Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Gorffennaf 29 af 2010

Rheoli arian - Yng Nghymru

Rydw i'n mynd i fyw ar fy mhen fy hun am y tro cyntaf ac rwy’n poeni ynghylch sut i reoli fy arian. Beth fedrai wneud i osgoi mynd i ddyled?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Ceisiwch beidio â gadael i faterion ariannol gael y gorau ohonoch. Cadwch gofnod o faint o arian sy'n dod i mewn a faint y mae'n rhaid i chi ei glustnodi ar gyfer biliau, rhent a bwyd. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi drefnu archebion sefydlog a debydau uniongyrchol i dalu eich biliau. Trefnwch fod y taliad yn gadael eich cyfrif yn fuan wedi'r dyddiad y cewch eich talu. Os yn bosib, ceisiwch gynilo peth arian bob mis fel cynllun cynilo cyffredinol neu ar gyfer achosion brys. Gwnewch yn siwr eich bod yn edrych ar eich cyllid eto bob tro y mae yna newid yn eich incwm neu unrhyw newid arall a allai effeithio ar eich sefyllfa ariannol.

Chwiliwch am y ddêl orau ar gyfer nwy, trydan, ffôn ac yswiriant. Mae yna ddigon o ddewis y dyddiau hyn.

Byddwch yn ofalus wrth brynu nwyddau ar gredyd. Mae'r ad-daliadau llog yn gallu bod yn eithaf uchel. Hefyd, byddwch yn ofalus gyda chredyd di-log. Efallai ei bod yn ymddangos yn ddêl dda ar y pryd ond os ydych chi'n methu ag ad-dalu'r swm yn llawn cyn diwedd y cyfnod di-log, efallai y byddwch yn talu'r llog llawn, hyd yn oed os mai un diwrnod yn hwyr fyddwch chi gyda'ch taliad. Ceisiwch dalu o leiaf 10% o'ch balans bob mis ar eich cardiau credyd.

Peidiwch â chael gorddrafft heb drafod gyda'ch banc yn gyntaf, fe fyddwch yn cael eich cosbi am orddrafft heb ganiatâd.

Byddwch yn ofalus iawn wrth gymryd benthyciadau. Darllenwch ac ymgyfarwyddwch gyda'r derminoleg. Gwnewch yn siwr eich bod chi'n gwybod y gwahaniaeth rhwng benthyg sydd wedi ei sicrhau a benthyg sydd heb ei sicrhau. Os ydych chi'n cymryd benthyciad sydd wedi'i sicrhau gan ddefnyddio eich cartref fel sicrwydd, fe allech ei golli os na allwch chi dalu'r ad-daliadau

Am fwy o wybodaeth ynghylch prynu nwyddau ar gredyd a chymryd benthyciadau, gweler Credyd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gorddrafftiau anawdurdodedig gweler Banciau a chymdeithasau adeiladu.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â dyledion: