The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Benthyciadau diwrnod pae
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglŷn â benthyciadau diwrnod pae
Benthyciad diwrnod pae yw benthyciadau byrdymor a fwriedir i’ch helpu tan eich bod yn cael eich talu. Mae llawer o gwmnïau newid sieciau yn cynnig y gwasanaeth hwn. Mae newidwyr siec yn gwmnïau sy’n derbyn sieciau a’u newid am arian. Codir tâl arnoch am y gwasanaeth hwn.
Sut mae benthyciadau diwrnod pae yn gweithio
Mae’n rhaid eich bod dros 18 oed, bod gennych gyfrif banc a’ch bod yn gweithio llawn amser.
Rydych chi’n ysgrifennu siec bersonol i’r cwmni newid sieciau er mwyn derbyn arian amdano. Bydd y cwmni yn didynnu ffi sydd fel arfer yn uchel. Ar ddiwrnod pae, bydd y cwmni newid sieciau yn rhoi’r siec i’ch banc. Eich dyletswydd chi yw sicrhau bod yna ddigon o arian yn eich cyfrif banc i dalu amdani.
Gallwch hefyd gael benthyciadau diwrnod pae ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd y banc.
Mae benthyciadau diwrnod pae yn ffordd ddrud o helpu pobl gyda’u problemau dros dro. Nid ydynt yn addas ar gyfer anawsterau hirdymor. Os oes gennych gyfrif banc, mae’n bosib y gallwch gytuno ar orddrafft ond peidiwch â gordynnu heb ganiatâd. Os ydych yn penderfynu defnyddio benthyciad diwrnod pae, sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r holl gostau yn gyntaf.
Am fwy o wybodaeth am ordynnu, gweler Gorddrafftiau Banc.
Os oes angen i chi ddefnyddio benthyciadau diwrnod pae yn rheolaidd, mae’n bosib yr hoffech gyngor ar gyllidebu neu ddelio â dyledion, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Beth sy’n digwydd os yw’r siec yn cael ei gwrthod
Os yw’r siec yn cael ei gwrthod, bydd y cwmni newid sieciau yn codi tâl arnoch ac mae’n bosib y bydd yn cymryd camau yn y llys i adennill ei arian. Bydd y banc hefyd yn codi tâl arnoch oherwydd gwrthodwyd y siec.
Weithiau gallwch ohirio ad-dalu drwy drefnu cytundeb gyda’r cwmni newid sieciau ond bydd angen i chi dalu ffi ychwanegol am hyn.
Gwneud cwyn ynglŷn â benthyciadau diwrnod pae
Os oes gennych broblem gyda benthyciad diwrnod pae, dylech gysylltu â’r benthyciwr a cheisio ei datrys. Os nad ydych yn fodlon o hyd, ac mae’r benthyciwr yn aelod o gymdeithas fasnach, er enghraifft Cymdeithas Sieciau a Chredyd Prydain (BCCA) neu Gymdeithas Cyllid Defnyddwyr (CFA) fe fyddwch yn medru cwyno iddynt. Mae BCCA yn gymdeithas fasnach i gwmnïau sy’n darparu benthyciadau diwrnod pae a gwasanaethau cyfnewid sieciau ac mae’r CFA yn cynrychioli cwmnïau sy’n rhoi benthyciadau tymor byr heb eu diogelu ar unrhyw beth, er enghraifft benthyciadau diwrnod pae. Mae gan y ddwy gymdeithas god ymarfer ac mae’n rhaid i aelodau’r Gymdeithas gydymffurfio â nhw. Gallwch wirio p’un ai bod benthyciwr yn aelod a chael mwy o wybodaeth am god ymarfer BCCA ar wefan BCCA www.bcca.co.uk ac fe allwch wirio p’un ai ei fod yn aelod o’r CFA yn www.cfa-uk.co.uk.
Os nad yw’r benthyciwr yn aelod o gymdeithas fasnach, neu os nad ydych yn fodlon, gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS). Cewch wybodaeth am sut i gwyno ar wefan FOS www.financial-ombudsman.org.uk.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Yn Adviceguide
Am fwy o wybodaeth am y gwahanol ffyrdd o fenthyg arian a chael credyd gan gynnwys delio â siarcod benthyg, gweler Mathau o fenthyciadau.
Gallai’r wybodaeth ganlynol yn Adviceguide hefyd fod yn gynorthwyol:
- Cael y cynllun credyd gorau
- Cardiau credyd
- Credyd
- Banciau a chymdeithasau adeiladu
- Cynyddu eich incwm
- Sut i wario llai
- Cymorth gyda dyled yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
- Cymorth gyda dyled yn Yr Alban.
Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian
Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.
Rhowch glic ar y wefan am fwy o wybodaeth ynghylch:
- cyngor ar reoli eich arian
- cardiau a benthyciadau
- os bydd pethau’n mynd o le
- siopa i weld beth sydd ar gael
Cymdeithas Sieciau a Chredyd Prydain (BCCA)
Payplan
Mae mudiad o’r enw Payplan wedi cynhyrchu canllawiau i fenthyciadau diwrnod pae, ac maen nhw ar gael ar ei wefan yn http://www.payplan.com/debt-library/paydayloans.pdf
Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS)
www.financial-ombudsman.org.uk.









