The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Sut mae cyfrifon banc yn gweithio- arian yn mynd i mewn
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a’r Alban
Ynglŷn â sut mae cyfrifon banc yn gweithio
Ar y dudalen hon gallwch ddarganfod sut mae cyfrifon banc yn gweithio, yn cynnwys pethau megis taliadau i mewn i’ch cyfrif, debydau uniongyrchol, codi arian o beiriannau arian, gorddrafftiau a thaliadau banc.
Fe allwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau megis:
- pa mor fuan y gallwch chi ddefnyddio arian a delir i mewn i’ch cyfrif
- os caiff arian ei ordalu i mewn i’ch cyfrif, a ellir ei adennill
- oes rhaid i’r banc ad-dalu os oes gormod o arian yn mynd allan o’ch cyfrif
- beth sy’n digwydd os ydych chi wedi gofyn i’r banc am dalu arian i mewn i gyfrif rhywun arall a dydyn nhw ddim yn ei dderbyn
- beth sy’n digwydd os nad oes digon o arian yn eich cyfrif i warchod debyd uniongyrchol
- all eich banc ddefnyddio arian yn eich cyfrif i dalu’ch gorddrafft heb eich caniatad
- am beth all y banciau godi tâl arnoch, yn cynnwys gorddrafftiau
- oes rhaid i chi ddefnyddio cerdyn sglodyn a PHIN.
Am fwy o wybodaeth am fanciau a chymdeithasau adeiladu, yn cynnwys cael cyfrif banc a chwyno, gweler Cymorth ychwanegol a gwybodaeth.
Arian yn mynd i mewn i’ch cyfrif
Pryd ddylai arian gyrraedd eich cyfrif
Rhaid i daliadau i mewn i’ch cyfrif gael eu credydu i’ch cyfrif ar y diwrnod y cânt eu derbyn. Rhaid fod yr arian ar gael i chi ei ddefnyddio cyn gynted ag y bydd wedi’i gredydu. Mae hyn yn cynnwys taliadau arian parod dros y cownter, ond nid yw’n cynnwys sieciau.
Mae gan sieciau a delir i mewn i gyfrifon cyfredol sterling gylchred clirio, a elwir yn aml yn ‘2-4-6’.
Am fwy o wybodaeth am sieciau, gweler Sieciau.
Ddylech chi orfod talu am arian sy’n dod i mewn i’ch cyfrif
Fydd y mwyafrif o fanciau a chymdeithasau adeiladu ddim yn codi tâl arnoch am dderbyn taliadau. Rhaid iddynt ddweud wrthych os ydyn nhw’n codi tâl.
Pa wybodaeth ddylech chi ei dderbyn ynglŷn ag arian sy’n mynd i mewn i’ch cyfrif
Ar gyfer taliadau electronig ac arian parod a delir i mewn i’ch cyfrif, bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn rhoi’r wybodaeth ganlynol i chi:
- manylion am yr un sy’n talu ac unrhyw wybodaeth a anfonwyd gyda’r taliad
- y dyddiad y credydwyd y taliad i’ch cyfrif
- swm y taliad. Dylai hwn gynnwys gwerth yr arian breiniol gwreiddiol os talwyd ef I mewn mewn arian breiniol gwahanol I sterling
- unrhyw gyfradd gyfnewid gymwys neu unrhyw daliadau neu log taladwy.
Gordaliadau i’ch cyfrif
Os yw arian yn cael ei gredydu i’ch cyfrif ar ddamwain, fel arfer mae gan y banc neu gymdeithas adeiladu yr hawl i adennill yr arian, cyhyd â’u bod yn gwneud hyn o fewn amser rhesymol.
Efallai fod yna rai amgylchiadau lle caniateir i chi gadw’r arian, er enghraifft, os nad oeddech chi’n sylweddoli fod y banc wedi gwneud camgymeriad a chwithau wedi gwario’r arian yn gwbl ddiffuant. Er mwyn i chi allu cadw’r arian o dan yr amgylchiadau hyn, fe fyddai’n rhaid eich bod wedi gwario’r arian yn y fath fodd fel y byddai’n annheg i ofyn i chi am ei dalu yn ôl.
Os ydych chi’n credu fod y banc neu’r gymdeithas adeiladu yn annheg yn gofyn i chi am dalu’r arian yn ôl, fe allwch gwyno wrth yr Ombwdsmon Ariannol.
Os oes rhaid i chi dalu’r arian yn ôl, fe allech chi geisio dod i drefniant gyda’ch banc i dalu’r arian yn ôl mewn rhandaliadau heb ychwanegu unrhyw log pellach. Yn ymarferol, bydd banc neu gymdeithas adeiladu fel arfer yn cytuno i hyn.
Os nad ydych chi’n talu’n ôl yr arian sy’n ddyledus i’r banc, fe allech chi, mewn rhai amgylchiadau, gael eich erlyn am ladrad.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddelio â phobol y mae arnoch chi arian iddynt, yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwwerddon, gweler Sut i ddelio â’ch credydwyr yn Yr Alban, gweler Help gyda dyled.
Arian a dynnir allan o’ch cyfrif
Gormod yn cael ei dynnu allan o’ch cyfrif
Os tynnir swm allan o’ch cyfrif sy’n uwch nag y byddech wedi disgwyl ei dalu yn rhesymol o dan unrhyw amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu ad-dalu swm llawn y taliad. Er enghraifft, gallai’r swm fod wedi’i ddidynnu trwy ddebyd uniongyrchol, neu daliad cerdyn credyd am ystafell mewn gwesty neu hurio car.
Wrth benderfynu os oedd y debyd yn rhesymol ai peidio, bydd y banc neu gymdeithas adeiladu yn cymryd i ystyriaeth eich patrwm gwario blaenorol a pha fath o gyfrif sydd gennych gyda nhw.
Nid oes rhaid i’r banc i ad-dalu'r taliad os ydych chi wedi cytuno i swm y taliad ymlaen llaw neu wedi derbyn manylion am y taliad oddi wrth y banc neu gymdeithas adeiladu o leiaf bedair wythnos cyn i’r taliad gael ei ddidynnu.
Os ydych am ofyn am ad-daliad o’r taliad, fe allwch wneud hyn o fewn wyth wythnos i’r didyniad. Gall eich banc neu gymdeithas adeiladu ofyn am wybodaeth ychwanegol y maen nhw’n credu y bydd ei angen arnynt i’w helpu i benderfynu ad-dalu ai peidio.
Unwaith y byddwch wedi gofyn am ad-daliad, mae gan eich banc neu gymdeithas adeiladu ddeg diwrnod gwaith i naill ai:
- ad-dalu’r taliad, neu
- roi rheswm i chi pam nad ydynt yn mynd i ad-dalu’r taliad.
Os ydyw’r banc wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol, mae’r deg diwrnod gwaith yn cychwyn o’r pryd y byddan nhw wedi derbyn y wybodaeth.
Os yw’ch banc yn penderfynu peidio ag ad-dalu’r taliad, mae gennych yr hawl i gwyno os nad ydych yn fodlon gyda’r rhesymau. Rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu ddweud wrthych am hyn.
Os oes gormod o arian wedi’i ddebydu i’ch cyfrif ar ôl codi arian o beiriant arian, gweler Problemau gyda pheiriannau arian.
Taliad a wnaed i gyfrif rhywun arall ond heb ei dderbyn
Os ydych chi wedi cyfarwyddo’ch banc neu gymdeithas adeiladu i wneud taliad ac nid yw’n cyrraedd cyfrif y person arall, fe allwch chi ofyn i’ch banc neu gymdeithas adeiladu i ddangos tysiolaeth i chi ei fod wedi gwneud yr hyn ofynnoch chi. Nid oes tâl am hyn.
Os yw’r banc neu gymdeithas adeiladu yn profi ei fod wedi anfon y taliad yn llwyddiannus, ond bod y person arall yn dal heb ei dderbyn, rhaid i’w banc neu gymdeithas adeiladu hwy ymchwilio. Nid oes tâl am hyn.
Efallai y codir tâl arnoch os ydych chi wedi rhoi’r manylion anghywir ac rydych chi am i’r banc neu gymdeithas adeiladu geisio adennill yr arian.
Debydau uniongyrchol
Cyfarwyddyd i’ch banc neu gymdeithas adeiladu ydyw Debyd Uniongyrchol sy’n caniatáu sefydliad i gasglu arian o’ch cyfrif.
Gwneir hyn trwy ddefnyddio cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol. Gellir gwneud taliad i’r sefydliad a enwyd yn unig.
Os oes unrhyw newidiadau i’r swm a gesglir neu i ddyddiad y casgliad, fe ddylech chi gael rhybudd o ddeg diwrnod o leiaf.
Os nad oes digon o arian gennych yn eich cyfrif i warchod taliad Debyd Uniongyrchol, efallai na fydd y banc yn rhyddhau’r taliad. Nid oes rhaid iddo ddweud wrthych nad yw’r taliad wedi’i wneud. Os gwneir y taliad, efallai y bydd yn achosi taliadau banc am unrhyw orddrafft heb awdurdod.
Os yw naill ai’r banc neu’r sefydliad sy’n casglu’r Debyd Uniongyrchol yn gwneud camgymeriad, er enghraifft, trwy dynnu'r swm anghywir, mae gennych chi hawl i gael ad-daliad oddi wrth y banc. Mae hyn yn cael ei warchod gan Gynllun Gwarant Debyd Uniongyrchol.
Fe allwch ganslo Debyd Uniongyrchol unrhyw bryd.
Os oes gennych broblem gyda Debyd Uniongyrchol, fe ddylech chi gysylltu â’ch banc.
Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth am Ddebyd Uniongyrchol oddi wrth wefan bacs yn: www.bacs.co.uk.
Problemau gyda pheiriannau arian
Yr un codiad arian yn cael ei ddebydu ddwywaith
Os yw’r un codiad arian yn cael ei ddebydu o’ch cyfrif ddwywaith, fe ddylech wirio yn gyntaf nad ydych wedi gwneud dau drafodyn gwahanol sydd wedi cael eu debydu ar yr un diwrnod bancio. Mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd dros benwythnos neu ar ŵyl y banc. Gall ddigwydd hefyd os ydych wedi defnyddio peiriant arian banc neu gymdeithas adeiladu arall. Yn yr achos hwn, ni fydd y trafodyn yn cael ei ddangos ar eich cyfriflen tan ychydig ddyddiau ar ôl y dyddiad y codoch chi’r arian.
Os ydych yn gweld eich bod wedi’ch debydu’n anghywir, fe ddylech chi gysylltu â’ch banc neu gymdeithas adeiladu cyn gynted ag sy’n bosibl a dim yn hwyrach na 13 mis ar ôl dyddiad y codiad arian. Cyfrifoldeb y banc neu gymdeithas adeiladu yw dangos fod y trafodyn yn ddilys ac na fu methiant o ran gweithdrefnau na gwall technegol.
Os nad ydych wedi awdurdodi’r trafodyn, rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu ad-dalu’r arian ar unwaith. Os oes tystiolaeth i awgrymu eich bod chi wedi ymddwyn yn dwyllodrus neu’n esgeulus, fe allan nhw ohirio’r ad-daliad wrth iddyn nhw ymchwilio ymhellach. Sut bynnag, rhaid cyflawni’r ymchwiliad o fewn ychydig ddyddiau.
Rydych yn derbyn llai o arian nag y gofynnoch amdano
Os ydych chi’n derbyn llai o arian allan o’r peiriant arian nag y gofynnoch amdano, gall hyn olygu fod y swm anghywir yn cael ei ddebydu o’ch cyfrif.
Fe ddylech chi gysylltu â’r rheolwr yn y gangen lle mae’r peiriant ar unwaith neu, os nad yw hyn yn bosibl, eich rheolwr cyfrif. Gall y banc neu’r gymdeithas adeiladu gadarnhau os cawsoch chi’r swm anghywir trwy wirio’r gweddill yn y peiriant arian yn erbyn y cofnod o drafodion. Gallai helpu os oes gyda chi dyst oedd yn bresennol pan ddefnyddioch chi’r peiriant. Gall helpu hefyd os wnaethoch chi nodyn o’r dyddiad ac amser y codiad arian. Os cawsoch chi dderbynneb, fe ddylech ei gadw.
Rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu ad-dalu’r arian ar unwaith. Os oes tystiolaeth i awgrymu eich bod chi wedi ymddwyn yn dwyllodrus neu’n esgeulus, fe allan nhw ohirio’r ad-daliad wrth iddyn nhw ymchwilio ymhellach. Sut bynnag, rhaid cyflawni’r ymchwiliad o fewn ychydig ddyddiau.
Gorddrafftiau
Gall banciau godi tâl os ydych wedi gordynnu ar eich cyfrif. Am fwy o wybodaeth am daliadau gorddrafftiau, gweler Taliadau Banc.
Os ydyw’ch cyfrif wedi mynd dros y terfyn ac yna rydych chi’n cael eich talu, gallai’r banc geisio defnyddio’r arian hwn i dalu am eich gorddrafft heb eich caniatad. Sut bynnag, mae gennych yr hawl i ofyn iddynt i beidio gwneud hyn ac i dalu treuliau eraill yn gyntaf, megis eich rhent neu forgais. Gelwir hyn yn flaenoriaeth cyntaf neilltuad arian.Rhaid i chi ofyn i’r banc am wneud hyn yn ysgrifenedig. Gwnewch yn siwr eich bod yn ysgrifennu’r geiriau ‘blaenoriaeth cyntaf neilltuad arian’ yn eich llythyr.
Bydd angen i chi ysgrifennu at y banc gyda chyfarwyddiadau newydd bob tro y byddwch chi’n rhoi arian i mewn.
Taliadau Banc
Mae banciau a chymdeithasau adeiladu yn codi tâl am rai gwasanaethau. Rhaid i chi dderbyn manylion am y taliadau cyn agor cyfrif gyda’r banc neu gymdeithas adeiladu. Ar ôl i chi agor cyfrif, rhaid i’r banc neu gymdeithas adeiladu eich hysbysu am unrhyw newidiadau i’r taliadau.
Ar gyfer cyfrifon cyfredol, sylfaenol a chynilo mynediad parod, rhoddir o leiaf deufis o rybudd i chi ymlaen llaw o’r newidiadau fydd yn digwydd oni bai eich bod wedi cytuno fel arall gyda’ch banc.
Os nad ydych yn glir pam y codwyd tâl, fe ddylech ofyn am esboniad a dadansoddiad o’r taliad. Os ydych yn dal yn anfodlon ac yn teimlo na ddylid fod wedi codi’r tâl, fe allwch wneud cwyn - gweler o dan y pennawd Beth i’w wneud os aiff pethau o le. Gall uwch swyddogion y banc neu’r gymdeithas adeiladu gytuno i ddileu’r tâl yn gyfan gwbl neu ran ohono, ac felly, efallai y byddai o werth i ofyn iddynt am wneud hyn.
Taliadau gorddrafft annheg
Mae banciau yn codi tâl pan ewch chi i’r coch heb gyfleuster gorddrafft sydd wedi’i drefnu, pan ewch chi dros unrhyw gyfyngiad gorddrafft y cytunwyd arno, neu pan nad oes digon o arian yn eich cyfrif i warchod codiad arian, megis siec. Gelwir hwn yn orddrafft heb awdurdod. Mae’r taliad am orddrafftiau heb awdurdod yn aml iawn yn uchel. Mae llawer o bobol wedi cwyno eu bod yn annheg ac wedi gofyn am ad-daliadau.
Oherwydd bod cymaint o gwynion am daliadau gorddrafft annheg, cymerodd y Swyddfa Masnachu Teg (OFT) achos prawf drwy’r llys ac fe ohiriwyd dros dro y penderfyniad ynglŷn â’r cwynion oedd yn bod eisoes.
Mae’r Llys Goruchaf wedi penderfynu bellach nad oedd gan OFT y pŵer i benderfynu os yw’r taliadau yn annheg. Os ydych chi wedi gwneud cais am ad-daliad taliadau banc, mae’n debygol nawr y caiff eich cais ei wrthod, er fe ddylai’ch banc eich trin gyda chydymdeimlad os allwch chi ddangos caledi ariannol.
Mae’r sefyllfa ychydig yn wahanol yn yr Alban lle mae rhai llysoedd siryf yn derbyn ceisiadau ac yn caniatau i’r achos gael ei glywed mewn gwrandawiad ffurfiol. Mae rhai o’r achosion hyn wedi’u datrys y tu allan i’r llys, heb yr angen am weithredu cyfreithiol pellach. Efallai yr hoffech gael cyngor arbenigol ynglŷn â hyn oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol.
Fe allwch ddod o hyd i sampl llythyron ar gyfer gwneud cwyn ynglŷn â thaliadau gorddrafft annheg ar wefan Which? yn: www.which.co.uk.
Cardiau sglodyn a phin
Mae’r mwyafrif o gardiau talu megis cardiau credyd a chardiau debyd bellach yn gardiau ‘sglodyn a PHIN’. Maen nhw’n cynnwys microsglodyn ar gyfer pwrpas diogelwch ac rydych chi’n rhoi PIN (Rhif Adnabod Personol) i mewn i fysellbad yn lle llofnod wrth wneud taliad.
Sut bynnag, efallai y byddwch yn dal i allu defnyddio cerdyn talu gyda llofnod mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft, os oes gennych gerdyn sy wedi’i rhoi mewn gwlad arall neu os oes gennych anabledd sy’n ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddio PIN.
Os oes gennych anabledd ac am ddefnyddio eich llofnod yn lle PIN, fe ddylech ofyn i’r un sy’n darparu’r cerdyn am gerdyn sglodyn a llofnod. Pan gaiff rhain ei llithro gan weithiwr siop, bydd awgrym yn ymddangos yn nodi y dylid derbyn llofnod. Mae mwy o wybodaeth am sglodyn a PHIN ar wefan Sglodyn a Phin yn: www.chipandpin.co.uk.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Yn adviceguide
Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian
Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch cyfrifon banc a chynnyrch ariannol eraill. Rhowch glic ar: www.moneyadviceservice.org.uk.
Gwasanaeth Yr Ombwdsmon Ariannol
Os ydych chi wedi mynd drwy weithdrefn gwyno eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu, ac nid ydynt wedi medru eich helpu, fe allwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Fe allwch gysylltu â’r Ombwdsmon Ariannol ar 0845 080 1800, neu rhowch glic ar y wefan yn: www.financial-ombudsman.org.uk.









