Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Rwy'n amau bod rhywun yn defnyddio manylion fy ngherdyn credyd heb yn wybod i mi. Beth fedrai wneud?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Efallai fod rhywun wedi dwyn eich hunaniaeth. Math o dwyll yw hyn ac mae'n digwydd pan fydd rhywun nad ydych yn ei adnabod yn cael gafael ar eich manylion personol ac yn eu defnyddio i gael mynediad at eich cyfrif.

Unwaith yr ydych yn sylweddoli bod rhywun wedi bod yn defnyddio eich cerdyn credyd heb yn wybod i chi, rhaid i chi ddweud wrth y cwmni sydd wedi rhoi'r cerdyn credyd i chi, ar unwaith. Cadwch gofnod o unrhyw sgwrs gyda hwy, a chopïau o unrhyw lythyron a anfonwyd neu a dderbyniwyd; a dywedwch wrth yr heddlu, gan ofyn am gyfeirnod trosedd.

Os ydyw hyn wedi digwydd i chi a bod eich cerdyn gennych o hyd, ni fydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw beth a brynwyd arno heb eich caniatâd. Os oes rhywun wedi dwyn eich cerdyn, yna y mwyaf y bydd yn rhaid i chi ei dalu yw £50, oni ellir dangos eich bod wedi ymddwyn yn dwyllodrus neu heb gymryd gofal rhesymol, er enghraifft trwy gadw eich rhif adnabod personol gyda'ch cerdyn.

Rhaid i chi weithredu ar unwaith: cysylltwch â chwmni eich cerdyn credyd ar unwaith, cadwch gofnod o bob sgwrs a gawsoch gyda nhw a chopïau o unrhyw lythyron a anfonwyd neu a dderbyniwyd; a dywedwch wrth yr heddlu, gan sicrhau eich bod yn cael cyfeirnod trosedd.

Am fwy o wybodaeth a chyngor am dwyll yn ymwneud â chardiau credyd a dwyn hunaniaeth, ewch at (New window) www.cardwatch.org.uk, neu at wefan y Swyddfa Gartref yn (New window) www.identitytheft.org.uk.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â dyledion: