Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Weithiau mae pethau yn mynd o chwith ac fel gyda phob gwasanaeth arall, mae’n bosib y bydd angen i chi gwyno am eich banc neu gymdeithas adeiladu.
Mae gwybodaeth ar y dudalen hon am beth allwch wneud os yw pethau yn mynd o chwith, sut i gwyno i’ch banc neu gymdeithas adeiladu a beth allwch wneud os nad yw eu hymateb yn eich bodloni.
Ar y dudalen hon, cewch hyd i wybodaeth am:
Am fwy o wybodaeth am Fancio a chwyno, gweler cymorth a gwybodaeth ychwanegol.
Yn ogystal â thelerau ac amodau eich contract gyda’r banc neu’r gymdeithas adeiladu, mae yna bethau y mae’n rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu eu gwneud yn ôl y gyfraith. Mae’n rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu ddarparu ei wasanaethau:
Os nad ydynt yn gwneud un o’r pethau hyn, mae’n bosib y gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Mae yn erbyn y gyfraith i’ch banc neu gymdeithas adeiladu i wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, crefydd neu rywioldeb.
Os gwahaniaethir yn eich erbyn ar sail un o’r rhesymau hyn, mae’n bosib y gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol Byddwch hefyd yn gallu mynd i’r llys ond bydd angen cyngor cyfreithiol i wneud hyn.
Mae hawl gan y banc neu’r gymdeithas adeiladu wahaniaethu yn eich erbyn ar sail rhesymau eraill, er enghraifft, mae’n bosib y bydd yn eich gwrthod rhag agor rhai mathau o gyfrifon oni bai eich bod yn perthyn i grŵp oedran penodol. Mae hyn yn wahaniaethu ar sail oed, ond nid yw yn erbyn y gyfraith.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chyngor cyfreithiol, gweler Defnyddio cyfreithiwr.
Cyn i chi wneud cwyn, gwiriwch mai’r banc neu’r gymdeithas adeiladu sy’n gyfrifol am y broblem. Er enghraifft, nid y banc neu’r gymdeithas adeiladu sy’n gyfrifol os ydych wedi rhoi eich cerdyn banc a rhif PIN i rywun arall a’i fod yn defnyddio’r rhain i godi arian heb eich caniatâd.
Gellir datrys llawer o broblemau yn gyflym felly rhowch gyfle i’r cwmni gywiro pethau. Os na allwch ddatrys y broblem neu os ydych yn anfodlon a gwasanaeth eich banc neu eich cymdeithas adeiladu, gallwch wneud cwyn ffurfiol trwy broses gwyno’r cwmni.
Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol bod gan fanciau a chymdeithasau adeiladu broses gwyno ysgrifenedig sy’n dweud wrth gwsmeriaid sut i wneud cwyn. Dylech fod yn gallu dod o hyd i fanylion yn eich banc neu gymdeithas adeiladu neu ar eu gwefannau. Os na allwch ddod o hyd i wybodaeth am broses gwyno eich cwmni, gofynnwch iddynt ei anfon atoch.
Dilynwch bob cam o’r broses gwyno. Mae’n rhaid i’r banc neu’r gymdeithas adeiladu archwilio eich cwyn a rhoi ymateb clir i chi o fewn wyth wythnos. Mae’n bosib y bydd yn anfon y canlynol atoch:
Os nad yw’r cwmni yn anfon ymateb atoch o fewn wyth wythnos neu os ydych yn dal yn anhapus, mae’n bosib y gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Os nad ydych yn siŵr ynglŷn â beth i’w wneud ar unrhyw gam o’r broses gwyno, mynnwch gymorth gan wasanaeth gynghori megis Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gallwch wneud cwyn yn bersonol, ar y ffôn neu’n ysgrifenedig drwy lythyr neu e-bost. Mae hyn yn dibynnu ar sut ydych yn bancio. Dyma rhai awgrymiadau:
Os ydych yn cwyno i’r banc neu’r gymdeithas adeiladu ac nid ydynt yn delio â’ch cwyn neu os ydych yn anfodlon gyda’r ymateb, gallwch ofyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS) i ddelio â’r anghydfod.
Mae yna rai rheolau sylfaenol i chi gofio cyn mynd i’r FOS:
Am fwy o wybodaeth am FOS gweler Cymorth a gwybodaeth ychwanegol.
Mae cwmnïau rheoli hawliadau, a adnabyddir fel aseswyr hawliadau, yn sefydliadau sy’n codi tâl arnoch i’ch helpu i fynd â’ch cwyn at yr Ombwdsmon.
Nid oes rhaid i chi dalu rhywun i’ch helpu i wneud cwyn. Mae cymorth rhad ac am ddim ar gael. Mae gan Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS) [link to heading Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn yr adran Cymorth a gwybodaeth ychwanegol] linell gymorth y gallwch ei ffonio i wirio p’un ai bod eich cwyn yn addas neu beidio a’ch helpu i lenwi unrhyw ffurflenni. Bydd hyn yn costio pris galwad ffôn.
Neu gallwch gael cymorth a chyngor rhad ac am ddim yn eich Canolfan Cyngor ar Bopeth.
I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn penderfynu defnyddio cwmni rheoli hawliadau, gwiriwch eich bod yn deall holl delerau ac amodau’r cytundeb a faint yw cost y gwasanaeth cyn i chi lofnodi unrhyw beth. Os ydych yn ansicr, darllenwch y cytundeb a mynnwch gyngor cyn i chi ei lofnodi.
Yn Lloegr a Chymru, mae’n rhaid bod cwmniau rheoli hawliadau wedi cael eu hawdurdodi gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Gallwch wirio p’un ai bod cwmni rheoli hawliadau wedi cael ei awdurdodi neu beidio drwy edrych ar wefan Rheoliadau Hawliadau yn www.claimsregulation.gov.uk.
Os nad yw’r Ombwdsmon yn gallu datrys eich problem, mynd i’r llys yw’r unig opsiwn arall sydd gennych. Fodd bynnag, dylai hyn fod eich ateb olaf.
Cyn eich bod yn mynd i’r llys, mae’n rhaid i chi feddwl p’un ai bod gennych ddigon o dystiolaeth neu beidio. Bydd hefyd yn rhaid i chi ddarganfod p’un ai bod gan eich banc neu gymdeithas adeiladu arian neu beidio.
Prin iawn y mae rhywun yn mynd â banc neu gymdeithas adeiladu i’r llys. Os ydych yn meddwl am wneud hyn, mynnwch gyngor cyfreithiol gan arbenigwr.
Os ydych yn penderfynu mynd â’r mater i’r llys cyn cwyno i’r Ombwdsmon, ni fyddwch yn gallu cwyno i’r Ombwdsmon nes ymlaen.
Am fwy o wybodaeth am fynd i’r llys, yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, gweler Hawliadau Bychain neu, yn Yr Alban, gweler Beth yw hawliad bach.
Os ydych yn anhapus â’r gwasanaeth a gynigwyd i chi gan eich banc neu eich cymdeithas adeiladu, gallech hefyd feddwl am ddefnyddio cwmni arall yn ogystal â chwyno. Cyn i chi drosglwyddo, mae’n syniad da i wirio gwasanaethau a chyfleusterau banciau a chymdeithasau adeiladu er mwyn sicrhau eu bod yn ateb eich anghenion.
Am fwy o wybodaeth am symud i fanc neu gymdeithas adeiladu arall, gweler Agor a newid cyfrif banc.
Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch cyfrifon banc a chynnyrch ariannol eraill. Rhowch glic ar: www.moneyadvice.org.uk.
Os ydych wedi defnyddio gweithdrefn gwyno eich banc neu gymdeithas adeiladu ac nid ydyw’n gallu eich helpu, gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Cysylltwch â llinell gymorth Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ar 0300 123 9 123 neu ewch at: www.financial-ombudsman.org.uk
