Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr
Y peth cyntaf i'w wneud yw ceisio trafod gyda'r cwmni. Hyd yn oed os na allwch chi dalu'r ddyled yn llawn, fe allech geisio cytuno ar swm penodol i'w dalu bob wythnos neu fis.
Os na allwch chi ddod i gytundeb gyda'r cwmni, fe fydd angen iddyn nhw i gael gwarant i weithredu gan y llys cyn anfon y beilïaid i fynd ag eiddo o'ch cartref i dalu am eich dyled. Os oes gwarant ganddyn nhw yn barod, dylech wneud cais i'r llys i'w atal.
Os bydd y beilïaid yn cyrraedd, nid oes yn rhaid i chi eu gadael i mewn, ac, yn gyffredinol, ni allan nhw orfodi eu ffordd i mewn. Ond, fe allan nhw ddod i mewn i'ch eiddo heb eich caniatâd os ydyn nhw’n gallu dod i mewn heb dorri i mewn. Gelwir hyn yn ‘fynediad heddychlon' ac mae’n cynnwys mynd i mewn trwy ffenestr sydd ar agor, neu ddrws sydd ar gau ond heb ei gloi.
Nid oes hawl gan feilïaid i fynd â dillad gwely, dodrefn, nwyddau'r cartref na dillad sylfaenol ac fe fydd unrhyw bethau y maen nhw'n mynd â hwy yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn i glirio eich dyled.
Mae’r rheolau ynglyn â beilïaid yn gymhleth, ac fe fyddai'n ddoeth i chi gael cyngor gan gynghorydd arbenigol. Am fwy o wybodaeth, gweler Help gyda dyled neu, yng Nghymru a Lloegr, edrychwch ar ein taflen ffeithiau ar Feiliaid yn Taflenni ffeithiau ynglyn â chredyd a dyled.