Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Methdaliad

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru

Ynglŷn â methdaliad

Mae’r dudalen hon yn sôn wrthych am fethdaliad. Mae’n eich helpu i weithio allan os yw methdaliad yn opsiwn i chi, yn esbonio sut mae mynd yn fethdalwr ac yn dweud wrthych beth sy’n digwydd ar ôl i chi fynd yn fethdalwr.

Mae methdaliad yn orchymyn llys y gallwch wneud cais amdano os ydych chi mewn dyled.

Gall rhywun y mae arnoch chi arian iddynt wneud cais hefyd i’ch gwneud chi’n fethdalwr hyd yn oed os nad ydych yn dymuno hyn.

Efallai y byddech am ystyried methdaliad os nad oes gennych arian i dalu’ch dyledion, neu fod gennych gyn lleied fel y bydd yn cymryd blynyddoedd i chi eu had-dalu.

Er mwyn gwybod mwy ynglŷn â sut i weithio allan os oes gennych arian i glirio’ch dyledion, gweler Sut i ddatrys eich dyledion.

Unwaith y byddwch chi wedi’ch gwneud yn fethdalwr, nid oes rhaid i chi ddelio â’r bobol y mae arnoch chi arian iddynt (eich credydwyr). Bydd swyddog a elwir yn Dderbynnydd Swyddogol yn cymryd rheolaeth o’ch arian a’ch eiddo, ac yn delio â’ch credydwyr.

Pan ddaw’r gorchymyn methdaliad i ben, fe allwch ddechrau o’r newydd ac fel arfer bydd yr arian sy’n ddyledus yn cael ei ddileu. Mewn llawer o achosion, gall hyn fod ar ôl un flwyddyn. Rhaid i gredydwyr stopio’r mwyafrif o fathau o orchmynion llys i gael eu harian yn ôl yn dilyn gorchymyn methdaliad.

Sut bynnag, mae yna anfanteision mewn mynd yn fethdalwr. Mae’r rhain yn cynnwys y ffaith y gall gostio i fyny at £700 i fynd yn fethdalwr, fe gollwch chi’ch cartref os mai chi sydd ei berchen ac fe allech chi golli meddiannau gwerthfawr eraill.

Efallai nad methdaliad yw’r unig opsiwn i chi ac efallai nad hwn ydyw’r opsiwn gorau i chi.

Er mwyn dod i wybod mwy am yr opsiynau eraill sydd ar gael i chi ddelio â’ch dyledion, gweler Opsiynau i ddelio â dyled

Os wynebir chi â methdaliad, bydd angen cyngor arbenigol arnoch. Fe allwch chi gael cyngor am eich problemau dyled a methdaliad oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Beth ydyw’r manteision o fynd yn fethdalwr

Rhai o’r manteision o fynd yn fethdalwr yw:

  • fe gewch chi wared ag unrhyw wasgedd gan na fydd yn rhaid i chi ddelio â’ch credydwyr
  • caniateir i chi gadw rhai pethau, megis nwyddau tŷ a swm rhesymol i fyw arno
  • pan ddaw’r gorchymyn methdaliad i ben, fe allwch chi ddechrau o’r newydd. Mewn llawer o achosion, gall hyn fod ar ôl un flwyddyn
  • rhaid i gredydwyr atal y rhan fwyaf o achosion llys i gael eu harian yn ôl yn dilyn gorchymyn methdaliad (ond mewn rhai achosion gall y beilïaid o hyd gymryd eich eiddo)
  • fel arfer gellir dileu’r arian sy’n ddyledus gennych.

Nôl i’r brig


Beth ydyw’r anfanteision o fynd yn fethdalwr

Rhai o’r anfanteision o fynd yn fethdalwr yw:

  • fe fydd yn costio i fyny at £700 i chi fynd yn fethdalwr. Fe allai fod yn fwy, er enghraifft os ydych chi’n defnyddio cyfreithiwr
  • tra byddwch chi’n fethdalwr, allwch chi ddim gwneud cais am fwy o gredyd
  • os ydych chi’n berchen ar eich tŷ eich hun, gallai gael ei werthu. Sut bynnag, efallai y gallwch wneud cais i’ch awdurdod lleol am eich ail-gartrefu
  • efallai y bydd yn rhaid gwerthu rhai o’ch meddiannau. Er enghraifft, fel arfer fe gollwch chi’ch car ac unrhyw nwyddau moeth sydd gennych
  • mae rhai galwedigaethau yn gwrthod gadael i bobol sy’n dod yn fethdalwyr i barhau i weithio
  • os ydych chi’n berchen ar fusnes, mae’n fwy na thebygol y bydd y Derbynnydd Swyddogol yn cau’ch busnes, diswyddo’ch gweithwyr a gwerthu’r asedau
  • gall mynd yn fethdalwr affeithio eich statws mewnfudo
  • allwch chi ddim cadw’ch methdaliad yn breifat. Rhestrir eich manylion ar y Gofrestr Ansolfedd, gall pobol gael mynediad i hon ar y rhyngrwyd. Fe allai’ch achos gael ei gyhoeddi yn y papur lleol hefyd os oes yna amgylchiadau eithriadol.
  • hyd yn oed pan na fyddwch chi’n fethdalwr mwyach, fe allech chi gael gorchymyn arall, a elwir yn orchymyn cyfyngiad methdaliad yn eich erbyn. Gellir gwneud y gorchmynion hyn, er enghraifft, oherwydd eich bod heb gydweithredu â’r Derbynnydd Swyddogol, neu fe gymeroch chi ddyledion eraill gan wybod nad oedd gobaith gennych i’w had-dalu. Fe allan nhw barhau am 15 mlynedd, gan gyfyngu’n fawr ar eich sefyllfa ariannol.
  • hyd yn oed pan na fyddwch chi’n fethdalwr mwyach, mae yn rai dyledion megis dirwyon llys neu fenthyciadau i fyfyrwyr na fydd byth yn cael eu dileu.

Nôl i’r brig


Sut mae mynd yn fethdalwr

Os ydych chi’n penderfynu mynd yn fethdalwr, bydd angen i chi wneud cais i’r llys.

Cyn i chi wneud hyn, ceisiwch wneud yn siŵr fod gennych ddigon o arian parod ar gyfer treuliau o ddydd i ddydd oherwydd unwaith y bydd y gorchymyn methdaliad wedi’i wneud, caiff eich cyfrifon eu cloi.

Er mwyn gwneud cais i’r llys am fethdaliad bydd yn rhaid i chi ddilyn y camau canlynol:

Mae angen darganfod i ba lys mae’n rhaid mynd

Fel arfer y llys sirol yn yr ardal lle buoch chi’n byw am y chwe mis diwethaf fydd hwn (er weithiau gall fod lle rydych chi’n gweithio) Yn Llundain yr Uchel Lys ydyw. Gall unrhyw lys sirol lleol neu Uchel Lys ddweud wrthych pa lys sy’n iawn i chi.

Fe allwch chi ddod o hyd i fanylion am eich llys sirol lleol yn y llyfr ffôn o dan ‘Llysoedd’(‘Courts’). Fe allwch chi hefyd ddod o hyd i fanylion am y llysoedd sy’n gwrando ar achosion methdaliad ar wefan Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (HMCS) yn www.hmcourts-service.gov.uk.

Y manylion cyswllt at gyfer yr Uchel Lys yn Llundain yw:

Bankruptcy Court
Royal Courts of Justice
Strand
London
WC2A 2LL
Tel: 020 7947 6000
Tel: 020 7947 6441 (Ymholiadau methdaliad)

Talu costau a ffioedd

Pan fyddwch chi’n gwneud cais am fynd yn fethdalwr, bydd angen i chi dalu blaendal o £525. Chewch ddim o hwn yn ôl. Efallai y bydd ffi o £175 yn ogystal, er yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gall y llys leihau’r swm hwn, neu ddweud nad oes rhaid i chi ei dalu o gwbl. Gofynnwch i’r llys am ffurflen EX160 sy’n dweud mwy wrthych am hyn.

Fe ddylech chi wneud yn siŵr fod gennych ddigon o arian i warchod y blaendal cyn gwneud cais am fynd yn fethdalwr. Os na allwch chi fforddio talu’r blaendal, efallai y dylech ystyried gwneud cais am orchymyn rhyddhau dyled yn lle.

Llenwi deiseb methdaliad a datganiad ariannol

Fe allwch chi argraffu deiseb methdaliad (ffurflen 6.27) a datganiad o faterion (ffurflen 6.28) oddi ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd yn: www.bis.gov.uk/insolvency.

Pan fyddwch chi’n llenwi’r ffurflenni, rhaid i chi restru eich holl gredydwyr, hyd yn oed os ydych chi’n anghytuno ag un o’r dyledion. Rhaid i chi hefyd roi manylion eich cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu i gyd. Gofynnir i chi restru asedau ac eitemau eraill gyda gwerth ail-werthu, er enghraifft, hen bethau. Mae perygl y caiff unrhyw beth a restrir yn yr adran hon eu gwerthu.

Mae’n syniad da i gadw copi o’ch ffurflenni deiseb a datganiad ariannol ar ôl eu cwblhau gan y bydd eu heisiau eto o bosibl yn y cyfweliad gyda’r Derbynnydd Swyddogol.

Tyngu affidafid

Bydd angen i chi fynd i’r llys a thyngu affidafid. Mae hyn yn golygu eich bod yn tyngu ger bron y llys eich bod wedi dweud y gwir yn y ffurflenni deiseb a datganiad ariannol.

Bydd angen i chi fynd â’r ffurflenni gyda chi, ynghyd â dau gopi, y ffî a’r blaendal.

Os fyddwch chi’n gwneud datganiadau ffug ar y ffurflenni, neu ddim yn dweud wrth y Derbynnydd Swyddogol am eich holl eiddo, mae hyn yn drosedd ac fe allech chi gael eich dirwyo neu eich anfon i garchar. Mae hefyd yn drosedd i guddio eiddo neu dystiolaeth ddogfennol, neu gael gwared ag eiddo cyn mynd yn fethdalwr.

Unwaith y byddwch wedi tyngu affidafid, gall y llys naill ai benodi amser ar gyfer y gwrandawiad, neu wrando ar eich achos ar unwaith. Os yw’ch achos yn y llys sirol, bydd yn rhaid i chi fynychu’r gwrandawiad.

Nôl i’r brig


Beth sy’n digwydd pan wneir gorchymyn methdaliad

Yn y gwrandawiad methdaliad, bydd y llys yn penderfynu naill ai i wrthod eich cais, neu wneud gorchymyn methdaliad. Bydd y llys yn gwrthod eich cais os ydyn nhw, er enghraifft, yn credu fod gwell ateb i’ch problem ddyled.

Unwaith y gwneir y gorchymyn methdaliad, fel arfer bydd eich holl gyfrifon banc a chymdeithas adeiladu yn cael eu cloi ar unwaith. Daw’ch arian o dan reolaeth y Derbynnydd Swyddogol.

Bydd y Derbynnydd Swyddogol yn trefnu cyfweliad gyda chi i wirio os oes gennych unrhyw eitemau o werth y gellid eu gwerthu i dalu’ch credydwyr. Gellir gofyn i chi lenwi holiadur (ffurflen B40.01)sy’n ail adrodd llawer iawn o’r wybodaeth sydd yn y datganiad ariannol (ffurflen 6.28). [link to heading Sut i fynd yn fethdalwr] Bydd o gymorth i chi gael copi o’ch ffurflen datganiad ariannol wrth law ar gyfer y cyfweliad hwn. Efallai y cynigir cyfweliad dros y ffôn i chi gydag archwiliwr neu efallai y gofynnir i chi fynychu swyddfa’r Derbynnydd Swyddogol, yn dibynnu ar drefniadau lleol. Ar ôl eich cyfweliad bydd y Derbynnydd Swyddogol yn hysbysu’ch credydwyr am y methdaliad, ac anfon adroddiad atynt gyda chrynodeb o’ch sefyllfa ariannol. Gwerthir eich asedau i dalu rhan o’ch dyledion neu’ch dyledion i gyd. Telir costau’r methdaliad yn gyntaf allan o’r arian sydd ar gael. Mae’r costau’n cynnwys y ffîoedd y bydd y Derbynnydd Swyddogol yn eu codi am ddelio â’ch achos.

Nôl i’r brig


Pryd fydd methdaliad yn dod i ben

Yn arferol bydd eich methdaliad yn dod i ben ar ôl un flwyddyn. Gallai fod yn llai os ydych chi wedi cydweithredu’n llawn gyda’r Derbynnydd Swyddogol.

Bydd y Derbynnydd Swyddogol yn dweud wrthych pryd mae’r methdaliad ar ben. Bydd y rhan fwyaf o’r dyledion sydd heb eu talu yn cael eu dileu. Bydd rhai dyledion ar ddiwedd y methdaliad ddim yn cael eu dileu a bydd angen i chi wneud trefniadau i ddatrys y rhain.

Fe allwch chi gael cymorth oddi wrth ymgynghorydd i ddatrys dyledion na ellir eu dileu, er enghraifft, oddi wrth Swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Effaith ar eich statws credyd

Bydd eich methdaliad yn ymddangos ar y Gofrestr Ansolfedd tan ryw dri mis ar ôl i'ch gorchymyn methdaliad ddod i ben (eich gollwng). Os oes gorchymyn cyfyngiad methdaliad yn eich erbyn, bydd hwn yn ymddangos ar y gofrestr am hyd y gorchymyn. Mae’r gofrestr yn gofnod cyhoeddus. Gall unrhyw un chwilio drwy’r gofrestr am ddim ar-lein ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd yn: http://www.bis.gov.uk/insolvency/personal-insolvency/individual-insolvency-register.

Bydd y cofnod methdaliad yn aros yn eich ffeil gyfeirio credyd am chwe blynedd ac felly gallai affeithio’ch gallu i gael credyd hyd yn oed ar ôl i’r gorchymyn ddod i ben.

Nôl i’r brig


Gorchmynion rhyddhau dyled

Os yw’ch dyledion a’ch incwm yn is na swm arbennig, fe allai fod yn well i chi wneud cais am orchymyn rhyddhau dyled yn hytrach na methdaliad. Mae hwn yn opsiwn rhatach.

Rhaid i chi gael dyledion sy’n £15,000 neu lai. Rhaid i’r dyledion hyn fod o fath arbennig. Rhaid bod gennych hefyd incwm dros ben o £50 y mis neu lai ar ôl talu eich treuliau cartref arferol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gorchmynion rhyddhau dyled, gweler Gorchmynion gostwng dyled

Nôl i’r brig


Mwy o gymorth gyda methdaliad a dyled

Y Gwasanaeth Ansolfedd

Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth am fethdaliad o wefan y Gwasanaeth Ansolfedd. Mae gwybodaeth ar gael hefyd mewn ieithoedd ar wahan i’r Saesneg.

Llinell ymholiadau: 0845 602 9848

Gwefan: www.bis.gov.uk/insolvency

Adviceguide

Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddelio â dyled ac arian ar y tudalennau Adviceguide canlynol:

Cyngor ar Bopeth

Os ydych chi’n ystyried mynd yn fethdalwr, fe ddylech chi gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd profiadol. Gall eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol roi cyngor i chi ynglŷn â methdaliad. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback