The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Fe arwyddoch chi gytundeb i fenthyg arian pan nad oeddech am wneud hynny
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a’r Alban
Fe arwyddoch chi gytundeb i fenthyg arian pan nad oeddech am wneud hynny
Pan fyddwch chi’n benthyg arian fe ddylid gofyn i chi am arwyddo cytundeb credyd. Dogfen gyfreithiol ydyw hwn sy’n nodi'r hyn y mae’r ddwy ochr yn cytuno iddo, yn cynnwys sut y dylid ad-dalu’r arian a fenthycir gennych.
Mae benthyg arian yn cynnwys pethau megis defnyddio’ch cerdyn credyd, trefnu benthyciad neu orddrafft, prynu nwyddau ar gredyd a threfnu morgais.
Er mwyn gwybod mwy am fenthyg arian, gweler Ffyrdd o fenthyg.
Os nad ydych chi’n ad-dalu’r arian neu’n mynd ar ei hôl hi gyda’ch taliadau, mae’r cytundeb credyd fel arfer yn rhoi’r hawl i’r benthyciwr i fynd â chi i’r llys a’ch gorfodi i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych.
Sut bynnag, os arwyddoch chi’r cytundeb o dan rai amgylchiadau arbennig, efallai y gallwch ddadlau nad oes rhaid i chi ad-dalu’r arian.
Mae’r amgylchiadau hyn yn cynnwys:
- lle rhoddwyd pwysau arnoch chi, neu lle cawsoch chi’ch bwlio neu’ch perswadio i arwyddo yn erbyn eich ewyllys gan rywun arall
- lle’r affeithiwyd ar eich gallu i ddeall yr hyn yr oeddech yn ei wneud gan ddiod neu gyffuriau
- lle rydych chi’n dioddef o afiechyd meddwl neu anabledd dysgu.
Darllenwch y dudalen hon er mwyn gwybod mwy am arwyddo cytundeb i fenthyg arian pan nad oeddech am wneud hynny.
Os ydych chi’n credu eich bod wedi arwyddo cytundeb credyd o dan unrhyw un o’r amgylchiadau hyn, fe ddylech chi gael cyngor ynglŷn â beth i’w wneud. Fe allwch chi gael cyngor oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai fod yna resymau eraill pam na ddylech chi ad-dalu’r arian yr erlidir chi amdano. Er mwyn gwybod mwy am y rhain, gweler Sut i ddadlau ynghylch dyled.
Wnaethoch chi arwyddo cytundeb credyd yn erbyn eich ewyllys
Os wnaethoch chi arwyddo cytundeb i fenthyg arian oherwydd bod pwysau arnoch, neu eich bod wedi’ch bwlio neu berswadio i wneud hynny gan rywun arall, efallai na fydd y benthyciwr yn gallu’ch gorfodi i ad-dalu’r arian.
Gall hyn fod yn berthnasol os:
- oedd y benthyciwr yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen neu wedi rhoi pwysau arnoch i arwyddo
- wnaeth rhywun eich gorfodi i arwyddo morgais neu fenthyciad arall wedi’i warantu yn erbyn eich cartref. Gallai hyn fod er mwyn ariannu busnes eich partner er enghraifft, neu dalu dyledion yr oedden nhw yn unig yn gyfrifol amdanynt gynt
- berswadiodd rhywun chi i arwyddo’r cytundeb trwy ddweud celwydd wrthoch chi. Er enghraifft, os ddywedodd y benthyciwr gelwydd wrthych am delerau’r cytundeb neu heb eu hesbonio’n gywir i chi. Gan y bydd yn debygol o fod eich gair chi yn erbyn eu gair hwy, bydd unrhyw brawf ysgrifenedig sydd gennych yn help i chi.
Os ydych chi’n credu eich bod wedi’ch gorfodi i arwyddo cytundeb neu wedi’ch camarwain neu bod rhywun wedi dweud celwydd wrthoch chi, efallai y gallwch chi:
- gwyno wrth y benthyciwr
- gwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS)
- os cymerir chi i’r llys, gallwch ddadlau yn y llys na ddylech chi orfod ad-dalu’r arian.
Bydd angen i chi brofi eich bod wedi arwyddo’r cytundeb yn erbyn eich ewyllys.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth allwch chi ei wneud os nad ydych yn credu y dylech chi ad-dalu dyled, gweler, Beth allwch chi ei wneud os nad ydych yn credu y dylech chi ad-dalu dyled.
Fe allwch chi hefyd gael cyngor ynglŷn â beth i’w wneud oddi wrth Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Oeddech chi’n deall beth yr oeddech yn ei wneud pan arwyddoch chi’r cytundeb credyd
Os nad oeddech yn gallu deall yr hyn yr oeddech yn ei wneud pan arwyddoch chi’r cytundeb credyd ac roedd y benthyciwr yn gwybod hyn neu fe ddylai wybod hyn, efallai na fyddan nhw’n gallu eich gorfodi i ad-dalu’r arian.
Mae’r rhesymau pam nad oeddech efallai yn gwybod beth yr oeddech yn ei wneud yn cynnwys:
- roedd eich gallu i ddeall wedi’i affeithio gan ddiod neu gyffuriau
- yr ydych yn dioddef o afiechyd meddwl neu anabledd dysgu.
Os nad oeddech yn deall beth yr oeddech yn ei wneud pan arwyddoch chi’r cytundeb credyd, efallai y gallwch:
- gwyno wrth y benthyciwr
- gwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS)
- os cymerir chi i’r llys gallwch ddadlau yn y llys na ddylech chi orfod ad-dalu’r arian.
Bydd angen i chi allu profi nad oeddech chi’n gwybod beth yr oeddech yn ei wneud pan arwyddoch chi’r cytundeb credyd.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth allwch chi ei wneud os nad ydych yn credu y dylech chi orfod ad-dalu dyled, gweler Beth allwch chi ei wneud os nad ydych yn credu y dylech chi ad-dalu dyled.
Fe allwch chi gael cymorth oddi wrth ymgynghorydd dyled Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor ar-lein, cliciwch ar CAB agosaf.
Profi eich bod wedi arwyddo cytundeb nad oeddech am ei wneud
Bydd angen i chi allu profi eich bod wedi arwyddo’r cytundeb yn erbyn eich ewyllys neu nad oeddech yn gwybod beth yr oeddech yn ei wneud ar y pryd.
Efallai y gallwch gael tystiolaeth oddi wrth eich meddyg neu berson meddygol proffesiynol arall i’ch cefnogi.
Bydd yn rhaid i chi hefyd ddangos fod y benthyciwr yn gwybod neu fe ddylai wybod nad oeddech yn gwybod beth yr oeddech yn ei wneud. Er enghraifft, efallai fod y benthyciwr eisoes wedi cael gwybodaeth nad oeddech yn gwybod beth yr oeddech yn ei wneud cyn i chi arwyddo’r cytundeb. Neu efallai ei fod yn amlwg o’ch ymddygiad ar y pryd nad oeddech yn gwybod beth yr oeddech yn ei wneud.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth y gallwch ei wneud os arwyddoch chi gytundeb credyd pan nad oeddech am wneud hynny, gweler Beth allwch chi ei wneud os ydych yn credu na ddylech chi ad-dalu dyled.
Cymorth ychwanegol
- Sut i ddadlau ynghylch dyled
- Arwyddo cytundeb i fenthyg arian
- Beth allwch chi ei wneud os nad ydych yn credu y dylech chi ad-dalu dyled
- Eich hawliau wrth fenthyg arian
- Cymorth gyda dyled
- Beth sy’n digwydd pan gymerir chi i’r llys am yr arian sy’n ddyledus gennych









