The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Aflonyddwch gan gredydwyr
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Ynglŷn ag aflonyddwch gan gredydwyr
Credydwyr ydyw’r bobol y mae arnoch chi arian iddynt. Os oes arnoch chi arian i gredydwr ac yn gorffen gwneud taliadau, fe allan nhw gymryd achos yn eich erbyn er mwyn adennill eu harian.
Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych sut y dylai credydwyr ymddwyn tuag atoch wrth iddyn nhw geisio adennill eu harian.
Mae hefyd yn dweud wrthych pa fath o ymddygiad sy’n annerbyniol a sut mae dweud os ydych yn cael eich aflonyddu ai peidio gan gredydwr. Mae aflonyddu yn golygu unrhyw weithred sy’n eich dychryn, yn eich bychanu neu’n eich bygwth.
Os ydych yn teimlo eich bod yn cael eich aflonyddu gan gredydwr, mae yna nifer o bethau y gallwch eu gwneud i’w hatal rhag gwneud hynny.
Os oes angen help arnoch i siarad â’ch credydwr ynglŷn â’u hymddygiad, fe allwch gael help oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraiift, yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Beth sy’n cyfrif fel aflonyddwch gan gredydwr
Os bydd y credydwr yn ceisio gwneud un o’r canlynol wrth geisio eich gorfodi i dalu nôl yr arian sy’n ddyledus, gellir ystyried hyn fel aflonyddwch. Maen nhw’n cynnwys:
- cysylltu â chi sawl gwaith y dydd, neu’n gynnar yn y bore neu’n hwyr y nos
- mynd ar eich ôl chi ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel Twitter a Facebook
- rhoi pwysau arnoch i werthu’ch tŷ neu brynu mwy o gredyd
- defnyddio mwy nag un casglwr dyledion ar y tro i’ch erlid am daliad
- dim dweud wrthych os yw’r ddyled wedi’i throsglwyddo i asiantaeth casglu dyledion
- defnyddio papur neu logos busnes sy’n ymddangos yn swyddogol pan nad ydynt, er enghraifft anfon llythyron atoch sy’n ymddangos fel ffurflenni’r llys
- rhoi pwysau arnoch i dalu’r holl arian, neu mewn rhandaliadau mwy pan na allwch chi fforddio hynny
- eich bygwth yn gorfforol neu’n eiriol
- eich anwybyddu os ydych yn dweud nad yw’r arian yn ddyledus gennych
- ceisio codi cywilydd arnoch yn gyhoeddus
- dweud wrth rywun arall am eich dyledion neu ddefnyddio person arall i drosglwyddo negeseuon, megis cymydog neu aelod o’r teulu
- ffugio eu bod yn gweithio i’r llys neu yn feili
- awgrymu y gellir cymryd achos cyfreithiol pan nad yw hynny’n wir. Er enghraifft, awgrymu y gellir cymryd eich cartref oddi arnoch heb orchymyn llys
- rhoi’r argraff fod achos llys wedi’i gymryd yn eich erbyn pan nad yw hynny’n wir
- rhoi’r argraff fod peidio talu’r ddyled yn drosedd. Ar gyfer y rhan fwyaf o ddyledion, nid yw’n drosedd os nad ydych yn eu talu.
Be sy ddim yn cyfrif fel aflonyddwch gan gredydwr
Ni ellir galw pob gweithred a gymerir gan gredydwr yn aflonyddwch. Caniateir i gredydwyr gymryd camau rhesymol i adennill yr arian sy’n ddyledus iddynt. Mae’r rhain yn cynnwys:
- anfon nodiadau atgoffa a hawlio am daliadau
- eich ffonio chi i ofyn am daliad
- galw yn eich cartref, cyhyd â bod hyn yn amser rhesymol o’r dydd
- cymryd achos llys.
Pwy sy’n aflonyddu arnoch
Os aflonyddir arnoch gan gredydwr mae’n bwysig gwybod pwy sy’n gofyn am daliad. Efallai nad nhw ydyw’r bobol yr oedd arnoch chi arian iddynt yn wreiddiol. Mae hyn oherwydd bod caniatâd i’r credydwr gwreiddiol i drosglwyddo’r ddyled i rywun arall i’w gasglu. Os bydd eich credydwr gwreiddiol yn gwneud hyn, allan nhw ddim mwyach eich erlid chi am yr arian. Os penderfyna’ch credydwr drosglwyddo’r ddyled ymlaen i rywun arall, rhaid iddynt ddweud wrthych yn ysgrifenedig cyn gwneud hynny.
Mae’r canlynol yn gallu casglu dyled:
- eich credydwr gwreiddiol
- asiantaeth casglu dyledion sy’n gweithredu ar ran eich credydwr
- trydydd person sydd wedi prynu’r ddyled oddi wrth eich credydwr
- beilïaid
Beth allwch chi ei wneud ynglŷn ag aflonyddwch gan gredydwr
Yn y lle cyntaf mae angen i chi ddarganfod pwy sy mewn gwirionedd yn casglu’r ddyled. Yna mae angen i chi gymryd y camau canlynol:
- casglu tystiolaeth am yr aflonyddwch
- cwyno wrth y credydwr
- cwyno wrth gorff proffesiynol.
Casglu tystiolaeth
Cyn i chi wneud cwyn, casglwch cymaint o dystiolaeth ag y gallwch i gefnogi’ch cais. Gall hyn gynnwys:
- cofnodi’r nifer o ymweliadau neu alwadau gyda dyddiadau ac amseroedd. Ysgrifennwch beth a ddywedwyd wrthych bob tro a phwy siaradodd â chi.
- unrhyw lythyron neu ddogfennau a dderbynioch
- datganiadau tystion oddi wrth gymdogion neu bobol eraill sy’n byw gyda chi.
Cwyno wrth eich credydwr
Fe ddylech chi ysgrifennu at y credydwr sy’n aflonyddu arnoch yn gofyn iddynt am stopio. Dywedwch wrthynt sut yr ydych am iddynt gysylltu â chi yn y dyfodol a gofynnwch iddynt am gadarnhau hyn yn ysgrifenedig.
Fe ddylech chi nodi yn y llythyr fod aflonyddu yn drosedd ac y gallwch chi gymryd camau pellach os nad ydyw’ch credydwr yn stopio. Cofiwch anfon pob llythyr trwy ddosbarthiad a gofnodwyd a chadwch gopïau fel bod gennych gofnod o’ch cwyn.
Er mwyn gweld sampl o lythyr i’w ysgrifennu at gredydwr sy’n eich aflonyddu, gweler Sampl o lythyron.
Os ydych chi am gymorth i ysgrifennu’r llythyr hwn, mynnwch gyngor ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, yn Swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cwyno wrth gorff proffesiynol
Fe ddylech chi bob amser gwyno wrth y credydwr yn gyntaf ond os nad ydyw hyn yn datrys y broblem, efallai y byddwch am gwyno wrth gorff proffesiynol hefyd. Gall eich casglwr dyledion berthyn i gymdeithas masnach neu gorff proffesiynol sydd â chod ymarfer sy’n nodi sut y dylen nhw ymddwyn tuag atoch.
Cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, a fydd yn medru helpu. Efallai y byddan nhw’n medru cyfeirio’ch achos at Safonau Masnach.
Cymdeithasau Masnach
Er mwyn darganfod os yw’ch benthyciwr yn perthyn i gymdeithas masnach sydd â chod ymarfer,gweler Cymorth ychwanegol. Gall y gymdeithas masnach hefyd gymryd achos yn erbyn ei haelodau sy’n torri’r cod ymarfer.
Os ydyw’ch cwyn yn erbyn banc, cymdeithas adeiladu neu gwmni cerdyn credyd, fe allan nhw berthyn i’r Cod Benthyca.
Mae’r Cod Benthyca yn nodi'r safonau y dylai ei aelodau eu dilyn. Mae’r rhain yn cynnwys:
- amser i chi geisio datrys eich dyledion os ydych chi mewn trafferthion ariannol cyn y cymerir camau pellach
- arweiniad a chefnogaeth os ydych chi mewn dyled oherwydd problemau iechyd meddwl
- defnyddio asiantaethau casglu dyledion dibynadwy sydd hefyd yn dilyn y Cod Benthyca os trosglwyddir neu os gwerthir y ddyled.
- dweud wrthych cyn iddynt drosglwyddo eich dyledion, neu eu gwerthu i asiantaeth casglu dyledion newydd. Mae hyn yn golygu na ddylai’r asiantaeth casglu dyledion newydd gysylltu â chi hyd nes ar ôl i’ch benthyciwr ddweud wrthych bod eich dyled yn mynd i gael ei symud.
Fe ddylech chi gwyno wrth eich banc, cymdeithas adeiladu neu gwmni cerdyn credyd yn gyntaf, gan ddefnyddio eu gweithdrefn gwyno. Os nad yw hyn yn datrys y broblem, fe allwch gwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, gan ddweud wrthynt fod casglwr dyledion neu gredydwr wedi torri telerau’r Cod Benthyca. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, ewch i wefan Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn: www.financial-ombudsman.org.uk.
Am fwy o wybodaeth ynglyn a’r Cod Benthyca neu sut mae darganfod os yw’ch credydwr yn aelod, ewch i www.lendingstandardsboard.org.uk.
Cwyno am gyfreithiwr sy’n gweithredu ar ran credydwr
Os yw cyfreithiwr yn aflonyddu arnoch ar ran credydwr, ystyrir hyn yn gamymddwyn proffesiynol. Er mwyn gwneud cwyn, bydd angen i chi yn gyntaf ddefnyddio gweithdrefn gwyno fewnol y cwmni. Os na fydd hyn yn datrys y broblem, fe allwch gwyno wrth un o’r cymdeithasau proffesiynol canlynol:
Yn Lloegr a Chymru fe allwch gwyno wrth yr Ombwdsmon Cyfreithiol. Ewch i: www.legalombudsman.org.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, fe allwch gwyno wrth Gymdeithas y Gyfraith. Ewch i: www.lawsoc-ni.org.
Cwyno wrth Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth
Os ydych chi am gwyno am gwmni lleol, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Fe allan nhw eich rhoi mewn cysylltiad â’ch Swyddfa Safonau Masnach leol a fydd yn medru ymchwilio i weld a gyflawnwyd trosedd ai peidio.
Cwyno wrth Swyddfa Masnachu Teg
Mae’r Swyddfa Masnachu Teg am gasglu tystiolaeth am gasglwyr dyledion sy’n ymddwyn yn afresymol. Nid ydynt yn delio ag achosion unigol ond mae ganddynt dîm trwyddedu ymroddgar sy’n cofnodi cwynion. Os ydyw’n gweld fod cwmni yn ymddwyn yn afresymol fe allan nhw fynd â’u trwydded credyd oddi arnynt. Fe ddylech gwyno wrthynt yn ysgrifenedig. Am fwy o fanylion gweler Cymorth a gwybodaeth ychwanegol.
Os ydych am help i gwyno wrth OFT, fe allwch wneud hyn trwy eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Fe allan nhw anfon cwyn ar eich rhan. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Benthyca arian anghyfreithlon
Efallai eich bod wedi benthyg arian oddi wrth fenthyciwr arian sydd heb drwydded credyd. Gelwir y benthycwyr hyn yn aml yn siarcod benthyg ac fe allan nhw eich bygwth chi’n gorfforol neu’n eiriol os nad ydych yn ad-dalu’r arian. Maen nhw hefyd yn codi cyfraddau llog uchel iawn, sy’n golygu y gallech chi fod mewn mwy o ddyled na’r hyn fenthyciwyd gennych yn wreiddiol.
Mae’n bwysig cofio fod siarcod benthyg yn torri’r gyfraith trwy fenthyg arian i chi yn y ffordd hon. Allan nhw ddim gorfodi’r cyfraddau llog uchel y maen nhw’n eu codi. Ni ellir yn gyfreithiol eich gwneud i ad-dalu’r arian a dydych chi ddim wedi torri’r gyfraith os nad ydych yn ei ad-dalu.
Os ydych chi’n cael eich aflonyddu neu eich bygwth gan siarcod benthyg, fe allwch eu riportio’n gyfrinachol yn y ffyrdd canlynol:
Ffôn: 0300 555 2222. Bydd galwadau, yn cynnwys ffonau symudol, ar y gyfradd leol.
Testun/SMS: tecstiwch siarc benthyg a’ch neges i 60003. Codir tâl am y negeseuon testun yn ôl cyfradd safonol eich rhwydwaith.
E-bost: reportaloanshark@stoploansharks.gov.uk
Gwefan: www.stoploansharks.direct.gov.uk
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Cymdeithasau masnach a phroffesiynol
Gall eich credydwr berthyn i un o’r cymdeithasau masnach neu broffesiynol canlynol sydd â chod ymarfer y mae’n rhaid i’w haelodau eu dilyn. Fe allwch ddod o hyd i restr o’r aelodau ar wefannau'r cymdeithasau:
The Finance and Leasing Association
Imperial House
15-19 Kingsway
Llundain
WC2B 6UN
Tel: 020 7836 6511
E-bost: info@fla.org.uk
Gwefan: www.fla.org.uk
Credit Services Association
Wingrove House
2nd Floor East
Ponteland Road
Newcastle upon Tyne
NE5 3AJ
Tel: 0191 286 5656
E-bost: info@csa-uk.com neu complaints@csa-org.com
Gwefan: www.csa-uk.com
Consumer Credit Trade Association (CCTA)
Suite 4 The Wave
1 View Croft Road
Shipley
West Yorkshire
BD17 7DU
Tel: 01274 714979
E-bost: info@ccta.co.uk
Gwefan: www.ccta.co.uk
Swyddfa Masnachu Teg (OFT)
Er mwyn darganfod os oes gan eich credydwr drwydded credyd defnyddiwr fe allwch wirio gwefan Swyddfa Masnachu Teg: www2.crw.gov.uk.
Os ydych chi am adael i’r Swyddfa Masnachu Teg wybod am aflonyddwch oddi wrth gredydwr arbennig cysylltwch â hwy yn:
Fleetbank
House 2-6 Salisbury Square
London
EC4Y 8JX
Tel:08457 224499
E-bost: enquiries@oft.gsi.gov.uk
Gwefan: www.oft.gov.uk
Gwybodaeth ddefnyddiol arall yn Adviceguide









