Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Cardiau credyd

pile of credit cards

Mae defnyddio cerdyn credyd yn medru bod yn ffordd gyfleus o dalu am nwyddau a gwasanaethau a rhoi mwy o ddewis i chi ynghylch ble i siopa. Mae’n medru bod yn ffordd rad o fenthyg arian am gyfnod byr ond mae’n medru bod yn ddrud os nad ydych yn medru ad-dalu’r swm cyfan sy’n ddyledus gennych bob mis.

Ar y tudalennau canlynol, fe fyddwn yn dweud wrthych sut i ddefnyddio’ch cerdyn credyd, faint mae’n medru ei gostio a beth ddylech chi ei wneud os ydych yn mynd i drafferth.

Sut mae cardiau credyd yn gweithio

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i chi sy’n dweud beth yn union yw cerdyn credyd. Mae’n sôn am derfynau credyd a’r cyfnod di-log ar gardiau credyd.

 

Dewis cerdyn credyd a cheisio amdano

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych beth ddylech chwilio amdano wrth ddewis cerdyn credyd gan gynnwys yr wybodaeth ddylech chi ei derbyn i’ch helpu i gymharu cardiau credyd gwahanol. Mae’n dweud beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n ceisio am gerdyn credyd, gan gynnwys llofnodi cytundeb credyd a’r hyn fedrwch chi ei wneud os caiff eich cais ei wrthod.

 

Costau a thaliadau cardiau credyd

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych am y gwahanol ffyrdd o ddefnyddio’ch cerdyn credyd a’r llog a thaliadau eraill y mae modd eu hychwanegu at eich cyfrif. Mae’n cynnwys gwybodaeth ynghylch defnyddio’ch cerdyn dramor ac ynghylch trosglwyddo balans. Mae hefyd yn esbonio’r mathau o yswiriant fedrwch chi eu cymryd gyda’ch cerdyn credyd.

 

Problemau gyda chardiau credyd

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych beth ddylech chi ei wneud os ydych yn cael trafferth gyda’ch cerdyn credyd. Mae’n cynnwys gwybodaeth ar yr amddiffyniad ychwanegol yr ydych yn ei gael pan fyddwch chi’n defnyddio cerdyn credyd i brynu nwyddau a gwasanaethau, yn ogystal â chyngor i’ch helpu i osgoi twyll mewn perthynas â cherdyn credyd. Mae hefyd yn dweud wrthych beth ddylech chi ei wneud os ydych yn cael trafferth ad-dalu bil eich cerdyn credyd.

 

Nationwide logo