Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Fe allwch chi agor cyfrif banc ar y cyd gyda phobol eraill. Er enghraifft, efallai y byddech chi am wneud hyn i reoli biliau’r cartref gyda rhywun sy’n rhannu’r cartref gyda chi, neu gyda’ch gwraig, gŵr neu bartner sifil.
Ar y dudalen hon fe allwch ddod i wybod mwy am gyfrifon ar y cyd a sut maen nhw’n gweithio. Fe allwch ddod i wybod am:
Mae yna hefyd fwy o wybodaeth am gyfrifon ar y cyd, ynghyd â sefydliadau eraill allai eich helpu.
I agor cyfrif banc ar y cyd mae’n rhaid i chi fel arfer gwblhau ffurflen gais. Yn aml, fe allwch wneud hyn mewn cangen neu ar-lein, ac weithiau fe allwch chi wneud hyn dros y ffôn hefyd
Nid oes cyfyngiad ar y nifer o ddeiliaid cyfrif ar y cyd.
Fe fydd rhaid i chi hefyd ddarparu prawf o bwy ydych chi yn cynnwys eich enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad. Fel arfer bydd yn rhaid i chi ddangos dwy ddogfen wahanol i’r banc i brofi pwy ydych, er enghraifft, eich pasbort, a ble rydych yn byw, er enghraifft, bil diweddar.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag agor cyfrif banc ac os oes gennych broblemau ynglŷn â hyn, gweler Sut i agor cyfrif banc.
Wrth i chi agor cyfrif ar y cyd, fe ddylai’r banc neu gymdeithas adeiladu ddweud wrthych am yr hawliau a’r cyfrifoldebau ychwanegol sydd ynghlwm cyn i chi agor y cyfrif. Fe ddylen nhw ddweud wrthych:
Pan fydd dau neu fwy o bobol yn penderfynu agor cyfrif banc ar y cyd, bydd yn rhaid iddynt lofnodi ffurflen a elwir yn orchymyn. Mae’r gorchymyn yn nodi beth all y deiliaid cyfrif ar y cyd ei wneud, er enghraifft, pwy all arwyddo sieciau a phwy all godi arian o’r cyfrif.
Fe allwch chi ganslo’r gorchymyn unrhyw bryd heb gytundeb y lleill. Byddai angen i chi wneud hyn, er enghraifft, os ydych chi am newid telerau’r cyfrif ar y cyd neu ei gau.
Sut bynnag, mae’n bosibl llunio gorchymyn sy ond yn caniatáu i chi newid telerau’r cyfrif ar y cyd neu ei gau gyda chytundeb pob un o ddeiliaid y cyfrif.
Rhaid i’r banc neu gymdeithas adeiladu anfon cyfriflenni i bob un o’r deiliaid cyfrif yn unigol. Mae hyn yn wir oni bai fod y deiliaid cyfrif wedi arwyddo cytundeb i ddweud eu bod am dderbyn un gyfriflen yn unig.
Ni chaniateir i ddeiliaid cyfrif ar y cyd i ddefnyddio credyd ei gilydd yn awtomatig. Ni ddylid cysylltu credyd i gyfrif un o ddeiliaid y cyfrif heb ganiatâd pob un o ddeiliaid y cyfrif. Y rheswm am hyn yw y byddai'r deiliaid cyfrif eraill yn gyfrifol wedyn am y ddyled.
Os na threfnwyd gorddrafft ar gyfrif ar y cyd, rhaid hysbysu pob un o ddeiliaid y cyfrif os oes gorddrafft heb awdurdod yn digwydd.
Os oes gennych gyfrif ar y cyd a’ch cyfrif personol eich hun gyda’r un banc neu gymdeithas adeiladu, gall y banc drosglwyddo arian o’ch cyfrif personol i warchod unrhyw ddyled sydd ar eich cyfrif ar y cyd. Gall y banc wneud hwn yn awtomatig, er yn ymarferol, bydd banciau yn aml yn gofyn am eich caniatâd cyn trosglwyddo unrhyw arian yn y ffordd hon.
Sut bynnag, ni all y banc drosglwyddo arian allan o’ch cyfrif ar y cyd i warchod unrhyw ddyled ar eich cyfrif personol, oni bai fod yr holl ddeiliaid cyfrif ar y cyd wedi cytuno i hyn neu fod telerau ac amodau eich cyfrif ar y cyd yn dweud y gall hyn ddigwydd. Os ydyw’r telerau a’r amodau yn dweud y gall hyn ddigwydd, rhaid bod eich banc wedi nodi hyn wrth y deiliaid cyfrif.
Os oes gorddrafft ar gyfrif ar y cyd, mae pob deiliad cyfrif ar y cyd yn gyfrifol am yr holl arian sy’n ddyledus.
Os ydych chi’n cael anghytundeb gyda deiliad cyfrif ar y cyd arall fe ddylech chi ganslo gorchymyn y cyfrif ar y cyd ar unwaith.
Os nad yw’r gorchymyn yn cael ei ganslo ar unwaith, gall unrhyw un o ddeiliaid y cyfrif gael mynediad i’r cyfrif o hyd ac ni all y banc wrthod eu talu.
Pan fyddwch chi’n canslo gorchymyn cyfrif ar y cyd, caiff y cyfrif ei rewi. Bydd yn rhaid i’r holl ddeiliaid cyfrif wedyn gytuno ar sut i rannu’r arian rhyngddynt. Os nad yw’n bosibl cytuno, bydd yn rhaid i’r llysoedd benderfynu sut i rannu’r arian.
Yn Lloegr a Chymru, os yw pawb yn talu arian i mewn i’r cyfrif ar y cyd, cymerir yn ganiataol eu bod i gyd yn berchen ar yr arian ar y cyd, does wahaniaeth faint o arian mae pob person yn ei dalu i mewn. Ar gyfer gŵr a gwraig neu bartneriaid sifil, cymerir yn ganiataol fod yr arian yn y cyfrif yn berchen i chi’ch dau, hyd yn oed os mai dim ond un ohonoch sy’n talu arian i mewn i’r cyfrif. Sut bynnag, ar gyfer deiliaid cyfrif ar y cyd sy ddim yn briod neu’n bartneriaid sifil, os oes un ohonoch ddim yn talu i mewn i’r cyfrif, ni chymerir yn ganiataol fod y person hwnnw/honno yn berchen ar yr arian. Gall fod yn anodd profi eich bod yn berchen ar yr arian mewn cyfrif ar y cyd os nad ydych yn talu i mewn iddo, oni bai eich bod yn gallu dangos mai bwriad clir y cyfrif ar y cyd oedd cael cronfa gyffredin y gallai pob person ei defnyddio.
Yn yr Alban, cymerir yn ganiataol fod yr arian sy’n cael ei ddal mewn cyfrif ar y cyd yn berchen i’r un sy’n talu i mewn iddo oni bai y gellir dangos mai’r bwriad oedd iddo fod yn gyfrif ar y cyd. Mae’r rheol hon yn berthnasol boed y deiliaid cyfrif ar y cyd yn briod, mewn partneriaeth sifil neu’n byw gyda’i gilydd ai peidio. Yn ymarferol, gall pob un o’r deiliaid cyfrif ar y cyd gael mynediad i’r arian i gyd, a bydd yn rhaid i’r llysoedd benderfynu pwy sy’n berchen ar yr arian os bydd unrhyw anghytundeb ynglŷn â hynny.
Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd mae’ch banc yn delio gyda’ch cyfrif ar y cyd, fe ddylech yn gyntaf gwyno wrth y banc. Os nad ydych yn hapus ar ôl gwneud hynny fe allwch ofyn am gymorth ychwanegol oddi wrth yr Ombwdsmon Ariannol.
Am fwy o wybodaeth am fanciau a chymdeithasau adeiladu a’r gwasanaethau a gynigir ganddynt, gweler Banciau a chymdeithasau adeiladu.
Fe allwch chi hefyd gael y wybodaeth ganlynol yn Adviceguide yn ddefnyddiol:
Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch cyfrifon banc a chynnyrch ariannol eraill, gan gynnwys cyfrifon ar y cyd. Rhowch glic ar: www.moneyadviceservice.org.uk
Cymdeithas Bancwyr Prydain (BBA) ydyw’r prif gymdeithas fasnach ar gyfer banciau sy’n gweithredu yn y DU. Ni all y BBA ddelio â chwynion unigol, ond maent yn cynhyrchu amrywiaeth o daflenni ffeithiau am ddim sy’n cynnig gwybodaeth ddefnyddiol am fancio. Mae’r rhain yn cynnwys deall sieciau a deall cardiau plastig.
Fe allwch weld y taflenni ffeithiau ar wefan BBA yn www.bba.org.uk www.bba.org.uk. Fe allwch hefyd ffonio y llinell archebu ar 020 7216 8801 a gadael eich enw, cyfeiriad a theitl neu destun y daflen ffeithiau yr ydych yn ei dymuno.
Mae gan y BBA daflen ffeithiau am gyfrifon ar y cyd. Fe allwch weld hon ar eu gwefan yn www.bba.org.uk.
Os ydych chi wedi mynd trwy trefn gwyno eich banc neu gymdeithas adeiladu a dydyn nhw ddim wedi gallu’ch helpu chi, fe allwch gwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Rhaid i chi roi o leiaf wyth wythnos i’ch banc neu gymdeithas adeiladu i ddatrys y broblem, oni bai eu bod yn anfon llythyr sefyllfa ddiddatrys atoch cyn diwedd yr wyth wythnos. Mae hwn yn lythyr sy’n dweud wrthych nad oes dim byd mwy y gallan nhw ei wneud i’ch helpu.
Rhaid i chi gwyno wrth yr Ombwdsmon o fewn chwe mis i dderbyn y llythyr sefyllfa ddiddatrys, neu o ddiwedd y cyfnod o wyth wythnos os na chewch chi lythyr sefyllfa ddiddatrys. Gwnewch yn siwr eich bod yn cadw cofnod o’r dyddiad pan gwynoch chi gyntaf wrth y banc.
Fe allwch chi gysylltu â’r Ombwdsmon Ariannol ar 0845 080 1800, neu ymweld â’r wefan yn: www.financial-ombudsman.org.uk.
Am fwy o wybodaeth am Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsmon yng Lloegr, Sut i ddefnyddio Ombwdsmon yng Nghymru, Sut i ddefnyddio Ombwdsmon yn yr Alban, Sut i ddefnyddio Ombwdsmon yng Ngogledd Iwerddon
