Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Sut i ddefnyddio’r offeryn cyllidebu

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Ynglŷn â’r offeryn cyllidebu

Fe allwch chi ddefnyddio’r offeryn cyllidebu i weithio allan eich cyllideb cartref. Fe allwch chi hefyd ddefnyddio’r offeryn i weithio allan faint o arian sydd ar gael gennych i ad-dalu eich dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth. Mae’r rhain yn cynnwys cardiau credyd, gorddrafftiau a benthyciadau eraill heb warant (benthyciadau sydd heb eu gwarantu yn erbyn eich eiddo)

Ar y diwedd, fe fyddwch yn gallu argraffu datganiad ariannol y gallwch ei ddefnyddio i ddod i gytundeb gyda’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth.

I wybod mwy am ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth, yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon gweler Sut i ddatrys eich dyledion. Yn yr Alban, gweler Sut i ddatrys eich dyledion.

I gwblhau eich cyllideb gan ddefnyddio’r offeryn cyllidebu, fe fydd angen i chi lenwi’r holl wybodaeth sy’n berthnasol i chi ar bob un o’r deg tudalen. Mae yna gyswllt i ganllawiau manwl ar dop pob tudalen i’ch helpu chi i’w llenwi.

Fydd dim angen i chi lenwi pob tudalen, ond ceisiwch ganiatáu cymaint o amser ag sy’n bosibl er mwyn ei llenwi'n gywir. Bydd y canlyniad ar y diwedd yn well os ydych chi wedi cael pob swm yn iawn.

Bydd angen i chi gael gwybodaeth am eich holl incwm a threuliau a dyledion. Fe ddylech chi wneud yn siŵr fod yr holl wybodaeth yma gennych cyn defnyddio’r offeryn. Fe allwch chi gael rhestr wirio o’r wybodaeth sydd ei angen arnoch i gwblhau’r offeryn.

Ar ôl i chi lenwi’ch holl fanylion, fe fyddwch yn gallu edrych ar eich datganiad ariannol. Crynodeb o’ch cyllideb ydyw hwn sy’n dangos pa arian sydd ar gael gennych i ad-dalu eich dyledion a’r cynigion o ad-daliad y gallwch eu fforddio i bob un o’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth. Fe fyddwch yn gallu cadw’r datganiad ariannol a’i argraffu.

Nôl i’r brig


Pryd i ddefnyddio’r offeryn cyllidebu

Mae’n well i chi ddefnyddio’r offeryn pan fyddwch chi’n barod i weithio allan gynigion i’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth. Os nad ydych eisoes wedi edrych ar ein gwybodaeth arall ynglŷn â datrys eich dyledion, efallai y bydd o gymorth i chi wneud hynny cyn dechrau defnyddio’r offeryn cyllidebu.

Am fwy o wybodaeth am gredydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth a sut i ddatrys eich dyledion, yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, gweler, Cymorth gyda dyled. Yn yr Alban, gweler Cymorth gyda dyled.

Os oes gennych ddyledion sy’n flaenoriaeth

Os yw rhai o’ch dyledion yn ddyledion sy’n flaenoriaeth, fe fydd angen i chi wneud trefniadau gyda’r credydwyr hynny cyn i chi ddefnyddio’r offeryn cyllidebu. Mae dyledion sy’n flaenoriaeth yn cynnwys ôl-ddyledion rhent, morgais, treth gyngor, nwy a thrydan, dirwyon, treth incwm a TAW.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â datrys dyledion sy’n flaenoriaeth, yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon gweler Delio â dyledion brys. Yn yr Alban, gweler, Delio â dyledion sy’n flaenoriaeth.

Os oes gan unrhyw un o’ch credydwyr orchymyn llys eisoes

Os oes gan unrhyw un o’ch credydwyr orchymyn llys yn y llys sirol neu’r llys siryf, mae angen i chi gael cyngor cyn defnyddio’r offeryn cyllidebu. Y rheswm am hyn yw bod angen i chi wneud yn siwr nad yw’r swm y dylech chi ei dalu o dan y gorchymyn llys yn cael ei effeithio gan y cynigion o daliadau a weithiwyd allan gan yr offeryn cyllidebu.

Rhaid i chi barhau i ad-dalu beth bynnag mae’r llys wedi’i orchymyn.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gorchmynion llys yn Lloegr a Chymru, gweler y daflen ffeithiau Beth sy’n digwydd os cymerir chi i’r llys am arian sy’n ddyledus gennych yn nhaflenni ffeithiau Credyd a dyled.[link to tudalen testun Dyled ac achos llys] Yn yr Alban, gweler y daflen ffeithiau Beth sy’n digwydd os cymerir chi i’r llys am arian sy’n ddyledus gennych.

Gall eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol roi cyngor i chi ynglŷn â phroblemau dyled. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Rhestr wirio gwybodaeth ar sut i ddefnyddio’r offeryn cyllidebu

Er mwyn llenwi tudalennau’r offeryn cyllidebu bydd angen i chi gael gwybodaeth am eich holl incwm a’ch treuliau a’ch dyledion. Bydd angen y wybodaeth yma hefyd ar gyfer eich partner os ydych yn gwneud cyllideb ar y cyd a bydd angen manylion incwm unrhyw un arall sy’n rhan o’r gyllideb, er enghraifft oedolion eraill sy’n byw gyda chi.

Bydd o gymorth i chi os cewch chi’r holl waith papur at ei gilydd cyn dechrau. Os na wnewch chi, efallai na fyddwch yn gallu cwblhau’r offeryn cyllidebu ar un cynnig a bydd yn rhaid i chi ddechrau eto.

Dyma restr wirio o’r wybodaeth fydd ei angen arnoch:

  • slipiau cyflog
  • hysbysiadau budd-daliadau a chredyd treth sy’n dangos y symiau sy’n dod i chi
  • hysbysiadau pensiynau sy’n dangos y symiau sy’n dod i chi
  • cytundeb tenantiaeth os ydych chi’n rhentu’ch cartref
  • cytundeb morgais os ydych chi’n berchen tŷ
  • biliau nwy (y tri olaf)
  • biliau trydan (y tri olaf)
  • biliau dŵr (y tri olaf)
  • biliau ffôn (y tri olaf)
  • manylion treuliau iechyd i chi a’ch teulu
  • polisïau yswiriant
  • rhybudd ôl-ddyledion rhent neu forgais
  • rhybudd ôl-ddyledion treth gyngor
  • rhybudd dirwyon
  • biliau treth a TAW neu hawliadau
  • derbynebau siopa i weithio allan biliau bwyd
  • eich cyfriflen banc ddiweddara
  • y datganiad neu lythyr diweddara sy’n dangos enw'r person y mae arnoch arian iddo a’r swm sy’n ddyledus. Bydd angen hyn arnoch ar gyfer pob dyled sydd gennych gan gynnwys benthyciadau personol, cardiau credyd a siop, catalogau, cytundebau hurbwrcas a gwerthiant amodol.

Nôl i’r brig


Symud o gwmpas y tudalennau

I symud rhwng y tudalennau yn yr offeryn cyllidebu, cliciwch ar:

  • Cychwyn (Start) i fynd yn ôl i gychwyn yr offeryn cyllidebu
  • Blaenorol (Previous) i fynd yn ôl un tudalen
  • Nesaf (Next) i fynd ymlaen un tudalen.

Mae’r bar cynnydd (progress bar) ar dop pob tudalen yn dangos i chi ar ba dudalen o’r offeryn cyllidebu yr ydych arni wrth i chi symud drwyddo.

Nôl i’r brig


Gwybodaeth bwysig ar bob tudalen

Mae gwybodaeth bwysig am bob tudalen yn y blwch ar dop y dudalen. Er mwyn gweld canllawiau ynglŷn â llenwi’r dudalen, clicwich ar y cyswllt Darllen mwy (Read more). Bydd y dudalen canllawiau yn agor mewn ffenestr arall.

Ar gyfer canllaw tudalen wrth dudalen ar sut i lenwi’r offeryn cyllidebu, gweler Canllawiau’r Offeryn Cyllidebu.

Nôl i’r brig


Blychau gwybodaeth

Dyma lle rydych chi’n llenwi’ch manylion i weithio allan eich cyllideb. Fe allwch chi weld canllawiau ynglŷn â beth i’w roi yn y blychau a sut i weithio allan symiau trwy glicio ar y cyswllt Darllen mwy (Read more) ar dop pob tudalen.

Nôl i’r brig


Gwybodaeth orfodol

Mae peth o’r wybodaeth yn orfodol. Mae hyn yn golygu na allwch fynd ymlaen i’r dudalen nesaf hyd nes y byddwch wedi rhoi rhywbeth yn y blwch. Dangosir y wybodaeth orfodol gydag asterisc (*).

Os ydych chi’n methu gwybodaeth orfodol, fe welwch chi neges i’ch rhybuddio ar y sgrîn yn dweud na allwch chi barhau â’r offeryn cyllidebu. Er mwyn parhau gyda’ch cyllideb bydd angen i chi roi rhywbeth yn y blwch. Os nad yw’r blwch yn berthnasol i chi, er enghraifft, mae blwch ar gyfer morgais a chwithau heb un, fe ddylech chi roi 0 (sero).

Nôl i’r brig


Sut i ysgrifennu symiau

Pan fydd y swm yn cynnwys ceiniogau dim ond y pwynt degol sydd angen ei roi. Nid oes rhaid i chi roi arwydd y bunt(£). Bydd hwn yn ymddangos yn awtomatig yn y datganiad ariannol. [link to heading datganiad ariannol yn Ynglŷn ag offeryn cyllidebu]

Enghraifft:

Ar gyfer swm o £25.00, yr ydych chi yn rhoi 25

Ar gyfer swm o £13.50, yr ydych chi yn rhoi 13.5

Nôl i’r brig


Pa mor aml y gwneir taliadau

Pan fyddwch chi’n rhoi i mewn swm ar gyfer incwm a threuliau rhaid i chi nodi pa mor aml y telir y swm (amler). Er enghraifft, efallai eich bod yn talu bil yn wythnosol neu’n fisol. Mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi’r amlder cywir ar gyfer pob swm. Os na wnewch chi hyn, gallai’r gyllideb roi cyfanswm anghywir.

Bydd y blwch amlder yn dangos misol yn awtomatig. Er mwyn newid i amlder gwahanol cliciwch yn y bocs a defnyddio'r rhestr gwympo i ddewis pa mor aml y byddwch yn talu. Fe allwch ei newid i fisol, chwarterol neu flynyddol.

Beth bynnag y byddwch yn ei roi yn y blychau, bydd yr offeryn cyllidebu yn gweithio allan y cyfansymiau ar gyfer pob tudalen ar sail fisol. Y rheswm am hyn yw y bydd y cyfansymiau terfynol ar y datganiad ariannol yn fisol.

Bydd pob swm yn ymddangos fel y llanwoch chi nhw er mwyn i chi weld beth roddoch chi i mewn. Os ydych chi’n newid y swm neu pa mor aml y’i telir, bydd yr offeryn cyllidebu yn newid y cyfanswm.

Nôl i’r brig


Os nad oes arian ar gael i’w gynnig i’ch credydwyr

Os bydd yr offeryn cyllidebu yn gweithio allan fod eich treuliau yn fwy na’ch incwm neu yr un fath â’ch incwm, fyddwch chi ddim yn gallu parhau â’r offeryn cyllidebu, Y rheswm am hyn yw na fydd gennych unrhyw arian ar gael i gynnig i’ch credydwyr.

Gall hyn ddigwydd os ydych wedi llenwi’r gyllideb yn anghywir. Efallai y byddwch am fynd nôl trwy’r gyllideb a gwirio:

  • fod y symiau’n gywir. Fe allwch chi fynd yn ôl dros eich incwm a’ch treuliau i wneud yn siŵr eich bod wedi llenwi’r symiau cywir. Fe allwch newid unrhyw swm sy’n anghywir trwy ysgrifennu dros yr hyn roddoch chi yn y lle cyntaf.
  • pa mor aml y telir y symiau. Rhaid i chi ddewis pa mor aml y telir pob swm o incwm a threuliau (amlder). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis yr amlder cywir ar gyfer pob swm yr ydych wedi’i roi gan y bydd hyn yn effeithio’r cyfansymiau. Os ydych chi’n newid amlder y taliad, bydd yr offeryn cyllidebu yn gweithio’r cyfansymiau unwaith eto.

Os ydych chi wedi llenwi’r symiau a’r amlder cywir a hyd yn oed wedyn does dim digon o arian ar gael i’w gynnig i’ch credydwyr, efallai yr hoffech chi weld os allwch chi dorri nôl rhywfaint ar eich gwario neu ennill unrhyw incwm ychwanegol. Efallai y bydd hyn yn arwain at arian ar gael i ad-dalu’ch dyledion.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thorri nôl ar eich gwario ac ennill incwm ychwanegol, gweler Sut i wario llai a Cynyddu eich incwm.

Gall ymgynghorydd dyledion profiadol eich helpu i weithio allan os oes gennych unrhyw arian ar gael i ad-dalu’ch dyledion i gyd. Fe allan nhw hefyd eich helpu i weithio allan eich opsiynau os nad oes gennych unrhyw arian i ad-dalu’ch dyledion i gyd.

Fe allwch gael cymorth i ddelio â’ch dyledion oddi wrth ymgynghorydd yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gweithio allan eich cyllideb, gweler Sut i gyfrifo eich cyllideb.

Nôl i’r brig


Os ydych chi’n stopio hanner ffordd drwy’r offeryn cyllidebu

Os ydych chi’n stopio hanner ffordd trwy dudalennau’r offeryn cyllidebu ac yn ei adael am fwy na 60 munud, bydd yn rhaid i chi ddechrau eto. Fyddwch chi ddim yn gallu cadw yr hyn yr ydych wedi’i lenwi’n barod.

Nôl i’r brig


Cadw yr hyn sydd wedi’i lenwi

Fe allwch chi argraffu tudalennau unigol y daflen gyllideb wrth i chi fynd ymlaen ond allwch chi ddim eu cadw ar eich cyfrifiadur.

Pan ddewch chi i’r diwedd, fe fyddwch yn gallu gweld eich datganiad ariannol sy’n grynodeb o’r holl wybodaeth yr ydych wedi’i lenwi. Mae’n cynnwys cynigion i’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth. Fe fyddwch yn gallu cadw’ch datganiad ariannol.

I gadw’ch Datganiad Ariannol ar y diwedd, cliciwch ar Datganiad ariannol fel pdf a’i gadw ar eich cyfrifiadur fel arfer. Fe allwch argraffu’ch datganiad ariannol i’w anfon at eich credydwyr.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback