Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Eich banc yn mynd allan o fusnes

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru yr Alban a Gogledd Iwerddon



Ynglŷn â’ch banc yn mynd allan o fusnes

Os yw eich banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd allan o fusnes, a chwithau’n colli arian o’r herwydd, efallai y gallwch gael peth o’ch arian yn ôl.

Ar y dudalen hon fe allwch ddarganfod mwy ynglŷn â sut i gael eich arian yn ôl, neu sut i hawlio iawndal. Fe allwch ddod i wybod am:

Mae mwy o wybodaeth hefyd ynglŷn â beth i’w wneud os yw’ch banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd allan o fusnes, ac am sefydliadau eraill allai eich helpu.

Nôl i’r brig


Cael eich arian yn ôl

Os yw banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd allan o fusnes a chwithau’n colli arian o’r herwydd, chewch chi ddim blaenoriaeth i gael eich arian yn ôl. Fe gewch chi eich arian yn ôl dim ond os oes gan y banc unrhyw asedau yn weddill ar ôl talu eu credydwyr uchaf eu blaenoriaeth, a hyd yn oed wedyn, efallai na chewch chi yr arian sy’n ddyledus i gyd yn ôl.

Nôl i’r brig


Cael iawndal

Os nad oes arian ar ôl gan eich banc neu gymdeithas adeiladu i’ch talu chi, efallai y gallwch hawlio iawndal oddi wrth Gynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Er mwyn gallu hawlio iawndal oddi wrth yr FSCS rhaid bod eich banc neu gymdeithas adeiladu wedi’u hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA).

Trwy FSCS, fe allwch hawlio i fyny at £85,000 ar gyfer cyfanswm eich adneuon mewn un banc neu gymdeithas adeiladu. Nid oes wahaniaeth faint o gyfrifon gwahanol sydd gennych. Er enghraifft, os oes gennych ddau gyfrif yn HSBC gyda £85,000 ymhob un, fe allwch chi hawlio yn ôl cyfanswm o £85,000 yn unig.

Gall deiliaid cyfrifon ar y cyd hawlio hyd at £85,000 yr un ar y cyfrifon sydd ganddynt mewn un banc neu gymdeithas adeiladu.

Os oes gennych ddyledion heb eu talu gyda’r banc neu gymdeithas adeiladu, caiff rhain eu didynnu o swm yr iawndal y gallwch ei dderbyn. Er enghraifft, os oes gennych adnau o £85,000 a benthyciad o £20,000, yna dim ond iawndal am y golled o £65,000 fyddai’n dod i chi.

Os oes gennych gyfrif gyda banc neu gymdeithas adeiladu awdurdodedig sydd wedi mynd allan o fusnes, fe ddylai yr FSCS gysylltu â chi. Os ydych yn credu fod gennych hawl i wneud cais am iawndal ond bod yr FSCS heb gysylltu â chi, fe ddylech chi gysylltu â nhw. [link to Cymorth ychwanegol]

Os yw cyfanswm eich adneuon yn fwy na chyfyngiad yr iawndal, dim ond i fyny at £85,000 o iawndal gewch chi trwy FSCS. Sut bynnag, efallai y gallwch chi gael mwy o’ch arian yn ôl yn ogystal â’r iawndal hwn. Efallai y gallwch chi gael cyfran o’ch adnau yn ôl yn dilyn dosbarthu’r asedau fydd yn rhan o broses methdaliad y banc neu gymdeithas adeiladu sy’n mynd allan o fusnes. Bydd yn rhaid i chi aros nes bod y broses methdaliad wedi’i gwblhau i weld os allwch chi gael mwy o arian yn ôl.

Os oes buddsoddiadau gennych gyda banc neu gymdeithas adeiladu sy’n mynd allan o fusnes, fe fyddwch ond yn medru cael iawndal o hyd at £50,000 trwy FSCS. Os oes pensiwn gennych, yswiriant bywyd hirdymor, neu yswiriant cyffredinol, fe fyddwch yn cael iawndal o hyd at 90 y cant, heb unrhyw derfyn uchaf ar yr hyn fedrwch chi ei hawlio.

Os oes gennych gyfrif gyda banc neu gymdeithas adeiladu sy dramor a heb ei awdurdodi i weithredu yn y DU, fyddwch chi ddim yn gallu hawlio iawndal oddi wrth FSCS. Sut bynnag, efallai y gallwch chi wneud cais yng ngwlad cartref y banc neu gymdeithas adeiladu sydd wedi’i lleoli yn yr Ardal Economaidd Ewrop. (EEA)

Er mwyn gweld pa wledydd sydd yn yr EEA, gweler Cyfnod rannu a chlybiau gwyliau.

Nôl i’r brig


Os oes gennych arian mewn mwy nag un banc

Os oes gennych arian mewn gwahanol fanciau neu gymdeithasau adeiladu, fe allwch hawlio i fyny at £85,000 ar gyfer pob banc neu gymdeithas adeiladu, cyhyd â bod ganddynt drwyddedau bancio ar wahan. Er enghraifft, os oes gennych £85,000 yn Barclays a £85,000 yn HSBC, fe allwch chi hawlio £170,000 yn ôl.

Os nad oes gan y banciau drwyddedau bancio ar wahan, dim ond £85,000 y gallwch chi hawlio yn ôl, faint bynnag o gyfrifon sydd gennych. Er enghraifft, os oes gennych £85,000 yn Halifax a £85,000 ym Manc yr Alban (Bank of Scotland), dim ond £85,000 y gallwch chi ei hawlio gan fod yr Halifax a Banc yr Alban wedi’u hawdurdodi o dan yr un drwydded bancio.

Nôl i’r brig


Cymorth ychwanegol

Yn Adviceguide

Am fwy o wybodaeth am fanciau a chymdeithasau adeiladu a’r gwasanaethau a gynigir ganddynt, gweler Banciau a chymdeithasau adeiladu.

Fe allwch chi hefyd gael y wybodaeth ganlynol yn Adviceguide yn ddefnyddiol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch cyfrifon banc a chynnyrch ariannol eraill, gan gynnwys gwybodaeth ar gael iawndal. Rhowch glic ar: (New window) www.moneyadviceservice.org.uk.

Awdurdod Gwasanaethau Ariannol

Fe allwch wirio os yw banc neu gymdeithas adeiladu wedi’i awdurdodi gan yr FSA ar gofrestr yr FSA yn: (New window) www.fsa.gov.uk, neu trwy gysylltu â llinell gymorth cwsmeriaid yr FSA ar: 0845 606 1234. Er mwyn gwirio os yw banc neu gymdeithas adeiladu yn dal trwydded fancio ar wahan, cysylltwch â llinell gymorth cwsmeriaid FSA.

Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol

Am fwy o wybodaeth am y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) gweler taflen FSCS Sut y gallwn ni helpu yn:(New window) www.fscs.org.uk.

Nôl i’r brig


Nationwide logo