Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Mae fy nyledion yn mynd allan o bob rheolaeth a dydw i ddim yn gallu eu talu nhw i gyd. Beth fedrai wneud?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Os ydych mewn dyled, peidiwch â mynd i banig. Ond mae'n bwysig eich bod yn gwneud rhywbeth, oherwydd fydd eich problem ddim yn mynd i ffwrdd. Peidiwch ag anwybyddu galwadau ffôn neu lythyron gan y bobl y mae arnoch arian iddynt (eich credydwyr). Cysylltwch â nhw i esbonio pam yr ydych chi'n cael problemau. Cewch fwy o help gan y rhan fwyaf o fudiadau os ewch chi atyn nhw yn gyntaf.

Y peth cyntaf sydd angen i chi ei wneud yw gwneud rhestr o'ch holl gredydwyr.

Unwaith fyddwch chi wedi gwneud hyn, mae angen i chi benderfynu pa ddyledion sy'n flaenoriaeth. Mae dyled sy'n flaenoriaeth yn un a allai fod â chanlyniadau difrifol os na chaiff ei thalu. Fe fyddai peidio â thalu eich rhent neu'ch morgais yn golygu y gallech golli eich cartref, neu fe allai peidio â thalu eich bil nwy neu drydan olygu eich bod yn colli eich cyflenwad ac yn ymddangos gerbron y llys.

Mae dyledion sydd ddim yn flaenoriaeth yn rhai sydd â chanlyniadau llai difrifol os nad ydych yn eu talu. Maen nhw'n cynnwys pethau fel gorddrafftiau, benthyciadau, hur-bwrcas, cyfrifon cardiau credyd a dyledion catalog. Ond, os nad ydych yn talu eich dyledion sydd ddim yn flaenoriaeth, mae'n credydwyr yn medru mynd â chi i'r llys.

Pan fyddwch chi wedi penderfynu pa ddyledion sy'n flaenoriaeth, cyfrifwch faint allwch chi fforddio ei ad-dalu, yn realistig. I wneud hyn, fe fydd angen i chi lunio rhestr o'r holl incwm a threuliau ar gyfer eich cartref/teulu.

Yng Nghymru a Lloegr, rydych yn medru argraffu tudalen gyllidebu i'ch helpu i wneud hyn. Gweler Taflen gyllidebu yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a debyd.

Cyfrifwch eich incwm a holwch a oes unrhyw fudd-daliadau neu gredydau treth y mae gennych hawl iddynt nad ydych yn eu cael. Edrychwch ar eich gwariant yn ofalus i weld a allwch chi dorri yn ôl mewn unrhyw fan. Er enghraifft fe allech chwilio am gyflenwad nwy neu drydan rhatach, neu edrych ar ddarparwyr morgais neu yswiriant rhatach.

Mae asiantaeth gyngor yn medru eich helpu i lunio cyllideb a'ch helpu i gynyddu eich incwm os yw hyn yn bosib.

Pan fyddwch chi wedi cyfrifo faint sydd ar ôl wedi talu eich costau, cysylltwch â phob un o'ch credydwyr sy'n flaenoriaeth. Dangoswch eich cyllideb iddyn nhw a cheisiwch ddod i drefniant i ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych.

Os nad ydych yn medru fforddio talu unrhyw beth i'ch credydwyr sy'n flaenoriaeth ac nid yw'ch sefyllfa'n debygol o wella, fe allai'r canlyniad fod yn ddifrifol iawn. Mynnwch gyngor ar unwaith.

Fe fydd y ffordd yr ydych yn delio â'ch dyledion sydd ddim yn flaenoriaeth yn dibynnu a oes unrhyw arian gennych dros ben wedi i chi ddelio gyda'ch dyledion sy'n flaenoriaeth ac wedi talu am dreuliau hanfodol y cartref fel costau tai a bwyd. Os oes arian yn weddill gennych, efallai y bydd sawl opsiwn gennych ar gyfer delio gyda'ch dyledion sydd ddim yn flaenoriaeth. Ond os nad oes llawer o arian ar ôl gennych, neu nid oes unrhyw beth ar ôl, ac nid oes unrhyw beth o werth gennych i'w werthu ac nid yw'ch sefyllfa'n debygol o wella, fe fydd eich opsiynau'n gyfyngedig iawn.

Byddwch yn ofalus iawn ynghylch cymryd mwy o fenthyciadau i dalu dyledion sydd gennych yn barod. Efallai y byddwch yn talu llawer mwy yn ôl nag a fenthycwyd ac efallai y bydd y cyfraddau llog yn ofnadwy o uchel. Mae rhai benthyciadau yn cael eu sicrhau yn erbyn eich cartref ac fe allech golli eich cartref os na allwch chi fforddio'r ad-daliadau.

I ddarganfod mwy ynghylch eich opsiynau ar gyfer delio gyda dyled yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gweler Help gyda dyled. Yn yr Alban, gweler Help gyda dyled.

Nid oes angen i chi dalu am gyngor ynglyn â dyled. Mae eich Canolfan Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor annibynnol a chyfrinachol rhad ac am ddim. Fe allan nhw eich helpu chi i gyfrifo ad-daliadau ac i drafod gyda'r credydwyr. Am fanylion ynglyn â'ch CAB lleol, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor trwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â dyledion: