The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Newid cyflenwyr nwy a thrydan
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a'r Alban
Ynglŷn â newid cyflenwyr nwy a thrydan
Mae yna lawer o gwmnïau sy’n darparu nwy a thrydan. Mae’n rhaid iddynt gystadlu yn erbyn ei gilydd i gael eich busnes. Mae hyn yn golygu bod yna gynlluniau da ar gael felly mae’n werth eu gwirio’n rheolaidd i weld os allwch gael gwell cynllun na’r un sydd gennych. Gallech arbed tipyn o arian drwy newid cyflenwyr, ond gallai gwybod pa gynllun i’w ddewis fod yn anodd.
Ar y dudalen hon, rydyn ni’n rhoi cymorth ar sut i’ch helpu i newid cyflenwyr nwy a thrydan.
Os ydych yn meddwl am newid cyflenwyr, bydd angen i chi:
- gyfrifo faint ydych yn ei dalu ar hyn o bryd ar gyfer eich nwy a’ch trydan
- holi i weld os oes dirwy am ganslo os oes gennych gontract cyfnod sefydlog
- wybod pa fath o dariff sy’n addas ar eich cyfer chi. Mae hyn yn golygu nid yn unig edrych ar brisiau ond sut a phryd yr hoffech dalu eich biliau – er enghraifft, ar-lein, cael pris gosodedig neu dariffau gwyrdd
- gymharu gwahanol dariffau cyflenwyr amrywiol
- sicrhewch eich bod yn dewis cyflenwr sy’n dilyn cod ymarfer. Bydd hyn yn gwarantu eich bod yn cael y gwasanaeth gorau posibl
- wybod pwy i gysylltu â nhw a beth sy’n digwydd pan ydych yn newid.
Darllenwch y dudalen ganlynol i wybod mwy.
Cyfrifo faint ydych yn ei wario ar nwy a thrydan
Cyn y gallwch ddarganfod p’un ai ydych yn gallu cael gwell gynllun ar gyfer eich nwy a’ch trydan, mae’n bwysig eich bod yn gwybod faint ydych eisoes yn ei wario ar ynni bob blwyddyn.
Os ydych wedi bod gyda’ch cyflenwr ynni am o leiaf un flwyddyn, dylai eich bil ddweud wrthych faint ydych yn ei wario ar ynni. Dylai eich bil esbonio faint o ynni yr ydych wedi’i ddefnyddio dros y deuddeg mis diwethaf fesul awr kilowat (KWh).
Dylai hefyd amcangyfrif faint fyddwch yn ei wario dros y deuddeg mis nesaf os ydych yn defnyddio’r un tariff, ar yr un gyfradd a’ch bod yn defnyddio’r un faint o ynni.
Hyd yn oed os nad ydych yn cael biliau rheolaidd, mae’n rhaid i gyflenwyr ynni anfon cyfriflen flynyddol at y cwsmeriaid hynny sydd wedi defnyddio eu gwasanaethau ers blwyddyn. Bydd hyn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei angen arnoch i newid cyflenwyr. Mae’n rhaid i’r gyfriflen ddangos:
- enw eich tariff cyfredol. Dyma’r gyfradd yr ydych yn ei thalu ar gyfer eich nwy a thrydan
- faint o ynni yr ydych wedi’i ddefnyddio dros y deuddeg mis diwethaf fesul awr kilowat (KWh). Dyma’r ffordd y caiff ynni ei fesur
- cyfanswm amcangyfrifol o’ch cyflenwad ynni ar gyfer y deuddeg mis nesaf
- prif delerau ac amodau eich contract
- os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol, gwybodaeth am unrhyw bremiymau neu ddisgowntiau sy’n berthnasol i’ch tariff o gymharu â’r tariff safonol
- nodyn i’ch atgoffa eich bod yn gallu newid cyflenwyr, ynghyd â chyngor ar sut i wneud hyn.
Rhaid i’r cwmni sy’n cyflenwi eich ynni hefyd anfon rhybudd atoch o leiaf 30 diwrnod ymlaen llaw cyn codi unrhyw brisiau neu wneud unrhyw newid arwyddocaol i’ch cytundeb sy’n golygu eich bod ar eich colled yn sylweddol.
Fe fydd yr wybodaeth hon yn eich helpu i benderfynu os ydych chi am aros gyda’r cwmni cyflenwi presennol neu newid at gwmni arall. Mae hefyd yn rhoi cyfle i chi gyllidebu ar gyfer unrhyw godiad yn y prisiau.
Os ydych wedi defnyddio’r un cyflenwr ers llai na blwyddyn, gallwch gyfrifo faint o ynni a ddefnyddiwch drwy edrych ar hen filiau sy’n dweud faint o ynni yr ydych wedi’i ddefnyddio.
Gallwch hefyd gysylltu â’ch cyflenwr a gofyn iddo faint o nwy neu drydan yr ydych wedi’i ddefnyddio dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dylech bob amser seilio eich costau ar y symiau gwirioneddol o ynni yr ydych wedi’i ddefnyddio yn hytrach na darlleniadau amcangyfrifol sy’n gallu bod yn uwch neu’n is na’ch anghenion.
Mae hefyd yn rhaid i chi ddarganfod p’un ai eich bod yn gorfod talu cost sefydlog a’i gynnwys yn y swm yr ydych yn ei wario ar nwy a thrydan. Mae costau safonol yn gostau gosodedig sy’n talu am bethau megis anfon biliau, darparu a darllen mesurydd a chostau cynnal a chadw. Nid oes gan bob cwmni gost sefydlog. Mae’r rhai nad oes ganddynt gost sefydlog yn codi mwy am ddefnyddio er mwyn talu’r costau hyn.
Mathau o dariffau ynni
Tariffau yw’r cyfraddau yr ydych yn eu talu am eich nwy a thrydan. Mae cyfraddau tariff yn seiliedig ar nifer o bethau gan gynnwys sut a phryd i dalu eich biliau. Mae’n werth meddwl am ba fath o dariff sy’n bwysig i chi. Mae’n bosib eich bod yn gyfforddus yn rheoli eich arian ar-lein a thalu drwy ddebyd uniongyrchol. Fodd bynnag, mae’n bosib bod gwell gennych dalu am eich ynni yn ôl yr angen. Mae dewis y tariff cywir sy’n ateb eich anghenion yn lleihau eich dewis pan ydych yn cymharu prisiau gwahanol gyflenwyr.
Fel arfer mae gan wahanol gyflenwyr wahanol dariffau. Bydd pob cwmni yn rhoi enwau ei hun ar y tariffau. Yn gyffredinol, dyma nhw:
- tariff safonol. Y gyfradd mae eich cwmni ynni yn ei chynnig heb unrhyw ddisgowntiau ychwanegol
- tariff debyd uniongyrchol. Byddwch yn cael pump i ddeg y cant o ddisgownt ar y tariff safonol os ydych yn dewis talu drwy ddebyd uniongyrchol misol
- tariff ar-lein. Os ydych yn dewis rheoli eich cyfrif ar-lein gan ddefnyddio eich cyfrifiadur, byddwch yn gymwys ar gyfer ddisgowntiau ychwanegol, fel arfer rhwng pump a deg y cant, ar y gyfradd tariff safonol. Yn aml, gallwch gyfuno’r tariff hwn gyda’r tariff debyd uniongyrchol i ddyblu eich cynilion
- tariff rhagdal. Rydych yn talu am eich nwy a’ch trydan pan ydych yn eu defnyddio felly nid oes gennych unrhyw filiau. Rydych yn rhoi arian ar gerdyn, tocyn neu allwedd mewn PayPoint mewn siop leol neu swyddfa bost. Gallwch yna ddefnyddio’r cerdyn i weithredu’r mesurydd. Mae rhai cyflenwyr yn cynnig tariff talu wrth ddefnyddio, lle gallwch reoli eich cyfrif ar-lein os oes gennych fynediad i gyfrifiadur ac os allwch dalu drwy gerdyn credyd neu ddebyd. Mae’r cyfraddau tariff yn dueddol o fod yn uwch gan eu bod yn cynnwys cost safonol
- tariff gwyrdd. Os hoffech gefnogi ffynonellau ynni adnewyddadwy, bydd y math o ffynhonnell ynni sy’n cael ei ddarparu i chi, megis ffynhonnell gwynt neu ddŵr, yn dibynnu ar faint o drydan a ddefnyddiwch. Gwrthbwyso carbon yw’r enw arno. Er bod hyn yn berthnasol i drydan yn unig, mae’r tariff hwn hefyd ar gael ar gyfer cynlluniau tanwydd dwbl pan gewch eich nwy a’ch trydan gan yr un cyflenwr. Mae tariffau gwyrdd yn dueddol o fod yn uwch na thariffau safonol. Mae’n bosib y byddwch am wirio pa mor ystyriol o’r amgylchedd yw polisi eich cyflenwr er mwyn sicrhau bod gwerth talu'r gost ychwanegol.
- tariff bwydo i mewn. Mae’n fath arall o dariff gwyrdd sy’n gymwys os ydych yn gosod dyfais ynni adnewyddadwy yn eich cartref, er enghraifft, paneli solar. Fodd bynnag, mae’n bosib gwneud arian gyda’r tariff hon oherwydd rydych yn gallu gwerthu ynni yn ôl i’r rhwydwaith trydan
- tariff cymdeithasol. Mae rhai cyflenwyr ynni yn cynnig tariffau gostyngedig i grwpiau penodol o bobl sydd ar incwm isel. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys pobl dros 60 oed, pobl anabl a phobl sy’n ddifrifol sâl sydd efallai’n gorfod treulio llawer o amser adref ac sy’n ei chael yn anodd rheoli eu biliau tanwydd
- tariff wedi’i gapio. Mae tariff wedi’i gapio yn eich caniatáu i bennu’r pris a dalwch am eich ynni am gyfnod penodol o amser, fel arfer rhwng un a phum mlynedd. Gallai’r swm fod yn fwy na thariff safonol ond mae yna obaith y cewch eich amddiffyn os yw’r prisiau yn codi yn y dyfodol.
Sut i gymharu cyflenw
Pan ydych wedi cyfrifo faint ydych eisoes wedi’i wario ar eich nwy a thrydan a pha fath o dariff a hoffwch, gallwch ddechrau cymharu cynlluniau gwahanol gyflenwyr.
Mae yna nifer o ffyrdd o gymharu cyflenwyr. Gallwch:
- gysylltu â phob cwmni ynni yn uniongyrchol a gofyn iddynt am eu cyfraddau gorau. Gallwch wneud hyn dros y ffôn neu drwy ymweld â gwefan y cwmni
- gysylltu â Chyswllt Defnyddwyr ar gyfer taflen ffeithiau annibynnol sy’n esbonio’r tariffau diweddaraf
- ddefnyddio gwefan cymharu cymeradwy.
Defnyddio safle cymharu
Gall gwefannau cymharu fod yn ffordd gyflym a chyfleus o edrych ar brisiau llawer o gyflenwyr yn yr un man. Os ydych yn defnyddio gwefan cymharu, mae’n well dewis un sydd wedi’i gymeradwyo gan God Cyfrinachedd Consumer Focus. Cod ymarfer gwirfoddol ydyw ar gyfer gwefannau cymharu prisiau. Mae’n berthnasol i wefannau sy’n cymharu’r ystod fwyaf o gyflenwyr ar sail tebyg at eu tebyg.
Os ydych yn defnyddio gwefan cymeradwy, byddwch yn gallu cymharu tariff eich cyflenwr cyfredol a defnydd ynni gyda chyfraddau’r prif gyflenwyr eraill. Gallwch hefyd ddefnyddio eu gwasanaeth trosglwyddo rhad ac am ddim sy’n gallu cynnig rhagor o ddisgowntiau. Os hoffech restr lawn o’r gwefannau sydd wedi’u cymeradwyo dan y Cod Cyfrinachedd, ewch at:www.consumerfocus.org.uk neu edrychwch am logo’r Cod Cyfrinachedd.
Gallwch ddefnyddio offeryn cymharu Consumer Focus i’ch helpu i gymharu prisiau nwy a thrydan eich ardal chi sydd gan yr holl gyflenwyr ynni. Cewch hyd i’r offeryn ar y wefan: www.consumerfocus.org.uk.
Gwerthu ar garreg y drws
Gallai gwerthwr ymweld â chi neu eich ffonio i’ch annog i drosglwyddo i’w cwmni nhw. Gelwir hyn yn gwerthu ar garreg y drws neu alwad diwahoddiad. Byddwch yn ymwybodol eu bod dim ond yn cynrychioli un cyflenwr. Os ydych yn meddwl trosglwyddo, mae’n well siopa o gwmpas am y cynlluniau gorau ar eich cyfer chi.
Am fwy o wybodaeth am werthu nwy a thrydan ar garreg y drws, gweler Nwy a thrydan – gwerthu ar garreg y drws.
Sut ddylai cyflenwyr ymddwyn
Mae’n rhaid i gyflenwyr ynni ddilyn cod ymarfer i sicrhau eu bod yn cael y gwasanaeth gorau posibl. Mae’n rhaid iddynt:
- dim ond gwerthu’r cynhyrchion yr ydych chi yn eu deall ac sy’n cwrdd â’ch anghenion
- beidio â newid cynnyrch neu wasanaeth heb esboniad
- beidio â’ch atal rhag newid cyflenwyr heblaw bod yna reswm da dros wneud, er enghraifft, bod arian yn ddyledus gennych
- beidio â chynnig cynhyrchion sy’n ddiangen o gymhleth neu ddryslyd
- ei wneud yn haws i chi gysylltu â nhw a gweithredu’n gyflym a phriodol pan ydynt yn ymdrin â phroblemau neu gamgymeriadau.
Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r hawliau hyn er mwyn sicrhau bod y cyflenwr a ddewiswch yn ymddwyn yn briodol. Os nad yw cyflenwr yn ymddwyn yn briodol, gallwch ddefnyddio’r cod ymarfer i gwyno a gofyn iddo gywiro’r sefyllfa.
Am fwy o wybodaeth am sut i wneud cwyn i’ch cyflenwr tanwydd, gweler Cyflenwad nwy a Chyflenwad Trydan.
Cymharu cyfraddau tanwydd dwbl
Mae cyfraddau tanwydd dwbl yn golygu eich bod yn prynu eich nwy a’ch trydan gan yr un cyflenwr ond weithiau nid yw hyn yn rhatach.
Pan wnewch ymchwil, gwiriwch gyfraddau cyflenwyr ar wahân yn ogystal â thanwydd dwbl. Mae’n gallu bod yn rhatach gyda gwahanol gyflenwyr ar gyfer pob math o danwydd.
Pryd i newid contractau
Mae’n bwysig gwybod pryd i newid contractau. Weithiau, ar ôl i’r cyflenwr cyntaf gyhoeddi gostyngiadau, bydd mwy o gyflenwyr yn cynnig gwell gynlluniau. Yn debyg, os yw un cyflenwr yn codi prisiau, gallai’r gweddill ddilyn. Gallai fod yn syniad da aros am ychydig o amser er mwyn gweld beth sy’n digwydd yn hytrach na chytuno ar y cynllun cyntaf.
Pennu pris eich ynni
Mae’n bosib y byddwch am feddwl am b’un ai ydych am bennu pris eich ynni er mwyn amddiffyn eich hun yn erbyn unrhyw godiadau mewn prisiau. Tariff wedi’i gapio yw’r enw ar hyn.
Gall pris nwy a thrydan gynyddu a gostwng yn gyflym iawn, fel pris olew, oherwydd mae’n dibynnu ar eu hargaeledd a phwy sydd eu hangen. Nid oes unrhyw un yn gwybod yr hyn fydd yn digwydd yn y dyfodol, felly mae pennu pris yn risg. Mae’n debyg i bennu cyfradd eich morgais.
Os hoffech fwy o wybodaeth am beth ddylech ei ystyried cyn cael tariff wedi’i gapio, ewch at wefan moneysavingexpert: www.moneysavingexpert.com.
Sut i newid cyflenwyr
Os ydych yn penderfynu newid cyflenwyr, bydd angen i chi:
gysylltu â’r cyflenwr newydd a ddylai wneud y mwyafrif o’r gwaith ar eich rhan. Fe fydd yn rhoi dyddiad i chi pan fydd eich cyflenwad ynni yn newid
ddweud wrth eich cyflenwr cyfredol eich bod yn newid i gyflenwr arall
sicrhau bod gennych rifau cyswllt y ddau gyflenwr rhag ofn bydd angen i chi gysylltu â nhw yn ystod y broses trosglwyddo.
Ar ddyddiad y trosglwyddo, bydd eich cyflenwr newydd yn gofyn am ddarlleniad mesurydd. Fe fydd yn anfon y darlleniad at eich hen gyflenwr a fydd yn gofyn i chi dalu’r swm sy’n ddyledus gennych ar gyfer eich ynni. Mae’n bwysig eich bod yn talu’r arian hwn cyn newid cyflenwr, neu efallai gallai eich hen gyflenwr wrthod gadael i chi symud tan eich bod wedi talu’r swm sy’n weddill gennych.
Newid cyflenwyr pan fydd arnoch arian iddynt
Os oes arnoch arian, efallai na fydd cwmni cyflenwi newydd yn fodlon eich derbyn.
Os yw’r arian yn ddyledus gennych ers llai na 28 diwrnod, er enghraifft nid ydych wedi talu bil diweddar, fe fyddwch yn dal i fedru newid cwmni cyflenwi. Fe fydd yr arian sy’n ddyledus gennych yn cael ei drosglwyddo at eich cwmni cyflenwi newydd.
Os yw’ch cwmni cyflenwi yn codi ei brisiau ac yna’n gwrthod gadael i chi newid at gwmni arall oherwydd dyled, mae gennych 30 diwrnod i dalu’r swm sy’n weddill. Os ydych yn gwneud hyn o fewn y cyfnod hwn, fe fyddwch yn medru newid at gwmni cyflenwi arall heb orfod talu’r pris uwch.
Os mai camgymeriad eich cwmni cyflenwi sy’n gyfrifol am eich dyled, ni ddylai eich atal rhag newid at gwmni cyflenwi arall.
Os oes mesurydd rhagdaliad gennych
Fe fyddwch hefyd yn cael newid at gwmni cyflenwi arall os ydych yn defnyddio mesurydd rhagdaliad ac mae gennych ddyled o hyd at £200. Fe fydd eich dyled yn cael ei throsglwyddo at eich cwmni cyflenwi newydd. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â newid eich cwmni cyflenwi pan fydd arnoch arian, cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr – gweler y pennawd Cymorth ychwanegol.
Os ydych yn cael trafferth wrth geisio newid at gwmni cyflenwi arall pan fydd arnoch arian, siaradwch â chynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor trwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Pa mor hir y mae’n cymryd i newid
Mae fel arfer yn cymryd rhwng chwech ac wyth wythnos i gyflawni’r broses drosglwyddo. Dylai’r ddau gyflenwr ynni weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod y broses trosglwyddo yn digwydd heb unrhyw broblem. Os cewch anawsterau yn ystod y broses trosglwyddo, dylech geisio datrys y broblem gyda’ch cyflenwyr yn gyntaf. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr.
Mae Cyswllt Defnyddwyr yn cynhyrchu taflen ffeithiau o’r enw Sut i newid Cyflenwr Ynni,y gallwch ei lawrlwytho oddi ar ei wefan yn: http://www.consumerfocus.org.uk/files/2010/01/Switching.pdf a thaflen ffeithiau o’r enw Switching suppliers when in debt to your current supplier, sydd hefyd ar gael i’w lawrlwytho oddi ar ei wefan yn http://www.consumerfocus.org.uk/files/2010/01/Debt-blocking1.pdf.
Cymorth ychwanegol
Ar Adviceguide
- Biliau nwy a thrydan
- Nwy a thrydan – gwerthu ar garreg y drws
- Cyflenwad nwy
- Cyflenwad trydan
- Costau tanwydd ac arbed arian
- Help gyda dyled.
Moneysavingexpert
Mae gan wefan Moneysavingexpert lawer o wybodaeth am sut i ddewis a newid cyflenwyr ynni, gan gynnwys cymharu prisiau tariff. Ewch at: www.moneysavingexpert.com.
Llais Defnyddwyr
Llais Defnyddwyr yw’r sefydliad i ddefnyddwyr ar gyfer materion ynni. Mae’n ymgyrchu dros chwarae teg i ddefnyddwyr. Cewch fwy o wybodaeth am ynni, gan gynnwys y cynlluniau ynni gorau a’ch hawliau defnyddwyr ar ei wefan:www.consumerfocus.org.uk. Sicrhewch eich bod yn dewis y rhan cywir o’r wefan ar gyfer eich ardal chi yn y DU.
Cyswllt Defnyddwyr
Cyswllt Defnyddwyr yw gwasanaeth ar-lein a ffôn a gyllidir gan y llywodraeth sy’n darparu gwybodaeth a chyngor i ddefnyddwyr. Cewch fwy o wybodaeth i’ch helpu gyda’ch problemau fel defnyddiwr, gan gynnwys problemau nwy a thrydan, ar wefan Cyswllt Defnyddwyr: www.consumerdirect.gov.uk.
Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Ynni
Mae Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Ynni yn delio â chwynion yn erbyn cyflenwyr nwy a thrydan a chwmnïau’r rhwydwaith ynni. Cyn cwyno i Wasanaethau’r Ombwdsmon: Ynni, mae’n rhaid i chi gwyno i’ch cyflenwr gan ddefnyddio’r weithdrefn gwyno.
Cewch fwy o wybodaeth am rôl Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Ynni gan gynnwys sut i gwyno, ar wefan Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Ynni: www.ombudsman-services.org/energy.









