The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Delio â dyledion brys
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
Delio â dyledion brys
Os oes gennych ddyledion, mae’n bwysig eich bod yn cadw mewn cysylltiad â’r bobl y mae arnoch arian iddynt (eich credydwyr). Os ydych yn pryderu am eich dyledion, mae’n bosib yr ydych yn ofni cysylltu â nhw, ond gallwch gael cymorth i wneud hyn. Os nad yw eich credydwyr yn ymwybodol eich bod yn cael anawsterau ariannol, byddant yn honni nad ydych eisiau talu a dechrau cymryd camau yn eich erbyn.
Cyn cysylltu â’ch credydwyr, mae’n rhaid i chi gyfrifo swm eich dyledion a gwybod pwy yw eich credydwyr.
Yna mae’n rhaid i chi adnabod pa ddyledion y dylech eu talu yn gyntaf ac os oes gennych ddigon o arian i’w talu.
Mae’n rhaid i chi ddelio â rhai dyledion yn gyflymach nag eraill oherwydd gallai’r canlyniadau o beidio â’u talu fod yn fwy difrifol na dyledion eraill. Gelwir y rhain yn ddyledion â blaenoriaeth sef dyledion morgais, rhent a’r dreth gyngor. Gelwir y bobl y mae’n rhaid i chi dalu’r mathau hyn o ddyledion iddynt yn gredydwyr â blaenoriaeth.
I wirio p’un ai bod gennych ddigon o arian i dalu eich dyledion â blaenoriaeth, bydd angen i chi gyfrifo incwm holl aelodau eich cartref a’ch gwariant. Dyma eich cyllideb.
Os oes gennych ychydig o arian i ad-dalu eich dyledion, sicrhewch eich bod yn delio â’r dyledion â blaenoriaeth yn gyntaf. Wedi hynny, gallwch ddelio â’r dyledion llai brys megis dyledion cardiau credyd, gorddrafftiau a benthyciadau eraill. Gelwir y mathau hyn o ddyledion yn ddyledion heb flaenoriaeth.
Pan ydych yn cyfrifo faint allwch dalu eich credydwyr, bydd angen i chi gysylltu â phob credydwr â blaenoriaeth a cheisio dod i drefniant ynghylch sut i ad-dalu eich dyledion. Ar ôl hynny, os oes arian yn weddill, gwnewch gynigion i’ch credydwyr heb flaenoriaeth.
Mae’r dudalen hon yn esbonio sut i ddelio â’ch credydwyr â blaenoriaeth.
Am wybodaeth ynglŷn â chyfrifo swm eich dyledion a chyfrifo eich cyllideb, gweler Sut i ddelio â’ch dyledion a Sut i gyfrifo eich cyllideb.
Os nad oes gennych unrhyw arian i ad-dalu eich dyledion â blaenoriaeth, mynnwch gyngor cyn gynted ag y gallwch oherwydd gallai’r canlyniadau o beidio â thalu fod yn ddifrifol.
Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth roi cyngor ar broblemau dyled. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar eich CAB agosaf.
Beth yw dyledion â blaenoriaeth
Mae rhai dyledion yn fwy brys nag eraill oherwydd gallai’r canlyniadau o beidio â’u talu fod yn fwy difrifol na dyledion eraill. Gelwir y rhain yn ddyledion â blaenoriaeth. Mae dyledion â blaenoriaeth yn cynnwys:
- ôl-ddyledion morgais a rhent. Os nad ydych yn talu’r rhain, gallech golli eich cartref
- ôl-ddyledion nwy a thrydan. Os nad ydych yn talu’r rhain, gellir datgysylltu’ch cyflenwad
- ôl-ddyledion y dreth gyngor. Os nad ydych yn talu’r rhain, gall y llys ddefnyddio beilïaid i gymryd eich nwyddau. Os oes dal gennych ôl-ddyledion heb eu talu ar ôl hyn, gallwch gael eich anfon i’r carchar
- dirwyon llys megis dirwyon oherwydd troseddau traffig. Os nad ydych yn talu’r rhain, gall y llys ddefnyddio beilïaid i gymryd eich nwyddau. Os oes dal gennych ôl-ddyledion heb eu talu ar ôl hyn, gallwch gael eich anfon i’r carchar. Nid yw cosbau parcio a roddir gan awdurdodau lleol yn ddyledion â blaenoriaeth
- ôl-ddyledion cynhaliaeth sy’n daladwy i gynbartner neu blant. Mae hyn yn cynnwys Cynhaliaeth Plant sy’n ddyledus gennych i’r Asiantaeth Cynnal Plant. Os nad ydych yn talu’r rhain, gall y llys ddefnyddio beilïaid i gymryd eich nwyddau. Os oes dal gennych ôl-ddyledion heb eu talu ar ôl hyn, gallwch gael eich anfon i’r carchar.
- ôl-ddyledion y dreth gyngor neu TAW. Gallwch gael eich anfon i’r carchar am beidio â thalu’r dreth incwm neu TAW
- trwydded teledu neu ôl-ddyledion trwydded teledu. Mae defnyddio teledu heb drwydded yn drosedd. Gallech gael dirwy.
Mae’n bosib bod gennych ddyledion eraill y credwch chi sy’n bwysig i’w talu. Er enghraifft, os ydych yn anabl ac yn dibynnu ar eich car, mae’n bosib bod angen i chi flaenoriaethu ad-dalu ar gytundeb hurbrynu i’w atal rhag cael ei adfeddiannu.
Mae angen i chi feddwl yn ofalus iawn ynglŷn â pha ddyledion yr ystyriwch yn rhai pwysig. Mae’n rhaid bod gennych resymau da iawn oherwydd mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi ddarbwyllo’r llys neu gredydwyr eraill pam bod y dyledion hyn yn bwysicach nag eraill.
Os yw credydwyr yn teimlo eich bod yn trin credydwr arall yn fwy ffafriol, heb reswm da dros wneud, mae’n bosib na fyddant yn derbyn eich cynnig a chymryd camau pellach yn eich erbyn.
Am fwy o wybodaeth am ddyledion a ystyrir yn llai brys na dyledion â blaenoriaeth, gweler Sut i ddelio â’ch dyledion a Sut i ddelio â’ch credydwyr.
Sut i ddelio â chredydwyr â blaenoriaeth
Peidiwch ag anwybyddu llythyrau neu alwadau ffôn oddi wrth eich credydwyr â blaenoriaeth. Cysylltwch â nhw cyn gynted â phosibl ac esboniwch iddynt pam eich bod mewn dyled.
Dylech gysylltu â’r credydwyr â blaenoriaeth dros y ffôn os allwch er mwyn delio â phethau yn gyflymach. Nodwch yr holl alwadau ffôn a chyfarfodydd, gan gynnwys enw’r person a siaradodd â chi a’r hyn a gytunoch. Os ydych yn ffonio, dylech anfon llythyr i gadarnhau'r hyn a drafodoch ar y ffôn. Cadwch gopïau o unrhyw lythyrau a ysgrifennwch atynt.
Pan ydych yn cysylltu â’ch credydwyr, esboniwch pam eich bod mewn dyled. Os na allwch gynnig ad-dalu ar unwaith, gofynnwch am fwy o amser, er enghraifft 14 neu 28 diwrnod tra’ch bod yn cael cyngor a chyfrifwch eich cyllideb. Mae’n bosib na fydd credydwyr â blaenoriaeth yn fodlon aros, felly efallai bydd yn rhaid i chi gynnig swm sy’n fwy na’ch rhandaliad arferol iddynt tan eich bod yn cael cyngor. Esboniwch eich bod yn ceisio delio â’ch dyledion a byddwch yn cysylltu â nhw cyn bo hir pan ydych yn gwybod faint allwch fforddio talu. Os yw’r person cyntaf a siaradodd â chi yn anghynorthwyol, gofynnwch i siarad â rheolwr.
Mae’n bwysig eich bod yn ceisio talu o leiaf y rhandaliadau arferol yn y cyfamser. Os allwch wneud hyn, talwch gymaint ag y gallwch a mynnwch gyngor cyn gynted â phosibl.
Gall asiantaeth gynghori fel eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol eich helpu i gysylltu â’ch credydwyr. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar eich CAB agosaf.
Os yw eich credydwyr â blaenoriaeth yn bygwth achos llys neu wedi dechrau achos llys yn eich erbyn, cysylltwch â nhw yn syth. Os nad ydynt eisoes wedi dechrau achos llys, gofynnwch iddynt beidio â chymryd camau pellach am bythefnos fel eich bod yn gallu cyfrifo faint allwch dalu a chysylltu â nhw eto. Os ydynt wedi dechrau achos llys, rydych chi yn dal yn gallu dod i gytundeb ac mewn rhai achosion, gallent fod yn fodlon peidio â chymryd rhagor o gamau yn y llys. Mae hyn yn dibynnu ar y math o ddyled sydd gennych a faint o arian sy’n ddyledus.
Hyd yn oed os yw credydwr â blaenoriaeth yn parhau i gymryd camau yn y llys, byddwch fel arfer yn gallu cynnig ad-dalu. Bydd y papurau llys a dderbyniwch yn esbonio’r hyn ddylech wneud a phryd.
Os na allwch fforddio talu unrhyw arian
Pan ydych wedi mynd i’r afael â’ch arian, os na allwch fforddio talu unrhyw arian i’ch credydwyr â blaenoriaeth ac nid yw eich sefyllfa yn debygol o wella, gallai’r canlyniad fod yn ddifrifol iawn. Mynnwch gyngor ar unwaith. Bydd ymgynghorydd yn gallu eich helpu i wybod yr hyn ddylech ei wneud yn eich sefyllfa chi. Dywedwch wrth eich credydwr eich bod yn cael cyngor a byddwch yn cysylltu â nhw cyn gynted â phosibl. Gofynnwch iddynt beidio â chymryd camau ychwanegol am ychydig o wythnosau tra’ch bod yn cael cyngor.
Bydd eich Canolfan Cyngor ar Bopeth yn gallu eich cynghori. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar eich CAB agosaf.
Os allwch fforddio talu
Os oes gennych ychydig o arian i’w roi i’ch credydwyr â blaenoriaeth, cysylltwch â bob un ohonynt a cheisiwch drefnu sut i ad-dalu eich dyled. Gallwch naill ai gwneud hyn ar eich pen eich hun, neu mynnwch gyngor gan ymgynghorydd dyled profiadol.
Beth ddylech ddweud wrth eich credydwyr â blaenoriaeth
Bydd y mwyafrif o gredydwyr yn ystyried cynnig rhesymol. Bydd yr hyn a ofynnwch i’ch credydwr yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol, gan gynnwys:
- faint o arian sydd gennych yn weddill i dalu eich credydwyr â blaenoriaeth
- faint o ddyledion â blaenoriaeth sydd gennych
- p’un ai bod eich sefyllfa yn debygol o wella neu beidio.
Mae’n bwysig bod credydwyr yn gallu gweld bod yr hyn a ofynnwch amdano yn rhesymol o dan yr amgylchiadau. Felly sicrhewch eich bod yn rhoi copi o’ch taflen cyllideb iddynt ac esboniwch eich sefyllfa yn llawn.
Os oes gennych broblem fyrdymor
Mae’n bosib nad ydych yn gallu talu eich dyledion ar hyn o bryd oherwydd eich bod yn ddi-waith, neu i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch. Fodd bynnag, rydych yn disgwyl i bethau wella yn fuan oherwydd:
- eich bod yn dychwelyd i’r gwaith
- byddwch yn derbyn budd-daliadau
- byddwch yn derbyn arian o bolisi Yswiriant Gwarchod Taliadau Morgais neu fenthyciad
- byddwch yn gwerthu ychydig o’ch eiddo i’ch helpu gyda’ch dyledion.
Am fwy o wybodaeth am yswiriant gwarchod taliadau yn Lloegr a Chymru, gweler y taflenni ffeithiau Benthyg.
Sicrhewch fod eich credydwyr yn ymwybodol o’ch amgylchiadau oherwydd gallent roi amser ychwanegol i chi dalu.
Os ydych yn cynnig ad-dalu symiau ychwanegol yn rheolaidd
Mae’n bosib y byddwch am ofyn i’ch credydwyr a allwch ad-dalu symiau ychwanegol yn rheolaidd tan fod eich dyled wedi cael ei chlirio.
Mae angen i chi fod yn glir ynghylch yr hyn a ofynnwch amdano. Dywedwch wrth eich credydwyr p’un ai byddwch yn talu’n wythnosol neu’n fisol.
Mae hefyd angen i chi fod yn siŵr y gallwch fforddio’r swm a gynigiwch. I gyfrifo faint allwch ei fforddio, bydd angen i chi edrych ar eich cyllideb.
Cofiwch sôn am unrhyw newidiadau a fydd yn effeithio ar eich gallu i dalu neu’r swm a gynigiwch.
Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth eich helpu i drafod gyda’ch credydwyr. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Sut i ddelio ag ôl-ddyledion morgais
Mae’n bwysig delio ag ôl-ddyledion morgais ar unwaith. Os ydych yn oedi, gallech golli eich cartref. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch ddelio â’ch ôl-ddyledion morgais. Yn dibynnu ar y math o forgais sydd gennych, mae’n bosib y gallwch:
- dalu llog yn unig
- ychwanegu’r ôl-ddyledion at y cyfanswm sydd arnoch (cyfalafu)
- talu mewn rhandaliadau
- newid i forgais ad-dalu.
Os ydych yn cael rhai budd-daliadau penodol, mae’n bosib y gallwch ad-dalu’r ôl-ddyledion gyda’ch budd-daliadau yn uniongyrchol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddelio ag ôl-ddyledion morgais, gweler Sut i ddelio â’ch problemau morgais.
Sut i ddelio ag ôl-ddyledion rhent
Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau rhent ac os nad ydych yn mynd i’r afael â nhw, gallwch golli eich cartref.
Os ydych yn rhentu gan Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (RSL)
Os ydych yn rhentu gan landlord cymdeithasol cofrestredig megis asiantaeth dai neu awdurdod lleol, dylai’r landlord dderbyn cynnig rhesymol o ad-daliad. Sicrhewch eich bod yn talu eich rhent arferol. Cysylltwch â’r landlord gyda chopi o’ch cyllideb a gofynnwch iddo dderbyn taliad ychwanegol bob mis (neu wythnos) ar ben eich rhent er mwyn talu’r ôl-ddyledion. Dechreuwch dalu eich cynnig cyn gynted ag y gallwch.
Os ydych yn cael budd-daliadau prawf modd, mae’n bosib y gallwch ad-dalu’r ôl-ddyledion drwy didynnu’n uniongyrchol o’ch budd-daliadau. Gwiriwch gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (os yw hyn yn berthnasol i chi).
Os ydych yn rhentu gan landlord preifat
Os ydych yn rhentu gan landlord preifat megis unigolyn neu drwy asiantaeth rhentu, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi gytuno i glirio’r ôl-ddyledion yn gyflymach a gallai’r landlord gymryd camau i’ch troi allan o’ch cartref yn gynharach. Yn yr achos hwn, mae’n bosib y bydd angen i chi gwtogi eich gwariant am gyfnod fel eich bod yn gallu ad-dalu’r ôl-ddyledion. Os oes arnoch ôl-ddyledion rhent i landlord preifat, mynnwch gyngor ar unwaith.
Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi ar ôl-ddyledion rhent. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddelion ag ôl-ddyledion rhent yn Lloegr a Chymru, gweler y daflen ffeithiau Ôl-ddyledion rhent [
74 KB].
Sut i ddelio ag ôl-ddyledion nwy a thrydan
Mae’n rhaid i ddarparwyr nwy a thrydan ystyried eich gallu i dalu a dylent ystyried cynnig rhesymol i’ch caniatáu i ad-dalu’r ôl-ddyledion mewn rhandaliadau.
Os ydych yn ei chael yn anodd ad-dalu’r ôl-ddyledion, gallwch ofyn am fesurydd talu ymlaen llaw.
Os ydych yn cael budd-dal prawf modd, mae’n bosib y gallwch dalu’r ôl-ddyledion drwy ddidynu’n uniongyrchol o’ch budd-dal.
Am fwy o wybodaeth am ôl-ddyledion nwy a thrydan yn Lloegr a Chymru, gweler taflen ffeithiau Ôl-ddyledion nwy a thrydan.
Sut i ddelio ag ôl-ddyledion y dreth gyngor
Mae gan awdurdodau lleol ychydig o ryddid wrth ddewis sut i gasglu ôl-ddyledion y dreth gyngor. Mae’n bosib y byddant yn cytuno i chi dalu’r ôl-ddyledion dros weddill y flwyddyn dreth neu eu hychwanegu at fil y flwyddyn nesaf.
Os yw’r ddyled eisoes gan y beilïaid, gallwch ofyn i’r awdurdod lleol a fyddent yn fodlon peidio â chymryd camau yn y llys a’ch caniatáu i’w talu yn uniongyrchol. Nid oes yn rhaid i chi wneud hyn ond os ydynt yn cytuno, bydd angen i chi dalu ffioedd y beilïaid sydd eisoes wedi cael eu hychwanegu at eich bil.
Os nad yw’r awdurdod lleol yn cytuno i ddefnyddio beilïaid, dylech geisio cytuno ar gynllun ad-dalu gyda’r beilïaid.
Os ydych yn ei chael yn anodd cytuno ar gynllun, mynnwch gyngor, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau penodol, mae’n bosib y gallwch dalu’r ôl-ddyledion drwy ddidynnu’n uniongyrchol o’ch budd-dal. Gwiriwch gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Os ydych yn gweithio, gallwch dalu’r ôl-ddyledion o’ch cyflog drwy orchymyn atafael cyflog. Mae’r swm yr ydych yn ei dalu yn benodedig a gallai fod yn fwy na’r hyn allwch ei fforddio. Gall ymgynghorwr gyfrifo faint y bydd angen i chi ei ad-dalu fel hyn.
Mewn rhai amgylchiadau, gall yr awdurdod lleol neu lys gytuno i ddileu dyled os dangoswch na allwch ei thalu o gwbl. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi dalu’ch bil cyfredol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag ôl-ddyledion y dreth gyngor yn Lloegr a Chymru, gweler taflen ffeithiau Treth Gyngor.
Sut i ddelio â chynhaliaeth plant a chynhaliaeth
Ôl-ddyledion cynhaliaeth plant
Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau gorchymyn cynhaliaeth plant, dylech gysylltu â’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) ar unwaith er mwyn trefnu sut i dalu. Os nad ydych yn gwneud hyn, bydd y CSA yn ceisio am orchymyn didynnu o enillion sy’n golygu y gallai gymryd arian yn syth o’ch cyflog. Maen nhw’n cymryd swm penodedig.
Dylai’r CSA geisio cysylltu â chi er mwyn ceisio dod i drefniant ynghylch sut i dalu’r ôl-ddyledion cyn gynted â bod taliad yn ddyledus. Os nad ydych yn dod i drefniant gyda’r CSA, bydd y ddyled yn cael ei throsglwyddo at uned gorfodi arbenigol y CSA ar ôl pedwar mis. Gall yr uned hon gymryd camau pellach yn y llys.
Os yw hyn yn digwydd, mynnwch gyngor ar unwaith.
Am fwy o wybodaeth ynglyn ag ôl-ddyledion cynhaliaeth plant yn Lloegr a Chymru, gweler y daflen ffeithiau ôl-ddyledion Cynhaliaeth plant a chynhlaiaeth.
Ôl-ddyledion cynhaliaeth
Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau gorchymyn llys ar gyfer cynhaliaeth, gallwch ofyn i’r llys newid y gorchymyn fel eich bod yn gallu fforddio’r taliadau. Os nad ydych yn gallu gwneud hyn, cewch orchymyn i ymddangos yn y llys i esbonio pam nad ydych wedi talu. Rydych yn dal yn gallu dod i drefniant ynghylch sut i dalu.
Am fwy o wybodaeth ynglyn ag ôl-ddyledion cynhaliaeth yn Lloegr a Chymru, gweler taflen ffeithiau Ôl-ddyledion Cynhaliaeth plant a chynhlaiaeth.
Os oes angen help arnoch i ymdrin â’ch ôl-ddyledion cynhaliaeth, cewch gyngor rhad ac am ddim, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Sut i ddelio ag ôl-ddyledion y dreth incwm
Os ydych ar ei hôl hi gyda thaliadau’r dreth incwm, dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM (HMRC) cyn gynted â phosibl. Gofynnwch iddo beidio â chymryd camau pellach nes eich bod yn cael cyngor neu gyfrifo faint allwch fforddio talu.
Mae’n bosib y gallwch gael cymorth arbenigol er mwyn sicrhau bod y dreth a dalwch yn gywir. Gallwch gael cymorth gan gyfrifydd neu Business Debtline neu TaxAid.
Os ydych yn rhedeg busnes bach ac os ydyw yn dal yn masnachu, bydd angen i chi drin y ddyled fel blaenoriaeth. Fel arall, gall yr HMRC atafaelu eich nwyddau hanfodol heb orchymyn llys a gallai olygu y bydd yn rhaid i’ch busnes gau.
Gallai’r HMRC gytuno i ddileu dyled mewn amgylchiadau eithriadol, er enghraifft, os na allwch fforddio talu’r ddyled a gallwch ddangos na fydd eich amgylchiadau yn gwella oherwydd salwch neu henaint. Os yw hyn yn berthnasol i chi, mynnwch gyngor gan ymgynghorydd arbenigol.
Am fwy o wybodaeth am ôl-ddyledion y dreth incwm yn Lloegr a Chymru, gweler y daflen ffeithiau Ôl-ddyledion y dreth incwm.
Os oes angen cymorth arnoch i fynd i’r afael ag ôl-ddyledion y dreth incwm, mynnwch gyngor mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Sut i ddelio ag achos llys
Gallai credydwyr fygwth achos llys. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddynt fod wedi anfon hysbysiad ysgrifenedig atoch yn gyntaf sy’n eich rhybuddio y byddant yn dechrau cymryd camau yn y llys os nad ydych yn talu’ch dyled.
Os yw’r credydwr wedi dechrau gweithredu yn y llys, darllenwch y papurau yn ofalus a sicrhewch eich bod yn ymateb i lythyrau’r llys o fewn y terfyn amser. Mynnwch gyngor os nad ydych yn siwr p’un ai a ddylech lenwi’r ffurflenni neu beidio. Os ydych eisoes wedi cyfrifo cyllideb, gallwch ddefnyddio hyn i’ch helpu i lenwi’r ffurflen a chyfrifo faint allwch fforddio talu.
Os oes gwrandawiad llys, sicrhewch eich bod yn mynd iddo. Os oes gennych amser cyn y gwrandawiad, ceisiwch siarad ag ymgynghorydd. Gallan nhw eich helpu i benderfynu ar yr hyn ddylech ei ddweud yn y llys a gall rhai ymgynghorwyr fynd gyda chi i’r llys os oes angen. Os ydych yn mynd i’r llys ar eich pen eich hun, gwiriwch gyda staff y llys p’un ai bod cyfreithiwr ar ddyletswydd neu wasanaeth cynghori ar gael yn y llys.
Os gwrthodir eich cynnig neu os nad ydych yn derbyn bod arian yn ddyledus gennych, mynnwch gyngor gan ymgynghorydd dyled profiadol.
Os oes rhaid i chi fynd i’r llys oherwydd dyled â blaenoriaeth, mynnwch gyngor, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddelio â dyled ac arian ar y tudalennau Adviceguide canlynol:
- Cymorth gyda dyled
- Delio â dyledion brys
- Cyllidebu
- Benthyca arian
- Dyled ac achos llys (yn Lloegr a Chymru)
- Problemau gyda’ch morgais.
Business Debtline
TaxAid









