gallwch drefnu cynllun rheoli dyledion.

I wybod mwy am gredydwyr â blaenoriaeth a sut i gyfrifo p’un ai bod gennych ddigon o arian i dalu eich dyledion neu beidio, gweler Sut i ddelio â’ch dyledion.

Mae cynllun rheoli dyledion yn drefniant gyda’ch credydwyr i ad-dalu eich dyled mewn rhandaliadau rheolaidd. Yn hytrach na siarad â’ch credydwyr eich hun i drefnu’r cynllun, mae Cwmni Rheoli Dyledion (DMC) yn ei wneud ar eich rhan. Mae’n rhaid i chi fel arfer dalu am y gwasanaeth hwn er nad yw pob DMC yn codi tâl, megis Gwasanaeth Cynghori Credyd Defnyddwyr (CCCS) a Payplan.

Mae’r manteision o ddefnyddio DMC fel y ganlyn:

  • rydych yn gwneud un taliad uniongyrchol i’r DMC. Maen nhw’n dosbarthu’r arian yn deg i’ch holl gredydwyr
  • nid oes yn rhaid i chi gysylltu â’ch credydwyr eich hun, bydd y DMC yn gwneud hyn ar eich cyfer.

Fodd bynnag, mae yna anfanteision o ddefnyddio DMC:

  • mae’r rhan fwyaf o Gwmnïau Rheoli Dyledion yn codi ffi sy’n gallu bod yn uchel. Mae hyn yn eich gadael gyda llai o arian i ad-dalu eich dyledion
  • mae’r rhan fwyaf o Gwmnïau Rheoli Dyledion yn codi ffi gweinyddu i’r cwsmer bob mis. Mae hyn yn eich gadael gyda llai o arian i ad-dalu eich dyledion
  • mae rhai Cwmnïau Rheoli Dyledion yn cymryd eich taliad misol cyntaf fel ffi. Mae hyn yn golygu bod gennych fis neu fwy o ôl-ddyledion. Cofnodir yr ôl-ddyledion hyn ar eich ffeil credyd (see under heading Sut mae dyled yn effeithio ar eich cofnod credyd)
  • mae Cwmnïau Rheoli Dyledion yn delio â dyledion heb flaenoriaeth yn unig ac felly mae’n rhaid i chi ddelio â’r dyledion pwysicaf sydd â blaenoriaeth ar eich pen eich hun
  • nid yw’r mwyafrif o Gwmnïau Rheoli Dyledion yn rhoi budd-daliadau neu gyngor ariannol felly mae’n bosib na dderbyniwch wybodaeth bwysig am eich materion ariannol.

Os ydych yn defnyddio DMC, gwiriwch y cytundeb yn ofalus cyn llofnodi unrhyw beth. Gwiriwch y canlynol:

  • p’un ai y gallwch ganslo unrhyw bryd os ydych yn anfodlon gyda’r gwasanaeth
  • beth yw’r ffioedd
  • p’un ai cewch y ffi yn ôl os ydych yn canslo
  • pa gredydwyr y bydd y DMC yn cysylltu â nhw ar eich rhan a pha rhai y bydd angen i chi ymdrin á nhw

Os ydych yn meddwl am ddefnyddio Cwmni Rheoli Dyledion, mae’n bosib yr hoffech gyngor gan ymgynghorydd arbenigol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Gorchmynion Gweinyddu

Mae’n bosib y gallwch wneud cais i’r llys sirol i gyfuno eich holl ddyledion heb flaenoriaeth er mwyn medru gwneud un taliad fforddiadwy rheolaidd bob mis. Gelwir hyn yn Orchymyn Gweinyddu.

Bydd yn rhaid bod gennych ddigon o arian yn weddill ar ôl talu eich credydwyr â blaenoriaeth a’ch holl gostau hanfodol.

I wybod mwy am gredydwyr â blaenoriaeth a sut i gyfrifo p’un ai bod gennych ddigon o arian i ad-dalu eich dyledion neu beidio, gweler Sut i ddelio â’ch dyledion.

Gallwch wneud cais am Orchymyn Gweinyddu os yw cyfanswm eich dyledion yn llai na £5,000 a bod gennych ddyfarniad llys sirol (CCJ) yn eich erbyn. Mae’r llys yn penderfynu ar swm teg sy’n ddibynnol ar eich incwm. Gall y llys gytuno eich bod yn talu dim ond rhan o gyfanswm eich dyledion. Gorchymyn cyfansoddi yw’r enw arno.

Pan gaiff y gorchymyn ei gymeradwyo gan y llys, rydych yn gwneud un taliad rheolaidd i’r llys ac ni all eich credydwyr gymryd camau pellach i adennill eu harian, cyhyd â’ch bod yn cadw at y taliadau.

Cewch ffurflen gais am Orchymyn Gweinyddu gan eich llys sirol lleol. Cewch fanylion eich llys sirol lleol ar wefan Gwasanaeth Llysoedd EM: www.hmcourts-service.gov.uk. Gallwch hefyd lawrlwytho copi o’r ffurflen gais drwy glicio ar: www.hmcourts-service.gov.uk.

Nid oes yn rhaid i chi dalu ffi am wneud cais am Orchymyn Gweinyddu. Bydd y llys yn didynnu ffi gweinyddu bob tro y gwnewch daliad.

Os ydych yn ystyried gwneud cais am Orchymyn Gweinyddu, mae’n bosib y byddwch am gael cyngor ymgynghorydd arbenigol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Trefniadau Gwirfoddol Annibynnol (IVAs)

Os oes gennych ddigon o arian yn weddill ar ôl talu eich credydwyr â blaenoriaeth a’ch costau hanfodol, mae’n bosib y gallwch drefnu Trefniant Gwirfoddol Annibynnol (IVA).

I wybod mwy am gredydwyr â blaenoriaeth a sut i gyfrifo p’un ai bod gennych ddigon o arian i ad-dalu eich dyledion neu beidio, gweler Sut i ddelio â’ch dyledion.

Trefniant Gwirfoddol Annibynnol yw cytundeb cyfreithiol gyda chredydwyr (fel arfer credydwyr heb flaenoriaeth) i ad-dalu eich dyledion. Gallai fod ar gyfer eich dyledion i gyd neu ran ohonynt. Caiff y trefniant hwn ei drafod, ei ysgrifennu a’i wirio’n rheolaidd gan gyfreithiwr neu gyfrifydd annibynnol o’r enw Ymarferwr Ansolfedd. Nid oes yn rhaid i bob credydwr gytuno ar IVA cyhyd â bod y credydwr y mae arnoch 75% o’ch dyled iddo yn cytuno.

Enghraifft:

Cyfanswm eich dyled yw £100,000. Mae gennych dri chredydwr:

Credydwr A (£6,000)

Credydwr B (£70,000)

Credydwr C (£20,000)

Nid oes gwahaniaeth nad yw Credydwr C yn cytuno ar IVA oherwydd bod Credydwyr A a B wedi cytuno a rhyngddynt mae ganddynt 75% o’r ddyled. Fodd bynnag, mae’n rhaid i Gredydwr C gydymffurfio â thelerau’r IVA.

Gall y gost o lunio IVA fod yn uchel ac mae’n bosib y bydd angen i chi dalu ffi o flaen llaw. Os nad ydych yn cadw at y taliadau, gellir eich gwneud yn fethdalwr.

Os ydych yn ystyried cael Cytundeb Gwirfoddol Annibynnol, mae’n bosib y byddwch am gael cyngor ymgynghorydd arbenigol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Codi un benthyciad i dalu nifer o ddyledion - cyfuno

Os oes gennych ddigon o arian yn weddill ar ôl talu eich credydwyr â blaenoriaeth a’ch costau hanfodol, gallech feddwl am godi benthyciad newydd i ad-dalu eich dyledion heb flaenoriaeth. Benthyciad cyfuno yw’r enw arno.

I wybod mwy am gredydwyr â blaenoriaeth a sut i gyfrifo p’un ai bod gennych ddigon o arian i ad-dalu eich dyledion neu beidio, gweler Sut i ddelio â’ch dyledion.

Gallwch ddefnyddio benthyciad cyfuno i ad-dalu pethau fel dyled cerdyn credyd a benthyciadau.

Fel arfer nid yw’n syniad da i fenthyg mwy o arian i ad-dalu’r dyledion sydd gennych eisoes oherwydd gallai waethygu eich sefyllfa a chostio mwy yn yr hirdymor. Mae llawer o gredydwyr yn gofyn bod y benthyciad newydd yn cael ei warantu yn erbyn eich cartref. Mae hyn yn golygu y gallwch golli eich cartref os nad ydych yn cadw at y taliadau.

Fodd bynnag, os allwch fforddio’r ad-daliadau, os yw eich sefyllfa ariannol yn sefydlog ac os allwch reoli eich arian yn dda, gallai fod yn opsiwn.

Os ydych yn ystyried benthyg i ad-dalu eich dyledion:

  • sicrhewch fod gennych ddigon o arian ar ôl yn eich cyllideb i fforddio’r ad-daliadau
  • sicrhewch eich bod yn gallu fforddio’r ad-daliadau dros oes y benthyciad
  • chwiliwch am y cynlluniau gorau
  • peidiwch â benthyg mwy na’r swm sydd ei angen arnoch
  • os ydych yn codi benthyciad cyfuno i ad-dalu benthyciad cerdyn credyd, sicrhewch eich bod yn cau cyfrif y cerdyn credyd a pheidiwch â defnyddio eich cerdyn mwyach.

Os ydych yn codi benthyciad cyfuno, gofalwch nad oes gennych fwy o ddyled na faint oedd gennych yn wreiddiol. Peidiwch â benthyg gan siarc benthyg (rhywun sy’n benthyca heb drwydded. Mae’n hyn yn erbyn y gyfraith). Gallwch riportio siarcod benthyg drwy ffonio llinell gymorth gyfrinachol: 0300 555 2222.

Dylech bob amser gael cyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol cyn llofnodi cytundeb ar gyfer benthyciad newydd. Sicrhewch fod yr ymgynghorydd ariannol yn cael ei reoli gan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (FSA). Gallwch wirio hyn drwy edrych ar wefan yr FSA yn www.fsa.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth am sut i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol, gweler Cynyddu eich incwm.

Nôl i’r brig


Gofyn i ddileu eich dyled

Os nad oes gennych unrhyw arian yn weddill i ad-dalu eich dyledion, gallai eich credydwyr gytuno i’w dileu. Mae hyd yn oed yn bosib na fyddant yn cymryd camau pellach yn eich erbyn.

I wybod sut i gyfrifo p’un ai bod gennych ddigon o arian i ad-dalu eich dyledion neu beidio, gweler Sut i ddelio â’ch dyledion.

Bydd eich credydwyr yn dileu eich dyled dim ond mewn amgylchiadau eithriadol. Mae'n fwy tebygol o ddigwydd os oes gennych incwm isel, os yw eich sefyllfa yn eithriadol o anodd ac yn annhebygol o wella. Er enghraifft, os oes gennych broblemau iechyd difrifol hirdymor neu os ydych yn hen iawn.

Fel arfer bydd yn rhaid i chi ddangos tystiolaeth o’ch sefyllfa, er enghraifft, tystiolaeth feddygol, cyn bydd eich credydwyr yn cytuno. Os yw credydwyr yn cytuno, gofynnwch iddynt ei roi yn ysgrifenedig.

Mae’n bosib y bydd rhai credydwyr am i’ch ymgynghorydd ofyn am hyn ar eich rhan. Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth wneud hyn ar eich rhan. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Gorchmynion rhyddhad dyledion

Mae Gorchmynion Rhyddhad Dyledion ar gael yn Lloegr a Chymru yn unig.

Gallwch wneud cais am orchymyn rhyddhad dyledion os na allwch fforddio ad-dalu eich dyledion. Caiff ei ganiatáu gan y Gwasanaeth Ansolfedd ac mae’n ffordd ratach na methdaliad.

Mae fel arfer yn para blwyddyn ac yn ystod yr amser hwn, nid oes unrhyw un o’ch credydwyr yn gallu cymryd camau yn eich erbyn i adennill eu harian. Ar ddiwedd y flwyddyn, cewch eich rhyddhau o unrhyw ddyledion sydd wedi’u rhestru ar y gorchymyn.

Pwy sy’n gymwys am orchymyn rhyddhad dyledion

Rydych yn gymwys am orchymyn rhyddhad dyledion os ydych yn ateb yr amodau canlynol:

  • mae gennych ddyledion o £15,000 neu lai
  • mae gennych incwm misol sbâr o £50 neu lai ar ôl talu eich biliau cartref arferol
  • mae gwerth y pethau sy’n eiddo i chi (eich asedau) a’ch cynilion yn £300 neu lai. Nid yw hyn yn cynnwys eich car cyhyd â’i fod gwerth llai na £1,000
  • nid ydych wedi cael eich datgan yn fethdalwr yn ddiweddar neu wedi defnyddio math arall o weithdrefn ansolfedd megis Trefniant Gwirfoddol Annibynnol.

Gallwch wneud cais am orchymyn rhyddhad dyledion dim ond trwy ymgynghorydd awdurdodedig.

Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth eich rhoi mewn cysylltiad ag ymgynghorydd awdurdodedig. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth am Orchmynion Rhyddhad Dyledion yn Lloegr a Chymru, gweler Gorchmynion gostwng dyled.

Nôl i’r brig


Methdaliad

Os nad oes gennych unrhyw arian yn weddill ar ôl talu eich dyledion, neu os bydd yn cymryd llawer o flynyddoedd i ad-dalu eich dyledion oherwydd bod gennych gyn lleied o arian, dylech ystyried methdaliad.

I wybod mwy am sut i gyfrifo p’un ai bod gennych ddigon o arian i ad-dalu eich dyledion neu beidio, gweler Sut i ddelio â’ch dyledion.

Gall methdaliad gymryd y pwysau o ddelio â chredydwyr oddi wrthoch. Mae’r hawl gennych i gadw rhai pethau, megis nwyddau’r cartref a swm rhesymol o arian ar gyfer eich bywyd bob dydd.

Pan fydd y gorchymyn methdaliad yn dod i ben, gallwch ddechrau o’r newydd ac fel arfer caiff eich dyledion eu dileu. Mewn llawer o achosion, gall hyn ddigwydd ar ôl blwyddyn. Pan gaiff Gorchymyn Methdaliad ei gyflwyno, mae’n rhaid i gredydwyr stopio bron pob math o achos llys sy’n ymwneud ag adennill eu harian (ond mewn rhai achosion gallai’r beilïaid gymryd eich eiddo).

Am fwy o wybodaeth am fethdaliad yn Lloegr a Chymru, gweler Methdaliad.

Os ydych yn meddwl am fethdaliad, dylech gael cyngor gan ymgynghorydd profiadol. Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth Leol eich cynghori ar fethdaliad. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Os yw eich dyledion a’ch incwm yn is na swm penodol, mae’n bosib y byddwch am ystyried ceisio am orchymyn rhyddhad dyledion yn hytrach na methdaliad. Mae’n opsiwn rhatach.

Nôl i’r brig


Cymorth a gwybodaeth ychwanegol am ddyled

Yn Adviceguide

Cewch hyd i fwy o wybodaeth am sut i ddelio â dyled ar y tudalennau Adviceguide canlynol:

Podlediad ar opsiynau ar gyfer delio â dyled

Cyfle i wrando ar wybodaeth ynghylch opsiynau ar gyfer delio â’ch dyledion. Cliciwch ar y botwm isod ac fe fydd yr wybodaeth lafar yn chwarae ar unwaith ac yn para tua 3 munud.

Canolfannau cyngor ariannol a chanolfannau’r gyfraith

Mae cymorth gyda phroblemau dyled ar gael gan y Canolfannau Cyngor Ariannol a Chanolfannau’r Gyfraith.

Cewch hyd i gyfeiriadau a rhifau ffôn y Canolfannau Cyngor Ariannol a Chanolfannau’r Gyfraith yn y llyfr ffôn. Neu edrychwch ar wefan y Cyngor Cyfreithiol Cymunedol: www.communitylegaladvice.org.uk.

Gall gwefan Ffederasiwn Canolfannau’r Gyfraith hefyd eich helpu i ddod o hyd i’r ganolfan gyfraith agosaf. Ewch at www.lawcentres.org.uk.

National Debtline

Gall y National Debtline roi gwybodaeth rad ac am ddim i bobl sy’n byw yn Lloegr a Chymru. Mae hefyd yn darparu pecyn gwybodaeth ar sut i ddelio â dyled. Mae’r llinell ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00 tan 9.00 ac ar ddydd Sadwrn o 9.30 tan 1.00. Rhif ffôn y National Debtline yw 0808 808 4000 a’r wefan yw www.nationaldebtline.co.uk.

Cyngor Cyfreithiol Cymunedol

Mae gan Gyngor Cyfreithiol Cymunedol linell gymorth sy’n cynnig cyngor i bobl sydd mewn dyled ac sydd ar incwm isel neu fudd-daliadau. Cewch hefyd hyd i gymorth ar nifer o bynciau eraill megis cyflogaeth, budd-daliadau, credydau treth a thai.

Rhif y llinell gymorth yw 0845 345 4 345. Mae ar agor rhwng 9am ac 8.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 12.30pm ar ddydd Sadwrn. Os ydych yn ffonio cyn neu ar ôl yr amser hwn, gallwch adael neges a bydd rhywun yn dychwelyd eich galwad yn ystod y diwrnod gwaith nesaf. Nid yw galwadau yn costio mwy na 4c y funud o ffôn tir BT ond mae galwadau ffôn symudol fel arfer yn costio mwy.

Gwasanaeth Cynghori Credyd Defnyddwyr (CCCS)

Mae CCCS yn elusen gofrestredig sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth cyfrinachol rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n pryderu am ddyledion. Mae gan CCCS:

  • linell gymorth radffôn sef 0800 138 1111 lle gallwch siarad ag Ymgynghorydd Dyled
  • wefan lle cewch hyd i wybodaeth am sut i ddelio â’ch dyledion sef: www.cccs.co.uk
  • offeryn Datrys Dyledion ar-lein. Mae’n gofyn cyfres o gwestiynau i chi ynglŷn â’ch cartref, eich incwm a’ch gwariant ac yna’n cynnig ffordd o ddatrys eich dyledion sydd wedi’i theilwra yn arbennig ar gyfer eich amgylchiadau personol chi. Ewch at www.cccs.co.uk.

Payplan

Cwmni annibynnol yw Payplan sy’n cynnig cyngor a datrysiadau rhad ac am ddim ar gyfer dyled, er enghraifft cynlluniau rheoli dyled. Pan fyddwch chi’n cysylltu â Payplan, fe fydd cynghorydd yn edrych ar eich sefyllfa ariannol ac yn eich helpu i benderfynu ar yr opsiwn gorau i sortio’ch dyledion. Os yw’r opsiwn o ad-dalu yn addas, maen nhw’n medru eich helpu i fynd at eich credydwyr gyda chynllun ad-dalu, a dosbarthu taliadau ar eich rhan hyd nes bod y dyledion wedi cael eu had-dalu.

Cysylltwch â Payplan ar radffôn: 0800 716 239 , neu ewch at: www.payplan.com.

Business Debtline

Yn Lloegr a Chymru, mae Business Debtline yn wasanaeth cyngor pwrpasol ar gyfer busnesau bychain. Cewch hyd i’w fanylion cyswllt ar ei wefan sef www.bdl.org.uk neu drwy ffonio 0800 197 6026.

Adviceni

Mae Adviceni yn rhwydwaith o asiantaethau sy’n rhoi cyngor yng Ngogledd Iwerddon. Cewch hyd i’w fanylion cyswllt ar ei wefan www.adviceni.net neu ffoniwch nhw ar 028 9064 5919.

Taflenni

Os hoffech daflenni sy’n rhoi gwybodaeth am ddyled a chymorth gyda’ch arian yn Lloegr a Chymru, gweler:

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback