The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Canllawiau ar gyfer yr offeryn cyllidebu
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Manylion personol
Mae’r wybodaeth hon yn eich helpu i lenwi tudalen manylion personol yr offeryn Cyllidebu.
Enw
Rhowch eich enw fel yr hoffech iddo ymddangos ar y gyfriflen ariannol.
Enw partner
Mae angen i chi roi enw eich partner dim ond os ydych yn gwneud cyllideb ar y cyd. Os ydych yn rhoi enw eich partner, fe fydd yn ymddangos ar y gyfriflen ar y diwedd. Mae p’un ai eich bod yn gwneud cyllideb ar y cyd yn dibynnu ar sut ydych yn rheoli eich arian a ph’un ai bod eich partner am gael ei gynnwys. Os yw’r gyllideb ar eich cyfer chi yn unig, peidiwch â chynnwys enw eich partner ond gallwch gynnwys manylion ei incwm os ydych yn rhannu gwariant.
Nifer y bobl yn eich cartref
Rhifwch yr holl bobl a fydd yn cael eu cynnwys yn eich cyllideb, er enghraifft, eich partner, eich plant, ac unrhyw oedolion sy’n byw gyda chi.
Plant dibynnol
Mae hyn yn golygu'r holl blant yr ydych yn gyfrifol yn ariannol amdanynt. Mae plentyn yn ddibynnol cyhyd â’ch bod yn derbyn budd-dal plant amdano. Mae’n rhaid i chi roi rhywbeth ym mhob bocs. Os nad oes gennych blant yn un neu ddau o’r grwpiau oedran, rhowch 0 yn y bocs.
Nifer y cerbydau yn y cartref
Mae credydwyr a’r llys fel arfer yn derbyn ei fod yn rhesymol i un teulu rhedeg un car neu gerbyd arall. Os oes angen mwy nag un cerbyd arnoch, mae angen i chi esbonio’r rhesymau pam. Os nad ydych yn gwneud hyn, gallai credydwyr wrthod eich cynnig a gallai achosi oedi pan ydych yn ceisio delio â’ch dyledion.
Nodwch eich esboniad ynglŷn â pham bod angen mwy nag un cerbyd arnoch o dan ‘Gwybodaeth arall’. Bydd y wybodaeth a ychwanegwch yn ymddangos ar y gyfriflen ac fe fydd yn helpu’r credydwyr i benderfynu p’un ai i dderbyn eich cynnig neu beidio.
Cyflogau ac incwm arall
Diben y wybodaeth hon yw eich helpu i lenwi tudalen cyflogau a chyfraniadau yr offeryn Cyllidebu.
Cyflogau
Dylai’r swm a rowch yma fod eich pae mynd adref (cyflog net) fel yr ymddangosa ar eich slip cyflog. Os derbyniwch wahanol symiau bob tro, bydd angen i chi gyfrifo cyfartaledd. I wneud hyn, adiwch eich pae net dros y tri mis diwethaf a dewiswch chwarterol yn y golofn ar yr ochr dde.
Cyflog eich partner
Dylai’r swm yr ydych yn ei roi yma fod yn bae mynd adref (cyflog net) fel yr ymddangosa ar ei slip cyflog. Os yw eich partner yn derbyn gwahanol symiau bob tro, bydd angen i chi gyfrifo cyfartaledd. I wneud hyn, adiwch eich pae net dros y tri mis diwethaf a dewiswch chwarterol yn y golofn ar yr ochr dde.
Os nad ydych chi a’ch partner yn cael cyllideb ar y cyd, nid oes yn rhaid i chi gynnwys cyflog eich partner. Os dyma’r achos, sicrhewch eich bod yn rhannu’r costau rhyngoch a dylech gynnwys eich rhan chi o dan ‘gwariant’.
Cyflogau eraill
Gallai hyn fod ar gyfer eich ail swydd neu gyflog ar gyfer person arall sy’n rhannu eich arian ac sydd am gael ei gynnwys yn y gyllideb. Os ydych chi neu’r person hwn yn derbyn gwahanol symiau bob tro, bydd angen i chi gyfrifo cyfartaledd. I wneud hyn, adiwch eich pae net dros y tri mis diwethaf a dewiswch chwarterol yn y golofn ar yr ochr dde.
Cynhaliaeth a Chynhaliaeth plant
Hwn yw’r swm rheolaidd a dderbyniwch oddi wrth eich partner absennol neu riant ar eich cyfer chi neu eich plant sy’n byw gyda chi. Os nad ydych yn derbyn swm rheolaidd, bydd angen i chi gyfrifo cyfartaledd.
Cyfraniad lletywr
Lletywr yw rhywun yr ydych yn codi tâl arno am fyw yn eich cartref gyda chi. Nodwch y swm a dderbyniwch oddi wrtho. Peidiwch â chynnwys aelodau teulu oedrannus sy’n byw gyda chi. Maen nhw’n cael eu hystyried fel pobl annibynnol (gweler isod).
Cyfraniad person annibynnol
Person annibynnol yw oedolyn sy’n byw gyda chi ond nid yw’n bartner i chi, er enghraifft, mab neu ferch hŷn neu riant. Dylech gynnwys unrhyw bobl annibynnol sy’n rhannu eich arian a rhowch y swm y maen nhw’n ei gyfrannu at gostau’r cartref.
Benthyciadau a grantiau myfyrwyr
Dylech gynnwys yr holl incwm o fenthyciadau a grantiau myfyrwyr yma ond rhowch unrhyw arian a gewch am weithio o dan ‘Cyflogau’. Os ydych yn derbyn eich arian bob tymor, bydd angen i chi gyfrifo swm blynyddol er mwyn defnyddio’r offeryn. I wneud hyn, adiwch gyfanswm eich benthyciadau a grantiau myfyrwyr am y flwyddyn.
Arall
Os oes gennych incwm arall nad yw wedi’i gofnodi, dylech ei roi yma. Nid yw hyn yn cynnwys budd-daliadau, credydau treth neu bensiynau oherwydd gofynnir i chi am y rhain ar y tudalennau nesaf.
Budd-daliadau
Diben y wybodaeth hon yw eich helpu i lenwi tudalen budd-daliadau yr offeryn Cyllidebu.
Nodwch gyfanswm eich holl fudd-daliadau. Dylech gynnwys dim ond budd-daliadau’r bobl eraill yn eich cartref sy’n cael eu cynnwys yn eich cyllideb. Er enghraifft, cynhwyswch y Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) a gewch ar gyfer plentyn. Peidiwch â chynnwys y DLA ar gyfer oedolyn nad yw’n rhan o’ch cyllideb.
Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
Os ydych yn cael JSA sy’n seiliedig ar gyfraniadau, mae’n bosib na chewch ragor o fudd-daliadau pan ddaw i ben, er enghraifft, os yw eich partner yn ennill gormod. Os yw eich incwm yn lleihau, gallai hyn effeithio ar eich cynllun ad-dalu dyledion hirdymor. Os yw hyn yn berthnasol i chi, gallwch ddweud wrth gredydwyr pryd bydd eich JSA yn dod i ben a sut bydd hyn yn effeithio ar eich sefyllfa o dan ‘Gwybodaeth arall’.
Lwfans Byw i’r Anabl a Lwfans Gweini
Telir y budd-daliadau hyn i’ch helpu gyda chostau ychwanegol posibl person anabl. Ychwanegwch swm y budd-dal yma a sicrhewch eich bod yn cynnwys costau ychwanegol o dan ‘Gofal plant’ neu ‘Gofal oedolyn’ yn yr adran ‘Costau’.
Budd-dal Tai
Cynhwyswch swm eich Budd-dal Tai yma. Sicrhewch eich bod yn rhoi cyfanswm eich rhent (cyn y budd-dal) o dan ‘Rhent’ yn yr adran ‘Costau’.
Budd-dal y Dreth Gyngor
Caiff y budd-dal hwn ei ddidynnu yn uniongyrchol o’ch bil y dreth gyngor. Rhowch swm y budd-dal a gewch yma a chyfanswm eich bil y dreth gyngor (cyn y didynnir y budd-dal) o dan ‘Y dreth gyngor’ yn yr adran ‘Costau’.
Pensiynau
Diben y wybodaeth hon yw eich helpu i lenwi’r tudalen pensiynau yr offeryn Cyllidebu.
Eich pensiwn y wladwriaeth
Hwn yw’r pensiwn ymddeol a gewch gan y llywodraeth. Peidiwch â chynnwys symiau untro megis taliad tanwydd y gaeaf.
Pensiwn y wladwriaeth eich partner
Hwn yw’r pensiwn ymddeol a gaiff eich partner gan y llywodraeth. Dylech gynnwys hwn dim ond os ydych yn gwneud cyllideb ar y cyd. Peidiwch â chynnwys symiau untro megis taliad tanwydd y gaeaf.
Eich pensiynau preifat a gwaith
Os ydych yn derbyn mwy nag un pensiwn preifat neu waith, adiwch nhw gyda’i gilydd. Sicrhewch eu bod yr un fath o daliadau, er enghraifft, yr holl symiau blynyddol neu’r holl symiau misol.
Pensiynau preifat neu waith eich partner
Os yw eich partner yn cael mwy nag un pensiwn preifat neu waith, adiwch nhw gyda’i gilydd. Sicrhewch eu bod yr un fath o daliadau, er enghraifft, yr holl symiau blynyddol neu’r holl symiau misol.
Credyd Pensiwn
Rhowch symiau eich credyd gwarant a’ch credyd cynilion yma.
Asedau
Diben y wybodaeth hon yw eich helpu i lenwi tudalen asedau’r offeryn Cyllidebu.
Os oes gennych unrhyw eitemau o werth (asedau), mae’r dudalen hon yn eich helpu i gyfrifo eu gwerth. Ni fydd y symiau a rowch yma yn ymddangos ar y gyfriflen.
Os ydych yn ystyried defnyddio eich asedau i ad-dalu eich dyledion neu fel gwarant, mynnwch gyngor gan ymgynghorydd arbenigol cyn cysylltu â’ch credydwyr. Mae’n bosib bod gennych opsiynau eraill y gellwch eu hystyried yn gyntaf.
Eich cartref
Os ydych yn berchen ar eich cartref, beth yw ei werth?
Os ydych yn berchen ar eich cartref neu os oes gennych forgais, rhowch amcan o werth eich cartref. Gallwch amcangyfrifo’r gwerth drwy edrych ar werth tai eraill yn eich ardal chi pan gânt eu gwerthu.
Os nad yw hyn yn berthnasol i chi, er enghraifft, oherwydd eich bod yn rhentu eich cartref, rhowch 0.
Beth yw gwerth eich morgais?
Nodwch y swm sy’n weddill ar eich morgais, os oes gennych un.
Os nad oes arnoch unrhyw arian neu os nad ydych yn berchen ar eich cartref, rhowch 0.
Beth yw gwerth unrhyw fenthyciadau wedi’u gwarantu sydd gennych?
Nodwch y swm sy’n weddill ar unrhyw fenthyciadau sydd wedi’u gwarantu yn erbyn eich cartref yma. Os oes gennych fwy nag un benthyciad wedi’i warantu, bydd angen i chi adio’r symiau gyda’i gilydd.
Os nad yw hyn yn berthnasol i chi, er enghraifft oherwydd nad oes gennych fenthyciad wedi’i warantu, rhowch 0.
Asedau eraill
Os oes gennych gar, beth yw ei werth?
Os ydych yn berchen ar gar, rhowch amcan o’i werth yma.
Os nad yw hyn yn berthnasol i chi, rhowch 0.
Faint o fenthyciad hurbrynu sy’n weddill ar eich car?
Os ydych yn talu am eich car drwy gytundeb hurbrynu neu werthu amodol, rhowch y swm sy’n weddill o dan y cytundeb yma.
Os nad yw hyn yn berthnasol i chi, rhowch 0.
Beth yw gwerth eich cynilion?
Os oes gennych gynilion, rhowch eu cyfanswm yma.
Os nad yw hyn yn berthnasol i chi, rhowch 0.
Os oes gennych asedau eraill, beth yw cyfanswm eu gwerth?
Os oes gennych unrhyw asedau eraill, er enghraifft, hynafolion, gweithiau celfyddydol neu bolisi yswiriant bywyd sylweddol, rhowch gyfanswm eu gwerth yma.
Os nad yw hyn yn berthnasol i chi, rhowch 0.
Cyfanswm gwerth asedau
Bydd yr offeryn cyllidebu yn cyfrifo cyfanswm gwerth eich asedau yn awtomatig, gan ddidynnu unrhyw symiau sy’n weddill ar eich morgais, benthyciadau wedi’u gwarantu a chytundebau hurbrynu.
Rwy’n cadarnhau fy mod wedi ystyried defnyddio unrhyw asedau er mwyn rhoi cyfandaliad i’m credydwyr.
Dewiswch ‘Ydw’ yn y bocs i gadarnhau eich bod wedi ystyried defnyddio unrhyw asedau sydd gennych i ad-dalu eich dyledion. Dylech ddewis ‘Ydw’ hyd yn oed os nad oes gennych asedau.
Bydd y datganiad hwn yn ymddangos ar y gyfriflen.
Taliadau hanfodol
Diben y wybodaeth hon yw eich helpu i lenwi tudalen taliadau hanfodol yr offeryn Cyllidebu.
Rhent
Rhowch gyfanswm eich rhent wythnosol neu fisol cyn y didynnir unrhyw fudd-daliadau. Cynhwyswch unrhyw fudd-dal tai a gewch o dan ‘Incwm’. Os oes gennych ôl-ddyledion rhent, dylech eu nodi o dan ‘Dyledion â blaenoriaeth’.
Rhent tir a chostau gwasanaethau
Fel arfer rydych yn talu’r rhain os ydych yn berchen ar eich cartref. Os oes gennych ôl-ddyledion, dylech eu rhoi o dan ‘Dyledion â blaenoriaeth’.
Morgeisi a benthyciadau wedi’u gwarantu
Rhowch eich ad-daliadau arferol yma, hyd yn oed os ydych yn talu swm is ar hyn o bryd. Os oes gennych ôl-ddyledion morgais neu fenthyciad wedi’i warantu, dylech eu rhoi o dan ‘Dyledion â blaenoriaeth’.
Morgais gwaddol
Nodwch y swm yr ydych yn ei dalu i gwmni yswiriant ar gyfer polisi morgais gwaddol, os oes gennych un.
Yswiriant Gwarchod Taliadau Morgais
Polisi yswiriant yw hwn sy’n eich gwarchod os na allwch weithio. Mae’n bosib y cawsoch y polisi hwn yr un pryd â’ch morgais.
Yswiriant adeiladau ac yswiriant cynnwys
Mae’n bosib bod gennych bolisïau ar wahân ar gyfer adeiladau a chynnwys neu bolisi ar y cyd ar gyfer y ddau. Os ydych yn gwybod y symiau unigol, gallwch eu nodi ar wahân. Fel arall, rhowch y cyfanswm o dan ‘Yswiriant adeiladau’.
Y Dreth Gyngor a Threth
Nodwch gyfanswm y dreth gyngor neu dreth wythnosol neu fisol cyn y didynnir unrhyw fudd-daliadau. Cynhwyswch unrhyw fudd-dal y dreth gyngor neu ostyngiadau i’r dreth o dan ‘Budd-daliadau’. Os oes gennych ôl-ddyledion y dreth gyngor, dylech eu nodi o dan 'Dyledion â blaenoriaeth'.
Nwy a thrydan
Mae’r swm a rowch yma yn cyfeirio at eich defnydd nwy a thrydan cyfredol. Yn dibynnu ar sut ydych yn talu, mae’n bosib y bydd angen i chi gyfrifo swm cyfartalog.
Os ydych yn talu’r un swm yn rheolaidd (er enghraifft, cynllun talu wythnosol neu ddebyd uniongyrchol misol), rhowch y swm arferol yma.
Os yw eich taliad yn wahanol bob tro, er enghraifft oherwydd eich bod yn talu biliau chwarterol, bydd angen i chi gyfrifo cyfartaledd. I wneud hyn, adiwch yr holl filiau ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf a rhowch y cyfanswm yma. Dewiswch blynyddol yn y golofn ar yr ochr dde. Os oes gennych ôl-ddyledion nwy neu drydan, dylech eu rhoi o dan ‘Dyledion â blaenoriaeth’.
Costau dŵr
Mae’r swm a rowch yma yn cyfeirio at eich defnydd dŵr cyfredol. Yn dibynnu ar sut ydych yn talu, mae’n bosib y bydd angen i chi gyfrifo swm cyfartalog. Os ydych yn talu’r un swm yn rheolaidd (er enghraifft, trwy gynllun talu wythnosol neu ddebyd uniongyrchol misol), rhowch y swm arferol yma. Os yw eich taliadau yn wahanol bob tro, er enghraifft oherwydd eich bod yn talu biliau chwarterol, bydd angen i chi gyfrifo cyfartaledd. I wneud hyn, adiwch yr holl filiau ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf gyda’i gilydd a rhowch y cyfanswm yma. Dewiswch blynyddol yn y golofn ar yr ochr dde. Os oes gennych ôl-ddyledion costau dŵr, dylech eu rhoi o dan 'Dyledion heb flaenoriaeth'.
Trwydded teledu
Rhowch swm eich taliad arferol yma. Os nad oes gennych drwydded teledu ond mae angen un arnoch, rhowch gost un yma. Os ydych ar ei hôl hi gyda chynllun rhandaliad ar gyfer eich trwydded teledu, dylech roi swm rheolaidd eich taliad yma ac unrhyw ôl-ddyledion o dan ‘Dyledion â blaenoriaeth’. Os ydych wedi cael dirwy am beidio â chael trwydded teledu, dylech gynnwys swm y ddirwy o dan ‘Taliadau hanfodol’.
Cyfraniadau pensiwn
Mae hyn yn golygu eich cyfraniadau tuag at gronfa pensiwn preifat. Peidiwch â chynnwys cyfraniadau pensiwn sy’n cael eu didynnu yn uniongyrchol o’ch cyflog.
Yswiriant bywyd
Os oes gennych fwy nag un polisi, adiwch nhw i gyd a rhowch y cyfanswm yma. Sicrhewch eu bod yr un fath o daliadau, er enghraifft, yr holl symiau blynyddol neu’r holl symiau misol.
Dirwyon llys
Os yw’r llys wedi eich gorchymyn i dalu’r ddirwy mewn rhandaliadau, rhowch y swm yma. Os oes gennych ôl-ddyledion dirwyon, dylech eu rhoi o dan 'Dyledion â blaenoriaeth'. Peidiwch â chynnwys dyfarniadau’r llys sirol neu’r siryf yma.
Cynhaliaeth neu gynhaliaeth plant
Rhowch y swm yr ydych yn talu eich cynbartner neu’ch plant yma. Os ydych yn derbyn cynhaliaeth neu gynhaliaeth plant, dylech eu rhoi o dan ‘Cyflogau a chyfraniadau’.
Hurbrynu neu werthu amodol
Os oes gennych gytundeb hurbrynu neu werthu amodol am eitem hanfodol na allwch ymdopi hebddo, megis car i deithio i’r gwaith, rhowch eich rhandaliad arferol yma. Os oes gennych ôl-ddyledion, dylech eu rhoi o dan ‘Dyledion â blaenoriaeth’.
Os na allwch fforddio talu eich cytundeb hurbrynu neu werthu amodol, mae’n bosib bod angen i chi ddod â’r cytundeb i ben a dychwelyd y nwyddau. Dylai unrhyw swm sy’n weddill wedi hynny gael ei gynnwys o dan ‘Dyledion heb flaenoriaeth’.
Costau gofal plant
Nodwch y swm yr ydych yn ei dalu am ofal plant gan gynnwys gofalwyr, ffioedd meithrinfeydd a chlybiau ar ôl ysgol. Dylech hefyd gynnwys unrhyw gostau ychwanegol sydd gennych oherwydd bod plentyn yn anabl, er enghraifft, am offer arbennig, dillad neu ddillad gwely. Os oes gennych gostau ychwanegol oherwydd anghenion symudedd plentyn megis ffioedd tacsi, dylech eu rhoi o dan ‘Gofal tŷ, ffôn a theithio’.
Costau gofal oedolion
Dylech hefyd gynnwys unrhyw gostau ychwanegol sydd gennych oherwydd bod oedolyn yn anabl, er enghraifft, am offer arbennig, dillad neu ddillad gwely. Os oes gennych gostau ychwanegol oherwydd anghenion symudedd oedolyn megis ffioedd tacsi, dylech eu rhoi o dan ‘Gofal tŷ, ffôn a theithio’.
Gofal tŷ, ffôn a theithio
Diben y wybodaeth hon yw eich helpu i lenwi tudalen gofal tŷ, ffôn a theithio yr offeryn Cyllidebu.
Gofal tŷ
Nid yw llawer o’r costau sydd ar y rhestr hon yn symiau penodedig ac mae’n bosib y bydd angen i chi gyfrifo cyfartaledd. Mae’n bwysig nad ydych yn tanbrisio faint y mae angen i chi wario. I gael cyfartaledd, adiwch faint yr ydych wedi gwario dros y 3 mis diwethaf a dewiswch chwarterol yn y golofn ar yr ochr dde.
Ffôn adref
Mae’r swm a rowch yma yn cyfeirio at eich defnydd ffôn cartref (llinell tir) cyfredol. Yn dibynnu ar sut ydych yn talu, mae’n bosib y bydd angen i chi gyfrifo cyfartaledd. Os ydych yn talu’r un swm yn rheolaidd (er enghraifft, trwy gynllun talu wythnosol neu ddebyd uniongyrchol misol) rhowch y swm arferol yma.
Os yw eich taliad yn wahanol bob tro, er enghraifft oherwydd eich bod yn talu biliau chwarterol, bydd angen i chi gyfrifo cyfartaledd. I wneud hyn, adiwch filiau'r flwyddyn ddiwethaf gyda’i gilydd a rhowch y cyfanswm yma. Dewiswch blynyddol yn y bocs ar y dde a bydd yr offeryn yn cyfrifo ffigwr misol cyfartalog.
Ffonau symudol
Mae’r swm a rowch yma yn cyfeirio at eich defnydd ffôn symudol cyfredol. Yn dibynnu ar sut ydych yn talu, mae’n bosib y bydd angen i chi gyfrifo cyfartaledd. Os ydych yn talu’r un swm yn rheolaidd (er enghraifft, cynllun talu wythnosol neu ddebyd uniongyrchol misol) rhowch y swm arferol yma.
Os yw eich taliad yn wahanol bo tro, er enghraifft oherwydd eich bod yn talu wrth ddefnyddio, bydd angen i chi gyfrifo cyfartaledd. I wneud hyn, adiwch filiau’r 3 mis diwethaf gyda’i gilydd a dewiswch chwarterol yn y golofn ar yr ochr dde.
Ffôn arall
Nodwch y symiau ar gyfer unrhyw linellau tir a ffonau symudol hanfodol eraill. Er enghraifft, os oes angen ffôn symudol ei hun ar berson bregus er mwyn cadw mewn cysylltiad â chi. Bydd angen i chi esbonio pam fod angen costau ffôn ychwanegol o dan ‘Gwybodaeth arall’. Bydd y wybodaeth a rowch ar y dudalen hon yn ymddangos ar y gyfriflen ac fe fydd yn helpu credydwyr i benderfynu p’un ai i dderbyn eich cynnig neu beidio.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Dylech gynnwys eich holl gostau teithio i’r ysgol, gwaith a mannau eraill. Os nad ydych yn gwybod faint ydych yn gwario neu os nad yw’r swm yn rheolaidd, cyfrifwch faint o deithio y mae angen i chi ei wneud dros gyfnod penodol o amser, er enghraifft wythnos neu fis, ac adiwch nhw gyda’i gilydd er mwyn cael cyfartaledd.
Tacsis a theithio arall
Os ydych yn gwario mwy oherwydd anghenion symudol rhywun, dylech eu rhoi yma. Bydd angen i chi esbonio pam fod angen i chi wneud hyn o dan ‘Gwybodaeth arall’. Bydd y wybodaeth hon yn ymddangos ar y gyfriflen ac fe fydd yn helpu credydwyr i benderfynu p’un ai i dderbyn eich cynnig neu beidio.
Costau car
Bydd angen i chi gyfrifo faint ydych yn ei wario ar yswiriant car, treth, tanwydd, MOT a chynnal a chadw, gwasanaeth torri i lawr ac adfer, costau parcio neu dollau, a chostau eraill.
Os oes gennych fwy nag un cerbyd, mae’n bosib y bydd credydwyr yn gofyn i chi esbonio pam bod angen mwy nag un car arnoch. Dylech roi esboniad ynglŷn â pham bod angen mwy nag un cerbyd o dan Gwybodaeth arall ar ddiwedd yr offeryn cyllidebu. Bydd y wybodaeth hon yn ymddangos ar y gyfriflen ac fe fydd yn helpu credydwyr i benderfynu p’un ai i dderbyn eich cynnig neu beidio.
Costau eraill
Diben y wybodaeth hon yw eich helpu i lenwi tudalen costau yr offeryn Cyllidebu.
Iechyd
Yn yr adran hon, dylech gynnwys costau triniaeth ddeintyddol, sbectol, profion llygaid a phresgripsiynau rheolaidd. Os nad ydych yn siŵr o’r costau, gallwch gyfrifo faint yr ydych wedi gwario ar yr eitemau hyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Dylech ganiatáu o leiaf un apwyntiad deintyddol bob blwyddyn ar gyfer pob person sy’n gorfod talu amdano a phrofion llygaid ar gyfer pob person sydd eu hangen.
Dylech ganiatáu mwy os ydych yn ymwybodol o broblem iechyd penodol a fydd yn dod i’r amlwg yn y flwyddyn nesaf, er enghraifft, os yw rhywun yn mynd i gael triniaeth ddeintyddol. Mae’n bosib y byddai’n gynorthwyol i chi ychwanegu mwy o wybodaeth am hyn o dan ‘Gwybodaeth arall’. Bydd y wybodaeth hon yn ymddangos ar y gyfriflen ac fe fydd yn helpu credydwyr i benderfynu p’un ai i dderbyn eich cynnig neu beidio.
Atgyweirio a chynnal a chadw tŷ
Bydd angen i chi ganiatáu digon ar gyfer costau cynnal a chadw cyffredinol eich eiddo os ydych yn gyfrifol am y gwaith hwn a gwaith atgyweirio eitemau hanfodol megis boeler neu danc dŵr. Os ydych yn talu am wres canolog neu waith cynnal a chadw arall, rhowch y swm yma.
Torri a thrin gwallt
I gael swm cyfartalog, adiwch faint y mae pob person yn gwario dros flwyddyn.
Arian poced a thripiau ysgol
I gael swm cyfartalog, adiwch faint sydd ei angen ar bob plentyn mewn blwyddyn. Gallwch selio hyn ar y swm a warioch y llynedd.
Hobïau a hamdden
Dylech gynnwys aelodaeth gym a chostau ar gyfer chwaraeon, clybiau a thripiau. I gael swm cyfartalog, adiwch y symiau rheolaidd y mae pob person yn eu gwario dros flwyddyn.
Rhoddion
Dylech gynnwys y Nadolig a gwyliau crefyddol eraill, penblwyddi a rhoddion elusennol. I gael swm cyfartalog, adiwch y symiau rheolaidd y mae pob person yn eu gwario dros flwyddyn.
Biliau’r milfeddyg ac yswiriant anifeiliaid anwes
Dylech ganiatáu am unrhyw driniaeth reolaidd a swm ar gyfer argyfyngau os nad oes gennych yswiriant anifail anwes. I gael swm cyfartalog, adiwch y symiau rheolaidd y mae pob person yn eu gwario dros flwyddyn.
Os nad oes unrhyw arian yn weddill ar gyfer credydwyr â blaenoriaeth
Ar ôl i chi lenwi’r dudalen costau, os nad oes digon o arian ar ôl yn eich cyllideb i dalu eich credydwyr â blaenoriaeth, ni fydd hawl gennych barhau â’r offeryn cyllidebu.
Os yw hyn yn digwydd, bydd rhybudd yn ymddangos ar y sgrin a bydd angen i chi naill ai newid eich ffigyrau neu gael cyngor a dechrau eto.
Mae’n bwysig eich bod yn cael cyngor yn gyflym os na allwch dalu eich dyledion â blaenoriaeth.
Dyledion â blaenoriaeth
Diben y wybodaeth hon yw eich helpu i lenwi tudalen dyledion â blaenoriaeth yr offeryn Cyllidebu.
Pa ddyledion i’w cynnwys
Rydyn ni wedi rhestru’r dyledion â blaenoriaeth mwyaf cyffredin. Os oes gennych ddyledion eraill sy’n flaenoriaeth yn eich barn chi, rhestrwch nhw o dan ‘Arall’. Er enghraifft, mae’n bosib bod gennych fwy nag un benthyciad wedi’i warantu.
Swm
Dylech gynnwys ôl-ddyledion yn unig. Rhowch swm y taliad rheolaidd am bob eitem o dan ‘Costau’.
Swm yr ad-daliadau
Mae’n rhaid i chi roi swm yr ad-daliad ar gyfer pob dyled â blaenoriaeth. Os nad ydych yn gwneud hyn, bydd eich holl incwm sydd ar gael gennych yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu eich dyledion heb flaenoriaeth. Dylech gytuno ar swm ad-daliad pob dyled â blaenoriaeth gyda’ch credydwyr cyn parhau gyda’ch cyllideb.
Os nad oes arian yn weddill i dalu credydwyr heb flaenoriaeth
Ar ôl i chi lenwi’r tudalen dyledion â blaenoriaeth, os nad oes digon o arian ar ôl yn eich cyllideb i dalu eich credydwyr heb flaenoriaeth, ni fydd hawl gennych barhau â’r offeryn cyllidebu.
Os yw hyn yn digwydd, bydd rhybudd yn ymddangos ar y sgrin a bydd angen i chi naill ai newid eich ffigyrau neu gael cyngor a dechrau eto.
Dyledion heb flaenoriaeth
Diben y wybodaeth hon yw eich helpu i lenwi tudalen dyledion heb flaenoriaeth yr offeryn Cyllidebu.
Rhestrwch eich holl ddyledion heb flaenoriaeth yma. Bydd yr offeryn cyllidebu yn cyfrifo’n awtomatig cynigion teg i bob credydwr. Bydd y cynigion hyn yn seiliedig ar faint yw eich dyledion.
Pa ddyledion i’w cynnwys
- Rhestrwch eich holl ddyledion heb flaenoriaeth yma. Dylech gynnwys arian sydd arnoch:
- ar gyfer ôl-ddyledion dŵr
- ar gyfer benthyciadau personol. Rhowch eich holl fenthyciadau heb eu gwarantu yma. Os yw benthyciad wedi’i warantu yn erbyn eich eiddo, dylech ei roi o dan ‘Dyledion â blaenoriaeth’
- ar gyfer cardiau credyd a siop
- ar gyfer catalogau ac archebu drwy’r post
- i deulu a ffrindiau
- costau parcio pan gânt eu casglu gan yr awdurdod lleol: rhowch ddirwyon llys ar gyfer troseddau gyrru o dan ‘Dyledion â blaenoriaeth’
- nwyddau nad ydynt yn hanfodol a brynoch drwy gytundeb hurbrynu a gwerthu amodol. Os oes angen cadw’r nwyddau arnoch, rhowch ôl-ddyledion o dan ‘Dyledion â blaenoriaeth’.
Bydd yr offeryn cyllidebu yn cyfrifo cynigion teg i bob credydwr yn awtomatig. Bydd y cynigion hyn yn seiliedig ar faint yw eich dyledion.
Enw’r credydwr
Rhowch enwau’r cwmnïau neu’r person yr ydych mewn dyled iddo/iddynt. Os cesglir y ddyled gan gasglwr dyledion, rhowch ei enw yma.
Y swm sy’n ddyledus
Rhowch gyfanswm y swm sy’n weddill gennych i dalu. Cewch hyd i’r swm ar gyfriflen neu lythyr diwethaf y credydwr.
Gorchmynion llys
Os yw unrhyw rhai o’ch dyledion yn ddarostyngedig i orchymyn llys, ni ddylech eu cynnwys ar y rhestr credydwyr. Bydd yn effeithio ar sut caiff eich ad-daliadau eu cyfrifo a gallai arwain atoch yn torri’r gyfraith. Os yw hyn yn digwydd, gall eich credydwr gymryd camau pellach yn eich erbyn.
Os ydych yn credu bod gennych orchymyn llys ar gyfer unrhyw un o’ch dyledion, mae’n bwysig cael cyngor cyn parhau gyda’r offeryn cyllidebu.
Gwybodaeth arall
Diben y wybodaeth hon yw eich helpu i lenwi tudalen gwybodaeth arall yr offeryn Cyllidebu.
Gallwch ddefnyddio’r bocs hwn i ddweud wrth eich credydwyr am eich sefyllfa. Bydd y wybodaeth a rowch yma yn helpu credydwyr i benderfynu p’un ai i dderbyn eich cynnig i ad-dalu neu beidio. Dylech gynnwys yma:
- manylion am gostau ychwanegol sydd eu hangen arnoch oherwydd bod rhywun yn eich cartref yn anabl neu’n sâl
- rhesymau pam bod angen mwy nag un cerbyd ar eich cartref, er enghraifft, oherwydd bod angen cerbyd ar ddau berson i weithio mewn gwahanol lefydd
- os ydych yn edrych am swydd neu os ydych yn ddi-waith oherwydd salwch, a pha mor hir yr ydych yn disgwyl i’ch sefyllfa bara
- unrhyw beth arall yr ydych am ddweud wrth eich credydwyr.
Ysgrifennwch yn glir, fel petaech yn ysgrifennu llythyr, er mwyn iddo wneud synnwyr. Bydd y wybodaeth a rowch yn ymddangos ar ail dudalen eich cyfriflen.









