Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Maen nhw wedi gwrthod rhoi credyd i mi i brynu peiriant golchi newydd. Beth fedrai wneud?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Os oes rhywun wedi gwrthod rhoi credyd i chi, fe allwch wneud cais eto i'r un cwmni neu drïo yn rhywle arall. Os ydych yn aflwyddiannus eto, efallai fod gennych sgôr credyd isel. Mae hyn yn golygu bod y siop sy'n gwerthu'r peiriant golchi wedi defnyddio asiantaeth cyfeirio credyd i edrych ar eich sgôr credyd. Dylai'r siop fod wedi dweud wrthych eu bod nhw'n defnyddio'r dull yma i benderfynu a allwch chi gael peiriant golchi ar gredyd.

Fe allwch chi holi'r siop i weld pa asiantaeth cyfeirio credyd y mae wedi'i ddefnyddio. Ysgrifennwch atyn nhw a gofynnwch am gopi o'r ffeil sydd ganddynt amdanoch. Fe fydd yn rhaid i chi dalu ffi am hyn, ond mae'n ffi bach fel arfer. Os ydych chi'n credu bod yr wybodaeth ar eich cofnod yn anghywir, fe allwch ofyn i'r asiantaeth cyfeirio credyd ei gywiro.

Efallai y byddai'n syniad i chi edrych ar ddulliau eraill o dalu am eich peiriant golchi hefyd.

I gael gwybod mwy am gredyd ac asiantaethau cyfeirio credyd, gweler Credyd.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â dyledion: