Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Cael cyngor ariannol

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ynglŷn â chael cyngor

Bydd cyfnodau yn eich bywyd pan na fyddwch yn siŵr am yr hyn i’w wneud gyda’ch arian a pha benderfyniadau y bydd angen i chi eu gwneud ynglŷn â’ch dyfodol ariannol. Mae yna filoedd o wahanol gynhyrchion ariannol ar gael ac mae dewis rhyngddynt yn gallu bod yn anodd.

Os nad oes gennych lawer o brofiad o ddelio ag arian neu os yw gwneud y penderfyniadau cywir yn eich drysu, gallai cael cyngor ariannol proffesiynol fod yn gynorthwyol.

Gall ymgynghorwr ariannol helpu gyda phethau megis:

  • cynllunio ar gyfer eich ymddeoliad
  • buddsoddi neu gynilo arian
  • gwneud y defnydd gorau o gyfandaliad megis tâl colli swydd neu etifeddiaeth
  • prynu eiddo neu gael morgais
  • newid yn eich bywyd er enghraifft, os ydych yn dechrau teulu, yn cael ysgariad neu’n cael eich gwneud yn weddw

Ar y dudalen hon, cewch hyd i wybodaeth am:

Nôl i’r brig


Pwy sy’n rhoi cyngor ariannol

Cewch hyd i gyngor ariannol gan ymgynghorwr ariannol proffesiynol. Bydd yr ymgynghorwr yn edrych ar eich amgylchiadau personol a’ch cynlluniau ariannol ac argymell cynhyrchion i’ch helpu i ateb eich anghenion.

Mae’n rhaid bod yr ymgynghorwr ariannol wedi’i awdurdodi gan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (FSA). Mae hyn yn cynnwys ymgynghorwyr sy’n gweithio i gwmnïau megis banciau a chymdeithasau adeiladu, yn ogystal ag ymgynghorwyr unigol sy’n hunangyflogedig.

Gallwch wirio p’un ai bod yr ymgynghorwr neu’r cwmni y mae’n gweithio iddo wedi’i awdurdodi ar Gofrestr yr FSA neu beidio drwy glicio ar www.fsa.gov.uk.

Os nad yw ymgynghorwr ariannol wedi’i awdurdodi yn gywir, gallwch gwyno i’r FSA.

Nôl i’r brig


Mathau o ymgynghorwyr ariannol

Yn dibynnu ar y math o ymgynghorwr a welwch, gallai’r ystod o gynhyrchion a gynigir i chi fod yn gyfyngedig. Fel arfer, mae’n well cael cyngor ariannol annibynnol fel eich bod yn gallu edrych ar yr ystod ehangaf o’r cyngor a’r cynhyrchion sydd ar gael. Fodd bynnag, mae yna fathau eraill o ymgynghorwyr ariannol ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod y gwahaniaeth rhyngddynt fel eich bod yn cael y cyngor cywir.

Mae yna dri math o ymgynghorwr ariannol:

  • mae ymgynghorwyr ariannol annibynnol (IFAs) yn rhoi cyngor ar gynhyrchion ariannol amrywiol y gwahanol gwmnïau i gyd
  • mae ymgynghorwyr clwm yn rhoi cyngor ar gynhyrchion ariannol cwmnïau unigol, er enghraifft, banc neu gymdeithas adeiladu
  • mae ymgynghorwyr aml-glwm yn rhoi cyngor ar gynhyrchion ariannol amrywiaeth gyfyngedig o gwmnïau.

Nôl i’r brig


Sicrhau bod gan eich ymgynghorwr y cymwysterau cywir

Mae’n bwysig darganfod pa gymwysterau sydd gan eich ymgynghorwr fel eich bod yn hyderus bod y cyngor a dderbyniwch yn gywir.

Gall ymgynghorwyr feddu ar gymwysterau proffesiynol. Mae rhai ymgynghorwyr yn gymwys i roi cyngor ariannol cyffredinol. Mae eraill yn gymwys i gynghori ar destunau penodol megis cynllunio pensiynau, buddsoddiadau neu morgeisi.

Mae yna restr lawn o’r gwahanol gymwysterau y gall ymgynghorwyr ariannol feddu arnynt yn ogystal â chyrff proffesiynol sy’n eu cynrychioli ar wefan unbiased.co.uk. Ewch at: www.unbiased.co.uk.

Beth os nad oes gan yr ymgynghorwr y cymwysterau cywir

Os ydych yn mynnu cyngor gan ymgynghorwr anghymwys neu ymgynghorwr nad yw’n cael ei reoli gan yr FSA ac os ydych yn darganfod bod y cyngor a dderbynioch yn anghywir neu os yw’r cynhyrchion ariannol a argymhellwyd i chi yn anaddas ar eich cyfer chi, gall codi achwyniad llwyddiannus neu gael iawndal fod yn anoddach.

Nôl i’r brig


Sut i wirio eich bod yn cael y cyngor cywir

Pan ydych yn gweld ymgynghorwr, dylai roi’r math cywir o gyngor i chi sy’n ateb eich anghenion ariannol. Os nad ydynt yn gwneud hyn, gallech godi achwyniad.

Dylai’r cynhyrchion ariannol a argymhellir gan ymgynghorwr:

  • fod yn fforddiadwy i chi
  • gymryd i ystyriaeth p’un ai eich bod am gynilo ar gyfer yr hirdymor neu’r byrdymor
  • fod yn addas ar gyfer y risg yr hoffech gymryd
  • gymryd i ystyriaeth p’un ai eich bod yn talu treth neu beidio.

Os yw ymgynghorwr yn anwybyddu’r pwyntiau hyn ac yn argymell cynnyrch anaddas ac os ydych yn colli arian oherwydd hyn, gallwch godi achwyniad.

Mae ymgynghorwr dim ond yn gorfod rhoi’r cyngor cywir o fewn terfynau eu cymwysterau. Er enghraifft, os gwelwch ymgynghorwr clwm, fe fydd dim ond yn argymell cynnyrch addas o’r ystod o gynhyrchion a wertha. Nid oes yn rhaid i ymgynghorwyr clwm ddweud wrthych eich bod yn gallu prynu cynnyrch tebyg gan gwmni arall am bris rhatach. Os ydych yn darganfod hyn nes ymlaen, nid ydych yn gallu codi achwyniad yn ei erbyn.

Am y rheswm hwn, gallai fod yn well mynd at ymgynghorwr ariannol annibynnol [link to heading Mathau o gyngor ariannol] a fydd yn gallu edrych ar gynhyrchion y farchnad gyfan.

Os na all ymgynghorwr ariannol ddod o hyd i gynnyrch sy’n ateb eich anghenion, mae’n rhaid iddo eich cyfeirio at ymgynghorwr arall sy’n gallu eich helpu. Os nad yw’n gwneud hyn, mae’n bosib y gallwch gwyno. [link to heading Cwyno am ymgynghorwyr ariannol]

Rhestr wirio o bethau i’w gwneud yn eich cyfarfod cyntaf gyda’ch ymgynghorwr

Dyma awgrymiadau o bethau i’w gwneud yn eich cyfarfod cyntaf gyda’ch ymgynghorwr ariannol:

  • gwiriwch fod yr ymgynghorwr a welwch yn gymwys i roi’r cyngor angenrheidiol i chi, er enghraifft, ei fod yn arbenigo mewn pensiynau neu fuddsoddiadau
  • cymrwch nodiadau fel bod gennych gofnod clir o’r hyn a ddywedwyd yn y cyfarfod
  • gofynnwch lawer o gwestiynau a sicrhewch eich bod yn deall popeth sy’n cael ei ddweud wrthych
  • cymrwch amser i feddwl am unrhyw benderfyniadau neu gymharu cynhyrchion gydag ymgynghorwr arall. Nid oes yn rhaid i chi lofnodi unrhyw beth yn y fan a’r lle
  • byddwch yn barod i ateb cwestiynau yn onest. Bydd ymgynghorwr ariannol yn gofyn llawer o gwestiynau personol ynglŷn â’ch cynlluniau ariannol ac amgylchiadau personol fel y gallant argymell y cynhyrchion mwyaf addas ar eich cyfer chi
  • gwiriwch fod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei gadw’n gyfrinachol, a gofynnwch a fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer dibenion marchnata.

Nôl i’r brig


Beth i’w ystyried cyn gweld ymgynghorwr ariannol

Cyn edrych am ymgynghorwr ariannol, ceisiwch ddarganfod pa fath o gyngor sydd ei angen arnoch. Bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i’r ymgynghorwr cywir ar gyfer eich sefyllfa chi. Dyma restr wirio o bethau i’w hystyried:

  • a ydych yn cynllunio ar gyfer digwyddiad penodol? Er enghraifft, rydych yn ymddeol neu’n cynilo er mwyn prynu tŷ neu dalu ffioedd dysgu eich plant. Mae angen i chi feddwl am eich bywyd ac ystyried pa ddigwyddiadau y mae angen i chi gynllunio ar eu cyfer yn ariannol
  • a oes gennych arian sbâr i’w fuddsoddi? Edrychwch ar eich sefyllfa ariannol er mwyn gwybod faint y gallwch ei gynilo. Sicrhewch eich bod wedi ad-dalu unrhyw ddyledion, benthyciadau neu filiau yn gyntaf
  • faint o risg ariannol yr ydych yn fodlon ei gymryd? Pan ydych yn buddsoddi arian, mae’n bosib y gallwch golli arian ar eich buddsoddiad. Mae mwy o risg ynghlwm wrth rai buddsoddiadau nag eraill ond gallant roi mwy o arian i chi os gwnânt yn dda. Fel rheol gyffredinol, y mwyaf o amser yr ydych yn buddsoddi, y mwyaf tebygol ydych chi o wneud arian yn hytrach na’i golli
  • pa mor hir yr hoffech rwymo’ch arian? Mae hyd eich buddsoddiad yn effeithio’r math o gynhyrchion sy’n cael eu hargymell gan eich ymgynghorwr
  • a hoffech gyngor ar y gwahanol fathau o fuddsoddiadau? Er enghraifft, buddsoddiadau moesegol neu gydnaws â’r amgylchedd neu gynhyrchion ariannol sy’n buddsoddi yn ôl egwyddorion Shariah?
  • a ydych yn chwilio am gyngor neu wybodaeth yn unig? Mae’n bosib yr hoffech i rywun eich cynghori ar yr hyn ddylech ei wneud gyda’ch arian neu wybodaeth am gynhyrchion ariannol fel eich bod yn gallu dewis eich hun. Bydd rhai ymgynghorwyr ariannol yn darparu gwybodaeth a chyngor
  • a hoffech gyngor un-tro neu gyngor parhaus? Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o gost y cyngor a’ch bod yn gallu ei fforddio.

Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i gyfrifo eich arian, gweler Beth yw’r ffordd orau o gynilo.

Os hoffech fwy o wybodaeth am fuddsoddiadau, gweler Buddsoddi yn y farchnad stoc.

Nôl i’r brig


Beth ddylai’r ymgynghorwr ariannol ddweud wrthych

Pan ydych yn cwrdd ag ymgynghorwr ariannol, dylech dderbyn gwybodaeth glir am ei wasanaethau, gan gynnwys:

  • p’un ai bod y cyngor yn annibynnol, clwm neu aml-glwm
  • lefel y cyngor a dderbyniwch. Er enghraifft, gallech fod yn edrych am wybodaeth i’ch helpu i benderfynu eich camau nesaf, neu efallai eich bod am rywun i awgrymu’r opsiynau gorau i chi
  • os daw’r cynhyrchion ariannol a argymhellir o’r ystod gyfan sy’n cael ei gynnig, os ydynt yn ddetholiad o nifer cyfyngedig o gwmnïau, neu un cwmni neu grŵp ariannol
  • faint fydd angen i chi dalu am y cyngor.

Dylai eich ymgynghorwr roi dwy ddogfen ffeithiau allweddol i chi sy’n cynnwys gwybodaeth am:

  • yr ymgynghorwyr neu’r cwmni yr ydych yn ei ddefnyddio a’r gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig
  • y cynhyrchion y maen nhw wedi eu hargymell
  • yr hawl i newid eich meddwl ynglŷn â chynnyrch ariannol a’r amser sydd gennych i wneud hyn
  • eich hawl i fynnu rhagor o wybodaeth ychwanegol neu esboniad os nad ydych yn deall rhywbeth.

Os na chewch yr wybodaeth hon, sicrhewch eich bod yn gofyn amdani.

Nôl i’r brig


Beth yw cost cael cyngor

Bydd angen i chi dalu am gyngor ariannol ac mae’n bosib bydd angen i chi dalu am y cynhyrchion ariannol a brynwch.

Mae angen i chi fod yn glir iawn ynglŷn â chost y cyngor a chostau’r cynhyrchion a gaiff eu hargymell. Sicrhewch eich bod yn deall yr holl gostau a chymharwch ffioedd a chostau buddsoddi gwahanol ymgynghorwyr cyn dod i benderfyniad terfynol. Mae’n bosib y gallwch gael yr un cynnyrch yn rhatach gydag ymgynghorwr arall.

Os hoffech fwy o wybodaeth am gostau buddsoddiadau, gweler Sut i fuddsoddi yn y farchnad stoc.

Ffyrdd o dalu

Mae yna dair ffordd o dalu am gyngor ariannol. Gallwch dalu drwy:

  • ffi. Dyma’r ffi yr ydych yn ei dalu yn uniongyrchol i’ch ymgynghorwr ac mae’n seiliedig ar gyfradd awr neu swm penodedig
  • gomisiwn. Mae cwmni sy’n cynnig cynhyrchion ariannol yn talu swm o arian i ymgynghorwr pan ydych yn derbyn y cynnyrch. Gallai’r swm fod yn gyfran o faint fuddsoddoch yn wreiddiol yn y cynnyrch, neu gyfran o elw’r buddsoddiad. Gallai hyn fod yn gost sengl pan ydych yn derbyn y cynnyrch, neu efallai bydd angen i chi dalu swm blynyddol bob blwyddyn
  • ffi a chomisiwn. Gellir gofyn i chi dalu cyfuniad o ffi a chomisiwn, yn dibynnu ar lefel y cyngor sydd ei angen arnoch a’r math o gynnyrch ariannol a ddewiswch

Gallai fod costau ychwanegol ynghlwm wrth ofalu am eich buddsoddiadau neu ddarparu cyngor yn rheolaidd.

Nôl i’r brig


Sut i ddod o hyd i ymgynghorwr ariannol

I gael cyngor ar yr ystod ehangaf o gynhyrchion a chymharu costau, dylech edrych am ymgynghorwr ariannol annibynnol. Gall y sefydliadau canlynol eich rhoi mewn cysylltiad ag ymgynghorwr cymwys yn eich ardal chi:

Independent Financial Advice Promotions (IFAP) www.unbiased.co.uk.

Y Gymdeithas Cyllid Personol www.findanadviser.org.

Ethical Investment Research Service www.eiris.org.

Mae’n bosib bod gennych gysylltiadau ariannol gyda banc neu gymdeithas adeiladu a ffydd yn eu cynnyrch, felly rydych yn teimlo’n fwy cyfforddus ynglŷn â gofyn am eu cyngor. Gelwir hyn yn gofyn am gyngor clwm.

Os ydych yn penderfynu gwneud hyn, mae angen i chi fod yn ymwybodol bod yna bosibilrwydd bod gan gwmnïau eraill gynhyrchion rhatach neu sy’n ateb eich anghenion yn well.

Os hoffech ddod o hyd i ymgynghorwr clwm, cysylltwch â’r cwmni, banc neu gymdeithas adeiladu sy’n gwerthu’r cynnyrch y mae gennych ddiddordeb ynddo.

Nôl i’r brig


Cwyno am ymgynghorwyr ariannol

Ni allwch gwyno i ymgynghorwr ariannol os nad yw eich buddsoddiad yn cynhyrchu cymaint o arian a ddymunwch. Fodd bynnag, os ydych wedi colli arian oherwydd cyngor gwael, gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol neu weinyddiaeth wael, gallwch gwyno i’r ymgynghorwr a roddodd y cyngor yn wreiddiol i chi.

Mae’n rhaid i chi ddilyn gweithdrefn gwyno’r cwmni. Os nad yw’r ymateb yn eich bodloni, mae eich camau nesaf yn dibynnu ar bwy roddodd y cyngor i chi.

Os yw’r ymgynghorwr a weloch wedi cael ei awdurdodi gan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (FSA), [link to heading Pwy sy’n gymwys i roi cyngor i chi] dylech fynd â’ch cwyn i’r Ombwdsmon Ariannol. I wybod p’un ai bod yr Ombwdsmon Ariannol yn gallu delio â’ch cwyn neu beidio, ffoniwch ei linell gymorth i ddefnyddwyr ar 0300 123 9 123 (8am tan 6pm dydd Llun i Ddydd Gwener). Mae yna hefyd ffurflen gwyno arbennig y gallwch ei lawrlwytho a’i hanfon drwy’r post at yr Ombwdsmon. Am fwy o fanylion, ewch at www.financial-ombudsman.org.uk.

Cewch hefyd wybodaeth am b’un ai bod yr Ombwdsmon Ariannol yn gallu delio â chwyn am gwmni nad yw wedi’i awdurdodi gan yr FSA.

Os derbynioch gyngor ariannol gan gyfreithiwr neu gyfrifydd sydd wedi’i awdurdodi gan yr FSA i roi cyngor ariannol i chi, mae’n bosib bod angen i chi fynd â’ch cwyn at y corff proffesiynol sy’n ei reoli.

Os nad ydych yn siŵr ynglŷn â ble i gyfeirio eich cwyn, gallwch gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr ar 0300 500 500.

Nôl i’r brig


Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Ar Adviceguide

Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i reoli eich arian, ewch at:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i reoli eich arian, gan gynnwys benthyg arian, cynilion a phensiynau a chael cyngor ariannol. Rhowch glic ar: www.moneyadviceservice.org.uk.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback