Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Arwyddo cytundeb i fenthyg arian

Mae’r wybodaeth yn berthnasol i Loegr, Cymru a’r Alban

Ynglŷn ag arwyddo cytundeb i fenthyg arian

Pan ydych yn benthyg arian, dylid gofyn i chi lofnodi cytundeb credyd. Mae’n ddogfen gyfreithiol sy’n nodi’r hyn y mae’r ddau ochr yn ei gytuno, gan gynnwys sut dylid ad-dalu’r arian yr ydych yn ei fenthyg.

Mae benthyg arian yn cynnwys pethau megis defnyddio cerdyn credyd, cael benthyciad neu orddrafft banc, prynu nwyddau ar gredyd a chael morgais.

Os hoffech wybod mwy am fenthyg arian, gweler Mathau o fenthyciadau.

Os gofynnir i chi ad-dalu’r arian, mae’n bwysig gwirio mai chi yw’r person sy’n gyfrifol am y ddyled cyn eich bod yn cytuno. Fel arall mae’n bosib y byddwch yn ad-dalu’r ddyled pan nad oes angen i chi wneud.

I fod yn gyfrifol am ad-dalu dyled, mae’n rhaid eich bod wedi arwyddo cytundeb credyd. Cyn cytuno i ad-dalu arian, edrychwch ar y cytundeb credyd gwreiddiol er mwyn sicrhau eich bod wedi’i lofnodi, gwiriwch yr hyn yr oeddech wedi’i gytuno ac os oedd rhywun arall wedi cael credyd gyda chi.

Mae’n bosib nad ydych yn gyfrifol am ad-dalu dyled os:

  • na wnaethoch lofnodi’r cytundeb credyd
  • defnyddiodd rywun arall eich enw chi i gael credyd
  • ydych yn cael eich erlid am ddyled rhywun arall sydd gyda’r un enw â chi
  • ydych yn cael eich erlid am ddyled a drefnodd eich partner yn ei enw ef/hi yn unig.

Mae’n bosib bod yna resymau eraill pam na fydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian y cewch ei erlid amdano. Os hoffech fwy o wybodaeth amdanynt, gweler Sut i ddadlau ynghylch dyled.

Mae’n bosib eich bod yn gyfrifol am ad-dalu’r ddyled os:

Os hoffech fwy o wybodaeth am lofnodi cytundeb credyd fel gwarantwr, gweler Sut i ddadlau ynghylch dyled.

Nôl i’r brig


A oes rhywun arall wedi defnyddio eich enw i gael credyd

Mae troseddwyr yn gallu darganfod eich manylion personol a’u defnyddio i agor cyfrifon banc a chael cardiau credyd a benthyciadau yn eich enw chi. Gelwir hyn yn aml yn lladrad hunaniaeth.

Os ydych yn credu i chi ddioddef o ladrad hunaniaeth, dywedwch wrth y benthyciwr ar unwaith. Nid ydych yn gyfrifol am ad-dalu’r ddyled.

Gallai’r lleidr fod yn rhywun yr ydych yn ei adnabod, megis aelod o’ch teulu. Dylech fod yn ymwybodol y gallai’r person hwnnw fynd i helynt gyda’r heddlu. Os ydych yn poeni am hyn, mynnwch gyngor cyn ei riportio.

Os hoffech fwy o wybodaeth am ladrad hunaniaeth, gweler Bancio – diogelwch a thwyll.

Cewch gymorth a chyngor ar yr hyn i’w wneud os nad eich llofnod chi sydd ar y cytundeb credyd gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Cewch eich erlid am ddyled rhywun arall

Mae’n bosib y gofynnir i chi ad-dalu’r arian os oes gennych yr un enw â’r person sy’n gyfrifol am y ddyled ac os yw’r benthyciwr yn ceisio dod o hyd iddo.

Os yw hyn yn digwydd i chi, cysylltwch â phwy bynnag sy’n casglu’r ddyled a dywedwch wrtho nad chi sy’n gyfrifol amdano.

Os yw’r cwmni yn parhau i’ch erlid, gofynnwch iddo ddarparu tystiolaeth sy’n dangos mai chi sy’n gyfrifol am y ddyled. Gallwch hefyd esbonio bod canllawiau’r Swyddfa Masnach Deg (OFT) yn dweud na ddylai casglwyr barhau i wneud gofynion anghyfiawn pan fydd dadlau ynghylch dyled.

Gallwch gael copi o Debt collection guidance: Final guidance on unfair business practices ar wefan OFT. Ewch at: www.oft.gov.uk.

Os yw benthyciwr yn parhau i’ch erlid am arian nad ydych yn gyfrifol amdano, mynnwch gyngor gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Rydych wedi arwyddo cytundeb credyd gyda rhywun arall

Gallwch fod yn rhannol gyfrifol am ddyled os ydych wedi arwyddo’r cytundeb credyd gyda rhywun arall. Gelwir hyn yn atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol. Mae’n golygu bod y ddau ohonoch yn gyfrifol am y ddyled gyfan hyd yn oed os oes gennych gytundeb gwahanol rhyngoch, er enghraifft, os ydych wedi cytuno i dalu hanner. Os nad yw’r person sydd wedi cytuno i gymryd cyfrifoldeb dros y ddyled yn ei thalu, mae’r benthyciwr yn dal yn gallu erlid y person arall am yr arian.

Os ydych yn rhannol gyfrifol am y ddyled gyda’ch gŵr, eich gwraig neu’ch partner sifil a bod eich perthynas yn dod i ben, mae’n werth gofyn i’r benthyciwr a oes modd newid y trefniadau fel mai un ohonoch sy’n gyfrifol am y ddyled. Mae’n rhaid i chi a’r person sy’n gyfrifol gytuno â’r trefniant hwn. Gallai hyn fod yn gynorthwyol os yw un ohonoch yn elwa’n fwy o drefniant ariannol neu os oes gan un ohonoch fwy o incwm na’r llall.

Nid oes yn rhaid i fenthycwyr ganiatáu trefniant o’r fath.

Mae’n bosib bod angen help arnoch i gyfrifo p’un ai bod arian yn ddyledus gennych neu beidio. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Pwy sy’n gyfrifol am dalu dyled wedi i rywun farw

Os yw eich gŵr, eich gwraig neu’ch partner sifil yn marw, nid ydych yn gyfrifol yn awtomatig am ad-dalu unrhyw arian y maen nhw wedi’i fenthyg. Dim ond os yw’r ddau ohonoch wedi arwyddo’r cytundeb credyd neu os ydych wedi gweithredu fel eu gwarantwr y byddwch yn gyfrifol am eu dyledion.

Gall benthycwyr geisio adennill unrhyw arian sy’n ddyledus o ystâd y person a fu farw. Mae’r ystâd yn unrhyw beth o werth sy’n eiddo i’r person, megis cynilion, buddsoddiadau ac eiddo. Os nad oes digon o arian yn yr ystâd i dalu’r ddyled, ni all y benthyciwr adennill yr arian.

Os ydych wedi ad-dalu arian a fenthyciwyd dan gytundeb credyd oherwydd roeddech yn meddwl mai chi oedd yn gyfrifol amdano, dylech ysgrifennu at y benthyciwr gan ofyn am yr arian yn ôl. Os nid yw’n ad-dalu’r arian, gallwch gwyno.

Gwiriwch p’un ai bod polisi yswiriant yn gallu talu am y ddyled os yw’r person a gafodd y credyd yn marw.

Os hoffech fwy o wybodaeth am warantwyr, gweler Sut i ddadlau ynghylch dyled.

Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i gwyno i fenthyciwr, gweler Beth allwch chi ei wneud os nad ydych yn credu y dylech chi ad-dalu dyled.

Mae’n bosib bod angen i chi gwyno i fenthyciwr sy’n eich erlid am arian nad yw’n ddyledus gennych. Cewch gyngor ar sut i wneud hyn gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Rydych yn asiant catalog

Pan ydych yn gweithredu fel asiant i gwmni catalog, dylech gael cyfrif ar wahân ar gyfer pob un o’ch cwsmeriaid.

Os nad ydych yn gwneud hyn, gallwch fod yn gyfrifol am unrhyw arian nad yw eich cwsmeriaid yn ei dalu.

Cewch hyd i wybodaeth am sut i sefydlu cyfrifon cwsmeriaid yn y cytundeb sydd gennych gyda’r cwmni catalog neu ar ei wefan.

Os nad ydych wedi sefydlu cyfrifon ac os nad yw cwsmer yn eich talu, rhowch enw a chyfeiriad y cwsmer i’r cwmni catalog fel y gallan nhw erlid y cwsmer ar eich rhan.

Nôl i’r brig


Beth os nad oes gennych gopi o’r cytundeb credyd

Os hoffech wirio cynnwys eich cytundeb credyd ac nid oes gennych y copi gwreiddiol, gallwch ysgrifennu at y benthyciwr a gofyn iddo anfon copi atoch.

Bydd angen i chi dalu £1.00 i dalu costau gweinyddu’r benthyciwr. Dylech ysgrifennu’r geiriau canlynol yn eich llythyr:

'A wnewch chi anfon ataf gopi o’r cytundeb credyd ac unrhyw ddogfen arall sydd wedi ei nodi ynddo. Rwy’n gofyn amdanynt yn unol ag adrannau 77 i 79 Deddf Credyd Defnyddwyr 1974. Amgaeaf daliad o £1.’

Os ydych yn holi’r cwmni benthyciadau neu’r banc am wybodaeth o dan adrannau 77 i 79 Deddf Credyd Defnyddwyr 1974, mae yna beth gwybodaeth y mae’n rhaid iddyn nhw ei rhoi i chi. Mae’n rhaid iddynt:

  • ·ddweud wrthych beth oedd y cytundeb gwreiddiol, ac a oedd unrhyw newidiadau iddo yn ddiweddarach
  • ·gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad ar yr adeg yr oeddech wedi llofnodi’r cytundeb am y tro cyntaf. Ond, nid yw’n gorfod cynnwys eich llofnod, na’r dyddiad yr oeddech wedi llofnodi. Os nad yw’n eu cynnwys, dylai ddweud hyn wrthych
  • ·gynnwys y datganiadau ynghylch eich hawliau a oedd yn y cytundeb a lofnodwyd gennych.

Dylech hefyd gael:

  • ·copïau o unrhyw ddogfennau eraill y soniwyd amdanynt yn eich cytundeb, er, mae yna rai nad oes rhaid iddynt eu rhoi i chi
  • ·datganiad o’ch cyfrif a lofnodwyd ganddynt, gyda gwybodaeth benodol arno.

Mae’r rheolau ychydig yn wahanol ynghylch yr wybodaeth y mae’n rhaid i’r cwmni benthyciadau neu’r banc ei darparu mewn rhai amgylchiadau penodol, sef ble:

  • ·gwnaed eich cytundeb cyn 19 Mai 1985, neu
  • ·nid yw’ch cytundeb ar gael, er enghraifft os cafodd ei golli mewn tân neu lifogydd.

Yn yr achosion hyn, gellir rhoi copi o delerau cyfredol eich cytundeb, ym marn y cwmni benthyciadau. Dylent ddweud os ydynt wedi gwneud hyn.

I ddarganfod mwy am yr wybodaeth y mae’n rhaid i fenthyciwr ei rhoi i chi os ydych yn gofyn amdani o dan adrannau 77 i 79 Deddf Credyd Defnyddwyr 1974, rhowch glic ar wefan y Swyddfa Masnachu Teg yn: www.oft.gov.uk.

Efallai y byddwch chi angen help i ysgrifennu at fenthyciwr sy’n eich erlid am arian. Mae help ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth i wneud hyn. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf

Beth os nad yw’r benthyciwr yn ymateb

Os nad ydych yn cael copi o’ch cytundeb credyd, a’r holl wybodaeth y mae hawl gennych i’w chael, ar ôl 12 diwrnod gwaith, yna gelwir eich dyled yn un nad oes modd ei gorfodi. Fe fydd yn parhau i fod yn ddyled nad oes modd ei gorfodi hyd nes i chi gael yr wybodaeth y mae hawl gennych i’w chael. Ond, nid yw ‘nad oes modd ei gorfodi’ yn golygu bod eich dyled yn cael ei diddymu neu nad oes arnoch yr arian mwyach.

Nôl i’r brig


Dyledion nad oes modd eu gorfodi

Os ydych yn holi’r cwmni benthyciadau neu’r banc am wybodaeth o dan adrannau 77 i 79 Deddf Credyd Defnyddwyr 1974, mae yna beth gwybodaeth y mae’n rhaid iddyn nhw ei rhoi i chi.

Os nad ydynt yn rhoi’r wybodaeth hon i chi ar ôl 12 diwrnod gwaith yna gelwir eich dyled yn un nad oes modd ei gorfodi. Fe fydd yn parhau i fod yn ddyled nad oes modd ei gorfodi hyd nes i chi gael yr wybodaeth y mae hawl gennych i’w chael. Ond, nid yw ‘nad oes modd ei gorfodi’ yn golygu bod eich dyled yn cael ei diddymu neu nad oes arnoch yr arian mwyach.

Os nad ydych yn talu’r hyn sy’n ddyledus fe fydd y cwmni benthyciadau neu’r banc yn dal i fedru:

  • eich erlid chi am y ddyled
  • anfon llythyr atoch o’r enw rhybudd diffygdalu os ydych yn colli unrhyw daliadau
  • trosglwyddo eich gwybodaeth at asiantaeth cyfeirio credyd, a allai effeithio ar eich cofnod credyd
  • trosglwyddo eich gwybodaeth at gasglwr dyledion
  • gwerthu’ch dyled i rywun arall
  • mynd â chi i’r llys, er na fydd yn medru cael dyfarniad llys yn eich erbyn hyd nes y cewch yr holl wybodaeth y mae gennych yr hawl i’w chael.

Mae yna rai pethau na fydd y banc neu’r cwmni benthyciadau yn medru eu gwneud hyd nes iddynt roi’r holl wybodaeth y mae hawl gennych i’w chael. Ni fyddant yn medru:

  • gwneud i chi dalu eich dyled cyn y dyddiad a gytunwyd
  • cael dyfarniad llys yn eich erbyn
  • cymryd unrhyw beth a huriwyd neu brynwyd ar gredyd gennych yn ôl, na chymryd unrhyw beth a ddefnyddioch fel sicrwydd (fel eich ty) wrth lofnodi’r cytundeb.

I ddarganfod mwy am sut i herio neu ddadlau ynghylch dyled ‘nad oes modd ei gorfodi’, rhowch glic ar wefan y Swyddfa Masnachu Teg yn: www.oft.gov.uk.

Mae’n bosib y bydd angen cymorth arnoch i ysgrifennu at fenthyciwr sy’n eich erlid am arian. Cewch gyngor ar sut i wneud hyn gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Cymorth ychwanegol

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback