Bydd y mwyafrif o bobol am fenthyca arian ar ryw adeg i’w cynnal dros dro mewn argyfwng, i brynu eitemau mwy neu i ariannu digwyddiad arbennig. Gellir cyfeirio at fenthyca arian hefyd fel credyd.
Cyn i chi fenthyca arian, mae’n bwysig gwneud yn siwr eich bod yn gallu cadw at yr ad-daliadau, neu fel arall fe allech gael eich cymryd i’r llys ac fe allech chi hyd yn oed golli eich cartref neu feddiannau gwerthfawr eraill.
Dewch i wybod am y ffyrdd gwahanol o fenthyca arian, sut i fenthyca’n gall a sut i osgoi rhai o’r peryglon sydd ynghlwm wrth fenthyca all arwain at broblemau gyda dyled.

