The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Credydwr yn mynd â chi i’r llys oherwydd dyled
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru
Ynglŷn â mynd â chi i’r llys oherwydd dyled
Os oes arnoch chi arian a dim yn ei ad-dalu, fe all y bobol y mae arnoch chi’r arian iddynt fynd â chi i’r llys yn y pendraw. Gelwir hyn yn gwneud hawliad.
Gelwir y bobol y mae arnoch chi arian iddynt yn gredydwyr. Os bydd un o’ch credydwyr yn mynd â chi i’r llys, mae’n bwysig iawn i beidio anwybyddu’r sefyllfa ac i wybod pa gamau i’w cymryd mewn ymateb.
Os ydych chi’n cymryd camau’n gyflym, fe allwch chi osgoi rhag gadael i’r sefyllfa waethygu. Os nad ydych chi’n cymryd camau, fe allech ddiweddu â dyled yn fwy, neu hyd yn oed golli’ch cartref neu’ch eiddo. Fe allech chi ddiweddu’n gorfod ad-dalu arian nad oes yn rhaid i chi mewn gwirionedd.
Mae’r dudalen hon yn esbonio beth sy’n digwydd pan eir â chi i’r llys oherwydd dyled megis benthyciadau banc neu gymdeithas adeiladu neu ddyledion cardiau credyd neu fenthyciadau oddi wrth gwmnïau eraill. Caiff yr achosion hyn eu trafod gan y llys sirol fel arfer. Os rhoddir gorchymyn yn eich erbyn, fe’i gelwir yn ddyfarniad llys sirol, neu CCJ. Gall cael CCJ effeithio ar eich sgôr credyd chi.
Fe gewch wybod pa ffurflenni ddaw oddi wrth y llys, sut i’w llenwi a beth i’w wneud os nad ydych chi’n cytuno fod arnoch chi’r arian neu os nad ydych yn gallu ei ad-dalu.
Nid yw’r dudalen hon yn dweud wrthych beth sy’n digwydd os eir â chi i’r llys oherwydd ôl-ddyledion rhent neu forgais.
I wybod mwy am ôl-ddyledion rhent neu forgais, gweler Ôl ddyledion rhent a phroblemau morgais.
Beth ddylai credydwr ei wneud cyn cychwyn achos llys
Cyn mynd â chi i’r llys, rhaid i rywun y mae arnoch chi arian iddynt (a elwir yn gredydwr) anfon llythyr yn eich rhybuddio. Dylai’r llythyr ddweud wrthych os nad ydych yn ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus, fe fyddan nhw’n cychwyn camau cyfreithiol o fewn cyfnod arbennig o amser.
Yn dibynnu ar y math o ddyled, bydd y llythyr naill ai’n hysbysiad o beidio â chydymffurfio neu’n lythyr cyn gweithredu.
Fe gewch chi hysbysiad o beidio â chydymffurfio os ydyw’r arian sydd arnoch yn ddyled credyd, megis benthyciad personol neu ddyled cerdyn credyd.
Pan fydd achos llys yn cychwyn, fe gewch ffurflen hawlio. Os nad oes llythyr rhybudd gennych cyn i chi gael y ffurflen hawlio hon neu os nad yw’r llythyr yn cynnwys y manylion cywir, efallai na fydd yr achos llys yn gallu mynd ymlaen.
Os nad ydych yn cael llythyr rhybudd cyn i’r achos llys gychwyn neu os ydych chi am gymorth i wirio’r manylion, fe allwch gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae’n ddyletswydd arnoch chi a’ch credydwr i geisio datrys yr achos heb fynd i’r llys. Os cewch chi hysbysiad o beidio â chydymffurfio neu lythyr cyn gweithredu, fe ddylech chi wneud pob ymdrech i ddod i gytundeb gyda’ch credydwr i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddod i gytundeb gyda’ch credydwyr, gweler Sut i ddelio â’ch credydwyr.
Beth i’w wneud os cewch chi ffurflen hawlio oddi wrth y llys
Pan fydd credydwr yn cychwyn achos llys, fe gewch chi nifer o ddogfennau oddi wrth y llys. Mae’r rhain yn cynnwys ffurflen hawlio a phecyn ymateb.
Mae’r ffurflen hawlio yn rhoi manylion o faint mae’ch credydwr yn hawlio sydd arnoch chi iddynt. Mae’r pecyn ymateb yn cynnwys nifer o ffurflenni. Mae rhai o’r ffurflenni ar gyfer dweud os ydych chi’n derbyn fod arnoch chi’r arian. Os nad ydych chi’n cytuno fod arnoch chi’r arian, mae ffurflen hefyd i’w dychwelyd yn cadarnhau eich bod wedi derbyn y dogfennau.
Mae’n bwysig iawn i beidio ag anwybyddu’r dogfennau hyn. Fe ddylech chi ddarllen y nodiadau sy’n dod gyda’r pecyn ymateb yn ofalus a delio â’r dogfennau erbyn y terfyn amser a roddir. Os na fyddwch chi’n delio â’r dogfennau hyn, gellir gwneud gorchymyn llys yn eich erbyn. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r holl arian y mae’ch credydwr yn ei hawlio, hyd yn oed os nad oes arnoch chi’r arian. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chostau ychwanegol ar ben hyn hefyd.
Ynglŷn â’r ffurflen hawlio
Mae’r ffurflen hawlio yn rhoi manylion byr am faint y mae’ch credydwr yn hawlio y mae arnoch chi iddynt. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw log y maen nhw am ei hawlio.
Gwiriwch ei bod yn ffurflen llys gywir. Fy ddylai gynnwys:
- rhif hawliad y dylech chi ei ddyfynnu ar unrhyw lythyr neu ddogfen a anfonwch at y llys
- stamp swyddogol y llys. Os nad ydyw’r ffurflen hawlio wedi’i stampio, mwy na thebyg nad ydyw’n ffurflen llys gywir.
Os nad yw stamp swyddogol y llys ar y ffurflen hawlio, gall y person y mae arnoch chi arian iddynt fod yn ceisio eich cael i’w had-dalu trwy esgus anfon papurau’r llys atoch. Gallai hyn gyfrif fel aflonyddwch gan eich credydwr ac fe allai fod yn erbyn y gyfraith. Fe ddylech chi gael cyngor ynglŷn â beth i’w wneud.
Bydd mwy o fanylion am hawliad eich credydwr ar ddogfen a elwir yn fanylion yr hawliad. Fel arfer anfonir y rhain gyda’r ffurflen hawlio ond fe ellir eu hanfon ar wahân. Os anfonir hwy ar wahân, rhaid i hynny fod o fewn 14 diwrnod o’r ffurflen hawlio.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddweud os yw credydwr yn aflonyddu arnoch a beth allwch chi ei wneud ynglŷn â’r peth, gweler Aflonyddwch gan gredydwyr.
Ynglŷn â’r pecyn ymate
Mae’r pecyn ymateb yn cynnwys y ffurflenni canlynol:
- ffurflen cydnabyddiad i’w defnyddio os ydych yn derbyn fod arnoch chi’r arian
- ffurflen amddiffyn i’w defnyddio os ydych chi am ddweud nad oes arnoch chi’r arian
- ffurflen cydnabod gwasanaeth i’w defnyddio i gadarnhau eich bod wedi derbyn y dogfennau. Mae angen anfon y ffurflen hon yn ôl dim ond os ydych chi’n anghytuno fod arnoch chi’r arian.
Rhaid i chi wneud un o’r canlynol o fewn 14 diwrnod i anfon manylion yr hawliad:
- dychwelyd y ffurflen amddiffyn i’r llys ynghyd â’r ffurflen yn cydnabod gwasanaeth
- dychwelyd y ffurflen yn cydnabod gwasanaeth yn unig, os ydych am amser ychwanegol i lenwi’r ffurflen amddiffyn. Bydd hyn yn rhoi 14 diwrnod yn ychwanegol i chi i ddychwelyd y ffurflen amddiffyn, ond rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod i anfon manylion yr hawliad
- dychwelyd y ffurflen cydnabyddiad i’ch credydwr
- dychwelyd y ffurflen cydnabyddiad a’r ffurflen amddiffyn i’r llys os ydych chi’n derbyn fod arnoch chi rywfaint o’r arian a hawlir ond nid y cyfan ohono.
Efallai y byddwch am gysylltu â’ch credydwr i geisio dod i gytundeb ynglŷn ag ad-dalu’r ddyled heb fynd i’r llys. Gall hyn fod yn rhatach i chi. Os gwnewch chi hyn, fe fydd rhaid i chi o hyd gwrdd â’r terfyn amser 14 diwrnod ar gyfer dychwelyd ffurflenni’r llys, oni bai eich bod yn gallu cael eich credydwr i ymestyn y terfyn amser. Os bydd eich credydwr yn cytuno i ymestyn y terfyn amser, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael hyn yn ysgrifenedig a gadewch i’r llys wybod.
Efallai y bydd angen help arnoch i benderfynu beth i’w wneud. Os oes gennych ddyledion eraill hefyd, mae’n syniad da i gael cyngor am eich holl ddyledion gyda’i gilydd.
Fe allwch chi gael help i ymateb i ffurflenni’r llys ac i ddatrys eich dyledion oddi wrth ymgynghorydd, er enghraifft, yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych chi’n cytuno fod arnoch chi’r arian
Os ydych chi’n cytuno fod arnoch chi’r holl arian a ddangosir ar y ffurflen hawlio, llenwch y ffurflen cydnabyddiad yn y pecyn ymateb. Mae’r ffurflen yn gofyn am fanylion ynglŷn â’ch sefyllfa ariannol.
Anfonwch y ffurflen yn ôl at eich credydwr, nid i’r llys. Fe ddylech chi hefyd gadw copi a’i anfon trwy ddosbarthiad a gofnodwyd i brofi eich bod wedi anfon y ffurflen rhag ofn iddi fynd ar goll.
Cynnig talu rhandaliadau
Fe allwch chi ddefnyddio’r ffurflen cydnabyddiad i ofyn am dalu’r ddyled mewn rhandaliadau. Fe allwch chi ddweud faint yr ydych am ei dalu ymhob rhandaliad a pha bryd yr ydych am eu talu. Mae o hyd yn werth cynnig rhywbeth. Mae cynnig bychan, hyd yn oed mor isel â £1, yn well na chynnig dim byd o gwbl.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i weithio allan beth allwch chi fforddio’i dalu i’ch credydwyr, gweler Sut i ddelio â’ch credydwyr a Sut i weithio allan eich cyllideb.
Os ydyw’ch credydwr yn derbyn eich cynnig o ad-daliad
Os ydyw’ch credydwr yn hapus â’r cynnig yr ydych wedi’i wneud, fe allan nhw ofyn i’r llys am wneud gorchymyn heb wrandawiad llys a heb gynnwys barnwr. Bydd y llys yn cofnodi Dyfarniad Llys Sirol yng Nghofrestr y Dyfarniadau.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Chofrestr Dyfarniadau, gweler Sut mae dyfarniadau llys sirol yn effeithio ar eich sgôr credyd [
41 KB].
Bydd y gorchymyn wedi’i seilio ar y swm y cytunoch chi arno. Bydd y llys yn stampio’r gorchymyn i ddangos ei fod yn swyddogol ac yna’n ei anfon atoch. Bydd y gorchymyn yn dweud wrthych:
- faint i’w dalu
- pa bryd mae talu
- y cyfeiriad y dylid anfon yr arian iddo.
Peidiwch ag anfon unrhyw arian i’r llys.
Fe ddylech chi gadw eich cofnod eich hun o’ch taliadau rhag ofn y bydd dadl rhyngoch chi a’r credydwr yn y dyfodol.
Fe ddylech chi anfon eich taliadau at eich credydwr o leiaf bedwar diwrnod gwaith clir cyn y dyddiad maen nhw’n ddyledus i ganiatáu ar gyfer unrhyw oedi.
Os nad ydyw’ch credydwr yn derbyn eich cynnig o ad-daliad
Os nad ydyw’ch credydwr yn derbyn eich cynnig o ad-daliad, bydd swyddog y llys neu farnwr yn penderfynu beth sy’n deg. Fel arfer nid oes gwrandawiad llys. Os nad oes gwrandawiad a dydych chi ddim yn hapus gyda’r penderfyniad a wnaed, fe allwch ofyn am edrych arno eto (ail-benderfynu).
Rhaid i chi wneud eich cais i’r llys yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod. Os rhoddwyd yr hawliad mewn llys arall, gall gael ei drosglwyddo’n awtomatig i’ch llys agosaf ar gyfer gwrandawiad. Nid oes rhaid i chi dalu ffî am hyn.
Fe allwch gael help i ofyn i’r llys am ail benderfyniad o orchymyn llys oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er engraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych chi’n derbyn cymorth, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth yr asiantaeth cynghori fod yna derfyn amser brys ar gyfer gweithredu. Bydd hyn yn helpu’r asiantaeth cynghori i gael cymorth i chi’n gyflym.
Os nad ydych yn cynnig ad-daliad ar y ffurflen
Os nad ydych yn cynnig ad-daliad o gwbl ar y ffurflen cydnabyddiad, bydd eich credydwr yn penderfynu faint a pha bryd y dylech chi dalu. Neu fe allan nhw benderfynu gweithredu fel petaech chi heb ddychwelyd y ffurflen cydnabyddiad a gofyn am orchymyn fel eich bod yn gorfod talu’r swm yn gyfan ar unwaith.
Os ydych chi yn y sefyllfa hon, fe ddylech chi gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Bydd y rhan fwyaf o orchmynion llys yn cael eu cofnodi yng Nghofrestr Dyfarniadau, Dirwyon a Gorchmynion. Fe allai hyn ei gwneud hi’n anodd i chi gael credyd yn y dyfodol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r effaith y gall cofnod yng Nghofrestr Dyfarniadau, Dirwyon a Gorchmynion ei gael ar eich sgôr credyd yn y dyfodol, gweler Sut y gall dyfarniadau llys sirol effeithio ar eich sgôr credyd [
41 KB].
Beth os oes arnoch chi rywfaint o’r arian yn unig
Fe allech chi gytuno fod arnoch chi rywfaint o arian i’ch credydwr ond anghytuno â faint. Er enghraifft, efallai eich bod yn anghytuno â’r ffordd y mae eich credydwr wedi amcangyfrif y llog ar yr hawliad.
Os nad ydych yn cytuno fod arnoch chi’r arian i gyd, llenwch y canlynol:
- y ffurflen cydnabyddiad, gyda manylion yr hyn yr ydych yn ei dderbyn, a
- y ffurflen amddiffyn, gyda manylion o’r hyn nad ydych yn ei dderbyn.
Anfonwch y ffurflenni i’r llys, nid at eich credydwr. Cadwch gopïau ac anfonwch hwy trwy ddosbarthiad a gofnodwyd.
Bydd y llys yn dweud wrthych ba gamau y mae’n rhaid i chi eu cymryd ynglŷn â’r rhan o’r hawliad nad ydych yn cytuno ag ef. Fe all fod yna wrandawiad, y dylech chi ei fynychu.
Efallai y bydd angen i chi wneud trefniadau i dalu y rhan o’r ddyled yr ydych yn cytuno ag ef. Fe allwch ofyn am gael talu mewn rhandaliadau.
Os ydyw’r llys yn cytuno fod arnoch chi rywfaint o’r arian yn unig, fe wneir gorchymyn llys am y rhan hwnnw. Fe’i cofnodir yng Nghofrestr Dyfarniadau, Dirwyon a Gorchmynion. Fe allai hyn ei gwneud hi’n anodd i chi gael credyd yn y dyfodol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r effaith y gall cofnod yng Nghofrestr Dyfarniadau, Dirwyon a Gorchmynion ei gael ar eich sgôr credyd yn y dyfodol, gweler Sut y gall dyfarniadau llys sirol effeithio ar eich sgôr credyd [
41 KB].
Fe allwch gael help i lenwi ffurflenni cydnabyddiad ac amddiffyn oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os nad ydych yn cytuno fod arnoch chi’r arian
Os nad ydych yn cytuno fod arnoch chi’r arian sy’n cael ei hawlio gan eich credydwr, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen amddiffyn, gan roi’ch rhesymau. Gelwir hyn yn amddiffyn yr hawliad.
Mae’n rhaid bod gennych resymau cyfreithiol da i amddiffyn yr hawliad. Allwch chi ddim amddiffyn hawliad am unrhyw un o’r rhesymau canlynol:
- oherwydd nad ydych yn gallu fforddio talu’r arian
- os anghofioch chi fod gennych y ddyled
- os nad agoroch chi’r llythyron a anfonwyd atoch gan eich credydwr.
Gall rhesymau da dros amddiffyn yr hawliad gynnwys:
- fe allwch chi brofi eich bod chi eisoes wedi talu’r arian y mae’ch credydwr yn dweud sy’n ddyledus
- nid chi yw’r person a enwir ar y ffurflen hawlio
- nid chi yw’r person a arwyddodd y cytundeb i brynu’r benthyciad
- wnaeth eich credydwr ddim dilyn y gweithdrefnau cywir pan roddon nhw fenthyg yr arian i chi. Er enghraifft, efallai eu bod wedi’ch cael i arwyddo cytundeb oedd â rhywbeth yn anghywir arno neu heb roi’r dogfennau cywir i chi
- roeddech chi o dan oedran pan arwyddoch chi’r cytundeb
- fe fenthycioch chi’r arian amser pell yn ôl ac mae’r terfyn amser i’w adennill wedi mynd heibio. Er enghraifft, dim ond chwe blynedd sydd gan gredydwr i geisio adennill dyled credyd. Mae’r terfyn amser chwe blynedd yn cychwyn o ddyddiad eich taliad diwethaf neu pan wnaethoch chi gydnabod diwethaf fod gennych chi ddyled.
Os ydych chi’n credu fod gennych chi resymau cyfreithiol da dros amddiffyn yr hawliad, mae’n bwysig gweithredu’n gyflym er mwyn rhoi cymaint o amser ag sy’n bosibl i chi’ch hunan i ddodi’ch achos at ei gilydd. Fe ddylech chi:
- ddychwelyd y ffurflen cydnabod gwasanaeth yn y pecyn ymateb. Bydd hyn yn rhoi 14 diwrnod ychwanegol i chi i ddychwelyd eich amddiffyniad
- gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd dyled profiadol cyn llenwi’r ffurflen amddiffyn.
Er mwyn gwybod mwy ynglŷn ag os oes gennych reswm cyfreithiol da dros amddiffyn yr hawliad ai peidio, gweler Sut i ddadlau ynghylch dyled.
Fe allwch gael help i wirio os oes gennych amddiffyniad cywir ac i lenwi’r ffurflen amddiffyn, oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Beth os ydych ci’n anwybyddu’r ffurflen hawlio
Os nad ydych chi’n ymateb i’r ffurflen hawlio o fewn 14 diwrnod, gall eich credydwr ofyn i’r llys am wneud gorchymyn yn eich erbyn. Gelwir hyn yn gofnodi dyfarniad trwy ddiffyg. Mae’n golygu na chewch chi’r cyfle i roi’ch achos gerbron y llys a gall eich credydwr gychwyn cymryd camau mwy difrifol ar unwaith. Sut bynnag, mewn rhai amgylchiadau fe all fod yn bosibl gwneud cais i newid dyfarniad neu ei roi o’r neilltu ar ddyddiad diweddarach.
Gall eich credydwr benderfynu beth ddylai’r gorchymyn ei ddweud ynglŷn â sut a pha bryd y mae’n rhaid i chi ad-dalu’r arian. Fel arfer mae gennych 14 diwrnod i dalu, er fe all y gorchymyn nodi fod yn rhaid iddo gael ei dalu ar unwaith (yn ddi-oed).
Bydd y llys yn anfon y gorchymyn atoch. Bydd yn dweud wrthych:
- faint i’w dalu
- pa bryd i’w dalu
- y cyfeiriad y dylid anfon yr arian iddo.
Peidiwch ag anfon unrhyw arian i’r llys.
Unwaith y bydd y gorchymyn llys wedi’i wneud, fe’i cofnodir yng Nghofrestr y Dyfarniadau, Dirwyon a Gorchmynion. Fe allai hyn ei gwneud hi’n anodd i chi gael credyd yn y dyfodol.
Er mwyn gwybod mwy ynglŷn â chael gorchymyn llys wedi’i newid neu ei roi o’r neilltu, gweler Newid gorchymyn llys am ddyled.
Er mwyn gwybod mwy ynglŷn âg effaith gorchymyn llys ar eich sgôr credyd yn y dyfodol, gweler Sut y gallai dyfarniadau llys sirol effeithio ar eich sgôr credyd [
41 KB].
Faint o log all y credydwr ei hawlio
Yn ogystal â’r arian gwreiddiol y mae arnoch chi, gall eich credydwr hawlio llog ar y ddyled. Bydd hwn yn cael ei amcangyfrif i fyny hyd at y dyddiad pan wnaed y gorchymyn llys. Dylai manylion faint o log gaiff ei hawlio ymddangos ar y ffurflen hawlio.
Mewn rhai achosion, gall credydwr hawlio llog ar ôl dyddiad y gorchymyn llys. Os ydyw’ch credydwr yn gwneud hyn, mae’n syniad da gwirio gydag ymgynghorydd arbenigol fod y credydwr yn gweithredu’n gywir. Gall credydwyr weithiau hawlio llog ar ôl dyfarniad pan na ddylent wneud hynny.
Fe allwch gael help i wirio os oes gan eich credydwr hawl i’r llog y maent yn ei hawlio oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Beth os ydych chi’n dal i beidio talu
Os ydyw’ch credydwr yn cael gorchymyn llys yn eich erbyn, mae’n rhaid i chi dalu pan ddywed y gorchymyn wrthych. Os nad ydych chi’n talu yn ôl y gorchymyn, mae gan eich credydwr nifer o opsiynau i’ch gwneud i dalu. Gelwir hyn yn gamau gorfodi.
Bydd angen gorchymyn llys arall ar eich credydwr i gymryd y camau gorfodi. Fe allan nhw gael gorchymyn i:
- anfon beilïaid i’ch cartref i gymryd eich pethau chi
- ddidynnu arian o’ch cyflog i dalu’r ddyled. Gelwir hyn yn orchymyn atafael cyflog
- fynd ag arian sy’n ddyledus i chi gan rywun arall o’ch cyfrif banc. Gelwir hyn yn orchymyn dyled trydydd parti
- gwarantu’r ddyled yn erbyn eich cartref neu eiddo arall sy’n berchen i chi. Gelwir hyn yn orchymyn arwystlo ac mae’n golygu y gallech chi golli’ch cartref os nad ydych chi’n cadw at y taliadau.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r camau gorfodi y gall eich credydwr eu cymryd i adennill eu harian, gweler Y Camau y gall eich credydwr eu cymryd.
Cymorth ychwanegol
Yn Adviceguide









