The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Credyd Cartref (Benthyciadau carreg drws)
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglŷn â chredyd cartref
Mae credyd cartref, neu fenthyciadau carreg drws, yn golygu eich bod yn benthyg arian a bod y benthyciwr yn galw yn eich carterf i gasglu’r ad-daliadau. Mae’r benthyciadau fel arfer ar gyfer symiau llai ac fe godir cyfradd llog uchel arnoch am fenthyg yn y ffordd hon.
Gwirio os yw’r benthyciwr yn drwyddedig
Mae’r gyfraith yn nodi fod yn rhaid i fenthycwyr credyd cartref fod wedi’u trwyddedu gan y Swyddfa Masnachu Teg (OFT). Fe allwch ddarganfod os yw benthyciwr wedi’i drwyddedu trwy wirio y Cofrestr Credyd Defnyddwyr ar wefan OFT yn www2.crw.gov.uk.
Os yw rhywun yn cynnig benthyg arian i chi ar garreg drws, mae’n syniad da i ofyn am gael gweld eu trwydded benthyciwr neu awdurdodiad arall. Os nad oes ganddynt un, maen nhw’n gweithredu’n anghyfreithlon ac fe ddylech chi osgoi benthyca oddi wrthynt.
Am fwy o wybodaeth am fenthyca anghyfreithlon, gweler Siarcod benthyg.
Cwyno am gredyd cartref
Mae llawer o fenthycwyr credyd cartref yn perthyn i Gymdeithas Credyd Defnyddwyr (CCA) ac yn dilyn Cod Ymarfer y CCA. Os oes gennych broblem gydag aelod o CCA, gallwch gwyno wrth y CCA. Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth am y Gymdeithas Credyd Defnyddwyr a’i chod ymarfer ar wefan y CCA yn: www.ccauk.org.
Mae’n drosedd i geisio rhoi benthyciad arian i chi y tu allan i adeilad masnachu oni bai fod yr ymweliad â’ch cartref yn ymateb i gais ysgrifenedig sy wedi’i lofnodi. Os nad yw cytundeb yn cael ei drefnu’n gywir, ni all y benthyciwr eich gorfodi i ad-dalu’r arian.
Os nad ydych yn siwr a yw cytundeb wedi’i drefnu’n gywir ai peidio, fe allwch gael cymorth oddi wrth ymgynghorydd, er enghraifft mewn Swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cymharu benthyciadau credyd cartref
Fe allwch chi gymharu benthyciadau credyd cartref ar Cymharu Benthycwyr (Lenders Compared), gwefan gymharu annibynnol yn: www.lenderscompared.org.uk.
Sieciau a thalebau masnachu
Gall benthycwyr carreg drws hefyd gynnig sieciau a thalebau masnachu. Gellir cyfnewid y rhain am nwyddau, dillad a dodrefn meddal fel arfer ac mewn siopau penodol fel arfer. Fe allwch chi ad-dalu’r swm i asiant y cwmni fydd fel arfer yn galw yn eich cartref. Yn aml iawn mae’r cyfraddau llog yn uchel iawn ar gyfer y math yma o gredyd.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Yn Adviceguide
Am fwy o wybodaeth am y dulliau gwahanol o fenthyca arian a chael credyd yn cynnwys delio â siarcod benthyg arian, gweler Mathau o fenthyciadau.
Fe allwch chi hefyd gael y wybodaeth ganlynol yn Adviceguide yn ddefnyddiol:
- Cael y ddêl orau ar gredyd
- Cardiau credyd
- Credyd
- Banciau a chymdeithasau adeiladu
- Cynyddu’ch incwm
- Sut i wario llai
- Cymorth gyda dyled yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
- Cymorth gyda dyled yn yr Alban.
Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian
Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.
Rhowch glic ar y wefan am fwy o wybodaeth ynghylch:
- cyngor ar reoli eich arian
- cardiau a benthyciadau
- os bydd pethau’n mynd o le
- siopa i weld beth sydd ar gael
Cymdeithas Credyd Defnyddwyr (CCA)
Cofrestr Credyd Defnyddwyr
Cymharu Benthycwyr (Lenders Compared)









