The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Sut y gall credydwr gael gwybodaeth ynglŷn â’ch arian
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru
Ynglŷn â sut y gall credydwr gael gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol
Os ydych chi mewn dyled, ac wedi mynd ar ei hôl hi gyda’ch taliadau efallai fod eich credydwr wedi cymryd achos llys yn eich erbyn a chael dyfarniad llys sirol (CCJ).
Gorchymyn oddi wrth y llys ydyw CCJ ar i chi ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus. Os nad ydych chi wedi cadw at delerau’r gorchymyn, gall eich credydwyr gymryd camau pellach yn eich erbyn wrth geisio adennill eu harian. Gelwir hyn yn gamau gorfodi.
Mae yna sawl math gwahanol o gamau gorfodi y gallai’ch credydwyr eu cymryd. Mae’r hyn y penderfynan nhw ei wneud yn dibynnu ar faint o arian sydd gennych i ad-dalu’ch dyledion. Weithiau bydd credydwr am wybod mwy am eich sefyllfa ariannol cyn penderfynu pa gamau gorfodi i’w cymryd.
Er mwyn cael y wybodaeth sydd ei angen arnynt, gall eich credydwyr wneud cais am orchymyn llys i’ch gwneud i fynd yn ôl i’r llys. Fe ellir eich gorfodi i ddod â dogfennau gyda chi ac i ateb cwestiynau o dan lw ynglŷn â’ch sefyllfa ariannol. Gelwir hyn yn orchymyn i gael gwybodaeth.
Er enghraifft, efallai y bydd eich credydwyr am wybod manylion am unrhyw eiddo yr ydych yn berchen arno a faint yw ei werth, neu os ydych chi’n disgwyl cael rhywfaint mwy o arian, megis taliad allan ar bolisi yswiriant neu ddyrchafiad yn y gwaith.
Gall gwybod hyn eu helpu i benderfynu pa fath o gamau gorfodi y gallan nhw eu cymryd. Er enghraifft, fe allan nhw ofyn i’r llys am ddidynnu arian o’ch cyflog, neu’n uniongyrchol o’ch cyfrif banc.
Os cewch chi orchymyn llys i gael y wybodaeth hon, mae’n bwysig iawn eich bod yn mynd i’r gwrandawiad ac ateb y cwestiynau a ofynnir i chi. Os nad ydych chi’n mynychu’r gwrandawiad heb reswm da pam, neu os nad ydych yn ateb y cwestiynau, fe ellir eich anfon i’r carchar.
Mae’r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am orchmynion i gael gwybodaeth, yn cynnwys beth sydd angen i chi ei wneud i baratoi ar gyfer y gwrandawiad, be sy’n digwydd yn y gwrandawiad a beth i’w wneud os na allwch chi fynd.
Er mwyn gwybod mwy am beth sy’n digwydd pan fydd credydwr yn didynnu arian o’ch cyflog neu’n uniongyrchol o’ch cyfrif banc, gweler Credydwr yn didynnu arian o’ch cyflog a Credydwr yn tynnu arian allan o’ch cyfrif banc.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â CCJs, gweler Eich credydwr yn mynd â chi i’r llys oherwydd dyled.
Beth yw gorchymyn i gael gwybodaeth
Mae gorchymyn i gael gwybodaeth yn orchymyn i ddychwelyd i’r llys i gael eich holi ar lw neu drwy gadarnhau am eich amgylchiadau ariannol.
Mae’n rhywbeth y gall eich credydwyr ofyn amdano os oes ganddynt orchymyn llys sirol (CCJ) eisoes yn eich erbyn a dydych chi ddim yn cadw ato. Gall y llys ofyn am bethau megis:
- eich incwm a’ch treuliau
- eich cartref
- unrhyw eiddo arall yr ydych yn berchen arno.
Bydd angen i’ch credydwr wneud cais i’r llys am wneud y gorchymyn hwn.
Bydd y gorchymyn i gael gwybodaeth yn dweud wrthych am fynychu’r llys ar ddyddiad arbennig. Bydd gennych o leiaf 14 diwrnod o rybudd am y gwrandawiad.
Bydd y gorchymyn i gael gwybodaeth yn cynnwys rhybudd cosb. Rhybudd yw hwn os na fyddwch chi’n mynychu’r gwrandawiad, y gellir eich anfon i garchar am anufuddhau i orchymyn y llys (dirmyg llys). Mae’n bwysig iawn eich bod yn mynd i’r gwarandawiad neu ddweud wrth y llys os na allwch chi wneud hynny.
Bydd y gorchymyn hefyd yn rhoi rhestr o ddogfennau y mae’n rhaid i chi ddod gyda chi i’r llys.
Os na allwch chi fynychu'r y gwrandawiad llys i gael gwybodaeth
Os na allwch chi fynychu’r gwrandawiad llys i gael gwybodaeth, cysylltwch â’ch credydwr a gofyn iddynt am gytuno i ddyddiad arall.
Os na allwch chi gael y credydwr i gytuno i ddyddiad arall, fe allwch chi wneud cais i’r llys am newid y dyddiad. Gwnewch y cais ar ffurflen y llys N244. Fe allwch chi lawr lwytho ffurflen y llys o wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn: www.justice.gov.uk.
Bydd yn rhaid i chi esbonio ar y ffurflen pam nad yw hi’n bosibl i chi fynychu ar y dyddiad gwreiddiol. Mae’n rhaid i chi dalu ffî am y cais hwn, ond efallai y caiff ei hepgor neu ei ostwng os ydych chi ar incwm isel.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais yn hytrach na pheidio ymddangos yn y llys. Fe allech chi gael eich anfon i’r carchar am fethu ymddangos.
Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i geisio sicrhau nad ydych yn colli dyddiad y llys. Er enghraifft, os ydyw’r gwrandawiad i’w glywed mewn llys y tu allan i’ch ardal, fe allwch ofyn am iddo gael ei symud i’ch llys lleol fel na fydd yn rhaid i chi deithio mor bell.
Os mai ychydig iawn o arian sydd gennych, fe allwch chi hefyd ofyn i’ch credydwr am dalu eich costau teithio i’r llys ac yn ôl. Rhaid i chi wneud hyn o fewn saith diwrnod i gael eich gorchymyn i fynychu’r gwrandawiad.
Er mwyn gwybod mwy ynglŷn â sut i ofyn i gael hepgor ffîoedd y llys, gweler Cymorth gyda chostau cyfreithiol.
Paratoi ar gyfer y gwrandawiad llys i gael gwybodaeth
Cyn i chi fynd i’r llys, bydd angen i chi baratoi datganiad ariannol llawn. Y rheswm am hyn yw bod y credydwr yn gallu gweld os allwch chi fforddio ad-dalu’r ddyled a faint. Mae’r datganiad ariannol yn cynnwys y manylion hyn:
- faint o arian sy’n dod i mewn gennych
- os oes gennych unrhyw asedau ai peidio, megis tŷ neu gynilion
- beth sydd ei angen arnoch ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd
- faint sydd ei angen arnoch i gynnal aelodau eraill yn eich teulu
- faint sydd yn weddill gennych i dalu’ch dyledion.
Mae’r datganiad ariannol hefyd yn caniatáu i’r credydwr ddarganfod os oes gennych unrhyw ecwiti yn eich cartref ai peidio. Ecwiti ydyw’r swm o arian fyddai gennych petaech yn gwerthu’r tŷ ar ôl talu unrhyw forgais neu fenthyciadau wedi eu gwarantu. Os oes gennych ecwiti, gall y credydwr ystyried wneud cais i’r llys am orchymyn arwystlo yn erbyn eich eiddo, fel ffordd o adennill eu harian.
Mae gorchymyn arwystlo yn golygu os byddwch chi’n gwerthu’ch eiddo, bod yn rhaid i chi ad-dalu'r hyn sy’n ddyledus i’r credydwr allan o’r enillion. Mewn rhai achosion, gall credydwr eich gorfodi i werthu’ch eiddo er mwyn adennill eu harian.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth sy’n digwydd pan fydd credydwr yn gwneud cais am orchymyn arwystlo yn erbyn eich eiddo, gweler Gorchmynion arwystlo.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â pharatoi datganiad ariannol, gweler Sut i weithio allan eich cyllideb. Fe allwch hefyd ddefnyddio ein hofferyn cyllidebu.
Cyn mynychu’r llys bydd angen i chi hefyd gasglu tystiolaeth am eich sefyllfa ariannol. Bydd angen eich holl waith papur ariannol arnoch, megis:
- cyfriflenni banc
- cytundebau credyd
- llyfrau rhent
- prawf o unrhyw ddyledion eraill
- prawf o orchmynion llys eraill.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gafael ar yr holl ddogfennau y mae’r gorchymyn llys yn dweud wrthych am ddod i’r llys. Mae rhestr o beth i’w casglu yn dod gyda’r ffurflen llys sy’n dweud wrthych am fynychu’r llys. Mae’n syniad da i nodi rhesymau os ydych chi wedi colli unrhyw waith papur er mwyn i chi esbonio pam wrth y llys.
Beth sy’n digwydd yn y gwrandawiad llys i gael gwybodaeth
Yn y gwrandawiad i gael gwybodaeth, bydd swyddog y llys fel arfer yn holi cwestiynau i chi. Mae’n bosibl na fydd y credydwr yno. Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd barnwr yn gyfrifol am y gwrandawiad ac yna mae’n rhaid i’r credydwr holi cwestiynau. Mae’r broses yn fwy na darganfod ffeithiau ac er nad eich dychryn ydyw’r bwriad, fe allan nhw fod yn gwestiynau treiddgar iawn.
Mae yna restr o gwestiynau safonol y gellir eu gofyn ond, mewn rhai amgylchiadau, gall y credydwr ofyn am ganiatâd i ychwanegu rhai cwestiynau at y rhain. Fe allwch chi lawr lwytho copi o ffurflen y llys EX140 sy’n dangos y cwestiynau a holir, o wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn: www.justice.gov.uk.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cwestiynau y gall eich credydwr eu holi mewn gwrandawiad llys i gael gwybodaeth, fe ddylech chi gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Rhaid i chi ateb y cwestiynau ar lw neu drwy gadarnhad. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi dyngu llw fod yr hyn ddywedwch chi yn wir.
Ar ôl yr holi cwestiynau, gofynnir i chi am arwyddo cofnod ysgrifenedig o’r wybodaeth a ddarparwyd gennych. Fe ddylech chi wirio’n ofalus cyn i chi arwyddo’r cofnod, rhag ofn fod camgymeriadau wedi’u gwneud.
Fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu treuliau eich credydwr am wneud cais i dderbyn gwybodaeth ac am y gwrandawiad. Ychwanegir y costau hyn at y swm sy’n ddyledus gennych yn barod i’ch credydwr.
Cynnig taliad
Os nad ydych eisoes wedi cynnig ad-dalu'r hyn sy’n ddyledus i’ch credydwr, fe allwch wneud hyn yn y gwrandawiad. Os bydd y credydwr yn derbyn eich cynnig, gall y llys lunio gorchymyn sy’n nodi'r taliadau y cytunwyd arnynt.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gweithio allan faint i’w gynnig i gredydwyr, gweler Sut i ddelio â’ch credydwyr.
Beth os na allwch chi ad-dalu’r ddyled
Fe all fod yn amlwg o’r holi cwestiynau na allwch chi ad-dalu’r ddyled. Er enghraifft, gall eich datganiad ariannol ddangos nad oes arian yn weddill gennych ar ôl talu treuliau cartref hanfodol.
Os allwch chi ddangos nad oes arian yn weddill gennych, fe ddylech chi ddadlau y byddai’n afresymol i gredydwr gymryd achos llys pellach yn eich erbyn.
Beth sy’n digwydd os nad ydych chi’n dilyn y gorchymyn llys
Bydd swyddog y llys yn cyfeirio’r achos at y barnwr os:
- nad ydych yn mynychu’r gwrandawiad
- ydych yn gwrthod ateb y cwestiynau
- ydych yn gwrthod tyngu llw.
Ar ôl gwirio beth ddigwyddodd, gall y barnwr wneud gorchymyn i chi gael eich anfon i garchar.
Fel arfer caiff y gorchymyn hwn ei ohirio ar yr amod eich bod yn mynd i wrandawiad newydd. Os methwch chi fynychu eto neu barhau i wrthod ateb cwestiynau, bydd y llys yn rhoi gwarant i arestio. Mae hyn yn golygu y bydd beili yn eich arestio a dod â chi at y barnwr. Os ydych chi’n parhau i wrthod ateb cwestiynau, gall y barnwr eich gorchymyn i gael eich anfon i garchar am i fyny hyd at 28 diwrnod. Os gorchmynnir carchar, nid yw hyn yn diddymu’r ddyled.
Beth sy’n digwydd ar ôl y gwrandawiad llys
Unwaith y bydd y credydwr wedi cael eich holl fanylion ariannol, fe allan nhw benderfynu pa gamau pellach i’w cymryd yn eich erbyn. Os nad oes gennych unrhyw ffordd o dalu, efallai na fyddan nhw’n cymryd camau pellach yn eich erbyn.
Sut bynnag, os oes gennych arian i dalu’ch dyledion, neu asedau, megis cartref y gellid ei werthu, fe allan nhw ddewis cymryd nifer o opsiynau i adennill eu harian. Gelwir hyn yn gamau gorfodi.
Bydd angen i’ch credydwr gael gorchymyn llys arall i gymryd camau gorfodi. Fe allan nhw gael gorchymyn i:
- anfon beilïaid i’ch cartref i fynd â’ch eiddo
- gael arian wedi’i ddidynnu o’ch cyflog i dalu’r ddyled. Gelwir hyn yn orchymyn atafael cyflog
- fynd ag arian sy’n ddyledus i chi gan rywun arall o’ch cyfrif banc. Gelwir hyn yn orchymyn dyled trydydd parti
- gwarantu’r ddyled yn erbyn eich cartref neu eiddo arall sy’n berchen i chi. Gelwir hyn yn orchymyn arwystlo ac mae’n golygu y gallech chi golli’ch cartref os nad ydych chi’n cadw at y taliadau.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r camau gorfodi y gall eich credydwr eu cymryd i adennill eu harian, gweler Y Camau y gall eich credydwr eu cymryd.
Gwybodaeth arall yn Adviceguide
- Dyled ac achos llys
- Cyllidebu
- Cymorth gyda dyled
- Credydwr yn mynd â chi i’r llys oherwydd dyled
- Credydwr yn tynnu arian allan o’ch cyfrif banc
- Credydwr yn didynnu arian o’ch cyflog
- Gorchmynion arwystlo









