Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Sut i ddadlau ynghylch dyled

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a’r Alban

Ynglŷn â dadlau ynghylch dyled

Pan fyddwch chi’n benthyg arian fe ddylid gofyn i chi am arwyddo cytundeb credyd. Dogfen gyfreithiol ydyw hwn sy’n nodi'r hyn y mae’r ddwy ochr yn cytuno iddo, yn cynnwys sut y dylid ad-dalu’r arian a fenthycir gennych.

Mae benthyg arian yn cynnwys pethau megis defnyddio’ch cerdyn credyd, trefnu benthyciad neu orddrafft, prynu nwyddau ar gredyd a threfnu morgais.

Er mwyn gwybod mwy am fenthyg arian, gweler Mathau o fenthyciadau.

Os nad ydych chi’n ad-dalu’r arian neu’n mynd ar ei hôl hi gyda’ch taliadau, mae’r cytundeb credyd fel arfer yn rhoi’r hawl i’r benthyciwr i fynd â chi i’r llys a’ch gorfodi i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych.

Sut bynnag, mae yna adegau pan fyddwch chi’n gallu dadlau na ddylech chi fod yn gorfod ad-dalu’r arian. Gallai hyn fod am wahanol resymau, yn cynnwys:

  • wnaethoch chi ddim llofnodi cytundeb credyd gyda’r benthyciwr neu fe lofnododd rhywun arall ef
  • wnaeth y benthyciwr ddim dilyn gweithdrefnau cywir, er enghraifft, os oes rhywbeth anghywir ar y cytundeb credyd
  • roeddech chi dan oedran pan arwyddoch chi’r cytundeb
  • mae’r terfyn amser i adfer yr arian wedi mynd heibio
  • mae’r cytundeb arwyddoch chi yn annheg yn gyfreithiol
  • fe’ch gorfodwyd i arwyddo’r cytundeb yn erbyn eich ewyllys
  • doeddech chi ddim yn deall beth yr oeddech yn ei wneud wrth arwyddo’r cytundeb oherwydd mae gennych anabledd dysgu neu afiechyd meddwl.

Os ydych chi’n cael eich erlid gan fenthyciwr am daliadau neu os cymerir chi i’r llys, fe ddylech chi wirio i weld os oes unrhyw resymau pam na ddylech chi dalu’r arian.

Darllenwch y dudalen hon er mwyn gwybod mwy am y rhesymau pam na ddylech chi ad-dalu dyled a beth allwch chi ei wneud ynglŷn â’r peth.

Os ydych chi’n credu fod yna reswm pam na ddylech chi dalu’r arian, fe ddylech chi gael cymorth oddi wrth ymgynghorydd dyled profiadol i weld os oes rhywbeth y gallwch ei wneud ynglŷn â’r peth.

Fe allwch chi gael cymorth oddi wrth ymgynghorydd dyled Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor ar-lein, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Wnaethoch chi arwyddo cytundeb

I fod yn gyfrifol am ad-dalu dyled, fe ddylech chi fod wedi arwyddo cytundeb credyd. Dogfen gyfreithiol ydyw hwn sy’n nodi'r hyn y mae’r ddwy ochor wedi cytuno iddo.

Cyn cytuno i ad-dalu arian, edrychwch ar y cytundeb credyd gwreiddiol i wneud yn siŵr eich bod wedi’i arwyddo, gwiriwch yr hyn y cytunoch iddo ac i weld os wnaeth rhywun arall drefnu’r credyd gyda chi.

Os nad arwyddoch chi gytundeb, ddylech chi ddim bod yn atebol yn gyfreithiol i ad-dalu’r ddyled.

Sut bynnag, fe allech chi fod yn gyfrifol os arwyddoch chi’r cytundeb fel gwarantwr.

Mae’n bosibl eich bod yn dioddef o ladrad hunaniaeth, lle mae drwgweithredwr wedi prynu credyd yn eich enw, neu eich bod yn cael eich erlid am ddyled a brynwyd gan rywun â’r un enw a chi.

Os arwyddoch chi’r cytundeb ar y cyd gyda rhywun arall megis partner, mwy na thebyg fe fydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian oni bai eich bod yn gallu perswadio'r benthyciwr a’r person arall i’ch rhyddhau o’r taliadau.

Os arwyddodd eich partner y cytundeb ar eu pennau eu hunain ac yna marw, ni ellir eich gorfodi i ad-dalu’r ddyled, er fe all y benthyciwr geisio adennill unrhyw arian sy’n ddyledus o ystâd y person a fu farw.

Er mwyn gwybod mwy ynglŷn â chael eich erlid am arian pan na wnaethoch chi arwyddo cytundeb credyd neu fe arwyddoch chi gyda rhywun arall, gweler Arwyddo cytundeb i fenthyg arian. Fe allwch chi hefyd ddarganfod sut i gael copi o’r cytundeb gwreiddiol os nad oes gennych un.

Nôl i’r brig


Ydych chi o dan 18

Fel arfer ni ellir mynd â phobol ifanc (plant dan oed) i’r llys oherwydd dyled. Mae hyn yn berthnasol i bobol ifanc o dan 18 yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Y rheswm am hyn yw na ellir eich dal wrth gytundeb yn gyfreithiol os ydych o dan oed.

Yn yr Alban, gellir mynd ag unrhyw un sy’n 16 neu’n hŷn i’r llys oherwydd dyled. Sut bynnag, os arwyddwch chi gytundeb a chwithau’n 16 neu 17 ac yn meddwl yn ddiweddarach na ddylech chi fod wedi’i arwyddo, fe allwch ofyn i’r llys am ei roi o’r neilltu. Rhaid i chi wneud hyn cyn eich bod yn 21, os ydych yn dymuno hynny.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglŷn â phryd mae pobol ifanc yn gyfrifol am ddyledion, gweler Pobol Ifanc – arian a hawliau defnyddwyr.

Nôl i’r brig


Ydych chi’n warantwr

Weithiau bydd benthyciwr yn gofyn i ail berson am arwyddo gwarant y bydd yr arian yn cael ei dalu. Gelwir y person hwn yn warantwr.

Os ydych chi wedi arwyddo cytundeb fel gwarantwr a dydy’r benthyciwr ddim yn talu fel y cytunwyd, fe fyddwch chi’n gyfrifol am y ddyled yn lle.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â bod yn warantwr i ddyled rhywun arall, gweler Sut mae benthycwyr yn penderfynu rhoi credyd i chi neu beidio.

Nôl i’r brig


Ydych chi’n asiant catalog

Pan fyddwch chi’n gweithredu fel asiant i gwmni catalog, fe ddylech chi drefnu cyfrif ar wahân i bob un o’ch cwsmeriaid i dalu eu harian i mewn iddo.

Os na wnewch chi hyn fe ellir eich dal chi’n gyfrifol am unrhyw arian nad ydyw’ch cwsmeriaid yn ei dalu.

Er mwyn gwybod mwy ynglŷn â bod yn gyfrifol am arian nad yw’ch cwsmeriaid yn ei dalu os ydych yn asiant catalog, gweler Arwyddo cytundeb i fenthyg arian.

Nôl i’r brig


Ydy’r benthyciwr wedi dilyn y gweithdrefnau cywir

Pan fyddwch chi’n benthyg arian fe ddylid gofyn i chi arwyddo cytundeb sy’n nodi’r hyn y mae’r ddwy ochr wedi cytuno iddo. Ar gyfer y mwyafrif o gytundebau credyd mae gan y benthyciwr hawliau cyfreithiol hefyd (hawliau statudol) o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr.

Mae’r gyfraith yn gosod allan beth y dylai benthyciwr ei wneud wrth gynnig credyd. Os nad yw’r benthyciwr wedi dilyn y gweithdrefnau cywir, efallai na fyddan nhw’n gallu’ch gorfodi chi i ad-dalu’r arian a fenthyciwyd gennych, neu fe fydd angen iddynt gael caniatâd oddi wrth y llys i’ch gorfodi i’w ad-dalu.

Efallai na fydd benthyciwr yn gallu’ch gorfodi i ad-dalu arian a fenthyciwyd gennych os:

  • ydyw’n dangos y swm anghywir o gredyd
  • ydyw’n dangos yr ad-daliadau anghywir neu eu bod wedi’u gadael allan yn gyfan gwbl
  • nad ydyw’n cynnwys yr holl hysbysiadau cyfreithiol y dylai wneud, er enghraifft, rhybudd canslo
  • nad oes gan y benthyciwr drwydded oddi wrth y Swyddfa Masnachu Teg (OFT) i roi benthyg arian.

Am, fwy o wybodaeth ynglŷn â beth ddylai fod mewn cytundeb credyd a pha rhybuddion sydd yn ofynnol, gweler Eich hawliau wrth i chi fenthyg arian.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i wirio os oes gan fenthyciwr drwydded, gweler Siarciaid benthyg.

Nid oes pob cytundeb credyd yn dod o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Un eithriad cyffredin ydyw morgeisi.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â morgeisi, gweler Problemau morgeisi.

Os nad oes copi gennych o’ch cytundeb credyd, fe allwch ofyn i’r benthyciwr credyd am anfon un i chi.

Os ydych yn credu nad yw’r benthyciwr wedi dilyn y gweithdrefnau cywir, efallai y gallwch gwyno neu ddadlau yn y llys nad oes rhaid i chi ad-dalu’r arian.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth i’w wneud os nad ydych yn credu i chi arwyddo cytundeb a sut i gael gafael ar gopi o gytundeb, gweler Arwyddo cytundeb i fenthyg arian.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwneud cwyn neu ddadlau yn y llys nad oes rhaid i chi ad-dalu’r arian, gweler Beth allwch chi ei wneud os ydych yn credu na ddylech chi ad-dalu dyled.

Nôl i’r brig


Ydy’r terfyn amser ar gyfer adennill dyled wedi dod i ben

Yn ôl y gyfraith, mae gan fenthyciwr amser penodol i fynd â chi i’r llys oherwydd dyled. Os nad yw’r benthyciwr yn dechrau’r achos llys o fewn y terfyn amser, fel arfer allan nhw ddim eich gorfodi i ad-dalu’r arian. Adwaenir y ddyled wedyn fel rhwystr statud.

Os ydyw wedi bod yn chwe blynedd (pum mlynedd yn y Alban) neu fwy ers i chi dalu unrhyw arian tuag at y ddyled neu ysgrifennu at y benthyciwr ynglŷn â’r ddyled, mae’n bwysig gwirio beth i’w wneud nesaf cyn i chi gysylltu â’r benthyciwr. Y rheswm am hyn yw os ddywedwch chi’r peth anghywir, fe all affeithio’ch hawl i ddadlau nad oes arnoch chi’r arian.

Fe ddylech chi wirio os ydyw dyled yn rhwystr statud ai peidio yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • cyn i chi gysylltu â benthyciwr i drefnu ad-daliad dyled
  • os cymerir chi i’r llys am arian sy’n ddyledus gennych.

Os na fydd y benthyciwr yn cysylltu â chi ar ôl chwe blynedd (pum mlynedd yn yr Alban), ddylech chi ddim cytuno fod arnoch chi unrhyw arian neu gynnig gwneud taliadau hyd nes y byddwch chi wedi cael cyngor oddi wrth ymgynghorydd dyled profiadol. Bydd hyn yn eich helpu i osgoi cydnabod yn ddamweiniol fod arnoch chi’r arian pan nad yw hynny’n wir. Unwaith y byddwch chi’n cydnabod fod arnoch chi’r arian, gall y terfyn amser wedyn fod yn amherthnasol.

Os ydych chi’n credu ei fod yn chwe blynedd (pum mlynedd yn yr Alban) neu fwy ers i chi dalu unrhyw arian tuag at eich dyled, fe ddylech chi gael cyngor ynglŷn â beth i’w wneud cyn cysylltu â’ch benthyciwr. Fe allwch chi gael cyngor oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Wnaethoch chi arwyddo cytundeb i fenthyg arian pan nad oeddech am wneud hynny

Efallai eich bod wedi arwyddo cytundeb i fenthyg arian (cytundeb credyd) pan nad oeddech am wneud hynny. Os arwyddoch chi’r cytundeb o dan amgylchiadau arbennig, efallai na fydd y benthyciwr yn gallu’ch gorfodi i ad-dalu’r arian.

Mae’r amgylchiadau hyn yn cynnwys:

  • lle rhoddwyd pwysau arnoch chi, neu lle cawsoch chi’ch bwlio neu’ch perswadio i arwyddo yn erbyn eich ewyllys gan rywun arall
  • lle’r affeithiwyd ar eich gallu i ddeall yr hyn yr oeddech yn ei wneud gan ddiod neu gyffuriau
  • lle rydych chi’n dioddef o afiechyd meddwl neu anabledd dysgu.

Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn ag arwyddo cytundeb credyd pan nad oeddech chi am wneud hynny yn Fe arwyddoch chi gytundeb i fenthyg arian pan nad oeddech chi am wneud hynny.

Os ydych chi’n credu eich bod wedi arwyddo cytundeb credyd o dan unrhyw un o’r amgylchiadau hyn, fe ddylech chi gael cyngor ynglŷn â beth i’w wneud. Fe allwch chi gael cyngor oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Ydy’r cytundeb credyd yn annheg yn gyfreithiol

Pan fyddwch chi’n arwyddo cytundeb i fenthyg arian, mae yna reolau ynglŷn â sut y dylai benthyciwr ymddwyn. Gelwir cytundeb i fenthyg arian yn gytundeb credyd.

Os ydyw’r benthyciwr wedi torri un o’r rheolau hyn, naill ai cyn neu ar ôl i chi arwyddo’r cytundeb, efallai y gallwch chi ddadlau fod y cytundeb yn annheg yn gyfreithiol. Efallai y gallwch chi gael telerau’r cytundeb wedi’u newid neu ddod allan ohono yn gyfan gwbl.

Fe fyddai angen i chi gwyno’n swyddogol neu fynd â’r benthyciwr i’r llys i wneud hyn.

Efallai y byddwch yn gallu dadlau fod cytundeb yn annheg yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • fe gam-werthwyd yswiriant i chi megis Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI) pan drefnoch chi’r benthyciad
  • fe’ch camarweiniwyd ynglŷn â’r hawliau cyfreithiol sydd gennych o dan delerau’r cytundeb
  • wnaeth y benthyciwr ddim gwirio y byddech chi’n gallu cadw at amodau’r cytundeb. Er enghraifft, efallai na wnaethon nhw wirio y gallech chi fforddio ad-daliadau’r benthyciad
  • fe godwyd cyfradd llog afresymol o uchel arnoch am y benthyciad
  • fe godwyd taliadau afresymol o uchel arnoch am ddiffyg talu ar y benthyciad
  • mae’r benthyciwr wedi torri unrhyw un o’r rheolau yn arweiniad neu godau ymarfer y Swyddfa Masnachu Teg
  • mae’r benthyciwr yn fwriadol wedi cymryd mantais o’ch diffyg gwybodaeth neu brofiad lle mae arian yn y cwestiwn.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno os ydych chi’n credu fod eich cytundeb credyd yn annheg, gweler Beth allwch chi ei wneud os nad ydych yn credu y dylech chi ad-dalu dyled.

Os ydych chi’n credu fod eich cytundeb credyd yn annheg, fe allwch chi gael cyngor oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau cyfreithiol wrth i chi arwyddo cytundeb credyd, gweler Eich hawliau wrth i chi fenthyg arian.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â cham-werthu Yswiriant Diogelu Taliadau, gweler Yswiriant Diogelu Taliadau.

Nôl i’r brig


Beth allwch chi ei wneud os nad ydych yn credu y dylech chi ad-dalu dyled

Os ydych chi’n cael eich erlid am arian gan fenthyciwr a chwithau’n credu fod yna reswm pam na ddylech chi orfod ad-dalu’r arian, efallai y gallwch chi:

  • gwyno wrth y benthyciwr
  • gwyno wrth y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol (FOS)
  • os cymerir chi i’r llys gallwch ddadlau yn y llys na ddylech chi orfod ad-dalu’r arian.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth allwch chi ei wneud os nad ydych yn credu y dylech chi orfod ad-dalu dyled, gweler Beth allwch chi ei wneud os ydych yn credu na ddylech chi ad-dalu dyled.

Os nad ydych yn credu y dylech chi orfod ad-dalu dyled yr ydych yn cael eich erlid amdano, fe ddylech chi gael cymorth oddi wrth ymgynghorydd dyled profiadol er mwyn gweld beth allwch chi ei wneud ynglŷn â’r peth.

Fe allwch chi gael cymorth oddi wrth ymgynghorydd dyled Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor ar-lein, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Cymorth ychwanegol

Yn Adviceguide

Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS)

Os ydych chi wedi cwyno wrth fenthyciwr credyd a dydyn nhw ddim wedi gallu’ch helpu, fe allwch fynd â’ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Fe allwch gysylltu â llinell gymorth y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol ar 08000 234 567 (am ddim i bobol sy’n ffonio o linell tir benodol) neu 0300 123 9 123 (am ddim i ddefnyddwyr ffôn symudol sy’n talu’n fisol am alwadau i rifau sy’n dechrau 01 neu 02). Er mwyn ymweld â’r wefan, ewch i: www.financial-ombudsman.org.uk.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback