Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Trefniadau Gwirfoddol Annibynnol (IVAs)

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru

Ynglŷn â Threfniadau Gwirfoddol Annibynnol (IVAs)

Os ydych chi mewn dyled fe fydd angen i chi gymryd camau i’w ddatrys. Un opsiwn allai fod yn agored i chi ydyw trefnu Trefniant Gwirfoddol Annibynnol (IVA).

Mae IVA yn ddewis arall i fethdaliad. Mae’n drefniant ffurfiol rhyngoch chi a’ch credydwyr, y bobol y mae arnoch chi arian iddynt. Mae’n caniatáu i chi ad-dalu rhan o’ch dyledion dros gyfnod penodol o amser, fel arfer pum mlynedd.

Nid yw IVAs yn addas i bawb. Maen nhw’n gwarchod rhai mathau o ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth yn unig megis gorddrafftiau, benthyciadau personol nad ydynt wedi’u gwarantu yn erbyn eich cartref a chyfrifon cardiau credyd. Maen nhw hefyd yn addas ar gyfer pobol sydd:

  • ag incwm dros ben o £200 neu fwy'r mis
  • ag arnyn nhw arian i ddau neu fwy o gredydwyr. Nid yw dyledion i’r un credydwr yn cyfrif fel dyledion ar wahân
  • yn methu cadw at y cytundeb gwreiddiol o ad-dalu’r arian sy’n ddyledus ganddynt.

Os ydych chi am drefnu IVA, bydd yn rhaid i chi ddod o hyd i ymarferydd ansolfedd cofrestredig fydd yn eich helpu i roi at ei gilydd gynllun i ddatrys eich holl ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth. Gelwir y cynllun hwn yn gynnig.

Bydd yr ymarferydd ansolfedd yn galw cyfarfod credydwyr lle bydd y credydwyr yn pleidleisio ar dderbyn y cynnig ai peidio.

Os bydd digon o gredydwyr yn pleidleisio o blaid, derbynnir y cynnig.

Bydd y canlyniad yn cael ei adrodd yn ôl i lys fydd yn cymeradwyo’r IVA.

Unwaith y bydd eich IVA wedi’i gymeradwyo, bydd eich ymarferydd ansolfedd yn gyfrifol am sicrhau fod pob ochr yn cadw at y cytundeb ac yn cymryd camau os nad ydynt.

Cyhyd â’ch bod yn cadw at y cytundeb, ni all eich credydwyr gymryd camau yn eich erbyn.

Sut bynnag, gall fod perygl i’ch cartref a phethau eraill o werth yr ydych yn berchen arnynt (eich asedau) o hyd, hyd yn oed os ydych chi wedi cytuno i IVA gyda’ch credydwyr.

Mae yna opsiynau eraill i ddatrys eich dyledion ar wahân i IVAs. Am fwy o wybodaeth am y rhain, gweler Pa bryd mae IVA yn opsiwn da.

Nôl i’r brig


Pa fath o ddyledion mae IVAs yn eu gwarchod

Mae IVAs yn gwarchod dyledion i gredydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth yn unig. Mae hyn yn cynnwys dyledion megis:

  • gordaliadau budd-daliadau
  • dyledion credyd megis gorddrafftiau, benthyciadau personol heb eu gwarantu, cyfrifon cardiau credyd a chatalogau
  • hur-bwrcais. Os yw’r hur-bwrcais ar gyfer eitem hanfodol fel car i helpu person anabl i fynd o le i le, fe allwch geisio trafod gyda chredydwyr i’w adael allan o’r IVA
  • taliadau dŵr a charthffosiaeth
  • benthyciadau myfyrwyr
  • arian a fenthyciwyd oddi wrth deulu neu ffrindiau
  • cosbau parcio a roddwyd gan awdurdodau lleol.

Nid yw IVAs yn gwarchod dyledion i gredydwyr blaenoriaethol. Mae hyn yn cynnwys dyledion megis:

  • morgeisi
  • benthyciadau wedi’u gwarantu yn erbyn eich cartref
  • ôl-ddyledion treth gyngor
  • ôl-ddyledion rhent
  • dirwyon llys
  • ôl-ddyledion cynhaliaeth neu gynnal plant
  • ôl ddyledion treth incwm, TAW neu drwydded teledu.

Os oes gennych ddyledion blaenoriaethol, fe ddylech wneud yn siŵr fod gennych ddigon o arian i dalu’r rhain yn gyntaf, cyn hyd yn oed ystyried trefnu IVA.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddatrys eich dyledion, gan gynnwys beth yr ystyrir yn ddyledion blaenoriaethol a’r rhai nad ydynt yn flaenoriaeth, gweler Sut i ddatrys eich dyledion.

Nôl i’r brig


Pa bryd mae IVA yn opsiwn da

Mae IVA yn ddewis arall yn lle methdaliad. Fe all fod yn opsiwn gwell na methdaliad os:

  • yw’ch problemau ariannol yn rhai dros dro neu yn y tymor byr
  • nad ydych am wneud eich hun yn fethdalwr
  • ydych am osgoi i gredydwr eich gwneud yn fethdalwr
  • ydych am arbed pethau sydd o werth (eich asedau), y byddech chi’n eu colli petaech chi’n mynd yn fethdalwr.

Nid yw IVAs yn addas ar gyfer pawb. Maen nhw’n gwarchod mathau arbennig o ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth yn unig megis gorddrafftiau, benthyciadau personol heb eu gwarantu, cyfrifon cardiau credyd a chatalogau. Os oes gennych ddyledion blaenoriaethol megis morgais, ôl ddyledion rhent ac ôl-ddyledion hur bwrcasu, bydd rhaid i chi wneud trefniadau eraill i dalu’r rhain.

Mae yna amodau arbennig eraill y mae’n rhaid i chi gwrdd â nhw cyn trefnu IVA. Fe fyddwch yn gallu trefnu IVA dim ond:

  • os oes gennych incwm dros ben o £200 neu fwy bob mis
  • os oes arnoch chi arian i ddau neu fwy o gredydwyr. Nid yw dyledion sy’n ddyledus i’r un credydwr yn cyfrif fel dyledion ar wahân
  • os na allwch chi gadw at y cytundeb gwreiddiol i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych.

Cyn penderfynu trefnu IVA, mae’n syniad da i edrych ar ba opsiynau eraill sydd gennych i ddatrys eich dyledion er mwyn i chi ddewis yr un sydd orau i chi. Rhai o’r opsiynau i’w hystyried yw:

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd i weithio allan beth ydyw’r ffordd orau i chi ddatrys eich dyledion, fe allwch chi gael help oddi wrth ymgynghorydd dyledion arbenigol yn eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn chwilio am fanylion am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Weithiau gall llys awgrymu eich bod yn cael IVA yn hytrach na mynd yn fethdalwr. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â pha bryd y gall hyn ddigwydd gweler y daflen ffeithiau am Trefniadau Gwirfoddol Llwybr-Carlam ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd yn: www.bis.gov.uk/insolvency.

Nôl i’r brig


Sut mae IVAs yn gweithio

Os ydych chi’n credu fod IVA yn opsiwn da i ddelio â’ch dyledion, bydd angen i chi ddod o hyd i ymarferydd ansolfedd cofrestredig sy’n fodlon gweithredu ar eich rhan. Fel arfer mae ymarferydd ansolfedd yn gyfrifydd cymwys neu gyfreithiwr. Yn aml, gwneir y gwaith cychwynnol gan gwmni IVA gydag ymarferydd ansolfedd yn goruchwylio’r trefniadau terfynol.

Bydd yr ymarferydd ansolfedd neu’r cwmni IVA yn eich helpu i roi at ei gilydd gynllun i ddatrys eich holl ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth. Bydd y cynllun, a elwir yn gynnig, yn seiliedig ar wybodaeth a roddir gennych chi i’r ymarferydd ansolfedd. Yn y cynnig, fe fyddwch yn cytuno i ad-dalu’r bobol y mae arnoch chi arian iddynt (eich credydwyr), naill ai yn rhannol neu’n llawn, dros gyfnod arbennig o amser. Fel arfer mae hwn yn gyfnod o bum mlynedd.

Os ydyw’n angenrheidiol, gall yr ymarferydd ansolfedd ofyn i’r llys am orchymyn dros dro. Mae hyn yn atal eich credydwyr rhag cymryd camau tra byddwch chi’n paratoi’ch cynnig. Gall hyn fod yn gymorth os yw credydwr yn bygwth cymryd camau yn eich erbyn, megis eich gwneud yn fethdalwr.

Bydd yr ymarferydd ansolfedd yn paratoi adroddiad i’r llys, yn cynnwys eu barn os bydd y cynnig yn gweithio. Fe fyddan nhw wedyn yn galw cyfarfod o’r credydwyr lle bydd y credydwyr yn pleidleisio pa un ai i dderbyn y cynnig ai peidio.

Os bydd digon o gredydwyr yn pleidleisio o blaid, derbynnir y cynnig. Rhaid bod o leiaf 75% o gyfanswm eich dyled yn eiddo ar y cyd i’r credydwyr sy’n pleidleisio o blaid.

Enghraifft:

Mae gennych gyfanswm o £100,000 o ddyled. Mae gennych dri credydwr:

  • Credydwr A (£6,000)
  • Credydwr B (£70,000)
  • Credydwr C (£20,000)

Nid yw Credydwr C yn cytuno i IVA ond nid oes wahaniaeth oherwydd mae Credydwyr A a B yn cytuno a rhyngddyn nhw mae ganddynt fwy na 75% o’r ddyled. Mae’n rhaid i gredydwr C o hyd gadw at delerau’r IVA.

Daw’r IVA yn orfodol ar y credydwyr sydd â’r hawl i bleidleisio yng nghyfarfod y credydwyr. Caiff y canlyniad ei adrodd yn ôl wrth y llys fydd wedyn yn cymeradwyo’r IVA. Fel arfer ni fydd yn rhaid i chi fod yn bresennol.

Unwaith y bydd yr IVA wedi’i gymeradwyo, mae’ch ymarferydd ansolfedd yn gyfrifol am wneud yn siŵr fod pob ochor yn cadw at y cytundeb ac yn cymryd camau os nad ydynt.

Yr ydych yn gwneud eich ad-daliadau i’r ymarferydd ansolfedd fydd yn didynnu eu ffioedd ac yna’n trosglwyddo’r gweddill i’ch credydwyr. Cyhyd â’ch bod yn cadw at y cytundeb, ni all eich credydwyr gymryd camau yn eich erbyn.

Gall rhai ymarferwyr ansolfedd ofyn am y ffioedd ymlaen llaw. Gwnewch yn siŵr o hyn cyn eich bod yn dewis un.

Nôl i’r brig


Sut mae IVA yn effeithio ar eich cartref

Mae’r rhan fwyaf o gytundebau IVA yn cynnwys gofyniad ar i chi gael prisiad o’ch cartref yn y flwyddyn olaf. Os oes ecwiti yn yr eiddo, fel arfer bydd angen i chi godi cyfandaliad tuag at yr IVA trwy ail-forgeisio eich cartref. Ecwiti ydyw’r arian sy’n weddill i chi ar ol gwerthu’r eiddo a thalu’r morgais neu fenthyciad sydd wedi’i warantu.

Telir yr arian o’r ail forgeisio i mewn i’r IVA a bydd eich taliadau misol o dan yr IVA yn cael eu lleihau er mwyn caniatáu ar gyfer y cynnydd yn y costau morgais.

Os bydd eich cyfraniadau ym mlwyddyn olaf eich IVA yn gostwng i lai na £50 y mis oherwydd costau’r ail forgeisio, cwblheir yr IVA ac ni fydd yn mynd i mewn i’r flwyddyn olaf.

Nid oes disgwyl i chi werthu’ch cartref i godi’r cyfandaliad. Os ydych chi’n credu fod gofyn i chi werthu’ch cartref, mynnwch gyngor arbenigol ar unwaith.

Os na allwch chi ail forgeisio, fe fyddwch yn parhau i dalu’r cyfraniadau misol arferol o dan yr IVA am ddeuddeg mis yn lle.

Os ydych chi’n berchen ar eich cartref eich hun, gwnewch yn siŵr fod eich darparwr IVA yn esbonio ynglŷn â chodi cyfandaliad cyn i chi gytuno i’r IVA. Os nad ydych yn siŵr os yw’ch IVA yn cynnwys yr opsiwn hwn ai peidio, darllenwch y cytundeb yn ofalus neu gofynnwch i’ch darparwr IVA i’w esbonio i chi.

Fe allwch chi gael cyngor ynglŷn â sut mae IVA yn effeithio ar eich cartref oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn chwilio am fanylion am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Sut mae IVA yn effeithio ar eich credyd yn y dyfodol

Mae Cofrestr Ansolfedd Annibynnol yn gofnod cyhoeddus o’r holl IVAs sydd o dan ofal y Gwasanaeth Ansolfedd. Bydd eich IVA yn ymddangos ar y gofrestr hyd nes y daw’r IVA i ben. Fe allwch edrych ar y gofrestr ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd yn: www.bis.gov.uk/insolvency.

Mae asiantaethau cyfeirio credyd yn cadw cofnod o’ch IVA am chwe blynedd a gall effeithio ar eich gallu i gael benthyg arian.

Er mwyn gwybod mwy am Asiantaethau cyfeirio credyd a pha bethau sy’n effeithio ar eich gallu i gael benthyg arian, gweler Sut mae credydwyr yn penderfynu rhoi benthyg i chi.

Nôl i’r brig


Sut mae dod o hyd i ymarferydd ansolfedd

Darperir IVAs gan ymarferwyr ansolfedd annibynnol a chwmnïau sy’n cyflogi ymarferwyr ansolfedd. Rhaid i ymarferwyr ansolfedd fod yn gofrestredig cyn y gallan nhw wneud IVAs.

Fe allwch ddod o hyd i ymarferydd ansolfedd annibynnol trwy chwilio cronfa ddata'r ymarferydd ansolfedd ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd yn www.bis.gov.uk/insolvency.

Yn Lloegr a Chymru, fe allwch chi hefyd gael rhestr o ymarferwyr ansolfedd o’r llys lleol sy’n delio â methdaliad neu oddi wrth eich swyddfa Derbynnydd Swyddogol leol. Fe allwch gael cyfeiriad eich swyddfa leol o wefan y Gwasanaeth Ansolfedd yn www.bis.gov.uk/insolvency.

Nôl i’r brig


Sut i ddewis ymarferydd IVA

Mae llawer o ddarparwyr IVAs ac fe all fod yn anodd iawn penderfynu pa un i’w ddewis. Dyma rhai awgrymiadau ynglŷn â beth y dylid ei ystyried i’ch helpu i ddewis:

  • gwnewch yn siŵr fod yr ymarferydd ansolfedd neu’r cwmni yn awdurdodedig wneud IVAs
  • edrychwch am ddarparwr IVA sy’n cynnig y cyfweliad cyntaf am ddim, ac felly os penderfynwch chi beidio mynd ymlaen fyddwch chi ddim wedi gwastraffu unrhyw arian
  • peidiwch â theimlo unrhyw bwysau arnoch i gytuno i rywbeth yn y man a’r lle. Cymerwch cymaint o amser ag y mynnwch i wneud eich penderfyniad ac ewch â gwybodaeth adref gyda chi er mwyn ei ddarllen mewn cyffyrddusrwydd
  • os nad ydych yn siŵr am rywbeth, peidiwch ag ofni holi cwestiynau. Mae IVA yn broses gyfreithiol. Mae’n bwysig eich bod yn deall yr hyn yr ydych yn ei gytuno iddo
  • gwiriwch faint fydd yr IVA yn ei gostio a pha bryd y bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd. Bydd rhai cwmnïau yn gofyn am y ffioedd ymlaen llaw. Efallai y byddai’n well gennych gael ffioedd wedi’u didynnu o’ch taliad rheolaidd yn lle
  • cofiwch ddarllen unrhyw bapurau yn ofalus cyn arwyddo dim byd. Os nad ydych yn sicr ynglŷn ag unrhyw beth mae’n well cael cyngor oddi wrth ymgynghorydd arbenigol yn gyntaf.

Fe allwch chi gael cyngor ynglŷn ag IVAs a dewis darparwr IVA oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn chwilio am fanylion am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Talu am eich IVA

Mae ymarferwyr ansolfedd yn codi tâl am drefnu a rheoli IVAs. Gellir cymryd y taliadau o’r taliadau rheolaidd yr ydych yn eu talu ac felly fyddwch chi ddim yn sylwi eich bod yn talu unrhyw beth.

Byddwch yn ofalus o gwmnïau IVA sy’n codi ffioedd ymlaen llaw cyn iddyn nhw hyd yn oed wneud gwaith i chi. Mae digon o ymarferwyr a chwmnïau ansolfedd sy ddim yn gofyn i chi dalu ymlaen llaw, ac felly nid oes rhaid i chi fynd gydag un sy’n codi tâl fel hyn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod faint o dâl fydd arnoch a pha bryd y bydd disgwyl i chi ei dalu, cyn i chi gytuno i ddim byd.

Nôl i’r brig


Beth os nad ydych yn cadw at y cytundeb

Os nad ydych yn cadw at y cytundeb a wnaed, gall yr ymarferydd ansolfedd neu unrhyw un o’r credydwyr ofyn i’r llys am eich gwneud yn fethdalwr.

Os cewch eich bygwth gan fethdaliad oherwydd bod eich IVA wedi methu, fe allwch gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd arbenigol, er enghraifft yn eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn chwilio am fanylion am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Beth os yw’ch amgylchiadau’n newid yn ystod IVA

Os ydyw’ch sefyllfa’n newid yn ystod cyfnod yr IVA rhaid i chi ddweud wrth yr ymarferydd ansolfedd ar unwaith. Efallai y gallwch ofyn i’ch credydwyr i ystyried cynnig newydd.

Mae IVAs yn aml yn nodi beth sy’n digwydd i’r cytundeb os oes newid yn yr amgylchiadau. Mae’n werth holi’r ymarferydd ansolfedd ynglŷn â hyn wrth drafod yr IVA.

Os oes gennych IVA eisoes, edrychwch ar y cytundeb gwreiddiol er mwyn gweld os ydyw’n dweud wrthych beth fydd yn digwydd os yw pethau’n newid. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i’ch ymarferydd ansolfedd am ei esbonio i chi.

Nôl i’r brig


Cwyno am ddarparwr IVA

Os oes gennych gwyn am ddarparwr IVA, fe ddylech chi yn gyntaf gwyno wrth y cwmni neu’r ymarferydd ansolfedd dan sylw a rhoi’r cyfle iddynt i ddatrys pethau.

Os ydych yn dal yn anfodlon, fe allwch gwyno wrth y sefydliad sy’n awdurdodi’r ymarferydd ansolfedd.

Fe allwch gael taflen, Sut i gwyno yn erbyn ymarferydd ansolfedd, o wefan y Gwasanaeth Ansolfedd yn: www.bis.gov.uk/insolvency.

Nôl i’r brig


Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Yn Adviceguide

Gwasanaeth Ansolfedd

Y gwasanaeth ansolfedd yw adran y llywodraeth sy’n delio ag achosion ansolfedd yn Lloegr a Chymru. Mae hyn yn cynnwys IVAs a methdaliad. Am fwy o wybodaeth ynglŷn âg IVAs, yn cynnwys y cofrestr IVA ar-lein, ewch i wefan y Gwasanaeth Ansolfedd yn: www.bis.gov.uk/insolvency.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback