Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Beth allwch chi ei wneud os nad ydych yn credu y dylech chi ad-dalu dyled

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a’r Alban

Beth allwch chi ei wneud os nad ydych yn credu y dylech ad-dalu dyled

Pan ydych yn benthyg arian, dylid gofyn i chi lofnodi cytundeb credyd. Mae’n ddogfen gyfreithiol sy’n nodi’r hyn y mae’r ddwy ochr yn ei gytuno, gan gynnwys sut dylid ad-dalu’r arian yr ydych wedi’i benthyg.

Os nad ydych yn ad-dalu’r arian neu os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau, mae’r cytundeb credyd fel arfer yn rhoi’r hawl i’r benthyciwr eich cymryd i’r llys a’ch gorfodi i ad-dalu’r ddyled.

Fodd bynnag, mae yna amserau pan fyddwch yn gallu dadlau na ddylech dalu’r arian yn ôl oherwydd sawl rheswm, gan gynnwys:

  • nid ydych wedi arwyddo cytundeb credyd gyda’r benthyciwr neu rywun arall sydd wedi’i lofnodi
  • nid yw’r benthyciwr wedi cydymffurfio â’r gweithdrefnau, er enghraifft, os yw’r cytundeb credyd yn nodi rhywbeth anghywir
  • cawsoch eich gorfodi i lofnodi’r cytundeb yn erbyn eich ewyllys
  • nid oeddech yn deall yr hyn oeddech yn ei wneud pan lofnodoch y cytundeb oherwydd bod gennych anabledd dysgu neu salwch meddwl.

Os hoffech fwy o wybodaeth am y rhesymau pam nad ydych wedi ad-dalu benthyciwr, gweler Sut i ddadlau ynghylch dyled.

Os cewch eich erlid am daliadau gan fenthyciwr a’ch bod yn meddwl bod yna reswm na ddylech ad-dalu’r arian, mae’n bosib y gallwch:

  • gwyno i’r benthyciwr
  • gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS)
  • ddadlau yn y llys na ddylech ad-dalu’r arian os cewch eich cymryd i’r llys.

Os nad ydych yn credu y dylech chi orfod ad-dalu dyled yr ydych yn cael eich erlid amdano, fe ddylech chi gael cymorth oddi wrth ymgynghorydd dyled profiadol er mwyn gweld beth allwch chi ei wneud ynglŷn â’r peth.

Cewch gymorth gan ymgynghorydd dyled mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Cwyno i’ch benthyciwr credyd

Os ydych yn credu y cewch eich erlid am arian nad yw’n ddyledus gennych neu os nad yw’r benthyciwr yn gallu eich gorfodi i ad-dalu, y peth cyntaf y dylech ei wneud yw cwyno i’r benthyciwr.

Ysgrifennwch eich cwyn mewn llythyr, gan esbonio pam nad ydych yn meddwl bod yr arian yn ddyledus gennych. Os oes gennych dystiolaeth, dylech ei anfon at y benthyciwr ynghyd â’ch llythyr.

Er enghraifft, mae’n bosib nad oeddech yn ymwybodol o’r hyn oeddech yn ei wneud pan lofnodoch y cytundeb credyd oherwydd bod gennych salwch meddwl neu anabledd dysgu. Mae’n bosib y cewch dystiolaeth gan ddoctor neu weithiwr meddygol proffesiynol arall i’ch cefnogi.

I wybod mwy am y dystiolaeth sydd angen i chi ei darparu os hoffech gwyno am y ffaith nad oeddech yn ymwybodol o’r hyn oeddech yn ei wneud pan lofnodoch y cytundeb credyd, gweler Fe arwyddoch chi gytundeb i fenthyg arian pan nad oeddech am wneud hynny.

Os nad yw’r benthyciwr yn cytuno gyda’ch rhesymau, mae’n bosib y bydd yn parhau i fynnu taliad. Gofynnwch iddo esbonio pam nad yw’n cytuno â’ch rhesymau ac i ddarparu tystiolaeth sy’n dangos bod yr arian yn ddyledus gennych chi. Er enghraifft, gallech ofyn iddo anfon copi o’r cytundeb a lofnodoch atoch.

Os ydych yn dal yn meddwl bod y benthyciwr yn anghywir, gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS).

Os yw’r benthyciwr yn eich cymryd i’r llys am ddyled, gallwch ddweud yn y llys nad chi sy’n gyfrifol am y ddyled.

Gallwch gael cymorth i gwyno i fenthyciwr sy’n eich erlid am arian gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS)

Os ydych yn credu y cewch eich erlid am arian nad yw’n ddyledus gennych chi, dylech gwyno i’r benthyciwr gan esbonio eich rhesymau.

Os nad yw’n delio â’ch cwyn neu os ydych yn anfodlon gyda’i ymateb, gallwch ofyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS) i ddelio â’r broblem.

Mae yna rai rheolau sylfaenol i’w cofio cyn cysylltu â’r FOS:

  • dim ond ar ôl cwyno i’r benthyciwr y gallwch gysylltu â’r FOS
  • mae gan y benthyciwr hyd at wyth wythnos i ddelio â’ch cwyn
  • mae’n rhaid i chi gwyno i’r FOS o fewn chwe mis o ddyddiad ymateb terfynol eich benthyciwr i’ch cwyn neu o ddiwedd yr wyth wythnos os nad ydych wedi derbyn ymateb.

Gallwch gwyno i’r FOS drwy gysylltu â llinell gymorth Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ar 0300 500 5000 neu ar-lein:www.financial-ombudsman.org.uk.

Nid yw cwyno i’r FOS yn eich atal rhag cymryd camau yn y llys.

Nôl i’r brig


Y benthyciwr credyd yn eich cymryd i’r llys

Os yw’r benthyciwr credyd yn eich cymryd i’r llys am arian nad yw’n ddyledus gennych chi neu os nad ydych yn gallu ad-dalu’r arian, gallwch fynd i’r llys a dweud nad chi sy’n gyfrifol am yr arian. Gelwir hyn yn dadlau ynghylch hawliad.

Os yw benthyciwr yn eich cymryd i’r llys, cewch nifer o ddogfennau gan y llys cyn y gwrandawiad. Bydd un ohonynt yn ffurflen amddiffyn y gallwch ei defnyddio i esbonio pam nad yw’r arian yn ddyledus gennych.

Mae’n rhaid i chi roi rhesymau pam nad ydych yn gyfrifol am yr arian. Gallai hyn fod oherwydd, er enghraifft:

  • nid ydych wedi gweithredu o fewn y terfyn amser
  • cymerwyd camau yn erbyn y person anghywir
  • roeddech o dan oedran pan lofnodoch y cytundeb.

Os hoffech fwy o wybodaeth y rhesymau pam nad chi o bosib sy’n gyfrifol am y ddyled, gweler Sut i ddadlau ynghylch dyled.

Mae’n syniad da i chi ofyn i ymgynghorydd cyfreithiol arbenigol i wirio bod gennych reswm cyfreithiol i ddadlau ynghylch yr hawliad cyn eich bod yn llenwi ffurflenni’r llys. Os ydych yn mynd i’r llys a’ch bod yn aflwyddiannus, bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r ddyled yn ogystal â thalu costau cyfreithiol.

Gwiriwch bapurau’r llys i wybod pryd mae’n rhaid i chi ddychwelyd y ffurflenni i’r llys (fel arfer o fewn 14 diwrnod). Pan gewch gyngor, dywedwch wrth yr ymgynghorydd pa mor hir sydd gennych i ddychwelyd y ffurflenni fel eich bod yn gweithredu o fewn y terfyn amser.

Cewch gyngor cyfreithiol arbenigol gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Os hoffech fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd pan gewch eich cymryd i’r llys am arian sy’n ddyledus gennych, gweler Beth sy’n digwydd pan gymerir chi i’r llys am yr arian sy’n ddyledus gennych.

Beth i’w wneud os yw’r benthyciwr eisoes wedi eich cymryd i’r llys

Os oes gan gredydwr eisoes ddyfarniad llys yn eich erbyn a’ch bod yn darganfod nes ymlaen nad chi sy’n gyfrifol am y ddyled neu os na ddylai fod wedi eich gorfodi i’w ad-dalu, mae’n bosib y gellir canslo’r dyfarniad.

Os yw hyn yn wir yn eich achos chi, mynnwch gyngor cyn gynted â phosibl gan ymgynghorydd dyled profiadol. Cewch gyngor ar ddyled gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Defnyddio cwmni rheoli hawliadau i ddadlau ynghylch dyled

Mae cwmnïau rheoli hawliadau, a elwir hefyd yn aseswyr hawliadau, yn gwmnïau sy’n codi tâl arnoch i’ch helpu i wirio p’un ai bod y cytundeb credyd yn gywir. Weithiau, gallan nhw eich helpu i herio p’un ai bod cytundeb credyd yn gyfreithiol yn y llys, hyd yn oed pan nad oes gennych reswm da i ddadlau ynghylch y ddyled.

Er enghraifft, os oes arnoch arian ar gytundeb benthyciad neu hur-bwrcais, efallai y byddwch wedi cael eich temtio gan gwmnïau rheoli hawliadau neu aseswyr hawliadau sy’n cynnig eich helpu i herio os yw’ch benthyciad neu gytundeb hur-bwrcais yn gyfreithiol.

Efallai y byddan nhw’n dweud wrthych nad oes modd gorfodi eich benthyciad neu gytundeb hur-bwrcais. Efallai y byddan nhw’n dweud nad oes modd eich gorfodi i ad-dalu’r arian am nad yw’r benthyciwr wedi rhoi copi o gytundeb wedi ei lofnodi i chi, ond efallai bod hyn yn gamarweiniol.

Mae’n bwysig bod yn glir ynghylch ystyr ‘nad oes modd eich gorfodi’. Nid yw’n golygu, er enghraifft, nad yw’r arian yn ddyledus mwyach neu na all y benthyciwr ofyn i chi am y ddyled.

Os ydych chi am herio pa mor gyfreithlon yw cytundeb hur-bwrcais neu fenthyciad, efallai bod ffyrdd eraill o wneud hyn, yn hytrach na mynd i’r llys. Er enghraifft, efallai y byddwch yn medru cwyno i’ch benthyciwr credyd. Dylech ystyried mynd i’r llys fel yr opsiwn olaf oll yn unig.

Cewch gyngor rhad ac am ddim i wirio cytundebau credyd a datrys eich problemau gyda’ch dyledion gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Yng Nghymru a Lloegr, mae’n rhaid bod cwmnïau rheoli hawliadau wedi’u hawdurdodi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Gallwch wirio p’un ai bod cwmni rheoli hawliadau wedi’i awdurdodi neu beidio drwy edrych ar y wefan Rheoli Hawliadau. Ewch at: www.claimsregulation.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn ddylech chi ei wneud os ydych yn credu bod dyled gennych nad oes modd ei gorfodi, gweler Llofnodi cytundeb i fenthyg arian.

Nôl i’r brig


Cymorth ychwanegol

Ar Adviceguide

Sut i ddadlau ynghylch dyled

Arwyddo cytundeb i fenthyg arian

Fe arwyddoch chi gytundeb i fenthyg arian pan nad oeddech am wneud hynny

Eich hawliau wrth fenthyg arian

Cymorth gyda dyled

Beth sy’n digwydd pan gymerir chi i’r llys am yr arian sy’n ddyledus gennych

Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS)

Os ydych wedi cwyno i fenthyciwr credyd ac os nad ydynt yn gallu eich helpu, gallwch wneud cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Fe allwch gysylltu â llinell gymorth y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol ar 08000 234 567 (am ddim i bobol sy’n ffonio o linell tir benodol) neu 0300 123 9 123 (am ddim i ddefnyddwyr ffôn symudol sy’n talu’n fisol am alwadau i rifau sy’n dechrau 01 neu 02). Er mwyn ymweld â’r wefan, ewch i: www.financial-ombudsman.org.uk.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback