The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Benthyciadau’r Gronfa Gymdeithasol
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglŷn â benthyciadau’r Gronfa Gymdeithasol
Os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau penodol, mae’n bosib y bydd gennych yr hawl i gymorth y Gronfa Gymdeithasol ar gyfer treuliau untro. Mae’n rhaid i chi ad-dalu’r swm a fenthycioch ond nid oes yn rhaid i chi dalu unrhyw log.
Mae’r cymorth y gallwch ei gael yn cynnwys:
- Benthyciadau argyfwng i’ch helpu gydag argyfwng neu drychineb
- Benthyciadau cyllidebu i helpu gyda chostau pwysig penodol, er enghraifft, celfi, dillad, blaendal rhent neu gostau symud i gartref newydd, costau teithio a phethau i’ch helpu i ddechrau gweithio
- Taliadau Angladd i helpu i dalu am angladd yr ydych yn ei drefnu. Mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r gost i gyd neu ran ohono gan ddefnyddio ystâd y person a fu farw.
Mewn rhai amgylchiadau penodol mae’n bosib y gallwch gael grant o’r Gronfa Gymdeithasol, er enghraifft, grant mamolaeth neu grant gofal cymunedol.
Am fwy o wybodaeth am y Gronfa Gymdeithasol, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol
Am fwy o wybodaeth am yr hyn allwch ei hawlio, gweler Pa fudd-daliadau fedra i eu cael?
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Yn Adviceguide
Am fwy o wybodaeth am y Gronfa Gymdeithasol, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.
Mae’n bosib y bydd y wybodaeth ganlynol yn Adviceguide yn gynorthwyol:
- Mathau o fenthyciadau
- Cael y cynllun credyd gorau
- Cardiau credyd
- Credyd
- Banciau a chymdeithasau adeiladu
- Cynyddu eich incwm
- Sut i wario llai
- Cymorth gyda dyled yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
- Cymorth gyda dyled yn Yr Alban.
Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian
Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.
Rhowch glic ar y wefan am fwy o wybodaeth ynghylch:
- cyngor ar reoli eich arian
- cardiau a benthyciadau
- os bydd pethau’n mynd o le
- siopa i weld beth sydd ar gael
Directgov









